Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Cadeirydd Ethol Cadeirydd. Cofnodion: Ailetholwyd Mr Bob Parry OBE FRAgS yn Gadeirydd. |
|
Ethol Is-gadeirydd Ethol Is-gadeirydd. Cofnodion: Etholwyd Mr J Arwel Roberts yn Is-Gadeirydd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn: -
Datganodd Mr Richard Griffiths ddiddordeb personol yn Eitem 6 - Ceisiadau am Grantiau Mawr yn 2018/19 - Cais 12 Cymdeithas Dreftadaeth Ddiwydiannol Amlwch a Chais 15 Copperfest - a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arnynt.
‘Roedd Mr Carwyn Jones wedi datgan diddordeb a oedd yn rhagfarnu yn Eitem 6 - Ceisiadau am Grantiau Mawr yn 2018/19 - Cais 21 Côr Ieuenctid Môn - ac nid oedd yn bresennol yn y cyfarfod yn dilyn cael cyngor cyfreithiol.
Datganodd Mr R Meirion Jones ddiddordeb personol yn Eitem 6 - Ceisiadau am Grantiau Mawr yn 2018/19 - Cais 8 Cwmni'r Fran Wen a Chais 34 Band Biwmares - a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arnynt.
Datganodd Mr Bryan Owen ddiddordeb personol yn Eitem 6 - Ceisiadau am Grantiau Mawr yn 2018/19 - Cais 4 Neuadd Bentref Aberffraw a Chais 11 Tudur Cyf - a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth a’r bleidlais arnynt.
|
|
Cyflwyno cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Adfywio a gafwyd ar 24 Chwefror, 2017.
(Mabwysiadwyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol llawn a gafwyd ar 18 Ebrill, 2017). Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 24 Chwefror, 2017. (Mabwysiadwyd y cofnodion gan yr Ymddiriedolaeth Elusennol lawn ar 18 Ebrill, 2017). |
|
Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd Ystyried mabwysiadu’r canlynol :- “O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.” Cofnodion: PENDERFYNWYD: -
"O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”
|
|
Ceisiadau Grantiau Mawr 2018/19 Cyflwyno adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Trysorydd mewn perthynas â cheisiadau a dderbyniwyd am Grantiau Mwy.
Dywedodd y Trysorydd fod y Pwyllgor Buddsoddi a Chontractau, yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Tachwedd 2017, wedi penderfynu argymell cyllideb o £350k ar gyfer Grantiau Mawr yn 2018/19. Cymeradwywyd y gyllideb hon gan gyfarfod o Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn ar 24 Ionawr, 2018. Lansiwyd y broses ymgeisio ym mis Rhagfyr 2017 trwy wefan y Cyngor a'r cyfryngau cymdeithasol. Gosodwyd hysbysebion hefyd yn y papurau newydd lleol a'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau oedd 31 Ionawr, 2018. Gwahoddwyd ceisiadau am gyllid o fwy na £8,000 i gynorthwyo gyda phrosiectau cyfalaf mawr neu refeniw i ariannu gwasanaethau penodol a fyddai o fudd i bobl Ynys Môn. Rhaid i geisiadau fodloni un o'r meini prawf canlynol:
· Cymorth i grwpiau dan anfantais; · Adfywio'r economi leol; · Gwella sgiliau; · Lleihau tlodi; · Gwarchod treftadaeth; · Diogelu’r amgylchedd; · Cymryd rhan mewn gweithgareddau sy'n ymwneud â chwaraeon, iechyd a budd i’r gymuned; · Datblygu ysbryd cymunedol a llesiant.
Yn y cyfarfod o’r Ymddiriedolaeth Elusennol a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr 2017 penderfynwyd, er na waherddir ceisiadau gan sefydliadau a oedd wedi derbyn arian o'r gronfa Grantiau Mawr yn y pum mlynedd flaenorol, ni fyddai’r ceisiadau hynny’n cael sylw hyd nes y byddai’r holl geisiadau eraill wedi cael eu hystyried ac ar yr amod bod yr arian yn dal i fod ar gael.
Dywedodd y Trysorydd fod 34 o geisiadau wedi eu derbyn erbyn y dyddiad cau. Roedd manylion y ceisiadau a dderbyniwyd ynghlwm fel Atodiad A i'r adroddiad. Er mwyn cynorthwyo'r Pwyllgor i ystyried y ceisiadau, roedd Swyddogion wedi sgorio'r ceisiadau ymlaen llaw yn erbyn cyfres o feini prawf a ddefnyddiwyd yn flaenorol i asesu'r ceisiadau.
Derbyniodd y Pwyllgor fanylion cefndirol y ceisiadau gan y Swyddogion ac yn dilyn trafodaethau
PENDERFYNWYD: -
· Rhoi sylw i 15 cais mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor hwn; · Cynghori un ymgeisydd i gyflwyno eu cais i gronfa grantiau bach yr Ymddiriedolaeth Elusennol.
|