Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y cyfarfod - 10 Hydref 2017 pdf eicon PDF 260 KB

  Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar Hydref 10fed, 2017.

 

  I drafod unrhyw faterion sy’n codi o’r cofnodion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y CYSAG a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, yn amodol ar y canlynol:-

 

Eitem 3 – Materion yn Codi

   

  Ni dderbyniwyd ymateb gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch penderfyniad y Pwyllgor Deisebau ynglŷn ag addoli ar y cyd. 

 

Gweithredu: 

 

Y Swyddog Addysg i ofyn i Bwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru roi gwybodaeth i’r CYSAG am ganlyniad y penderfyniad ar y ddeiseb addoli ar y cyd.

 

  Mewn ymateb i bryderon y CYSAG fod diwinyddiaeth yn dirywio mewn ysgolion a cholegau, mae Deon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi gofyn am ragor o wybodaeth, er mwyn ymateb i gais y CYSAG.

 

Gweithredu: 

 

Y Swyddog Addysg i ysgrifennu at Ddeon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i fynegi pryderon ynglŷn â dyfodol hyfforddi athrawon yng Nghymru, a’r diffyg cyfleoedd sydd ar gael ar hyn o bryd i ddarpar fyfyrwyr dderbyn hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.

 

  Mewn perthynas ag Adolygiad Thematig Estyn, cadarnhawyd fod sylwadau’r CYSAG ynglŷn â’r Adolygiad Thematig wedi eu hanfon at Estyn.

 

Gwnaed cais i rannu â’r CYSAG y cwestiynau a anfonwyd gan Estyn at ysgolion er mwyn eu cynnwys yn y templed adroddiad hunanarfarnu newydd.

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg i anfon copi o’r templed newydd ar gyfer adroddiadau hunanarfarnu ysgolion i’r CYSAG.

3.

Crynodeb y Cadeirydd o Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Môn 2016/17 pdf eicon PDF 333 KB

Cyflwyno Crynodeb y Cadeirydd ar Adroddiad Blynyddol drafft CYSAG Môn ar gyfer 2016/17.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Crynodeb y Cadeirydd er ystyriaeth gan y CYSAG.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod CYSAG Ynys Môn wedi mabwysiadu Adroddiad Blynyddol drafft 2016/17 yn y cyfarfod diwethaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn Crynodeb y Cadeirydd o Adroddiad Blynyddol CYSAG 2016/17.

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg i anfon copi o Grynodeb y Cadeirydd at y Pennaeth Dysgu er mwyn cwblhau Adroddiad Blynyddol CYSAG 2016/17.

4.

Safonau Addysg Grefyddol pdf eicon PDF 191 KB

Cyflwyno gwybodaeth mewn perthynas â'r uchod:-

 

  Arolygiadau Ysgol

  Hunan Arfarniadau Ysgol

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

  Arolygiadau Ysgolion EstynHydref 2017 a Gwanwyn 2018

 

Cyflwynwyd er ystyriaeth gan y CYSAG, adroddiad y Swyddog Addysg yn ymgorffori gwybodaeth o adroddiadau Arolygiadau Estyn a gynhaliwyd yn Ysgol Penysarn, Ysgol y Fali, Ysgol Brynsiencyn, Ysgol Llanbedrgoch, Ysgol Santes Gwenfaen, Rhoscolyn ac Ysgol Rhosybol.

 

Cadarnhaodd y Swyddog Addysg nad oedd unrhyw faterion yn codi o’r arolygiadau a gynhaliwyd yn yr ysgolion.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y wybodaeth a gyflwynwyd.

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

  Tynnwyd sylw at anghysonderau yn adroddiadau Estyn Ysgol Penysarn ac Ysgol Llanbedrgoch, gan fod y term ‘cydaddoliyn cael ei ddefnyddio yn Gymraeg yn hytrach na’r term cywir, sefaddoli ar y cyd’.

 

  Mynegodd Aelodau eu pryder am ddiffyg addoli ar y cyd mewn rhai ysgolion yng Ngogledd Cymru. Nodwyd fod ysgolion sydd ddim yn cymryd rhan mewn addoli ar y cyd wedi derbyn dyfarniad cadarnhaol gan Estyn. Nid yw canllawiau Estyn yn caniatáu dyfarnu adroddiad negyddol os nad oes darpariaeth addoli ar y cyd mewn ysgol. 

 

Rhannodd y Swyddog Addysg ganllawiau Estyn ar gyfer Addysg Grefyddol, o dan y teitlDiweddariad ar gyfer Arolygwyr (Ebrill 2018)’. Tynnwyd sylw at y dyfyniad a ganlyn o’r canllawiau:-

 

Efallai nad effeithir ar y farn ar gyfer MA4 os na fodlonir y ddyletswydd statudol.  Mae hyn yn rhywbeth i’r tîm ei ystyried.  Bydd angen i’r tîm bwyso a mesur nifer o ffactorau ym mhob achos penodol, er enghraifft nifer y disgyblion y mae’n effeithio arnynt, a bydd rhaid i’r tîm benderfynu p’un a yw hyn yn arwyddocaol ai peidio, a ph’un a ddylai effeithio ar y farn gyffredinol ar gyfer MA4. Ni waeth p’un a fydd arolygwyr yn penderfynu adrodd ar addoli ar y cyd ai peidio, rhaid iddynt bob amser adrodd ar ddatblygiad ysbrydol, moesol, cymdeithasol a diwylliannol disgyblion.’

 

Roedd y CYSAG o’r farn fod addysgu’r Dyniaethau mewn ysgolion yn cymryd lle addoli ar y cyd.

 

Gweithredu:

 

Gofynnodd y Cadeirydd am gynnwysAddoli ar y Cyd mewn Ysgolionar agenda cyfarfod nesaf Cymdeithas CYSAGau Cymru yn Ynys Môn ar 6 Gorffennaf 2018.

 

Hunanarfarniad Ysgolion

 

Cyflwynwyd a derbyniwyd, adroddiadau hunanarfarnu Ysgol Corn Hir, Llangefni ac Ysgol Pentraeth.

 

Gweithredu:  Dim

5.

Cefnogaeth i'r Dyfodol

Derbyn diweddariad mewn perthynas â'r uchod.

Cofnodion:

Adroddodd y Swyddog Addysg fod GwE wedi penderfynu rhoi’r gorau i ddarparu cefnogaeth ar gyfer CYSAGau Gwynedd ac Ynys Môn. Nodwyd fod Miss Bethan James wedi darparu cefnogaeth ac arweiniad amhrisiadwy i CYSAG Ynys Môn am nifer o flynyddoedd yn ei rôl fel Ymgynghorydd Cymorth (GwE) ac Ymgynghorydd Dyniaethau i Gwmni Cynnal cyn hynny.

 

Yn ogystal, adroddodd y Swyddog Addysg nad yw cefnogaeth GwE i’r CYSAG yn rhan o’r cytundeb gyda’r chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, mae GwE yn fodlon trafod opsiynau gyda’r Cyngor ar gyfer darparu cefnogaeth petai’r Cyngor yn dymuno newid y cytundeb presennol. Mae’r Cadeirydd wedi ysgrifennu at y Pennaeth Dysgu yn mynegi pryderon y CYSAG a’i siom ynglŷn â’r modd y cafodd cefnogaeth GwE ei dynnu’n ôl, heb rybudd swyddogol.

 

Roedd y CYSAG o’r farn fod y gefnogaeth a’r arweiniad a dderbyniwyd gan yr Ymgynghorydd Cymorth yn hanfodol er mwyn iddo gyflawni ei ddyletswyddau fel corff statudol, ac i fonitro safonau Addysg Grefyddol yn ysgolion Môn. Nodwyd nad oes modd cyflawni gwaith y CYSAG heb dderbyn cefnogaeth ac arweiniad priodol.

 

Gweithredu:

 

  Y Cadeirydd i ysgrifennu at Mr Arwyn Thomas, Prif Weithredwr GwE, i fynegi pryderon y CYSAG. 

  Y Swyddog Addysg i ysgrifennu at y Pennaeth Dysgu i ofyn iddo sicrhau fod y CYSAG yn cael y cyllid angenrheidiol i gael yr abenigedd a’r arweiniad sydd ei angen.

  Rhoi gwybodaeth i’r Aelod Portffolio Addysg ynglŷn â phryderon y Pwyllgor mewn perthynas â phenderfyniad GwE i roi’r gorau i ddarparu cefnogaeth i’r CYSAG.

 

Adroddodd y Cadeirydd fod Mr Gareth Jones, y Swyddog Addysg a Chlerc y CYSAG, yn ymddeol ddiwedd mis Mai 2018. Ar ran y CYSAG diolchodd y Cadeirydd i Mr Jones am ei waith ardderchog a’i gefnogaeth fel Clerc y CYSAG, a dymunodd yn dda iddo ar ei ymddeoliad.

 

Cyflwynwyd gwybodaeth a dderbyniwyd gan Mrs Mefys Edwards, Ysgol Syr Thomas Jones a Mrs Heledd Hearn, Ysgol Uwchradd Bodedern, i’r CYSAG.

 

Tynnodd Mrs Mefys Edwards sylw at ddiffyg yn yr adnoddau ar gyfer addysgu Addysg Grefyddol drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion yng Nghymru. Yn ogystal, mynegodd bryder fod llwyth gwaith y cwricwlwm Addysg Grefyddol yn rhy drwm ar athrawon a disgyblion, a bod athrawon yn cael trafferth gorffen y cwrs mewn pryd. Roedd Mrs Edwards yn pryderu y bydd gostyngiad yn nifer y disgyblion sy’n dymuno astudio LefelAAddysg Grefyddol yn y dyfodol, oherwydd y llwyth gwaith trwm.

 

Mynegodd Mrs Heledd Hearn bryderon fod cynnwys y cwrs TGAU newydd yn rhy swmpus ac nid oes modd ei gywasgu i’r ddwy wers yr wythnos sydd ar gael ar gyfer Addysg Grefyddol. Nodwyd bod ysgolion sy’n darparu tair gwers Addysg Grefyddol yr wythnos yn cael trafferth cwblhau’r cwrs. Cyfeiriwyd hefyd at y maes llafur Lefel ‘A’ a’r ffaith nad yw’r ysgol wedi derbyn gwerslyfrau eto.

 

Gofynnodd Mrs Hearn i’r CYSAG ysgrifennu at  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 165 KB

I ystyried gwelliant i Gyfansoddiad Cymdeithas CYSAGau Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd gwelliant arfaethedig i gyfansoddiad Cymdeithas CYSAGau Cymru i’r CYSAG er mwyn derbyn sylwadau arno.

 

Mae Cadeirydd Cymdeithas CYSAGau Cymru wedi gofyn am wneud mân newid i Gyfansoddiad y CYSAGau, h.y. fod gan bob CYSAG sy’n aelod o’r Gymdeithas yr hawl i anfon pedwar cynrychiolydd i Gymdeithas CYSAGau Cymru.

 

PENDERFYNWYD derbyn y gwelliant i Gyfansoddiad Cymdeithas CYSAGau Cymru.

 

Gweithredu: Dim

7.

Canllawiau ar Reoli'r Hawl i Dynnu Disgyblion yn ol o Addysg Grefyddol

I’w rannu yn y cyfarfod.

Cofnodion:

Rhannwyd copi o lyfryn Arweiniad Cymdeithas CYSAGau Cymru gan Gill Vasey gyda’r CYSAG.

 

Adroddodd y Swyddog Addysg fod y llyfryn yn rhoi arweiniad i ysgolion, a’i fod wedi’i ddosbarthu i bob ysgol yn Ynys Môn.

 

Nodwyd fod Gill Vasey wedi anfon holiadur at holl ysgolion Ynys Môn, yn holi faint o rieni sydd wedi defnyddio’r hawl hwn i dynnu eu plant o addoli ar y cyd yn yr ysgol. Adroddodd y Swyddog Addysg mai dim ond un ysgol oedd wedi ymateb hyd yn hyn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r llyfryn Arweiniad, er gwybodaeth.

 

Gweithredu:  Dim

8.

Gohebiaeth

I dderbyn unrhyw ohebiaeth.

Cofnodion:

Adroddodd y Cadeirydd fod Mrs Einir Morris wedi hysbysu’r CYSAG y bydd yn ymddeol fel cynrychiolydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar y CYSAG, a hynny o heddiw ymlaen.

 

Dymunodd y CYSAG yn dda i Mrs Morris.

 

Gweithredu:

 

Y Swyddog Addysg i ysgrifennu at Ysgrifennydd Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn Ynys Môn, i ofyn i’r Eglwys enwebu cynrychiolydd ar gyfer y CYSAG.

9.

Dyddiad y cyfarfod nesaf

Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf o’r CYSAG, sef Mehefin 13eg, 2018.

Cofnodion:

Nododd y CYSAG fod cyfarfod nesaf y Pwyllgor wedi ei drefnu ar gyfer 2.00pm, dydd Mawrth, 13 Mehefin 2018.