Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Safonau - Dydd Mawrth, 11eg Rhagfyr, 2012 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mr John Gould (01248) 752 515 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Cofnodion:

Gwnaeth y Cynghorydd John Roberts ddatganiad o ddiddordeb yn eitem 4 a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth arni.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 103 KB

I gadarnhau Cofnodion y cyfarfodydd a ganhaliwyd a’r:-

 

(i) 31 Hydref am 2 o’ gloch

 

(ii) 31 Hydref am 4 o’r gloch - Gwrandawiad Gollyngiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

 Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd isod :-

 

·         Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Hydref 2012

·         Cofnodion y Gwrandawiad Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 31 Hydref 2012, yn amodol ar gywiro’r camgymeriad sillafu sef y gair ‘speak’ yn y fersiwn Saesneg dan eitem 3, trydydd paragraff.

 

3.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd

Cofnodion:

 

 PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“Dan Adran 100 (A)(4) Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, gyrrwyd y wasg a'r cyhoedd allan o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn, oherwydd y tebygrwydd y câi gwybodaeth ei rhyddhau a honno'n wybodaeth y gwna Atodlen 12A y Ddeddf eithriad ohoni fel y diffinnir y wybodaeth yn y Ddeddf ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm".

4.

Cwyn yn erbyn Cynghorydd Cymuned

I dderbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro

 

(i) i ystyried cwyn yn erbyn Cynghorydd sydd yn honni iddo dorri’r Cod Ymddygiad ar gyfer Aelodau yn dilyn ymchwiliad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

 

(ii) i benderfynu a ddylai’r mater fynd ymlaen i wrandawiad lleol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Swyddog Monitro ynglŷn â’r uchod.

 

Dywedodd y Swyddog Monitro bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gŵyn y gall Cynghorydd Cymuned fod wedi methu glynu wrth y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau. O ganlyniad i’w ymchwiliad, canfu’r Ombwdsmon fethiant ar ran Cynghorydd i gydymffurfio gyda’i Gôd Ymddygiad a rhaid i’r Pwyllgor Safonau o’r herwydd wneud penderfyniad yn unol â pharagraff 2.1.b.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

GWEITHREDU: Trefnir gwrandawiad lleol lle bydd y Cynghorydd Cymuned yn cael cyfle i wneud sylwadau ynglŷn â chanfyddiadau’r ymchwiliad a’r honiadau iddo fethu cydymffurfio gyda’i Gôd Ymddygiad.

 

Dychwelodd y cyfarfod i sesiwn gyhoeddus.

5.

Cwynion am Ymddygiad i’r Ombwdsmon pdf eicon PDF 48 KB

(a) Cyflwyno er sylw’r Pwyllgor -

 

Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi ei ddiweddiaru ar gyfer Cynghorwyr Sir. Er gwybodaeth a chwestiynau.

 

(b) Cyflwyno er sylw’r Pwyllgor -

 

Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cymunedau Tref a Chymuned. Er gwybodaeth a chwestiynau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

5.1 Cyflwynwyd er gwybodaeth - adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cynghorwyr Sir. Dywedwyd nad oedd unrhyw achosionbywar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

GWEITHREDU: Diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Swyddog Gofal Cwsmer yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau ar 13 Mawrth 2013.

 

5.2 Cyflwynwyd, er gwybodaethadroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

 

GWEITHREDU: Diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Swyddog Gofal Cwsmer yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau ar 13 Mawrth 2013.

6.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 183 KB

Adroddiad crynodeb gan y Swyddog Gofal Cwsmer.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd - adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ynglŷn â’r uchod.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU: Diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Swyddog Gofal Cwsmer yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau ar 13 Mawrth 2013.

 

7.

Penderfyniad y Panel Dyfarnu Ynglyn ag Apêl Cynghorydd Hefin Thomas

Adroddiad ar lafar gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ar ei fyfyrdodau ar benderfyniad y Panel Dyfarnu a’i Gyfarfod arfaethedig efo’r Arweinyddion Grwpiau.

Cofnodion:

Rhoes Cadeirydd y Pwyllgor Safonau adroddiad llafar ar ei feddyliau ynghylch penderfyniad y Panel Dyfarnu a’i gyfarfod arfaethedig gydag Arweinwyr y Grwpiau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU: Trefnu cyfarfod gyda Chadeirydd y Pwyllgor Safonau ac Arweinwyr y Grwpiau i drafod canfyddiadau’r Panel Dyfarnu.

8.

(a) Statws Cynllun Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 973 KB

Adroddiad diweddaru gan y Prif Swyddog Datblygu ar faterion yn codi o’r Cynllun Datblygu Aelodau ac o’r Grŵp Datblygu Aelodau.

(b) Cyflwyno Adolygiadau Datblygiad Personol ar gyfer Aelodau

 

Adroddiad gan y Prif Swyddog Datblygu ar Adolygiadau Datblygiad Personol ar gyfer Aelodau.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

(B) CYFLWYNO ADOLYGIADAU DATBLYGIAD PERSONOL AR GYFER AELODAU

 

Cyflwynwyd - adroddiad o ddiweddariad gan yr Uwch Swyddog Datblygu ar faterion yn codi o’r Cynllun Datblygu Aelodau a’r Gweithgor Datblygu Aelodau ynghyd ag Adolygiadau Datblygiad Personol ar gyfer Aelodau.

 

Mynegwyd pryderon ynghylch diffyg presenoldeb Aelodau mewn Sesiynau Hyfforddi a’r angen i roi sylw i’r mater hwn. Awgrymwyd y dylai Cadeirydd y Pwyllgor Safonau gael cyfarfod gyda Chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a chyfarfod wedi hynny yn anffurfiol gydag Arweinwyr y Grwpiau.

 

Codwyd cwestiynau ynglŷn ag hyfforddiant i Aelodau’r Pwyllgor Archwilio ac i weld a fedrai’r hyfforddiant fod yn orfodol. Dywedodd y Swyddog Monitro y byddai’n gwneud ymholiadau ac yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgorau Safonau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU: Gwneud trefniadau i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau gyfarfod gyda Chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i drafod materion a godwyd o ran diffyg presenoldeb Aelodau mewn Sesiynau Hyfforddi.

9.

Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru pdf eicon PDF 48 KB

I drafod rhaglen y Gynhadledd Genedlaethol sydd i’w chynnal yn Venue Cymru, Llandudno ar 19 Ebrill 2013 (copi ynghwlwm) ac i’r Pwyllgor Safonau wneud argymhellion ar y rhaglen drafft.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - rhaglen ddrafft ar gyfer y Gynhadledd Genedlaethol a gynhelir yn Venue Cymru, Llandudno ar 19 Ebrill 2013.

 

Dywedodd y Cadeirydd - yn dilyn yr adroddiad beirniadol ar Lywodraethu Corfforaethol a gafwyd yn 2009 mewn perthynas â Chyngor Sir Ynys Môn ac awgrymiadau yn yr adroddiad hwnnw y dylai’r Pwyllgor Safonau fod yn rhagweithiol, awgrymodd y dylai cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau gael gwahoddiad i’r Fforwm i egluro’r hyn y maent yn ei ddisgwyl gan Awdurdodau Lleol o ran gweithgareddau Pwyllgorau Safonau.

 

PENDERFYNWYD rhoddi eitem ar Raglen y Fforwm i wahodd cynrychiolydd o Swyddfa Archwilio Cymru neu’r Adran ar gyfer Llywodraeth Leol a Chymunedau i egluro'r hyn y maent yn ei ddisgwyl gan Awdurdodau Lleol o ran gweithgareddau Pwyllgorau Safonau.

 

GWEITHREDU:

 

(1) Rhoddi eitem ar Raglen y Fforwm fel a nodir uchod.

 

(2) Trafod enwebiadau i fynychu Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru ar 19 Ebrill 2013 yn y Pwyllgor Safonau nesaf a gynhelir ar 13 Mawrth 2013.

10.

Newidiadau Arfaethedig i’r Cyfansoddiad pdf eicon PDF 181 KB

(a) Protocol i Aelodau mewn Wardiau Aml-Aelod

 

Adroddiad yn ôl gan y Panel o 3 Aelod gyda’u hargymhellion ynglŷn â’r “Y Berthynas rhwng Aelodau a Swyddogion : Wardiau Aml Aelod”, sydd yn Adran 5.3.6 o’r Protocol Perthynas i Aelodau a Swyddogion.

Cofnodion:

(A)   PROTOCOL AR GYFER AELODAU A SWYDDOGION A WARDIAU AMLAELOD

 

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Panel o 3 Aelod gyda chynnig ynglŷn â’rBerthynas rhwng Aelodau a Swyddogion’: Wardiau AmlAelod’, a gynhwysir yn Adran 5.3.6 y Protocol Perthynas ar gyfer Aelodau a Swyddogion.

 

Cafodd copi o’r drafft newydd o’r Protocol Perthynas ar gyfer Aelodau a Swyddogion ei gylchredeg yn y cyfarfod ac roedd yn cynnwys:-

 

Ychwanegiad i 5.3.17 i ddilyn o’r geiriau sydd eisoes yno fel bod 17.5 llawn yn darllen fel a ganlyn:-

 

Os bydd Swyddog yn torri’r Protocol hwn mewn modd difrifol, gall hynny arwain at ymchwiliad dan drefn disgyblu’r Cyngor sydd ar gael ar wefan y Cyngor. Oni fedrir datrys y mater yn y modd a ddisgrifir yn 17.3 a 17.4 uchod gyda’r Swyddog dan sylw neu gyda Rheolwr y Swyddog neu’r Pennaeth Gwasanaeth priodol ac os yw’r Aelod yn dymuno parhau i wneud cwyn yn erbyn unrhyw Aelod, yna byddai unrhyw gwyn yn cael ei gwrthod oni bai ei bod ar bapur, wedi ei llofnodi a chyda thystiolaeth i’w chefnogi. Byddai disgwyl i unrhyw Aelod sydd hefyd yn Aelod o Grŵp fod wedi cael cymeradwyo’r gwyn ar bapur gan eu Harweinydd Grŵp’.

 

Roedd yr Is-Gadeirydd yn pryderu rhywfaint ynghylch geiriad y Protocol uchod a chytunodd Aelodau’r Pwyllgor y dylai gael cyfarfod gyda Swyddogion i gael geiriad priodol yn hyn o beth.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a rhoddi’r Awdurdod i’r Is-Gadeirydd gyfarfod gyda Swyddogion perthnasol i benderfynu ar eiriad priodol mewn perthynas â 17.5 uchod.

 

GWEITHREDU: Fel a nodwyd yn y penderfyniad ac i adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Safonau yn y cyfarfod a gynhelir ar 13 Mawrth 2013.

11.

Rheolau Gweithdref Materion Cynllunio (Adran 4.6 y Cyfansoddiad), I wneud y Newidiadau yn rhai Parhaol. pdf eicon PDF 679 KB

Adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ynglŷn â gwneud y newidiadau i’r Cyfansoddiad yn rhai parhaol, Adran 4.6 Rheolau Gweithdrefn Materion Cynllunio, yn dilyn diwedd cyfnod arbrofol o 12 mis.

 

·         Penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 3/12/2012.

·         Penderfyniad y Cyngor ar 6/12/2012 - ar gael yn y cyfarfod.

·         Er gwybodaeth i’r Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth - adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor llawn gan y Pennaeth Gwasanaeth (Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd) a’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ynghylch gwneud newidiadau i Adran 4.6 y Cyfansoddiad sef Rheolau Gweithdrefn Cynllunio yn rhai parhaol yn dilyn cyfnod arbrofol o 12 mis. Roedd copi o benderfyniad y Pwyllgor Gwaith a gynhaliwyd ar 3 Rhagfyr 2012 a phenderfyniad y Cyngor llawn a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2012 ynghlwm er gwybodaeth i’r Pwyllgor Safonau a nodwyd y byddai cyfnod arbrofol pellach o 12 mis yn cychwyn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

GWEITHREDU: Dim.