Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Cafodd Mr T Ll Hughes MBE ei ethol yn Gadeirydd.

2.

Ethol Is Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Cafodd Mr Dafydd Roberts ei ethol yn Is-gadeirydd.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. 

Cofnodion:

Dim.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 21 KB

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 7 Tachwedd, 2017.

 

(Cofnodion wedi eu mabwysiadu gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a gafwyd ar 12 Rhagfyr, 2017).  

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2017.

 

(Cadarnhawyd y cofnodion gan gyfarfod o’r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2017).

5.

Rheoli Buddsoddi

Cyflwyno adroddiad gan HSBC Global Asset Management (UK) Limited.

(ADRODDIAD I’W DOSBARTHU YN Y CYFARFOD)

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad HSBC Global Management (UK) Limited hyd at ddiwedd Hydref 2018.

 

Rhoddodd cynrychiolwyr HSBC drosolwg manwl o bortffolio buddsoddi’r Ymddiriedolaeth Elusennol o fewn cyfrif Twf ac Incwm Gwasanaeth Elusennau’r DU. Roedd gwerth y portffolio yn £21,381,961.84 fel ar 30 Hydref, 2018. Hysbyswyd y Pwyllgor am y datblygiadau allweddol yn y farchnad a nodwyd bod dechrau cryf i 2018 wedi’i amharu arno wrth i’r farchnad ddychwelyd i fod yn gyfnewidiol gyda phryderon yn dychwelyd am arenillion bondiau, lefelau uwch o chwyddiant a chwyddiant cyflymach yn yr Unol Daleithiau. Cafodd y dirywiad ei adfer yn ail hanner mis Chwefror wrth i’r buddsoddwyr ganolbwyntio ar gefndir o dwf economaidd byd-eang ac enillion corfforaethol cadarnhaol.  Cafodd gwendid pellach yn y farchnad ei nodi ym mis Mawrth gan bryderon dros gryfder yr economi byd-eang a chynnydd mewn amddiffyn masnach, ynghyd â phryderon penodol dros fwy o reoliadau yn y sector technoleg. Bu marchnadoedd sefydlogi ym mis Ebrill wrth i densiynau masnach byd-eang a phryderon am chwyddiant yn yr Unol Daleithiau leihau. Roedd y bunt i lawr ym mis Ebrill yn erbyn cryfder eang y ddoler UD. Bu tensiynau masnach yr Unol Daleithiau â Tsieina gysgodi’r marchnadoedd ecwiti ym mis Mehefin gyda bondiau ac ecwitïau newydd yn cael eu pwyso i lawr gan ddata gweithgaredd Tsieineaidd gwannach na’r disgwyl a chynnydd Fed mewn cyfraddau llog o 0.25%. Nodwyd ymhellach bod marchnadoedd ariannol yn sensitif i ddatblygiadau gwleidyddol.         

 

PENDERFYNWYD diolch i gynrychiolwyr y Tîm Elusennau HSBC am fynychu’r cyfarfod ac i dderbyn yr adroddiad. 

 

6.

Dyrannu Cyllid ar gyfer Grantiau Mawr pdf eicon PDF 44 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â dyrannu cyllid ar gyfer grantiau mawr yn 2019. 

 

Adroddodd y Trysorydd, Yn ystod y dair mlynedd ddiwethaf, rhoddodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn swm o arian o’r neilltu er mwyn cyllido ceisiadau llwyddiannus am grantiau mwy (dros £8,000). Dyrannwyd £200,000 yn 2016 a £350,000 yn 2017 a 2018. Yn achos 2018, hysbysebwyd y broses ymgeisio yn eang ac, o ganlyniad, derbyniodd yr Ymddiriedolaeth 34 o geisiadau gan sefydliadau yn gofyn am gymorth – gyda’r ceisiadau i gyd yn dod i gyfanswm o £1.48m. Wedi i’r Pwyllgor Adfywio asesu ac ystyried y ceisiadau, bu 14 ohonynt yn llwyddiannus a chafodd y swm llawn o £350,000 ei ddyrannu mewn grantiau.

 

Ym 2017, ystyriodd y Pwyllgor hwn 3 opsiwn i benderfynu ar y swm i'w ddyrannu:-

 

• Yn seiliedig ar 20% o'r cynnydd yng ngwerth cyfalaf y portffolio (heb gynnwys gwerth yr

arian parod a drosglwyddwyd i mewn i'r portffolio yn ystod y flwyddyn);

• Yn seiliedig ar 20% o'r cynnydd yng ngwerth cyfalaf y portffolio (gan gynnwys gwerth yr

arian parod a drosglwyddwyd i'r portffolio yn ystod y flwyddyn);

• Cadw’r swm a ddyrannwyd fel y flwyddyn flaenorol h.y. £350,000.

 

Yn dilyn trafodaeth PENDERFYNWYD argymell ‘r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn bod swm o £350,000 yn cael ei ddyrannu fel yn y flwyddyn flaenorol tuag at grantiau mwy.