Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni / Zoom
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol CYS a gynhaliwyd ar 13 Chwefror.
Materion y codi o’r cofnodion: -
• Yr Uwch Reolwr Cynradd (URC) i gysylltu â chynrychiolydd yr Eglwys Gatholig ar y CYS i drafod newidiadau i’r templed adroddiadau Adran 50. • Yr URC i rannu dolen i fideo Cymdeithas CYSAGau Cymru gydag ysgolion. • Yr URC i hyrwyddo’r ‘Prosiect Llais yr Athro’ yn y bwletin ysgolion, mewn trafodaethau wyneb yn wyneb ac mewn fforymau strategol. • Yr URC i gynnwys y Rhestr Chwarae newydd i Lywodraethwyr ar y Rhaglen Hyffordi Llywodraethwyr. • Cynnal sesiwn hyfforddiant ar y Rhestr Chwarae i Lywodraethwyr a chynnwys y Rhestr Chwarae fel gweithred ar gyfer y sesiynau briffio aelodau. • Yr URC i recordio fersiwn Gymraeg o’r Cyflwyniad ar gyfer athrawon Cynradd. • Gwahodd y Swyddog Amrywiaeth, Cydraddoldeb a Throseddau Casineb i fynychu cyfarfod nesaf y CYS ym mis Gorffennaf er mwyn rhoi cyflwyniad ar ei gwaith gyda Heddlu Gogledd Cymru. • Yr URC i anfon e-bost at Dr Gareth Evans-Jones er mwyn derbyn eglurhad ynglŷn â’r sefyllfa bresennol ym Mhrifysgol Bangor, a • Bod Comisiynydd y Gymraeg a’r Gweinidog Addysg yn Llywodraeth Cymru, Lynne Neagle, yn derbyn copi o’r e-bost. |
|
Cymdeithas CYSAGau Cymru (CCYSAGauC) Dogfennau ychwanegol: |
|
Ymweliad Aelodau ag Ysgol y Graig Ymweliad Aelodau ag Ysgol y Graig, Llangefni. |
|
Cyfieithu'r Anghyfeiithadwy I dderbyn cyflwyniad gan Jennie Downs ar Gynefin a datblygiad ysbrydol ym maes y Dyniaethau. |
|
Ymarfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) mewn ysgol gynradd yn Ynys Môn I dderbyn cyflwyniad gan Nia Lloyd Thomas, Pennaeth Ysgol Rhyd y Llan, Llanfaethlu. |
|
Diweddariad ar gefnogaeth Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) Eilradd Derbyn adroddiad llafar ar ddatblygu rhwydwaith CGM eilradd. |
|
Dadansoddiad o Adroddiadau Arolygu I dderbyn dadansoddiad o adroddiadau arolygu diweddar gan Estyn. |
|
Unrhyw faterion penodol i'r CYS Materion i’r cyfarfod nesaf. |
|
Cyfarfod Nesaf Cynhelir cyfarfod nesaf y CYS ar 16 Hydref 2025. |