Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Cafodd Mr. Trefor Ll. Hughes MBE ei ethol yn Gadeirydd Pwyllgor Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.
Diolchodd Mr. Hughes i’r aelodau am ddangos hyder ynddo. Diolchodd hefyd i’ cyn Gadeirydd, Mr. T. Victor Hughes am ei wiath yn ystod ei gyfnod yn y rôl. |
|
Ethol Is Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Cofnodion: Cafodd Mr. R.O. Jones ei ethol yn Is-gadeirydd Pwyllgor Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Ebrill, 2017. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Ebrill, 2017 fel rhai cywir.
Cafodd y Pwyllgor ddiweddariad gan yr Ysgrifennydd bod Browne Jacobson LLP bellach wedi cyflwyno cais i’r Comisiwn Elusennol i gofrestru’r Sefydliad Elusennol Corfforedig (CIO). Dywedodd, os yn briodol, y bydd adroddiad diweddaru yn cael ei gyflwyno i aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol llawn cyn y cyflwynir adroddiad ffurfiol llawn gyda manylion y weithdrefn lywodraethu ar gyfer Cymdeithas Elusennol Ynys Môn yn y man. |
|
Penodi Swyddogion ac Aelodau i Bwyllgorau'r Ymddiriedolaeth PDF 24 KB Cyflwyno adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan yr Ysgrifennydd mewn perthynas â phenodi Swyddogion ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Elusennol a’r angen i benderfynu ar strwythurau’r pwyllgorau ac i benodi aelodau i wasanaethu ar y pwyllgorau hynny. Awgrymwyd, gan fod yr Ymddiriedolaeth wedi gwneud cais i’r Comisiwn Elusennau i newid y strwythur llywodraethu i Sefydliad Elusennol Corfforedig, y dylid cael strwythur pwyllgorau o 3 phwyllgor o’r Ymddiriedolaeth, sef :- Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau Pwyllgor Grantiau Cyffredinol Pwyllgor Adfywio Dylid parhau yn y tymor byr gyda’r trefniadau presennol a dylid manteisio ar y cyfle i adolygu’r strwythur pwyllgorau unwaith y bydd penderfyniad terfynol y Comisiwn Elusennol wedi’i wneud. PENDERFYNWYD :- · Rhoi awdurdod i Gadeirydd ac Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn awdurdodi gwariant yr Ymddiriedolaeth;
· Penodi’r aelodau canlynol i’r 3 Phwyllgor o’r Ymddiriedolaeth Elusennol :-
Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau K.P. Hughes, T.Ll. Hughes MBE, Aled M. Jones, G.O. Jones, R.Ll. Jones, Alun Mummery, Dafydd Roberts, Nicola Roberts, Dafydd R. Thomas, Robin Williams.
Pwyllgor Grantiau Cyffredinol
Lewis Davies, Richard A. Dew, Glyn Haynes, Vaughan Hughes, Llinos M. Huws, R.O. Jones, Dylan Rees, Margaret M. Roberts, Peter Rogers, Shaun Redmond.
Pwyllgor Adfywio
John Griffith, Richard Griffiths, Carwyn Jones, Eric Jones, R. Meirion Jones, Bryan Owen, Bob Parry OBE FRAgS, Alun Roberts, J. Arwel Roberts, Ieuan Williams.
· Nodi y bydd Cadeirydd ac Is-gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn yn aelodau ex-officio ar bob un o’r 3 Phwyllgor.
|