Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Ail-etholwyd Mr. H. Eifion Jones yn Gadeirydd.

 

Diolchodd Mr. Jones i’r Aelodau am eu hyder ynddo.

 

 

2.

Etholiad Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd Mr. G.O. Jones yn Is-Gadeirydd.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 24 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 26 Tachwedd, 2015.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Tachwedd, 2015.

4.

Rheoli Buddsoddi

Cyflwyno adroddiad gan HSBC Global Asset Management (UK) Limited.

(ADRODDIAD I’W DOSBARTHU YN Y CYFARFOD)

 

Cofnodion:

 Cyflwynwyd – adroddiad HSBC Global Asset Management (UK) hyd at fis Hydref 2016.

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr - Tîm Ymddiriedolaethau HSBC bod y tîm Rheoli Buddsoddi’n adrodd yn chwarterol ar berfformiad y Gronfa Ymddiriedolaeth. Roedd y portffolio werth £19,417m ar 30 Medi 2016. Amcangyfrifwyd y byddai’n cynhyrchu incwm o 3.5% gan roi rhagolwg incwm blynyddol o £680k. Dywedodd fod gwerth y gronfa wedi cynyddu 2.8% ymhellach ar 26 Hydref 2016 i £19,997m. Roedd y gronfa wedi perfformio’n well na thwf yr ARC Peer Group ar gyfer cronfeydd cyffelyb sy’n gweithredu ar lefel debyg o ran risg.

 

Ychydig iawn o newid a wnaed o ran dyrannu asedau yn ystod y chwarter. Nododd fod y marchnadoedd ecwiti yn ffafrio Japan ac Ewrop yn hytrach na’r Unol Daleithiau a’r DU. Mae portffolio’r Ymddiriedolaeth Elusennol wedi cynyddu yn dilyn buddsoddi yn y Charities Service UK Growth and Income Fund. Esboniodd hefyd bod y gronfa wedi elwa yn sgil lleihad yng ngwerth sterling yn dilyn canlyniad y refferendwm ar aelodaeth yr Undeb Ewropeaidd. Rhagdybir y bydd gwerth sterling yn parhau’n isel ac o ganlyniad bydd cyfraddau llog yn aros yn isel hefyd. Disgwylir y bydd marchnadoedd yn parhau i fod yn anwadal yn 2017.

 

Ar gyfer 2017, rhagwelir y bydd cynnyrch tymor hir rhwng 3.0% a 3.5% a fyddai’n cynhyrchu incwm o £773k. Rhagwelir y bydd twf cyfalaf yn 4.75% a fyddai’n arwain at gynnydd o £277k o safbwynt gwerth cyfalaf, er bod HSBC yn hyderus y byddant yn cyflawni twf o 5.75% yn ystod y cyfnod.

 

Darparwyd gwybodaeth fanwl bellach i’r Pwyllgor ynglŷn â dyrannu asedau a pherfformiad gwahanol elfennau o’r portffolio.

 

Roedd aelodau’r pwyllgor yn  dymuno cyfleu eu gwerthfawrogiad i dîm Rheoli Buddsoddi HSBC am berfformiad eithriadol cronfa’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

PENDERFYNWYD diolch i Gyfarwyddwr – Tîm Elusennau HSBC am fynychu’r cyfarfod ac i dderbyn yr adroddiad.

 

5.

Dyrannu cyllid ar gyfer Grantiau Mawr pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â dyrannu cyllid ar gyfer grantiau mawr.

 

Dywedodd y Trysorydd, oherwydd bod cronfa’r Ymddiriedolaeth wedi parhau i dyfu yn sgil taliadau llog blynyddol a difidendau, bod Aelodau yn awyddus i ddefnyddio peth o’r llog ar werth cyfalaf y gronfa i ddarparu arian er mwyn dyfarnu grantiau mawr ar sail fwy ffurfiol. Yn gynnar yn 2016 dyrannodd yr Ymddiriedolaeth swm o £200k, a oedd yn cyfateb i 20% o’r twf yng ngwerth cyfalaf y gronfa yn ystod y flwyddyn, i ariannu grantiau yn 2016. Dylid nodi bod risg bob amser y gall gwerth cyfalaf y gronfa ostwng ac y gallai dyrannu swm rhy uchel mewn cyfnod lle mae gwerth cyfalaf y gronfa yn tyfu gael effaith andwyol ar yr elw a geir o’r buddsoddiadau yn y dyfodol os bydd gwerth cyfalaf y gronfa yn dechrau gostwng yn sydyn.

 

Yng nghyfarfod yr Ymddiriedolaeth ar 13 Medi 2016, penderfynwyd dyrannu cyllid ar gyfer grantiau mawr a dirprwyo’r penderfyniad ynghylch maint y swm i’w ddyrannu i’r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau. Yn dilyn y cyfarfod hwn, gweithredir proses ymgeisio ffurfiol i wahodd sefydliadau i gyflwyno ceisiadau am arian grant. Y bwriad yw y bydd y broses yn agored i sefydliadau gyflwyno ceisiadau rhwng Tachwedd 2016 ac Ionawr 2017, gyda’r penderfyniad ar ba sefydliadau fydd yn derbyn arian yn cael ei wneud ym mis Chwefror 2017.

 

Defnyddiwyd y fethodoleg a ganlyn i benderfynu gwerth y gronfa a glustnodir ar gyfer grantiau mawr:-

 

20% o wir dwf y flwyddyn flaenorol llai 20% o’r twf a ragdybiwyd ar gyfer y flwyddyn gyfredol

 

Ynghyd â (+)

 

Balans cronfa’r flwyddyn flaenorol na chafodd ei ddyrannu

 

Ynghyd â (+)

 

Unrhyw arian a ddyrannwyd o incwm sy’n weddill

 

Gan ddefnyddio’r dull hwn ar gyfer 2017, cyfrifwyd y gronfa a ddyrennir ar gyfer grantiau mawr fel a ganlyn :-

 

Twf yn 2016 = £2,300,000 *20% = £460,000 - £200,000 (dyrannwyd yn 2016) = £260,000

 

Twf a ragwelir yn 2017 = £277,000 * 20% =                £56,000

Balans yn 2016 – Cronfa heb ei dyrannu                     £30,000

 

Defnydd o Incwm                                                          £4,000

 

Roedd Mr A. M. Jones yn ystyried, oherwydd bod y marchnadoedd ariannol yn parhau i fod yn anwadal yn dilyn Brexit ac ansicrwydd ynghylch twf i’r dyfodol, y byddai’n ddoethach dyrannu swm o £300k.

 

Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD dyrannu £350,000 i gyllido grantiau mawr ac y byddai’r fethodoleg y manylwyd arni gan y Trysorydd yn cael ei defnyddio fel sail i benderfynu gwerth y gronfa ar gyfer grantiau mawr yn y blynyddoedd i ddilyn.

 

Ataliodd Mr. A. M. Jones ei bleidlais.