Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Adfywio - mae’r cronfeydd elusennol yn cael eu gweinyddu’n awr gan elusen gofrestredig breifat, Y Gymdeithas, ac nid yw’r Cyngor Sir bellach yn ymddiriedolwr. - Dydd Gwener, 24ain Chwefror, 2017 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddidordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Cafwyd datganiadau o ddiddordeb gan :-

 

Mr. Alwyn Rowlands – datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18 – Cais gan Ganolfan Hamdden Biwmares a’r cylch ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.

 

Cadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18   – Cais gan Gwmni Tref Llangefni ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.

 

Is-Gadeirydd Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn - datganiad o ddiddordeb a oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 4 – Ceisiadau am Grantiau Mawr 2017/18  – Cais gan Gyngor Tref Caergybi ac ni chymerodd unrhyw ran yn y drafodaeth na’r bleidlais ar yr eitem.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 28 KB

Cyflwyno cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 10 Chwefror, 2017.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Chwefror, 2017.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 15 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :- 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

 

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol :-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd a oedd ynghlwm.”

 

 

4.

Ceisiadau Grantiau Mawr 2017/18

Rhoddi ystyriaeth i’r ceisiadau ar y rhestr fer ar gyfer grantiau mawr 2017/18.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod.

 

Dywedodd y Trysorydd bod 31 o geisiadau wedi dod i law a’u trafod gan y Pwyllgor hwn yn ei gyfarfod ar 10 Chwefror, 2017.  Penderfynodd y Pwyllgor roi 12 o’r ceisiadau ar restr fer ar gyfer eu hasesu’n fanylach. O ran yr 19 cais arall, ystyriwyd bod 9 yn addas fel ceisiadau ar gyfer grantiau Hamdden a Chymunedol (hyd at  £8,000) a bod yr ymgeiswyr wedi cael gwybod y bydd eu ceisiadau’n cael eu trosglwyddo i’r broses honno. Ni chafodd y 10 cais arall eu cefnogi ac mae’r ymgeiswyr wedi cael gwybod am benderfyniad y Pwyllgor.  

 

Cafwyd trafodaeth fanwl mewn perthynas â’r 12 cais a oedd ar y rhestr fer a PHENDERFYNWYD argymell i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn yn y cyfarfod nesaf :-

 

·           Bod y 12 cais am grant a oedd ar y rhestr fer yn cael eu cefnogi;

·           Bod y Trysorydd yn cyflwyno adroddiad i’r Ymddiriedolaeth Elusennol lawn gyda’r symiau a argymhellwyd ac a gytunwyd gan y Pwyllgor Adfywio.