Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Iau, 26ain Tachwedd, 2015 1.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Ailetholwyd Mr. H. Eifion Jones yn Gadeirydd.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Ailetholwyd Councillor G.O. Jones yn Is-Gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 28 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 8 Mehefin, 2015.

Cofnodion:

 

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Mehefin, 2015 yn gywir.

 

Yn codi o’r cofnodion

 

Contract i Wasanaethau Oedolion

 

Adroddwyd y bydd adroddiad ar y contract ar gyfer Gwasanaethau Archwilio yn cael ei gyflwyno i gyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

5.

Rheoli Buddsoddi

Cyflwyno, adroddiad gan HSBC Global Asset Management (UK) Limited.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad HSBC Global Asset Management (UK) Limited hyd at fis Tachwedd 2015.

 

Adroddodd y Rheolwr Buddsoddi mai amcan y portffolio yw tyfu’r cyfalaf yn unol â chwyddiant a chreu digon o incwm i gwrdd â gofynion llif arian sy’n cael eu cytuno’n flynyddol gyda’r ymddiriedolwyr. Y strategaeth y cytunwyd arni yw mynd tu hwnt i’r meincnod sefydlog o 1.5% a gytunwyd bob blwyddyn dros gyfnodau treigl o dair blynedd. Roedd gwerth y gronfa ar 17 Tachwedd 2015 yn £16,930,549. Yn y cyfarfod heddiw mae gwerth y gronfa wedi cynyddu i £17,100,000.

 

Eglurwyd perfformiad y portffolio a’r perfformiad tymor hir yn fanwl i’r Pwyllgor. Nodwyd fod portffolio’r Ymddiriedolaeth wedi symud i ‘Gronfa Twf ac Incwmerbyn hyn ar ôl i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn gefnogi’r symudiad yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf 2015.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Buddsoddi at werthiant Tir Rhosgoch yn ddiweddar am gyfanswm o £3m. Cafwyd trafodaethau ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer y buddsoddiad. Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn ystyried y dylid rhoi’r £3m o werthiant Tir Rhosgoch gyda phortffolio presennol yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

Diolch i’r cynrychiolydd o HSBC am fynychu’r cyfarfod, a derbyn yr adroddiad;

Argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn bod y £3m o werthiant Tir Rhosgoch yn cael ei roi gyda phortffolio presennol yr Ymddiriedolaeth Elusennol.