Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion Cyfarfod 17 Mehefin, 2014 pdf eicon PDF 195 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 17 Mehefin, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod diwethaf o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 17 Mehefin 2014 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Materion yn Codi

·        Gweithio Mewn Partneriaeth – Kirsty Williams i adrodd yn ôl ynglyn â’r cynigion a wnaed yn y cyfarfod blaenorol.

·        Swyddog Addysg Cynradd  i adrodd yn ôl ynglyn â gohebu gydag Estyn.

·        Arweinydd Systemau i adrodd yn ôl  ynglyn â’r ymateb a luniwyd i’r Holiadur Cais am Dystiolaeth

Cofnodion:

           Gweithio mewn Partneriaeth

 

Nododd y Swyddog Addysg Gynradd fod Kirsty Williams (yr Eglwys yng Nghymru) wedi rhoi cyflwyniad i’r cyfarfod diwethaf o’r CYSAG mewn perthynas â gweithio mewn partneriaeth.  Gofynnwyd i Ms. Williams adolygu’r cynigion yn ei hadroddiad ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn.

 

Nid oedd Ms. Williams yn gallu mynychu’r cyfarfod hwn ond roedd wedi ymateb fel a ganlyn:-

 

“O ran ehangu’r adroddiad ar yr Eglwys yng Nghymru yn cefnogi ysgolion yn Ynys Môn, rydym yn edrych ar y gefnogaeth sydd ei hangen ar hyn o bryd ac yn drafftio adroddiad sy’n cynnwys cyfranogiad gan yr ysgolion ac yn anffodus felly ni fydd wedi ei gwblhau tan y cyfarfod nesaf.”

 

PENDERFYNWYD disgwyl am adroddiad i gyfarfod nesaf y CYSAG mewn perthynas â’r uchod.

 

           Gohebu gydag Estyn - Safonau Addysg Grefyddol

 

Nodwyd bod llythyr wedi anfon at Brif Arolygydd Estyn yn unol â phenderfyniad y CYSAG yn ei gyfarfod diwethaf.

 

           Adolygiad Annibynnol o Asesu a Chwricwlwm Cenedlaethol Cymru

 

Dywedodd yr Arweinydd Systemau ei bod wedi ymateb yn ffurfiol i’r holiadur ar ran y Pwyllgor hwn yn seiliedig ar y sylwadau a fynegwyd yn ystod y drafodaeth ar y mater yn y cyfarfod diwethaf.  Nododd bod ymateb wedi ei anfon at Lywodraeth Cymru yn dweud y gobeithir y bydd Addysg Grefyddol yn rhan o unrhyw newid i’r cwricwlwm fel bod unrhyw newidiadau sy’n digwydd i bynciau eraill yn cynnwys Addysg Grefyddol hefyd.  Roedd yn gobeithio hefyd y byddai swyddogion sy’n delio gydag Addysg Grefyddol yn cael gwahoddiad i unrhyw gyfarfodydd cenedlaethol a drefnir i adolygu’r cwricwlwm ar gyfer Cymru.  Gan nad yw Addysg Grefyddol yn rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol mae perygl y bydd yn cael ei hanwybyddu pan fo trafodaethau’n digwydd.

 

Nododd y byddai’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn gyda hyn pan geir ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

 

4.

Cynllun Gweithredu CYSAG Ynys Môn pdf eicon PDF 218 KB

Ystyried Cynllun Gweithredu CYSAG Ynys Môn (a gyflwynwyd ar y diwrnod i’r cyfarfod blaenorol).

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan yr Arweinydd Systemau mewn perthynas â Chynllun Gweithredu drafft ar gyfer CYSAG Ynys Môn am y cyfnod 2013-2015.

 

Dywedodd yr Arweinydd Systemau ei fod yn arferol i CYSAG Ynys Môn baratoi Adroddiad Blynyddol.  Yn 2013 cynhyrchodd Llywodraeth Cymru ganllawiauAdolygiad o Adroddiadau CYSAGau 2008-2011’ gan argymell y dylai CYSAGau arfarnu eu gwaith eu hunain a monitro effaith eu gwaith ar safonau Addysg Grefyddol o fewn eu hysgolion lleol.

 

Rhannwyd aelodau’r Pwyllgor yn grwpiau i drafod yr isod.

 

I ba raddau y mae CYSAG Ynys Môn wedi medru:-

 

           Datblygu arweinyddiaeth dda mewn addysg grefyddol ac addoli ar y cyd;

           Cau’r bwlch rhwng y safonau a gyrhaeddir gan fechgyn a genethod mewn arholiadau TGAU;

           Diweddaru gwybodaeth athrawon e.e. Canllawiau Llywodraeth Cymru ac adroddiad thematig ESTYN

           Hyrwyddo addoli ar y cyd o safon dda.

 

Cafwyd sesiwn atborth cyffredinol ynglŷn â’r materion a godwyd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU: Arweinydd Systemau i adrodd yn ôl i gyfarfod nesaf y CYSAG mewn perthynas â’r uchod.

5.

Addoli ar y Cyd

·        Pennaeth Ysgol Gynradd Llangaffo i roddi cyflwyniad ar drefniadau’r ysgol ar gyfer addoli ar y cyd.

 

·        Aelodau’r CYSAG i roddi adborth ar eu hymweliadau addoli ar y cyd ag ysgolion fel a gytunwyd yn y cyfarfod blaenorol.

Cofnodion:

           Estynnodd y Cadeirydd groeso i’r cyfarfod i Ms Manon Williams, Pennaeth Ysgol Gynradd Llangaffo.  Cafwyd trosolwg cynhwysfawr gan Ms Williams o addoli ar y cyd yn Ysgol Gynradd Llangaffo (ysgol wirfoddol yr Eglwys yng Nghymru) a dygodd sylw at yr isod:-

 

           Mae gan yr ysgol gynllun addoli corfforaethol sy’n sicrhau dilyniant i’r plant ar sail ddyddiol.

           Pwysleisir 7 o werthoedd Cristnogol yn yr ysgol.

           Mae’r plant yn canu amrywiaeth o emynau.  Cenir yr emynAgor ein Llygaidyn y gwasanaeth boreol.

           Mae’r Rheithor lleol yn cynorthwyo yn y gwasanaeth boreol unwaith pob pythefnos.

           Mae Grwpiau Cymunedol Lleol yn dod i’r ysgol i berfformio straeon crefyddol o’r Beibl fel rhan o’r prosiectAgor y Llyfr’.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Ms Williams am ei chyflwyniad.

 

           Rhoddodd Aelodau’r Pwyllgor atborth ar eu hymweliadau addoli ar y cyd i Ysgol Bodedern ac Ysgol Parc y Bont fel y cytunwyd yn y cyfarfod diwethaf.

 

6.

Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn 2013/14 pdf eicon PDF 487 KB

Cyflwyno drafft cychwynnol o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am 2013/14.

Cofnodion:

Cyflwynwyddrafft cychwynnol o Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn am y cyfnod 2013/14.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Systemau wybodaeth gefndirol i’r Aelodau ynghylch paratoi’r adroddiad ynghyd ag eglurhad cryno o’i gynnwys a oedd yn seiliedig ar drafodaethau’r CYSAG yn ei gyfarfodydd yn ystod 2013/14.

 

Nododd y bydd Arolygiadau gan Estyn yn ddirybudd o fis Medi ymlaen.  Nodwyd y teimlir ei fod yn afresymol gofyn i Athrawon Addysg Grefyddol baratoi adroddiadau hunanarfarnu yn ystod tymor pan oedd ysgol yn cael ei harolygu.  Nododd nad oedd enwau’r ysgolion nad oeddent wedi cyflwyno adroddiadau hunanarfarnu wedi eu cynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol.  Dywedodd Aelodau’r Pwyllgor eu bod yn dymuno nodi yn yr Adroddiad Blynyddol bod 10 o Arolygiadau Estyn wedi eu cynnal ar yr Ynys ac mai dim ond 3 ysgol sydd wedi cyflwyno adroddiadau hunanarfarnu.

 

Cytunwyd i gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol y ffaith mai dim ond 3 ysgol oedd wedi cyflwyno adroddiadau hunanarfarnu o’r 10 ysgol a arolygwyd gan Estyn.

 

7.

Arolygiadau Ysgol - Haf, 2014 pdf eicon PDF 436 KB

Cyflwyno gwybodaeth ynghylch arolygiadau ysgol Haf, 2014.

Cofnodion:

Cyflwynwyd gwybodaeth ynghylch casgliadau perthnasol o adroddiadau arolygiadau Estyn mewn perthynas ag Ysgol Llanfechell, Ysgol Llangaffo, Ysgol Esceifiog ac Ysgol Gyfun Llangefni.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg Gynradd nad oedd unrhyw faterion wedi codi mewn perthynas â’r ysgolion a arolygwyd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

 

8.

Hunan-Arfarniad Ysgol pdf eicon PDF 689 KB

Cyflwyno adroddiadau hunan arfarniad Ysgol Gynradd Llangaffo ac Ysgol Gyfun Llangefni.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – a derbyniwyd, adroddiadau hunanarfarnu ar Ysgol Gynradd Llangaffo ac Ysgol Gyfun Llangefni.

 

Roedd y Pwyllgor yn dymuno mynegi ei werthfawrogiad i’r staff yn y ddwy ysgol.

 

GWEITHREDU:  Gofyn i’r Swyddog Addysg Gynradd ysgrifennu at y ddwy ysgol i fynegi gwerthfawrogiad y CYSAG.

 

 

9.

Cymdeithas CYSAGau Cymru

Yr Is-Gadeirydd i adrodd am gyfarfod Cymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd yn Llandrindod ar 2 Gorffennaf, 2014.

Cofnodion:

Cylchredwyd cofnodion y cyfarfod o Gymdeithas CYSAGau Cymru a gynhaliwyd ar 2 Gorffennaf 2014.

 

Nododd yr Is-Gadeirydd, Mr. Rheinallt Thomas, fod Ms Vicky Thomas a Ms Gill Vaisey wedi eu hethol yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas CYSAGau Cymru i wasanaethu ar Bwyllgor Gwaith y CYSAG.

 

Rhoddodd y cefndir i’r cyfarfod CYSAGau Cymru a gofynnodd i’r CYSAG ailgofrestru gyda Chymdeithas CYSAGau Cymru am swm o £422.

 

PENDERFYNWYD gofyn i’r Awdurdod Addysg ystyried ailgofrestru gyda Chymdeithas CYSAGau Cymru.

 

10.

Gohebiaeth

Y Cadeirydd i adrodd am unrhyw ohebiaeth a dderbyniwyd.

Cofnodion:

Nododd y Swyddog Addysg Gynradd ei fod wedi derbyn e-bost gan Ysgrifennydd Cymdeithas CYSAGau Cymru yn dweud ei bod yn gobeithio darparu dogfen ar gyfer ysgolion sy’n cynnwys canllawiau ynghylch hawliau rhieni i dynnu eu plant o addoli ar y cyd ac addysg grefyddol.  Roedd yr Ysgrifennydd wedi holi a oedd gan yr Awdurdod Addysg unrhyw ddogfen o’r fath ar hyn o bryd.  Dywedodd y Swyddog Addysg Gynradd ei fod wedi cael ymateb nad oedd gan yr Awdurdod Addysg ddogfen o’r fath.

11.

Cyfarfod Nesaf

Dydd Mawrth, 17 Chwefror, 2015 .

Cofnodion:

Nodwyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG am 2.00pm ar ddydd Mawrth 17 Chwefror 2015.