Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd.

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd a oedd yn ymddeol, y Cynghorydd Dylan Rees, ei fod yn sefyll i lawr fel Cadeirydd y CYSAG ar ôl 9 mlynedd yn y rôl. Dywedodd iddi fod yn bleser ac yn fraint cynrychioli’r CYSAG, a diolchodd i bawb am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd, ac yn arbennig i Mrs Gwyneth Hughes, yr Ymgynghorydd AG, am ei chymorth, ei harweiniad a’i gwaith rhagorol.

    Diolchodd aelodau’r CYSAG i’r Cynghorydd Rees am ei ymroddiad fel Cadeirydd.

    Cynigiodd y Cynghorydd Gwilym Jones fod y Cynghorydd Non Dafydd yn cael ei hethol yn Gadeirydd y CYSAG am y 5 mlynedd nesaf. Derbyniodd y CYSAG ei gynnig yn unfrydol ac etholwyd y Cynghorydd Non Dafydd yn Gadeirydd y CYSAG.

2.

Is-Gadeirydd

Ethol-Is Gadeirydd.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Arfon Wyn yn Is-gadeirydd y CYSAG.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 393 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfodydd canlynol:-

 

·      Cyfarfod CYSAG a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022. 

·      Cyfarfod y Maes Llafur Cytunedig ar 15 Chwefror 2022.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 15 Chwefror 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

Eitem 2

 

  Cadarnhaodd yr Ymgynghorydd AG nad oedd wedi derbyn unrhyw ohebiaeth swyddogol am y trefniadau rhwng y sector cynradd ac uwchradd, er ei bod yn cysylltu’n rheolaidd â GwE.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd AG bod Mr Phil Lord, Ymgynghorydd GwE, yn darparu cefnogaeth ac arweiniad i’r CYSAGau yn Sir y Fflint a Chonwy. Dywedodd fod GwE yn ymrwymedig i ddarparu arbenigedd i ysgolion yn y Maes Dysgu a Phrofiad Dyniaethau wrth iddynt lunio’r cwricwlwm. Nid yw’n eglur a fydd GwE yn darparu’r un gefnogaeth broffesiynol i’r CYSAG yn Ynys Môn. Mynegwyd pryder na fydd y Pwyllgor hwn yn gweithredu’n effeithiol heb y gefnogaeth angenrheidiol gan GwE.

 

Dywedodd Mrs Manon Morris Williams fod Mr Phil Lord wedi cael cyfarfod anffurfiol gydag ysgolion mewn dau ddalgylch ar Ynys Môn, yn cynnwys y sector uwchradd, pan roddodd gyflwyniad penodol ar elfennau mandadol Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg.

 

Nodwyd fod cymorth yn cael ei ddarparu i ysgolion ar ffurf adnoddau, sy’n cael eu rhannu rhwng ysgolion, yn unol â’r Maes Llafur Cytunedig newydd. Awgrymwyd y dylid gwahodd Mr Phil Lord i gyfarfod nesaf y CYSAG i rannu gwybodaeth â’r Pwyllgor hwn am y safbwyntiau y mae o wedi’u mynegi, yn benodol ynglŷn â dull unedol o ddarparu cyngor ac arbenigedd.

 

PENDERFYNWYD fod yr Ymgynghorydd AG yn gwahodd Mr Phil Lord i gyfarfod nesaf y CYSAG i drafod a all GwE ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i CYSAG Ynys Môn.

 

Cadarnhawyd fod Mr Edward Morris Jones wedi’i benodi fel cynrychiolydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ar y CYSAG.

 

  Cytunwyd y byddai’r Ymgynghorydd AG yn gwahodd aelod o’r Eglwys yng Nghymru i gyfarfod nesaf y CYSAG i gyflwyno trosolwg o Brosiect Pererindod yr Eglwys.

 

Eitem 3Cadarnhawyd fod copi o Adroddiad Blynyddol y CYSAG ar gyfer 2020/21 wedi cael ei anfon at Lywodraeth Cymru.

5.

Maes Llafur Cytunedig ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moesedd pdf eicon PDF 372 KB

Cyflwyno Maes Llafyr Cytûn ar gyfer ysgolion Ynys Môn.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG Faes Llafur Cytunedig drafft newydd ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ar gyfer Ysgolion Ynys Môn, a gymeradwywyd mewn cyfarfod o’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig ar 15 Chwefror 2022. Dywedodd fod y maes llafur yn benodol ar gyfer ysgolion Ynys Môn a bydd angen gwneud mân newidiadau iddo, e.e. ychwanegu clawr, dyddiad a rhoi stamp Cyngor Môn arno, cyn y bydd yn ei ffurf derfynol. Yna, bydd y fersiwn derfynol yn cael ei anfon at Lywodraeth Cymru, i gadarnhau fod y Cyngor Sir wedi mabwysiadu ei faes llafur ei hun.

 

Cadarnhaodd y CYSAG fod Maes Llafur Cytunedig newydd Ynys Môn ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn fersiwn ardderchog o’r ddogfen a fydd yn rhwydd i ysgolion yr Ynys ei defnyddio.

 

Nodwyd mai “Maes Llafur Cytunedig” yw’r enw newydd yn Gymraeg, nid “Maes Llafur Cytûn”.

 

PENDERFYNWYD anfon fersiwn derfynol Maes Llafur Cytunedig Ynys Môn ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg at Llywodraeth Cymru cyn 1 Medi 2022, gan gadarnhau fod y Cyngor Sir wedi’i fabwysiadu.

6.

Polisi NAPFRE ar Grefydd, Gwerthoedd a Moesedd

I dderbyn diweddariad gan Ymgynghorydd AG ar yr uchod.

Cofnodion:

Dywedodd yr Ymgynghorydd AG ei bod yn aelod o NAPFRE, a’i bod wedi mynychu un o’u cyfarfodydd yn ddiweddar ac roedd Mr Phil Lord yn bresennol hefyd. Dywedodd fod NAPFRE yn cynnwys grŵp bychan o arbenigwyr ym maes Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, ac roedd bod yn aelod o’r grŵp yn cynnig cyfle i rannu unrhyw bryderon a gweithio ar bynciau penodol.

 

Dywedodd yr Ymgynghorydd AG bod NAPFRE yn gweithio ar bolisi drafft i’w rannu ag ysgolion, a fydd yn cyd-fynd yn dda â’r Maes Llafur Cytunedig newydd. Dylai’r polisi drafft fod wedi’i gwblhau erbyn dechrau Medi, a bydd yn cael ei ddosbarthu i’r ysgolion iddynt ei fabwysiadu. Un pwnc pwysig sy’n gysylltiedig â’r polisi yw na fydd gan rieni’r hawl i dynnu eu plant o wersi AG, a bydd hyn yn statudol. Nodwyd y bydd y polisi’n cynorthwyo a chefnogi ysgolion wrth drafod materion heriol.

 

Nodwyd fod y Cyngor Sir wedi penodi athro/athrawes a fydd yn gofalu am anghenion plant sy’n cael eu haddysgu gartref, a chanmolwyd hyn fel datblygiad cadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys y wybodaeth a gyflwynwyd.

7.

Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC)

Derbyn diweddariad gan Aelodau’r CYSAG a fynychodd y cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2022.

Cofnodion:

Derbyniwyd diweddariad gan Mr Rheinallt Thomas yn dilyn cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2022.

 

Nodwyd y pwyntiau a ganlyn:-

 

  Cynhaliwyd cyfarfod CCYSAGauC yn Sir y Fflint a thrafodwyd Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ac ati.

  Cafwyd cyflwyniad ar bartneriaethau a modiwlau gan Dr Tania ap Sion.

  Rhoddodd Kevin Parker ddiweddariad ar gydweithio ar restrau chwarae – bydd y 4 modiwl cyntaf ar gael o fis Medi.

  Mynegwyd pryder fod geiriau fel “rhestr chwarae” yn newydd yn y cwricwlwm ac nad yw pawb yn gyfarwydd â nhw, yn enwedig aelodau etholedig newydd sy’n aelodau o’r CYSAG.

  Wrth adlewyrchu ar gofnodion y cyfarfod blaenorol ym mis Mawrth – codwyd y broblem o gynnal cyfarfodydd dwyieithog ar Microsoft Teams. Gobeithir y bydd cyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ailgychwyn yn y dyfodol, er mwyn dod â’r 22 awdurdod lleol ynghyd.

  Cynhelir cyfarfod nesaf CCYSAGauC yn Sir Gaerfyrddin yn yr Hydref.

  Mae CYSAG Cymru wedi awgrymu newidiadau i wefan Hwb ond bydd rhaid i’r Gweinidog yn Llywodraeth Cymru eu cadarnhau. Sefydlir Panel Hwb i adolygu adnoddau ar gyfer y wefan – anfonir copi o’r adnoddau at CCYSAGauC maes o law. Bydd angen i’r Panel sicrhau fod yr holl ddeunydd ar Hwb yn cyd-fynd â syniadau newydd, neu gallai’r cynnwys gael ei dynnu oddi ar y wefan. Nodwyd fod un ymgynghoriaeth yng Nghymru yn credu nad yw Hwb yn cydymffurfio â gofynion y cwricwlwm newydd gan fod y wefan yn cynnwys gormod o fanylion a’i fod yn awgrymu beth ddylai athrawon ei wneud, sydd yn groes i egwyddorion sylfaenol y cwricwlwm newydd, sef fod ysgolion yn penderfynu ar eu cynlluniau gwaith eu hunain.

  Derbyniwyd cyflwyniad gan Jennifer Harding Richards ar ran NAPFRE ar y bartneriaeth Consortiwm. Nodwyd fod Abertawe, Sir Gaerfyrddin a Nedd Port Talbot wedi dod at ei gilydd i ariannu Ymgynghorydd llawn amser i gefnogi’r CYSAGau.

 

Rhannodd Mr Chris Thomas ei bryderon am y cynnydd yn nifer y CYSAGau mewn rhannau o Gymru sy’n cydweithio i dalu ymgynghorydd annibynnol am eu harbenigedd. Dywedodd nad oes cyfle cyfartal i bob CYSAG dderbyn y cymorth y mae angen dybryd amdano.

 

Cyfeiriodd Mr Thomas at Gyfarfod Blynyddol CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 16 Mehefin 2022, a chododd y pwyntiau a ganlyn:-

 

  Gwnaed mân newidiadau i Gyfansoddiad CCYSAGauC, a dderbyniwyd gan y CYSAGau.

  Cynhelir y Cyfarfod Blynyddol nesaf yn Sir Ddinbych ym mis Mehefin y flwyddyn nesaf.

  Gofynnwyd i CYSAG Ynys Môn gymeradwyo Tanysgrifiad Blynyddol CCYSAGauC o £480, sef tâl aelodaeth y Pwyllgor, fel y cyfeirir ato yn adroddiad y Trysorydd.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r taliad o £480, sef Tanysgrifiad Blynyddol y CYSAG i fod yn aelod o CCYSAGauC.

 

Mewn perthynas â Phwyllgor Gwaith CCYSAGauC, nodwyd fod Dr Tania ap Sion wedi’i phenodi’n Gadeirydd a Mr Edward Evans yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Nodwyd mai dim ond 12 CYSAG ledled Cymru a bleidleisiodd ar aelodaeth y Pwyllgor Gwaith, a bod hyn yn siomedig iawn.

 

PENDERFYNWYD bod yr Ymgynghorydd AG yn gwahodd Mr Phil Lord i roi trosolwg o’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

I Adolygu Aelodaeth CYSAG

·  I adolygu Aelodaeth y Pwyllgor. 

 

·  I ystyried enwebiadau gan grŵpiau nad ydynt yn grefyddol i’w cynrychioli ar

   y CYSAG.

Cofnodion:

Dywedodd yr Ymgynghorydd AG y bydd angen i CYSAG Ynys Môn ystyried a ddylid ehangu aelodaeth y Pwyllgor i gynnwys aelodau o grwpiau nad ydynt yn rhai crefyddol, e.e. Dyneiddwyr, Tystion Jehofa ayb. Nodwyd fod y Dyneiddwyr wedi cyflwyno cais yn y gorffennol i ymuno â CYSAG Ynys Môn ond, pan ystyriwyd y cais, nid oedd niferoedd y Dyneiddwyr ar Ynys Môn yn ddigon mawr iddynt gael eu cynrychioli ar y CYSAG. Nodwyd fod gan y Dyneiddwyr 750 o aelodau ledled Cymru.

 

Nodwyd bod angen ceisio eglurder ynglŷn â’r ddeddfwriaeth bresennol cyn y gall y CYSAG adolygu ei aelodaeth gyfredol a chyn y gellir gwneud penderfyniad.

 

PENDERFYNWYD fod y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Ymgynghorydd AG yn cysylltu ag Adran Gyfreithiol y Cyngor i dderbyn arweiniad clir ar y ddeddfwriaeth o ran cynrychiolaeth aelodau o grwpiau nad ydynt yn rhai crefyddol ar y CYSAG.

 

9.

Unrhyw faterion eraill

Unrhyw faterion eraill i’w trafodgyda chytundeb y Cadeirydd.

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG ar 12 Hydref 2022.