Rhaglen a chofnodion

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Mawrth, 12fed Rhagfyr, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Derbyniwyd Datganiad o Ddiddordeb fel a ganlyn:-

 

Datganodd Mr Vaughan Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – cais Cwmni Frân Wen.

 

Datganodd Mr R Meirion Jones ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 Cwmni Frân Wen.

 

Datganodd Mr Dylan Rees ddiddordeb sy’n rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 5 – cais Parc Chwaraeon Trefol Llangefni (Menter Gymdeithasol Llangefni).

 

Datganodd Mrs Nicola Roberts ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 5 – cais Parc Chwaraeon Trefol Llangefni (Menter Gymdeithasol Llangefni).

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 28 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 19 Medi, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2017 fel rhai cywir.

3.

Adroddiadau o Is-Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth Elusennol pdf eicon PDF 21 KB

Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau

 

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gafwyd ar 7 Tachwedd, 2017.

Cofnodion:

Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau

 

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd, 2017 fel rhai cywir.

4.

Cynnydd a wnaed o ran dyfarnu grantiau mwy pdf eicon PDF 33 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd ynghylch y broses ar gyfer dyfarnu grantiau mawr, gan gynnwys pennu lefel yr arian fydd ar gael a’r broses ar gyfer monitro grantiau a ddyfarnwyd i’r sefydliadau.

 

Dywedodd y Trysorydd bod 4 sefydliad wedi derbyn cymorth grant gan yr Ymddiriedolaeth yn 2016 a oedd yn werth cyfanswm o £230k ac y dilynwyd proses a oedd yn fwy ffurfiol yn 2017 gan estyn gwahoddiad agored i sefydliadau gyflwyno ceisiadau am gymorth.  Derbyniwyd cyfanswm o 31 o geisiadau a bu 12 ohonynt yn llwyddiannus.  Dyfarnwyd rhwng £10k a £50k i bob un ac roedd y cyfanswm a dyrannwyd yn £350k.  Roedd adroddiad manwl yn ymhelaethu ar y cynnydd a waned mewn perthynas â phob prosiect wedi’i gynnwys fel eitem ar wahân ar y Pwyllgor hwn. 

 

Nododd fod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau wedi argymell yn ei gyfarfod ar 7 Tachwedd 2017, ar ôl ystyried perfformiad y portfolio buddsoddi dros y 12 mis blaenorol ac ar ôl ystyried y risgiau a’r angen i gynnal gwerth y gronfa ar lefel a oedd yn cynhyrchu digon o incwm blynyddol, y dylai’r swm sydd ar gael ar gyfer grantiau mwy barhau i fod yn £350k. 

 

Cyfeiriodd Mr R Meirion Jones at y llifogydd eithafol i gartrefi a busnesau ar yr Ynys yn ddiweddar.  Holodd a allai’r Ymddiriedolaeth sefydlu cronfa gymorth ar gyfer argyfyngau o’r fath.  Gofynnwyd i Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth ymchwilio a oedd yn briodol i’r Ymddiriedolaeth Elusennol sefydlu cronfa o’r fauth ac adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf yr Ymddiriedolaeth.

 

Er eu bod yn cydymdeimlo â phreswylwyr yr Ynys sydd wedi dioddef llifogydd i’w cartrefi a’u busnesau, roedd rhai Aelodau yn ystyried nad oedd hynny’n swyddogaeth elusennol o fewn canllawiau’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Yn dilyn trafodaethau pellach PENDERFYNWYD :-

 

·           Dyrannu grantiau mwy eto yn 2018 a bod yr SCE, unwaith y bydd wedi ei sefydlu, yn adolygu a ddylid parhau i ddyfarnu grantiau mwy o 2019 ymlaen.

·           Dyrannu swm o £350,000, fel yr argymhellir gan y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau, i ariannu’r grantiau mwy yn 2018.

·           Gwahodd ceisiadau ar unwaith gyda dyddiad cau o 31 Ionawr 2018 ar gyfer cyflwyno’r ceisiadau.

·           Bod y Pwyllgor Adfywio yn ystyried y ceisiadau a dderbynnir yn ei gyfarfod ar 14 Chwefror 2018 a bod ei argymhellion yn cael eu hystyried gan yr Ymddiriedolaeth Lawn ar 17 Ebrill 2018.

·           Gall sefydliadau sydd wedi derbyn cymorth ariannol yn y pum mlynedd flaenorol wneud ceisiadau ond ni fydd y fath geisiadau yn cael eu hystyried tan y bydd yr holl geisiadau eraill wedi cael sylw ac ar yr amod bod cyllid yn dal i fod ar gael.

·           Gofyn i Ysgrifennydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol ymchwilio a yw’n briodol i’r Ymddiriedolaeth sefydlu cronfa i roi cymorth i breswylwyr yr Ynys sydd wedi cael llifogydd i’w cartrefi a’u busnesau’n ddiweddar ac i adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf o’r Ymddiriedolaeth lawn.

5.

Diweddariad ar statws y grantiau mawr a ddyfarnwyd yn 2016 a 2017 pdf eicon PDF 82 KB

Cyflwyno adroddiad ddiweddaraf gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Trysorydd mewn perthynas â statws y grantiau mawr a ddyfarnwyd yn 2016 a 2017.  Roedd rhestr o’r grantiau mawr a ddyfarnwyd ynghlwm fel Atodiad A i’r adroddiad hwn.

 

Dywedodd y Trysorydd bod cytundebau ariannu wedi’u sefydlu gyda’r holl brosiectau ‘byw’ lle mae arian cyfatebol wedi’i sicrhau ac eithrio’r Eisteddfod Genedlaethol.  Cynhaliwyd ymweliadau ymgysylltu â’r holl brosiectau ac eithrio Cyngor Cymuned Llanfair ME.  Cynhelir rhaglen o ymweliadau monitor dros oes y prosiectau er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rheoli’n iawn, bod cynnydd yn cael ei wneud ac y gellir dangos tystiolaeth lawn o wariant.  Adroddodd ymhellach fod cynnydd gyda’r prosiectau cyfalaf wedi bod yn araf yn bennaf oherwydd problemau gyda sicrhau arian cyfatebol ond mewn rhai achosion mae’r cymorth gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi gweithredu fel sbardun ar gyfer sicrhau cyllid ychwanegol. 

 

Trafododd yr Aelodau y meini prawf ar gyfer ariannu’r grantiau mwy mewn cryn fanylder ac yn benodol y ceisiadau sy’n ddibynnol ar sicrhau arian cyfatebol o ffynonellau eraill h.y. cyllid y Loteri Fawr.  Cafwyd trafodaeth ynghylch a oedd y matrics sgorio yn ddigonol ar gyfer delio â cheisiadau o’r fath ac a oes angen cynnwys amod bod rhaid i gais fod mewn sefyllfa i fwrw ymlaen gyda’r prosiect ar unwaith heb ffynhonnell arall o arian.  Roedd rhai Aelodau o’r farn bod y meini prawf a’r matrics sgorio presennol yn ddigonol ac y dylid adolygu’r sefyllfa o fewn blwyddyn.

 

Yn dilyn y broses bleidleisio PENDERFYNWYD :-

 

·           Nodi’r adroddiad;

·           Cynnwys meini prawf ynghylch y gallu i symud ymlaen yn y matrics sgorio.