Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Iau, 3ydd Mawrth, 2016 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd Mr. R. Meirion Jones ddiddordeb personol a rhagfarnus mewn perthynas â cheisiadau grant gan Gwmni’r Frân Wen a’r Eisteddfod Genedlaethol a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau hynny.

 

Datganodd Mr. T. Victor Hughes – Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn – ddiddordeb personol a rhagfarnus yn y ceisiadau grant gan yr Eisteddfod Genedlaethol a Menter Gymdeithasol Llangefni a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau hynny.

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 16 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A i’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

Ceisiadau am grantiau mawr 2016/17

Derbyn cyflwyniadau a phenderfynu ar y grantiau mewn perthynas â’r ceisiadau a dderbyniwyd am grantiau mawr yn 2016/17.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor, yn y cyfarfod diwethaf a gynhaliwyd ar 24 Chwefror, 2016, wedi gofyn am gyflwyniad gan 2 o’r 4 sefydliad a oedd wedi cyflwyno ceisiadau am grant ynghylch materion yr oedd y Pwyllgor wedi eu codi.

 

Cafodd y Pwyllgor gyflwyniad gan y ddau sefydliad.

 

Yn dilyn trafodaethau manwl, PENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol yn ei gyfarfod i’w gynnal ar 15 Mawrth, 2016 :-

 

·        Y dylid cefnogi’r 4 cais am grant a dderbyniwyd;

·        Bod y Trysorydd yn cyflwyno adroddiad i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn gyda’r swm a argymhellir fel y cytunwyd gan y Pwyllgor Adfywio;

·        Na fydd ceisiadau a dderbyniwyd ar ôl y dyddiad cau, sef 10 Chwefror, 2016, yn cael eu hystyried.