Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn a gafwyd ar 13 Medi, 2016. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Medi, 2016 fel rhai cywir. |
|
Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol PDF 21 KB Pwyllgor Grantiau Cyffredinol
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gafwyd ar 13 Hydref, 2016.
Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau
Cyflwyno, i’w cadranhau, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gafwyd ar 1 Tachwedd, 2016.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: · Pwyllgor Grantiau Cyffredinol
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Grantiau Cyffredinol a gynhaliwyd ar 13 Hydref, 2016 fel rhai cywir.
· Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod o'r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gynhaliwyd ar 1 Tachwedd, 2016 fel rhai cywir.
|
|
Grantiau Mawr - Sefyllfa Ddiweddaraf PDF 151 KB Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan y Trysorydd ar y broses ymgeisio ar gyfer grantiau mwy.
Dywedodd y Trysorydd y dyfarnwyd pump o grantiau mawr yn ystod 2016/17 - Cwmni Frân Wen, Eisteddfod Genedlaethol 2017, Menter Iaith, Cymdeithas Cae Sioe Môn a Menter Gymdeithasol Llangefni. Nododd bod cytundebau grant ffurfiol wedi eu rhoi i Menter Iaith a Cwmni Frân Wen. Bu rhywfaint o lithriad yn y datblygiadau ynghylch y grant ar gyfer Cymdeithas Cae Sioe Môn, ond mae eu cyfreithwyr yn adolygu contract drafft ar hyn o bryd. Mae Menter Gymdeithasol Llangefni yn dal i aros am ganlyniad eu cais am arian Loteri ac ni fydd y contract yn cael ei gyhoeddi tan y cafwyd cadarnhad o'u cyllid cyfatebol. Ni chyhoeddir contract i Eisteddfod Genedlaethol 2017 tan yn nes at y digwyddiad yn 2017. Mae trefnwyr yr Eisteddfod wedi nodi y bydd newid bach yn sut y defnyddir y grant a ddyfarnwyd o gymharu â’r hyn a amlinellwyd yn y cais, a hynny oherwydd eu bod wedi cyrraedd y targed ar gyfer cronfeydd lleol. Mae'r Eisteddfod yn awr yn bwriadu defnyddio mwy o'r grant fel nawdd corfforaethol gyda'r Ymddiriedolaeth yn noddi’r Eisteddfod ar y dydd Sadwrn a’r dydd Sul agoriadol. Bydd yr arian hwn yn caniatáu ar gyfer gostwng prisiau mynediad ar gyfer y ddau ddiwrnod er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd fynychu am bris gostyngol.
Mae cyllideb o £350k wedi'i neilltuo ar gyfer 2017/18 i grantiau mawr ac fe lansiwyd y broses ymgeisio ym mis Tachwedd gyda dyddiad cau o 6 Ionawr 2017 ar gyfer cyflwyno ceisiadau.
Dywedodd y Trysorydd ymhellach yr amcangyfrifwyd ar 30 Tachwedd, 2016 y bydd yr Incwm Buddsoddi ar gyfer 2016/17 yn £640,358.48. Mae hyn yn seiliedig ar Adroddiad Datganiad Asedau gan Fanc HSBC a’r ffigur hwn yw’r gyllideb y rhagwelir y bydd hi ar gael i ddyrannu grantiau i Sefydliadau Gwirfoddol yn 2017/18.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd “Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.” Cofnodion: PENDERFYNWYD mabwysiadu'r canlynol: -
"Dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A (Categori 16) o'r Ddeddf honno. "
|
|
Adolygiad o drefniadau Llywodraethiant Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas ag opsiynau ar gyfer y Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) y penderfynodd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn, yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2016, y dylid ei ffurfio.
Cafodd aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol gyflwyniad gan gynrychiolwyr o Browne Jacobson ar fanylion penodol, opsiynau a chyngor cyfreithiol mewn perthynas â ffurfio SCE. Trafododd yr Ymddiriedolaeth y Cyfansoddiad Enghreifftiol ar gyfer SCE sef y Model ‘Sylfaen’ a’r Model ‘Cyswllt’.
PENDERFYNWYD: -
· Bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn ffurfio Sefydliad Corfforedig Elusennol (SCE) Cyswllt ac yn newid i fod yn SCE o’r fath ac yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i weithredu'r penderfyniad hwnnw; · Bod Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn mabwysiadu'r argymhellion canlynol wrth sefydlu Sefydliad Corfforedig Elusennol Cyswllt: -
· Bod yr SCE Cyswllt, yn y lle cyntaf, yn cynnwys Aelodau a Chyfarwyddwyr a byddant yr un bobl a bydd pob un ohonynt yn aelodau etholedig o Gyngor Sir Ynys Môn ( 'Aelodau Etholedig); · Bydd enw'r Ymddiriedolaeth yn ddwyieithog (gyda'r enw Cymraeg yn gyntaf) a’r enw Saesneg wedyn, sef Cymdeithas Elusennol Ynys Môn / Isle of Anglesey Charitable Association; · Bydd amcanion elusennol y Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol newydd yn aros fel y maent ar hyn o bryd; · Ni fydd unrhyw atebolrwydd ar aelodau o’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol pe bai’r Gymdeithas yn dod i ben; · Bydd gan y Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol un categori o aelodau ond bydd ganddi rym i ymestyn yr aelodaeth i 'gyfeillion heb bleidlais' ar ryw adeg yn y dyfodol; · Y Cworwm ar gyfer cyfarfodydd o’r aelodau o’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol fydd 5% o'r aelodaeth; · Bydd gan Gadeirydd cyfarfod yr aelodau o'r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol bleidlais fwrw os bydd nifer y pleidleisiau a gafodd eu bwrw mewn cyfarfod o’r fath yn gyfartal; · Yr isafswm oed i fod yn ymddiriedolwr fydd 16; · Isafswm nifer yr ymddiriedolwyr fydd 3; · Ni fydd uchafswm ar gyfer nifer yr ymddiriedolwyr; · Bod yr holl Ymddiriedolwyr ar adeg sefydlu’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol yn Aelodau Etholedig; · Bod 2 Ymddiriedolwr Annibynnol; · Mai’r cworwm ar gyfer cyfarfodydd o'r Ymddiriedolwyr fydd 5; · I'r graddau y bydd y gyfraith yn caniatáu, bydd yr Ymddiriedolwyr yn aelodau etholedig sy'n cynrychioli wardiau etholiadol Ynys Môn; · Bydd Ymddiriedolwyr newydd yn cael eu penodi gan yr Ymddiriedolwyr cyfredol; · Bydd cyfnodau swydd yr Ymddiriedolwyr yr un fath â chyfnodau swydd yr Aelodau Etholedig; · Bydd cyfnodau swydd yr Ymddiriedolwyr Annibynnol yn 3 blynedd a gallant wasanaethu am unrhyw nifer o gyfnodau ar yr amod nad ydynt yn gwasanaethu am ragor na 2 gyfnod yn olynol; · Rhoddir awdurdod i Aelodau o’r Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol ddiswyddo Ymddiriedolwr o’r Gymdeithas; · Bydd gan Gadeirydd y cyfarfod o Gyfarwyddwyr y Gymdeithas Ymddiriedolaeth Elusennol bleidlais fwrw os bydd nifer y pleidleisiau a gafodd eu bwrw mewn unrhyw gyfarfod o’r fath yn gyfartal; · Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth mewn perthynas â’r holl bwerau, hawliau a swyddogaethau gwneud penderfyniadau eraill ar ran Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn er mwyn sicrhau’r trawsnewid i fod yn SCE Cyswllt - gan gynnwys unrhyw benderfyniad ar fater ategol neu ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6. |