Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 46 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 25 Ionawr, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 25 Ionawr, 2017.

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y posibilrwydd y caiff gwybodaeth eithriedig ei rhyddhau fel y diffinnir hi yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r isod :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem isod oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A (Categori 16) y Ddeddf honno.”

4.

Adolygiad o Drefniadau Llywodraethiant Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn

Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod.

(Bydd fersiwn Gymraeg o’r Cyfansoddiad y Gymdeithas Elusennol Ynys Môn, sydd yn atodiad i’r adroddiad yn cael ei hanfon i ddilyn).

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Ysgrifennydd yn gofyn am gymeradwyo cyfansoddiad y Gymdeithas Elusennol Gofrestredig (CEG). Cymeradwyodd yr Ymddiriedolaeth Elusennol greu CEG yn ei gyfarfod ar 15 Rhagfyr, 2016 ynghyd â’r camau gweithredu cysylltiedig angenrheidiol. Roedd yr Ysgrifennydd yn dymuno diwygio fersiwn Gymraeg yr adroddiad a ddylai ddarllen yn 2.6  ‘Bod YEYM yn dirprwyo i Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth yr holl hawliau …..’ yn lle ‘Bod YEYM yn dirprwyo i Drysorydd yr Ymddiriedolaeth….’.

 

Rhoddwyd cyflwyniad i’r Ymddiriedolaeth Elusennol gan gynrychiolwyr Browne Jacabson LLP ar fanylion penodol, opsiynau a chyngor cyfreithiol mewn perthynas â chyfansoddiad y CEG.

 

Trafodwyd cyfansoddiad y CEG yn fanwl gan yr Ymddiriedolaeth a gofynnwyd i Bronwne Jacobsen adolygu ymhellach y diffiniad o Sir Ynys Môn er mwyn gwneud yn glir bod Ynys Môn ac Ynys Gybi i elwa o ddibenion elusennol yr Ymddiriedolaeth. 

 

PENDERFYNWYD :-

 

·           Cymeradwyo cyfansoddiad “Cymdeithas Elusennol Ynys Môn / The Isle of Anglesey Charitable Trust” a dirprwyo i Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth yr hawl i wneud unrhyw newidiadau angenrheidiol i eiriad y cyfansoddiad yn codi o drafodaethau yn y cyfarfod hwn ac wedi cymryd cyngor yn y lle cyntaf gan Browne Jacobson;

·           Cytuno i greu’r CEG a elwir “Cymdeithas Elusennol Ynys Môn / The Isle of Anglesey Charitable Association”  a’i bod yn cael ei chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau;

·           Bod Browne Jacobson yn cael unrhyw wybodaeth y byddant ei hangen efallai i gwblhau’r cais i gofrestru’r CEG gyda’r Comisiwn Elusennau;

·           Dirprwyo i Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth yr hawl i gymeradwyo a chyflwyno’r cais ffurfiol i’r Comisiwn Elusennau i gofrestru’r CEG;

·           Trosglwyddo asedau’r Ymddiriedolaeth i’r CEG unwaith y bydd wedi ei sefydlu a dirprwyo i Drysorydd yr Ymddiriedolaeth y grym i wneud yr holl benderfyniadau a gweithredu’r holl ofynion gweinyddol i gyflawni hyn;

·           Dirprwyo i Drysorydd yr Ymddiriedolaeth yr holl hawliau, bwerau a swyddogaeth gwneud penderfyniadau eraill ar ran Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn er mwyn sicrhau’r trosglwyddiad i’r CEG – gan gynnwys unrhyw benderfyniad ar faterion ategol neu gysylltiedig. Gall Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth ymgynghori gydag aelodau’r Panel a sefydlwyd ac arno aelodau etholedig ac, yn ogystal, gydag unrhyw swyddogion y bydd yr Ysgrifennydd yn eu dewis cyn gweithredu unrhyw hawliau, bwerau neu swyddogaethau o’r fath.