Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mercher, 27ain Ionawr, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mr. Dylan Rees ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 - Proses Dyfarnu Grantiau 2016/17 (Menter Gymdeithasol Llangefni).

 

Datganodd Mr. T. V. Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 - Proses Dyfarnu Grantiau 2016/17 (Menter Gymdeithasol Llangefni).

 

Datganodd Mrs Nicola Roberts ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 - Proses Dyfarnu Grantiau 2016/17 (Menter Gymdeithasol Llangefni) ond nododd nad oedd hi’n ymwneud â'r prosiect ond ei bod wedi rhannu gwybodaeth am y fenter ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Dywedodd nifer o aelodau'r Ymddiriedolaeth eu bod yn aelodau o Bwyllgorau lleol ar gyfer codi arian i’r Eisteddfod yn eu cymunedau a rhoes yr Aelodau sylw i gyngor y Swyddog Monitro, sef y gallent gymryd rhan yn y drafodaeth gyda’r egwyddor mai Pwyllgor Gwaith yr Eisteddfod fyddai’n cyflwyno’r cais.   Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol bod datgan diddordeb personol yn unig yn caniatáu i aelodau gymryd rhan yn y drafodaeth a phleidleisio ar yr eitem. Byddai union natur diddordebau’n y dyfodol  yn dibynnu ar amgylchiadau'r aelod unigol pan fydd cais y cais am gyfraniad ariannol tuag at yr Eisteddfod a gynhelir yn Ynys Môn yn 2017 yn cael ei dderbyn.  Pan fydd cais swyddogol am gyllid yn dod i law gan Bwyllgor yr Eisteddfod, ac unrhyw Aelod o'r Ymddiriedolaeth Elusennol yn aelod o Bwyllgor Gwaith yr Eisteddfod, dywedodd yr Ysgrifennydd y byddai'n briodol ymgynghori gyda'r Adain Gyfreithiol bryd hynny i gael cyngor ar y mater.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 62 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion yr Ymddiriedolaeth Elusennol a gafwyd ar 15 Rhagfyr, 2015.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 15 Rhagfyr, 2015. 

 

3.

Adroddiad Blynyddol 2014/15 pdf eicon PDF 537 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – yr Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2014/15 gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) Swyddog / Adran 151 ar gyfer ei fabwysiadu gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y dyrannwyd grantiau i 67 sefydliad gan ddefnyddio'r meini prawf sefydledig a bod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn ffynhonnell bwysig o gyllid ar gyfer elusennau lleol, chwaraeon a sefydliadau gwirfoddol.  Roedd yr Ymddiriedolaeth hefyd yn parhau i gyllido oriel gelf Oriel Ynys Môn a nodwyd y gweithgareddau a gynhelir yn yr Oriel yn yr adroddiad.  Roedd yr Aelodau o’r farn y dylai’r 'Datganiad o Weithgareddau Ariannol am y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Mawrth, 2015' ar dudalen 5 yr adroddiad, gynnwys, dan y cyfeiriad at Weithgareddau Elusennol (Grantiau i hyrwyddo amcanion yr Elusen) gyfeiriad at Oriel Ynys Môn dan y pennawd ‘Cyngor Sir Ynys Môn’.

 

Mae perfformiad buddsoddi portffolio yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi arwain at incwm buddsoddiad o £ 536,824, sydd £ 136,824 yn uwch na'r targed o £ 400,000.  Mae cyfanswm portffolio yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn werth dros £ 20 miliwn sy'n cynnwys y £3 miliwn a gafwyd yn sgil gwerthu'r tir yn Rhosgoch.

 

Cafodd aelodau'r Ymddiriedolaeth Elusennol yn falch gyda pherfformiad y portffolio ond holwyd beth oedd y sefyllfa o ran yr incwm buddsoddi yn dilyn y cwymp yn ddiweddar yn y marchnadoedd ariannol ar lefel fyd-eang.  Dywedodd y Trysorydd fod HSBC Investment Management wedi cyflwyno adroddiad yn ddiweddar i'r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau yn dweud bod y portffolio yn perfformio'n dda er gwaethaf y cwymp yn y farchnad ariannol.  Nododd bod y portffolio wedi cael ei wasgaru dan wahanol feini prawf buddsoddi ac mewn marchnadoedd byd-eang.

 

Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r grant a roddir i Oriel Ynys Môn bob blwyddyn.  Mewn ymateb, dywedodd yr Ysgrifennydd bod Panel wedi cael ei sefydlu fel y gall y Cyngor Sir drafod y Gwasanaeth Diwylliant yn ei gyfanrwydd. 

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo'r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon ar gyfer 2014/2015 ac awdurdodi'r Cadeirydd i lofnodi’r fersiwn derfynol.

 

Ymataliodd Mr. Jeff Evans a Mrs. Nicola Roberts rhag pleidleisio.

 

 

4.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 16 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

‘O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wag a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.’

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -

 

"Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei datgelu a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm. "

 

5.

Proses Dyfarnu Grantiau 2016/17

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â'r broses o ddyrannu grantiau i'r gwahanol gategorïau o grantiau ac i benderfynu ar y broses ar gyfer asesu dyfarniadau.

 

Amlinellodd y Trysorydd sefyllfa ariannol bresennol yr Ymddiriedolaeth Elusennol a rhoes adroddiad ar y meini prawf cymhwyso cyfredol ar gyfer grantiau a'r tri phrif faes sy'n derbyn grantiau yn flynyddol.  Nododd ymhellach fod yr Ymddiriedolaeth hefyd yn ariannu grantiau mwy fel ceisiadau unwaith ac am byth.  Dywedwyd ei bod yn ymddangos bod mwy o geisiadau am grantiau mwy wedi cael eu cyflwyno i’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn ddiweddar.  Mae angen i'r Ymddiriedolaeth Elusennol fod yn hyderus bod y sefydliadau sydd wedi derbyn grantiau gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol yn hyfyw ac yn gynaliadwy ar ôl hynny.  Roedd tabl o fewn yr adroddiad yn dangos yr ymrwymiadau yr oedd yr Ymddiriedolaeth wedi eu rhoddi ar gyfer y pedair blynedd nesaf. 

 

Dywedodd y Trysorydd ymhellach bod Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi gofyn am fanylion ynghylch effaith defnyddio twf arian cyfalaf i ariannu grantiau yn 2016/17 - 2020/21.  Cafodd tabl yn dangos effaith ragdybiedig defnyddio twf cyfalaf o 5%, 10% a 20% ei gylchredeg yn y cyfarfod.

 

Nodwyd y bydd angen mwyafrif o ddwy ran o dair o aelodaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol, h.y. 20 o aelodau i ganiatáu gwario arian cyfalaf yr Ymddiriedolaeth. (Pleidleisiodd 21 o aelodau'r Ymddiriedolaeth o blaid yr argymhelliad fel y nodir isod).

 

PENDERFYNWYD: -

 

·            Cytuno mewn egwyddor i ddefnyddio'r arian cyfalaf i gyfrannu at y swm sydd ar gael ar gyfer ei ddosbarthu fel grantiau ond y byddai lefel y cyfraniad yn cael ei asesu bob blwyddyn gan y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a fyddai'n gwneud argymhelliad i'r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn;

·           Anrhydeddu'r ymrwymiadau tymor hir a wneir i Menter Môn, Cymdeithas Gemau'r Ynysoedd, yr Urdd a Ffermwyr Ifanc Ynys Môn;

·            Parhau i roddi swm o £ 215,000 i Oriel Ynys Môn tan ddiwedd 2016/17, pryd y bydd yr adolygiad o'r Gwasanaeth Diwylliant yn cael ei gwblhau;

·            Rhoddi i’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol y swm o £ 80,000 sef y gyllideb bresennol tuag at grantiau ar gyfer Neuaddau Pentref a £ 125,000 tuag at Gyfleusterau Chwaraeon a Chymunedol.  Bydd dyrannu grantiau i sefydliadau unigol yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn;

·           Dyrannu £ 200,000 tuag at y Pwyllgor Adfywio ar gyfer ystyried ceisiadau a dderbynnir am grantiau mwy. Bydd dyrannu grantiau i sefydliadau unigol yn amodol ar gymeradwyaeth yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn.

 

6.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu'r isod:-

"Dan Adran 100 (A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Paragraffau 13,14 a 16) y Ddeddf.”

 

 

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -

 

"Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei datgelu a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (Paragraffau 13, 14 a 16) y Ddeddf honno."

 

7.

Cyfreithwyr Allanol

I apwyntio cyfreithwyr allanol i gynghori a gweithredu ar ran Ymddiriedolaeth ar amrywiol faterion ar ôl derbyn adroddiad ac argymhelliad y Panel a sefydlwyd i sgorio y tendrau a dderbyniwyd.

 

Ysgrifennydd i adrodd.

Cofnodion:

Dywedodd yr Ysgrifennydd bod y Panel a sefydlwyd i drafod llywodraethu a gweinyddu’r Ymddiriedolaeth yn y dyfodol wedi cael ei gynnull i werthuso'r cynigion a dderbyniwyd gan gwmnïau addas o Gyfreithwyr Arbenigol.

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol adroddiad cefndir i'r Ymddiriedolaeth ar y broses a ddilynwyd gan y Panel a’r cynigion a dderbyniwyd.

 

PENDERFYNWYD awdurdodi'r Panel i gyfweld y Cyfreithwyr arbenigol ac i adrodd yn ôl i'r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn maes o law.