Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithwir wedi'i Ffrydio'n Fyw (Ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Cyngor Ymgynghorol Sefydlog at Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CYS) - Dydd Mercher, 12fed Hydref, 2022 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 285 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y CYSAG a gynhaliwyd ar 13 Gorffennaf 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

  Nodwyd bod y fersiwn derfynol o Faes Llafur Cytunedig Ynys Môn ar gyfer

   Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg wedi cael ei anfon at Lywodraeth Cymru i

   gadarnhau fod y Cyngor Sir wedi’i fabwysiadu.

  Adroddodd yr Ymgynghorydd CGM ei bod wedi trafod cael cynrychiolaeth o

   grwpiau nad ydynt yn rhaid crefyddol ar y CYSAG gyda’r Cyfreithiwr (yn yr

   Adran Llywodraethu Corfforaethol).  Nodwyd y bydd yn rhaid trafod y mater

   ymhellach, ac bydd yr Ymgynghorydd CGM yn adrodd yn ôl i’r CYSAG yn ei

   gyfarfod nesaf.  

3.

Ysgolion Ynys Môn a GWE

Mr Phil Lord, GWE i roi trosolwg o'r gefnogaeth a ddarperir gan GWE i ysgolion Ynys Môn.

Cofnodion:

Adroddodd Mr Phil Lord, Cynghorydd Herio GwE, ar y gefnogaeth y mae GwE yn ei ddarparu i ysgolion yng Ngogledd Cymru mewn perthynas â’r cwricwlwm newydd a Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM), fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad (MDPh) y Dyniaethau.  Dywedodd bod ysgolion angen cymorth ac arweiniad ar fyrder i greu a datblygu eu cwricwlwm newydd. Nodwyd bod GwE wedi bod yn gweithio ar gynllunio’r cwricwlwm dros y blynyddoedd diwethaf, a’i fod wedi datblygu dealltwriaeth o’r cwricwlwm cyfan.

 

Cafwyd cyflwyniad ar yr adnoddau a phecynnau cymorth dwyieithog sydd ar gael ar wefan GwE, ac fe amlygwyd y meysydd allweddol canlynol o ran y Cwricwlwm i Gymru:-

 

  Rhwydweithiauar gael ar gyfer pob un o’r 6 MDPh, cyfarfodydd

    rhanbarthol a newyddlen;

  Dysgu Proffesiynoladnoddau ar gael ar bob math o bynciau;

 Adnoddau Dysgu Byri helpu ysgolion gynllunio a datblygu eu cwricwlwm

    eu hunain. Mae’r adnoddau arwain newid yn cynnwys rhestrau chwarae a

    llawlyfrau i ysgolion.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd CGM ei bod yn gweithio ar y cyd â GwE i sicrhau y bydd adnoddau ysgolion Ynys Môn, adroddiad blynyddol y CYSAG, a’r Maes Llafur Cytunedig ar gyfer ysgolion Ynys Môn yn cael eu cyhoeddi ar wefan

GwE.

 

Nodwyd bod Llywodraeth Cymru a CCYSAGAUC wedi bod yn cydweithio i ddatblygu modiwlau dysgu proffesiynol, i helpu ysgolion ddeall beth sy’n newydd o fewn y cwricwlwm newydd. 

 

Mynegwyd pryder unwaith eto nad ydi CYSAG Ynys Môn yn derbyn cymorth a chyfarwyddyd angenrheidiol gan arbenigwr CGM er mwyn ei alluogi i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol.

 

Rhannwyd gwybodaeth am wefan GwE a’r modd y mae GwE yn mynd ati i gefnogi ysgolion, ac roedd y CYSAG yn llawn edmygedd. Diolchwyd i Mr Lord am ei gyflwyniad addysgiadol.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

4.

Diweddariad gan Ymgynghorydd CGM

I dderbyn diweddariad gan Ymgynghorydd AG i’r CYSAG ar y Maes Llafur Cytûnedig ar gyfer Ysgolion Ynys Môn.

Cofnodion:

Adroddodd yr Ymgynghorydd CGM bod y Maes Llafur Cytunedig ar gyfer ysgolion Ynys Môn bellach ar gael drwy ficrowefan y Cyngor.

 

Cafwyd cyflwyniad gan y Rheolwr Addysg Gynradd arHwb Cymorth Arweinwyr Ysgolion Ynys Môn’, sy’n ficrowefan hawdd i’w gweithredu, ac sy’n darparu cymorth i Benaethiaid ac Arweinwyr ar Ynys Môn.  Dywedodd bod gwybodaeth yn ymwneud â hyfforddiant, materion corfforaethol, My View, Adnoddau Dynol ac ati ar gael drwy wahanol byrth.

 

Nodwyd bod y gwaith ar y ficrowefan yn mynd rhagddo mewn cydweithrediad â Phenaethiaid a rhanddeiliaid eraill, a bod gwybodaeth newydd yn cael ei uwch lwytho i’r hwb yn rheolaidd ynghyd â bwletin wythnosol. Bydd adroddiad blynyddol y CYSAG hefyd yn cael ei uwch lwytho i’r hwb yn y dyfodol.  

 

Cafwyd adborth cadarnhaol gan y CYSAG, a oedd o’r farn bod y ficrowefan yn ffordd ragorol o ddatblygu a symud ymlaen. Cafodd dolen ei rhannu yn ystod y cyfarfod er mwyn i aelodau’r CYSAG gael mynediad i’r Hwb. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

5.

Prosiect Pererindod gan yr Eglwys yng Nghymru

I dderbyn cyflwyniad gan Elin Owen o'r Eglwys yng Nghymru ar y gwaith a wneir gan Esgobaeth Bangor ar Brosiect Pererindod 'Pererin'.

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad ar brosiectPererinyr Eglwys yng Nghymru gan Mrs Elin Owen o Esgobaeth Bangor. Mae’r prosiect yn rhan o brosiect 5 mlynedd ehangach, sef y prosiectLlan’.   Mae’n cael ei ariannu drwy Gronfa Efengylu’r Eglwys yng Nghymru. Dywedodd mai nod y prosiect ydi rhoi cyfle i bobl sydd ddim fel arfer yn ymwneud â’r  Eglwys i gymryd rhan.  Mae’r prosiect wedi cael ei rhannu i dair ffrwd gwaith - Menter, Cloddio a Phererin.

 

Mewn perthynas â’r prosiect Pererin, mae’r gwaith yn cynnwys datblygu a sefydlu tri llwybr pererindod - 

 

1.  Llwybr y Gogledd - sydd eisoes wedi ei sefydlu o Glynnogfawr i Ynys Enlli.

2.  Llwybr Cadfan - sy’n mynd o Dywyn, Meirionydd i Ynys Enlli. 

3.  Llwybr Ynys Môn – sy’n cysylltu Penmon a Chaergybi. 

 

Nodwyd mai pwrpas y prosiectau ydi annog pobl i holi eu hunain ynglŷn â phererindodau. Mae’r Eglwys yn datblygu adnoddau i alluogi pobl i fynd ar bererindod, ac mae’n cynnal y rhaglen lenyddolLlwybr Cadfanar hyn o bryd.

 

Cyfeiriwyd at y cwmniMewn Cymeriad’, sy’n dod â chymeriadau hanesyddol yn fyw drwy ddrama mewn ysgolion. Mae’r Esgobaeth wedi comisiynu’r cwmni i greu drama yn seiliedig ar Sant Cadfan, a’i bererindod o Dywyn i Ynys Enlli. Mae’r ddrama wedi cael ei pherfformio i blant yng Ngŵyl Hanes Cymru, ac mewn  ysgolion ac eglwysi lleol yng Ngwynedd a Môn, yn cynnwys Llangefni. 

 

Adroddodd Mrs Owen y bydd thema’r bererindod nawr yn gysylltiedig â’r cwricwlwm newydd fel rhan o’r maes llafur TGAU a Lefel A. Dywedodd bod yr eglwys yn gweithio i hyrwyddo cydweithio gydag ysgolion yn gyffredinol, ac mae wedi cynnal gweithdai ysgrifennu creadigol mewn ysgolion. Mae hefyd yn gweithio ar gynhyrchu llyfrau stori ar y Seintiau i blant a dramâu ar Seintiau Ynys Môn ac ati, yn ogystal â hyrwyddo’r Gymraeg.  

 

Nodwyd bod athrawon Ynys Môn wedi mynegi yr hoffent weld llwybr tebyg ar Ynys Môn, yn seiliedig ar Seintiau Ynys Môn. Nodwyd bod Ysgol Santes Dwynwen wedi mynd ar bererindod i Landdwyn. 

 

Adroddodd Mrs Owen y bydd yr Esgobaeth yn penodi Swyddog Pererindod ar gyfer Ysgolion, i ofalu am anghenion addysgol y prosiectau, a fydd yn rhan o’r cwricwlwm newydd. Canolbwyntir ar y chwe eglwys pererindod a theithiau i ysgolion, gweithdai creadigol a dramâu ac ati.  

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Owen ar ran y CYSAG am ei chyflwyniad rhagorol a’i brwdfrydedd i’r prosiect, a gwaith yr Esgobaeth i ddod â’r seintiau’n fyw drwy ddrama.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

6.

Arolygon Ysgolion - Gwanwyn 2022 pdf eicon PDF 258 KB

Cyflwyno gwybodaeth o adroddiadau arolygu Estyn (Gwanwyn 2022) mewn perthynas â’r ysgolion canlynol:-

 

  Ysgol Gynradd Corn Hir, Llangefni

  Ysgol Gynradd Cemaes

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiadau arolygu Estyn mewn perthynas ag Ysgol Cemaes ac Ysgol Corn Hir, Llangefni i’w hystyried gan y CYSAG. Nodwyd nad ydi Estyn bellach yn graddio ysgolion ar berfformiad, a bod adroddiadau’n rhestru argymhellion pob Arolygydd ar gyfer datblygu pellach.

 

Adroddodd yr Ymgynghorydd CGM bod argymhellion unigol wedi’u gwneud ar gyfer Ysgol Cemaes ac Ysgol Corn Hir yn dilyn yr adolygiadau Estyn, fel y nodir yn yr adroddiad. Bydd pob Pennaeth yn llunio cynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r materion a godwyd yn yr argymhelliad(ion) ar gyfer eu hysgol.

 

Mynegwyd pryder nad oedd Estyn wedi tynnu sylw at Gristnogaeth, fel y brif grefydd, yn eu hadroddiadau, er bod CGM yn fandadol ym mhob ysgol. Nodwyd bod yr unig gyfeiriad at arfer da yn ymwneud â chyd-addoli yn yr ysgolion.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

  Bod yr Ymgynghorydd CGM yn ysgrifennu at Brif Arolygydd Estyn yn

   mynegi pryder y CYSAG ynglŷn â’r diffyg cyfeiriad penodol at

   Gristnogaeth fel y brif grefydd yn yr adroddiadau Estyn. 

  Dywedodd Mr Rheinallt Thomas y byddai’n codi’r diffyg ffocws ar

   Gristnogaeth mewn  adroddiadau Estyn yng nghyfarfod nesaf

   CYSAGauC.

  Bod yr Ymgynghorydd CGM yn ysgrifennu at Benaethiaid ysgolion

   Ynys Môn yn amlygu pryder y CYSAG ynglŷn â’r diffyg cyfeiriad

   penodol at  Gristnogaeth fel y brif grefydd yn yr adroddiadau a

   gyflwynwyd.

  Bod yr Ymgynghorydd CGM yn gwahodd Penaethiaid o ysgolion Ynys

   Môn i gyfarfodydd y CYSAG i gyflwyno enghreifftiau o waith eu

   disgyblion.   

7.

Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC) pdf eicon PDF 401 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth, gofnodion drafft y cyfarfod CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2022.

Cofnodion:

Cafodd cofnodion drafft y cyfarfod o CCYSAGauC a gynhaliwyd ar 29 eu

cyflwyno a’u derbyn.

 

8.

Unrhyw faterion eraill

Unrhyw faterion eraillgyda chytundeb y Cadeirydd.

Cofnodion:

Holodd yr Ymgynghorydd CGM a fyddai’r CYSAG yn hoffi ailddechrau’r

ymweliadau i ysgolion i arsylwi Addoli ar y Cyd?

 

PENDERFYNWYD parhau â’r trefniadau presennol am y tro.   

 

 

 

9.

Cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG ar ddydd Llun, 6 Chwefror 2023 am 2.00 o’r gloch yp.

 

Cofnodion:

Cadarnhawyd y cynhelir cyfarfod nesaf y CYSAG ar 6 Chwefror 2023 am

2.00pm.