Rhaglen a chofnodion
Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Etholwyd Mr. R.O. Jones yn Gadeirydd. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Cofnodion: Etholwyd Mr. R.Ll. Jones yn Is-Gadeirydd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnahu, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 1 Tachwedd, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd, 2016. |
|
Rheoli Buddsoddi Cyflwyno adroddiad gan HSBC Global Asset Management (UK) Limited. (ADRODDIAD I’W DOSBARTHU YN Y CYFARFOD) Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad HSBC Global Asset Management (UK) Limited am y cyfnod hyd at fis Hydref 2017.
Dywedodd Cyfarwyddwr Tîm Elusennau HSBC eu bod yn adrodd yn chwarterol ar berfformiad cronfa’r Ymddiriedolaeth. Rhoddodd gipolwg i Aelodau’r Pwyllgor ar gefndir y portfolio buddsoddi a nododd fod buddsoddiad Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn cael ei fuddsoddi yn y Strategaeth Twf ac Incwm sy’n bortffolio aml-ased. Gwerth y portfolio ar 30 Medi, 2017 oedd £22,947.867. Yr elw a ragwelir o’r portfolio oedd 7.67% (gros) gyda 7.36% (net).
Rhoddwyd gwybodaeth ychwanegol a manwl i’r Pwyllgor am ddosbarthiad yr asedau a pherfformiad gwahanol elfennau’r portfolio.
Roedd aelodau’r Pwyllgor yn dymuno cyfleu eu gwerthfawrogiad i HSBC Investment Management am berfformiad eithriadol cronfa’r Ymddiriedolaeth Elusennol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a diolch i’r Cyfarwyddwr – Tîm Elusennau HSBC am fynychu’r cyfarfod. |
|
Dyrannu Cyllid ar gyfer Grantiau Mwy PDF 20 KB Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â dyrannu cyllid ar gyfer grantiau mwy yn 2018.
Dywedodd y Trysorydd bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn wedi neilltuo swm o arian yn 2016 a 2017 i ariannu ceisiadau llywyddiannus am grantiau mwy (dros £8,000). Yn 2016, dyrannwyd £200,000 ac yn 2017 dyrannwyd £350k. Yn 2017 rhoddwyd cyhoeddusrwydd eang i’r broses o wneud cais am arian ac fe arweiniodd hynny at yr Ymddiriedolaeth yn cael 31 o geisiadau gan sefydliadau a oedd yn werth cyfanswm o £1.6m. Ar ôl i’r Pwyllgor Adfywio ystyried a gwerthuso’r ceisiadau roedd 12 ohonynt yn llwyddiannus a dyfarnwyd y cyfan o’r £350k ar ffurf grantiau.
Rhoddodd y Pwyllgor sylw i 3 opsiwn:-
1. Yn seiliedig ar 20% o’r cynnydd yn y gwerth cyfalaf (heb gynnwys gwerth yr arian a drosglwyddwyd i’r Portffolio yn sgil gwerth safle Rhosgoch) – byddai hyn yn darparu cronfa o £177,000 ar gyfer grantiau mwy yn 2018.
2. Yn seiliedig ar 20% o’r cynnydd yn y gwerth cyfalaf (gan gynnwys gwerth yr arian a drosglwyddwyd i’r Portffolio yn sgil gwerthu safle Rhosgoch) – byddai hyn yn darparu cronfa o £577,000 ar gyfer y grantiau mwy yn 2018.
3. Cynnal gwerth y gronfa fel yr oedd yn 2017 h.y. £350,000.
Yn dilyn trafodaethau ac ar ôl ystyried yr effaith ar y gronfa petai gwerth y buddsoddiadau yn disgyn PENDERFYNWYD argymell opsiwn 3 i’r Ymddiriedolaeth Elusennol a bod £350,000 ar gael tuag at gyllido grantiau mwy yn 2018.
|
- Anrhegion a Lletygarwch
- Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith
- Calendr
- Canlyniadau'r Etholiad
- Cofnodion, agendau ac adroddiadau
- Cyfansoddiad
- Cynghorau tref a chymuned
- Cyrff allanol a chyrff eraill
- Chwilio
- Eich AS ac aelod o'r Cynulliad
- E-ddeisebau
- Eich Cynghorwyr
- Eich Cynghorwyr yn ôl aelod portfolio
- Lwfansau Cynghorwyr
- Penderfyniadau
- Pwyllgorau