Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 187 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 20 Mai, 2014.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Mai 2014.

 

3.

Rheoli Buddsoddi

Cyflwyno, adroddiadau gan HSBC Global Asset Management (UK) Limited.

(BYDD Y DOGFENNAU AR GAEL YN Y CYFARFOD)

Cofnodion:

Cyflwynwyd - Adroddiad Chwarterol HSBC Global Asset Management (UK) Limited am y cyfnod hyd at ddiwedd Mawrth 2015.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys y ffigurau mewn perthynas â’r difidendau yr oedd y portffolio wedi eu denu dros y 10 mlynedd diwethaf fel y gofynnwyd amdanynt gan y Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau yn y cyfarfod ym Mai 2014.

Dywedodd y Rheolwyr Buddsoddi mai amcan y portffolio yw tyfu’r cyfalaf yn unol â chwyddiant a chynhyrchu digon o incwm i gwrdd â’r gofynion llif arian y cytunir arnynt bob blwyddyn gyda’r ymddiriedolwyr.  Y strategaeth y cytunwyd arni yw gwneud 1.5 % yn well na’r meincnod pwysau sefydlog y cytunwd arno bob blwyddyn dros gyfnodau treigl o dair blynedd.  Roedd y gronfa yn werth £17,754,534 ar 31 Mawrth 2015.  Fodd bynnag, mae gwerth y gronfa wedi disgyn yn y misoedd diwethaf i ychydig o dan £17,500,000 oherwydd anwadalrwydd y marchnadoedd ariannol.  Mae’r elw o’r portffolio ar hyn o bryd yn 2.7%.

Adroddwyd y ffefrir marchnadoedd ecwiti yn Ewrop a Siapan a bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol ar hyn o bryd wedi buddsoddi mwy yn ecwitïau’r Deyrnas Gyfunol.  Awgrymwyd y dylid symud y portffolio i Gronfa Twf ac Incwm a allai roi difidend uwch bob blwyddyn i’r Ymddiriedolaeth.

Nododd y Trysorydd y daeth yn amlwg dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf fod sefydliadau sy’n gwneud cais am gyllid grant gan yr Ymddiriedolaeth, sy'n llawer uwch na'r grantiau a roddir i brosiectau bychan, wedi bod yn cyflwyno eu prosiectau i’r Ymddiriedolaeth lawn.  Mae’r grantiau a roddwyd i’r sefydliadau hyn wedi bod yn llawer uwch na’r difidend a ddenodd y portffolio.

Cafwyd trafodaeth wedyn mewn perthynas â fframwaith moesegol portffolio’r Ymddiriedolaeth a chytunwyd, yn sgil y bwriad i symud y portffolio i’r Gronfa Twf ac Incwm, y byddai’r mater yn cael ei drafod ymhellach cyn pen 12 mis.

 

Yn dilyn sesiwn holi ac ateb PENDERFYNWYD:-

 

·           Derbyn yr adroddiad a diolch i gynrychiolwyr HSBC am ddod i’r cyfarfod;

·           Argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn y dylid symud y portffolio i Gronfa Twf ac Incwm.

 

4.

EITEMAU A DRAFODWYD YN BREIFAT

5.

Contract Rheoli Buddsoddiadau

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r Contract Rheoli Buddsoddiadau.

 

Dywedodd yr Uwch Gyfrifydd (Cynllunio Strategol a Thrawsnewid) fod portffolio’r Ymddiriedolaeth o fuddsoddiadau wedi bod yn cael ei reoli gan HSBC Asset Management ers dros 15 mlynedd.   Yn ystod y cyfnod hwn mae HSBC wedi darparu lefel o wasanaeth yr ymddengys ei fod yn gyffredinol dderbyniol i'r Ymddiriedolaeth, o ran perfformiad ariannol a chefnogaeth swyddfa gefn.  Elfen allweddol o stiwardiaeth ariannol gyfrifol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth yw sicrhau bod y gwasanaeth i reoli’r gronfa yn darparu gwerth am arian o ran yr elw ar fuddsoddiadau ac o ran y ffioedd a godir am y gwasanaeth hwnnw.

 

Er mwyn ystyried lefel y ffioedd a godir ar hyn o bryd am reoli’r gronfa, gwnaed cymhariaeth gyda ffioedd rhai o’r rheolwyr cronfeydd mawr a mwyaf adnabyddus.  Roedd tabl yn crynhoi’r canlyniadau wedi ei amlygu yn yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo parhad y contract rheoli buddsoddiadau gyda HSBC hyd nes 31 Mawrth 2018 (O.N. ni fydd hyn yn golygu gwneud contract gyda HSBC hyd at y dyddiad hwnnw), yn amodol ar herio ac adolygu’r gwasanaeth ar sail eithriad yn ystod y cyfnod hwnnw.

 

6.

Contract ar gyfer Gwasanaeth Archwilio Allanol

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â’r trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau archwilio allanol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Dywedodd y Trysorydd bod archwilydd allanol yr Ymddiriedolaeth wedi bod yn cyflawni’r swyddogaeth honno iddi am dros 15 mlynedd.  Y gwasanaeth a ddarperir yw archwiliad statudol o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yr Ymddiredolaeth.  Fel rhan o stiwardiaeth ariannol gyfrifol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth byddai’n briodol cynnal ymarfer caffael i sicrhau y ceir y gwerth gorau am arian. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

·           Awdurdodi’rTrysorydd i lunio a chwblhau manyleb contract ar gyfer darparu gwasanaethau archwilio allanol i’r dyfodol;

·           Awdurdodi’r Trysorydd i gynnal ymarfer caffael yn seiliedig ar fanyleb y contract;

·           Cytuno bod y Trysorydd yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn gyda’r cynigion yn dilyn yr ymarfer caffael er mwyn ceisio dod i benderfyniad ar ddewis archwilydd allanol.