Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

 

Cofnodion:

Ni ddaeth yr un i law.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 321 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r CYSAG a gynhaliwyd ar 12 Tachwedd 2020.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion CYSAG a gynhaliwyd 12 Tachwedd 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

·       Cyfeiriodd y Cadeirydd at bryderon a godwyd gan CYSAG yn flaenorol ynghylch maint y gwaith ym Maes Llafur Cytûn AG a dyfodol AG yn 2022. Roedd CBAC wedi cytuno i addasu a lleihau'r llwyth gwaith yn y maes llafur ond, oherwydd y pandemig, roedd y trefniadau hyn wedi'u tynnu'n ôl ac asesiadau disgyblion wedi disodli’r dull addysgu. Dywedodd yr Ymgynghorydd Addysg Grefyddol mai’r teimlad oedd na fyddai llythyr diolch i CBAC yn berthnasol ar hyn o bryd, oherwydd newidiadau mewn arferion addysgu, a diystyriwyd y mater.

·       Dywedodd Mrs Heledd Hearn fod yn rhaid i ddisgyblion wneud rhywfaint o waith dan amodau arholiad ac mewn gwersi ar gyfer TGAU a chyrsiau Safon Uwch. Dywedodd fod Covid-19 wedi rhoi straen ofnadwy ar ddisgyblion a'u dysgu ac y byddai’r hanner tymor nesaf yn heriol iawn iddynt. Dywedodd ymhellach fod athrawon wedi gallu cwblhau'r cyrsiau TGAU a Safon Uwch yn Ysgol Bodedern.

·      Mynegodd CYSAG bryder bod disgyblion wedi colli cymaint o ran eu gwaith ysgol, nid yn unig mewn AG, ond ym mhob pwnc dros y flwyddyn ddiwethaf. Codwyd pryderon hefyd bod rhai disgyblion bellach yn dioddef gan broblemau iechyd meddwl, sydd ar gynnydd, a bod angen rhoi sylw iddynt.

·      Nodwyd nad oedd sesiynau Gweminar yn berthnasol mwyach ac roeddynt wedi'u canslo.

3.

Cyflwyniad ar rannu gwybodaeth ag athrawon ar Blatfform Electronig

I dderbyn adroddiad ar lafar gan Mr Owen Davies, Uwch Reolwr Cynradd, Adran Addysg ac Aelod o’r Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG ar yr uchod.

 

Cofnodion:

Ni thrafodwyd yr eitem hon.

4.

Cyflwyniad ar waith y Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG

I dderbyn adroddiad llafar ar yr uchod a chyfle i aelodau’r panel gael eu cyflwyno i Mrs Helen Roberts, aelod proffesiynol o’r Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG.

Cofnodion:

Ni thrafodwyd yr eitem hon.

5.

Cyflwyniad ar waith y Panel Gweithredol Ysgolion CYSAG pdf eicon PDF 1002 KB

I gyflwyno Adroddiad Blynyddol CYSAG Ynys Môn ar gyfer y cyfnod 2019/20.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd AG fersiwn derfynol CYSAG am 2019/20 i’w chymeradwyo, a rhoddodd ddarlun o’r pwyntiau a drafodwyd, fel yr amlinellir isod:-

 

·      Cyflwynwyd adroddiadau hunanarfarnu pum ysgol yn ystod y cyfnod cyn y cyfnod clo rhwng Medi 2019 a Mawrth 2020.  Roedd yr adroddiadau a gyflwynwyd yn onest ac yn effeithiol ac ni chodwyd unrhyw bryderon.

·      Roedd gwaith CYSAG y Panel Gweithredol ar gyfer Ysgolion yn parhau i

ddatblygu ac roedd angen ei gryfhau ymhellach oherwydd y bu cyfyngu ar y cynnydd yn sgil y pandemig.

·      Codwyd pryderon bod nifer y disgyblion sy'n dilyn AG fel pwnc yn parhau i ostwng. Nodwyd bod 83 o ddisgyblion yn dilyn y cwrs TGAU AG yn 2019/20, 11 yn llai nag yn y flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, enillodd y disgyblion a wnaeth asesiadau TGAU a Safon Uwch yn ystod haf 2020 raddau da yn y pwnc.

·      Canmolodd Estyn addysgu AG yn eu harolygiadau o ysgolion Ynys Môn yn

ystod 2019/20, ac ni chodwyd unrhyw bryderon.

·      Aeth tri aelod o CYSAG i sesiynau addoli ar y cyd mewn ysgolion a bu’n

rhaid gohirio ymweliadau pellach a drefnwyd oherwydd Covid-19. Awgrymwyd cynnal sesiynau addoli ar y cyd trwy Microsoft Teams yn y dyfodol.

·      Byddai dogfennau canllaw Llywodraeth Cymru i gefnogi AG yn newid gyda’r cwricwlwm newydd yn 2022. Nodwyd y byddai disgwyliadau Estyn yn dod yn gliriach i ysgolion o fis Medi ymlaen.

·      O ganlyniad i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar fynediad i'r cwricwlwm i bob dysgwr ym mis Hydref 2019, byddai gan bob plentyn bellach fynediad llawn i'r cwricwlwm a byddai’n cymryd gwersi AG.

·      Byddai AG yn newid i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg fel rhan o Faes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau.

·      Codwyd pryderon ynghylch cydymffurfio â GDPR a ph’run a fyddai’n briodol cyflwyno lluniau a fideos o blant yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr ysgol yn gyffredinol, yng nghyfarfodydd CYSAG.

·      Mynegodd CYSAG bryder nad oedd unrhyw ddisgyblion wedi dewis astudio AG mewn rhai ysgolion uwchradd. Cadarnhawyd bod darpariaeth yn ei lle i ddisgyblion deithio i ysgolion eraill ar gyfer gwersi AG y tu allan i'w dalgylchoedd. Roedd y system hon yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd ac roedd yn gweithio'n dda.

·      Roedd angen darparu ar gyfer disgyblion oedd wedi dysgu AG trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector cynradd iddynt gael parhau i gael eu haddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector uwchradd.

·      Cytunwyd y dylid monitro aelodaeth CYSAG a phresenoldeb yn y

cyfarfodydd.

 

Cyfeiriwyd at Gynllun Gweithredu CYSAG a restrai flaenoriaethau, nodau ac amcanion y Pwyllgor hyd at 2022. Byddai gwaith yn parhau i godi proffil CYSAG mewn ysgolion, a chynyddu ymwybyddiaeth y byddai AG yn rhan o Gwricwlwm Maes Dysgu a Phrofiad y Dyniaethau. Byddai CYSAG a'r Panel Gweithredol yn canolbwyntio ar y cwricwlwm newydd, yn enwedig ar sut oedd ysgolion yn addasu ac yn gweithio'n thematig yn ystod y cyfnod pontio o Flwyddyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Safonau Addysg Grefyddol - Adroddiadau Hunanarfarnu pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno Adroddiad Hunan Arfarnu Addysg Grefyddol gan Ysgol Gynradd Kingsland.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad hunanarfarnu AG Ysgol Gynradd Kingsland er gwybodaeth.

 

Nododd CYSAG fod y Pennaeth wedi nodi yn ei adroddiad hunanarfarnu bod safonau yn Ysgol Kingsland yn dda neu'n ddigonol. Teimlai CYSAG ei fod wedi bod yn eithaf hunanfeirniadol yn ei sylwadau, gan fod yr adroddiad hunanarfarnu yn fanwl ac yn ddiddorol ac yn rhoi blas o'r hyn oedd yn digwydd yn yr ysgol mewn perthynas ag AG.

 

Dymunodd y Pwyllgor fynegi eu gwerthfawrogiad i Mr Rhys Hearn am ei adroddiad cynhwysfawr.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Nodi cynnwys Adroddiad Hunanarfarnu Ysgol Kingsland.

·      Bod yr Ymgynghorydd AG yn rhoi adborth i Mr Rhys Hearn ac yn cyfleu iddo werthfawrogiad CYSAG am ei waith.

7.

Canlyniadau TGAU a Lefel A

Derbyn diweddariad gan gynrychiolwyr athrawon CYSAG ar sut maent yn asesu disgyblion er mwyn pennu canlyniadau TGAU a Lefel A.

Cofnodion:

Dywedodd yr Ymgynghorydd AG y byddai athrawon mewn ysgolion unigol yn penderfynu ar ganlyniadau TGAU a Safon Uwch eleni. Byddai athrawon yn asesu ac yn marcio gwaith eu disgyblion a byddai’r canlyniadau ar gael ym mis Mehefin. Byddai gan rieni oedd yn anfodlon â graddau eu plant fis i apelio yn erbyn penderfyniad, cyn y dyfernid gradd derfynol ym mis Awst 2021.

 

Codwyd pryderon ynghylch yr effaith y byddai’r dull newydd hwn o addysgu yn ei chael ar athrawon oedd, ar hyn o bryd, yn gweithio dan bwysau cynyddol ac yn wynebu hanner tymor heriol iawn.

 

Dywedodd Mrs Heledd Hearn fod tri o'r athrawon yn ysgolion Ynys Môn yn dysgu TGAU, Lefel A a Chyfnod Allweddol 3. Dywedodd fod athrawon o'r pum ysgol uwchradd wedi cytuno i weithio gyda'i gilydd a gwneud yr un faint o waith dan amodau arholiad, yn yr ystafell ddosbarth ac yn y cartref.

 

Nodwyd, o ran canlyniadau arholiadau AG y llynedd yn Ysgol Bodedern, fod disgyblion yn hapus â'u canlyniadau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynywd.

8.

Cymdeithas CYSAG Cymru (CCYSAGauC) pdf eicon PDF 292 KB

I ystyried y wybodaeth ganlynol a ddarparwyd gan CCYSAGauC:-

 

Gwelliannau a gytunwyd gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yn Senedd Cymru – Cam 2 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.

 

Mr Rheinallt Thomas i roi diweddariad.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Cadeirydd ei fod o a'r Ymgynghorydd AG wedi bod yng nghyfarfod rhithwir CCYSAGauC 23 Mawrth 2021. Cyfeiriodd at y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) a nododd fod y Bil wedi'i basio gan Lywodraeth Cymru, a'i fod yn aros am Gydsyniad Brenhinol.

 

Rhoddodd Mr Rheinallt Thomas, oedd hefyd yn bresennol yng nghyfarfod y CCYSAGauC, y wybodaeth ddiweddaraf am yr isod: -

 

·  Gan gyfeirio at y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), canmolodd Mr Thomas

y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, am wrando ar adborth ynghylch materion yn ymwneud ag AG yn Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru a gweithredu arno ac ymgorffori'r newidiadau hyn yn y Bil.

 

Dywedodd Mr Thomas ei fod wedi bod i gyfarfod allweddol Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad a’i fod wedi cael gwahoddiad i arwain trafodaeth ar feirniadaeth. Dywedodd iddo fod yn hallt ei feirniadaeth o rai elfennau o'r ymgynghoriad, a gefnogwyd gan bob grŵp gwleidyddol. O gael presenoldeb cryf Eglwysi, Mwslemiaid, Hindwiaid, Siciaid a grwpiau crefyddol eraill, sicrhawyd y rhoddodd y Gweinidog Addysg a Llywodraeth Cymru sylw dyladwy i grefydd, gyda chanlyniad llwyddiannus o safbwynt crefyddol.

 

Cyfeiriodd Mr Thomas at y newidiadau a ganlyn a fabwysiadwyd 29 Ionawr 2021 ac a gynhwyswyd yn y Bil:-

 

·      Nid yw grwpiau anghrefyddol wedi cael statws grŵp ar wahân yn y Cyngor Ymgynghorol Sefydlog newydd;

·      Cyfeiriwyd at Gymru, yn hytrach na Phrydain Fawr;

·      Derbyniwyd Cristnogaeth fel y prif grefydd yng Nghymru;

·      Byddai enw CYSAG yn newid, yn ôl pob tebyg i'r Cyngor Ymgynghorol Sefydlog

·      Canolbwyntiodd y drafodaeth ar ddyfodol TGAU AG. Rhoddwyd pwyslais ar sut y gallai AG ddilyn tri llwybr; yn bwnc unigol, pwnc integredig, neu yn rhan o Astudiaethau Cymdeithasol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod AG yn bwnc statudol ac na ddylid ei wanhau.

·      Nodwyd mai camau nesaf CYSAG fyddai addasu i'r newidiadau a rhoi cyfeiriad i ysgolion yn y dyfodol a chofleidio pedair elfen ‘beth sy’n bwysig’, sy’n sylfaenol i’r cwricwlwm newydd.

·      Cynhelid cyfarfod nesaf CCYSAGauC ym Mhowys 16 Mehefin 2021.

 

Nodwyd bod y Canllawiau Drafft ar y Fframwaith Addysg Grefyddol wedi'u cyhoeddi, ac y byddid yn ymgynghori arno tan 9 Ebrill 2021. Trafododd CYSAG a ddylent ymateb i'r cynigion drafft cychwynnol ynteu aros nes y cynhelid ymgynghoriad cyhoeddus llawn ym mis Mai, fyddai'n rhoi wyth wythnos i bobl ymateb.

 

PENDERFYNWYD:-

 

·      Bod yr Ymgynghorydd AG yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru, ar ran

CYSAG, yn nodi y bydd CYSAG Ynys Môn yn ystyried y ddogfen

ymgynghori ddrafft gychwynnol ar y Fframwaith AG yn ei gyfarfod ym

mis Mehefin, oherwydd yr amserlen. Bydd ymateb llawn i'r

ymgynghoriad yn cael ei anfon i Lywodraeth Cymru ym mis Mai.

·      Y gall aelodau CYSAG ymateb yn unigol i'r ddogfen ymgynghori

gychwynnol cyn cyfarfod CYSAG ym mis Mehefin, pe byddent yn dymuno gwneud hynny.

9.

Cyfarfod Nesaf

Mae’r cyfarfod nesaf o CYSAG wedi ei drefnu ar gyfer dydd Mawrth 22 Mehefin, 2021.

Cofnodion:

Cynhelir y cyfarfod CYSAG nesaf ddydd Mawrth, 22 Mehefin 2021.