Rhaglen a chofnodion drafft

Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Iau, 16eg Gorffennaf, 2020 1.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd, id oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft - 1 Ebrill 2018 i 30 Medi 2019 pdf eicon PDF 746 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd y Trysorydd fod yr Ymddiriedolaeth wedi sefydlu Sefydliad Corfforedig Elusennol a fydd yn cael ei adnabod fel ‘Cymdeithas Elusennol Ynys Môn’.

 

Bydd y Sefydliad newydd yn endid cyfreithiol ar wahân gyda'r un dibenion elusennol ag Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn. Mae asedau a rhwymedigaethau Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn wedi cael eu trosglwyddo i'r endid newydd o 1 Hydref 2019, yn dilyn penderfyniad ffurfiol gan yr Ymddiriedolwyr ar 24 Medi 2019 ac, felly, mae'r adroddiad blynyddol hwn yn cwmpasu cyfnod estynedig, sef o 1 Ebrill 2018 hyd at 30 Medi 2019. Hwn yw’r

adroddiad olaf o dan yr Ymddiriedolaeth flaenorol.

 

Adroddwyd y rhoddwyd grantiau i gyrff gan ddefnyddio meini prawf y cytunwyd arnynt a bod yr Ymddiriedolaeth yn dal i fod yn ffynhonnell bwysig o gyllid i elusennau lleol a chyrff chwaraeon a sefydliadau gwirfoddol. Mae’r Ymddiriedolaeth yn parhau i ariannu Oriel Môn ac mae’r gweithgareddau a gynhelir yn yr Oriel wedi eu nodi yn yr adroddiad.  

 

Adroddodd y Trysorydd ymhellach ar berfformiad buddsoddi portffolio’r Ymddiriedolaeth Elusennol a’r perfformiad hyd yma yn erbyn yr amcan tymor hir (h.y. y dylai gwerth y gwaddol dyfu yn ôl chwyddiant - wedi ei gyfrifo heb gynnwys gwerth y tir). Penderfynwyd ar darged o £18.568m ar gyfer 30 Medi, 2019 (wedi'i addasu yn unol â'r Mynegai Pris Adwerthu) a'r gwir werth oedd £20.807m, sydd £2.2m yn uwch na'r targed. Mae hyn yn cymharu â phrisiad o £22.500m ar 31 Mawrth 2018, a oedd £4.742m yn uwch na'r targed. Penderfynwyd ar darged o £972,024 ond llwyddwyd i ddenu £1,084,111, sydd £112,087 yn uwch

na'r targed. Nodwyd fod gwerth yr Ymddiriedolaeth yn £21,378,725. Dyfarnwyd rhestr o grantiau o fewn y categoriau arferol ac roedd rhestr o grantiau mwy wedi eu cynnwys o fewn yr adroddiad.   

 

Ystyriwyd yr adroddiad gan Aelodau’r Ymddiriedolaeth Elusennol ac fe godwyd y materion canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at y llecyn o dir ym Mhorth Amlwch sydd ym mherchnogaeth yr Ymddiriedolaeth. Dywedodd y Trysorydd nad oes gwerth ariannol i’r ased a’i fod wedi’i ddynodi fel ased treftadaeth. Defnyddir y tir at ddibenion amwynder gan y cyhoedd ac mae’r Ymddiriedolaeth wedi cytuno i ganiatáu mynediad i’r cyhoedd i’r Felin ac mae’n ystyried cynigion i gyflawni ei amcanion cadwraeth mewn perthynas â’r darn hwn o dir. 

·      Gofynnwyd am gadarnhad o ran y rhestr o grantiau a nodwyd o fewn Nodyn 4 a 5 yn y cyfrifon drafft. Rhoddodd y Trysorydd esboniad byr am y gwahanol lefelau o grantiau a roddir gan yr Ymddiriedolaeth a’r balansau sy’n cael eu dileu oherwydd nad yw sefydliadau wedi hawlio’r grant a roddwyd.

·      Holwyd am natur foesegol y cwmnïau yr oedd arian yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi eu buddsoddi ynddynt gan y Rheolwyr Buddsoddi. Ymatebodd y Trysorydd fod y Rheolwyr Buddsoddi yn canfod bob blwyddyn pa gwmnïau mae’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn cytuno â nhw. Cytunwyd y dylid gofyn i Reolwyr Buddsoddi HSBC gyflwyno adroddiad i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Buddsoddiadau a Chontractau.

·      Holwyd a oedd hi’n briodol ystyried ail dendro ar gyfer rheoli buddsoddiad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.