Rhaglen

Cyfarfod Hybrid - yn Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor Llangefni ac yn Rhithiol drwy ZOOM, Cyngor Ymgynghorol Sefydlog ar Addysg Grefyddol (CYSAG) - Dydd Mercher, 8fed Mawrth, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 312 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft cyfarfod blaenorol CYSAG a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2022.

3.

Adroddiad Blynyddol Drafft CYSAG Ynys Môn 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

I ystyried Adroddiad Blynyddol Drafft Cysag Ynys Môn am y cyfnod 2021/22. 

4.

Prosiect Pererindod yr Eglwys yng Nghynmru

Derbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd Crefydd , Gwerthoedd a Moeseg (CGM) ar Brosiect Pererindod yr Eglwys yng Nghymru.

5.

Cymdeithas CYSAGau Cymru pdf eicon PDF 317 KB

Cyflwyno, er gwybodaeth:-

 

  Cofnodion drafft cyfarfod y Gymdeithas a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd

    2022.

 

  Llythyr gan Gadeirydd CCYSAGauC ar ran y Pwyllgor Gwaith.

 

  Ystyried enwebiadau i’r Pwyllgor Gwaith (gohebiaeth ynghlwn).

 

Dogfennau ychwanegol:

6.

Unrhyw faterion eraill

Unrhyw faterion eraillgyda chytundeb y Cadeirydd.

7.

Cyfarfod nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf CYSAG ar ddydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023 am 2.00 o’r gloch yp.

 

8.

Cau Allan y Wasg a'r Cyhoedd

Ystyried mabwysiadu’r isod:-

 

“Dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gyrru’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y caiff gwybodaeth ei rhyddhau a honno’n wybodaeth y gwneir eithriad ohoni yn Atodlen 12A (categori 16) y Ddeddf.”

9.

Adolygu Cyfansoddiad CYSAG

Cyflwyno adroddiad gan yr Ymgynghorydd CGM.