Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod I gadarnhau Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 11 Rhagfyr, 2012. Cofnodion: Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) / Swyddog Monitro bod y Pwyllgor Safonau (Gwrandawiad) yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2013 wedi mabwysiadu’r cofnodion ond wedi gohirio ystyried y materion oedd yn codi ar eitemau 7 i 10.
MATERION YN CODI
7. Penderfyniad y Panel Dyfarnu ynglŷn ag Apêl
Rhoddodd y Cadeirydd adroddiad llafar ar ei deimladau yn dilyn ei gyfarfod ef a’r Is-Gadeirydd gydag Arweinyddion y Grwpiau Gwleidyddol yn ddiweddar. Dywedodd ei fod yn falch o allu adrodd i Arweinyddion y Grwpiau fynegi barn hollol gadarnhaol ynglŷn â gwaith y Pwyllgor Safonau.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Bod cyfarfod yn cael ei drefnu gyda Chadeirydd ac Is-Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ac Arweinyddion y Grwpiau yn dilyn Etholiadau’r Cyngor Sir ym Mai.
8 (b) Cyflwyno Adolygiadau Datblygiad Personol i Aelodau
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) / Swyddog Monitro bod y Pwyllgor wedi ceisio gweld a allai hyfforddiant fod yn orfodol i’r Pwyllgor Archwilio. Dywedodd y Swyddog nad oes unrhyw ofynion penodol yn y cyfarwyddyd i ganiatáu hyfforddiant gorfodol. Fodd bynnag, fe allai’r Pwyllgor Safonau argymell y dylai hyfforddiant fod yn orfodol fel sydd wedi ei nodi yn y Côd Ymddygiad ar gyfer Pwyllgorau Cynllunio a Gorchmynion a Thrwyddedu.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Bod eitem yn cael ei rhoi gerbron cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau yn y dyfodol o safbwynt y trafodaethau sydd eu hangen ynglŷn â hyfforddiant gorfodol ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Archwilio.
9. Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru
Nododd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) / Swyddog Monitro bod gwahoddiad yn awr wedi ei roi i gynrychiolwyr o Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru i fynychu’r cyfarfod nesaf o Fforwm Pwyllgor Safonau Gogledd Cymru.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Dim.
10. Newidiadau Arfaethedig i’r Cyfansoddiad / Protocolau
Nododd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) / Swyddog Monitro bod newidiadau bellach wedi eu cytuno gyda’r Swyddogion perthnasol a’r Is-Gadeirydd parthed newidiadau i 5.3.17 y Cyfansoddiad.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Bod y newidiadau yn 5.3.17 y Cyfansoddiad yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor Sir ar unwaith.
|
|
Cyhoeddi Cofrestrau Statudol Ar-lein Adroddiad diweddaru gan Rheolwr We Corfforaethol ynglyn â chynnydd gweithrediad a hyfforddiant anwytho arfaethedig ar gyfer Aelodau sy’n dychwelyd a’r rhai newydd. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan Reolwr y We a Gwybodaeth Gorfforaethol ynglŷn â chynnydd, gweithrediad a hyfforddiant cynefino y bwriedir ei gynnal ar gyfer Aelodau newydd a’r rheini sy’n dychwelyd.
Dywedwyd y bydd y Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch ar gael ar lein o 1 Mawrth 2013 ac y bydd yn cael ei hychwanegu at y system Modern.Gov fel y gall y cyhoedd ei gweld. Bu’r Gofrestr Safonol o ddiddordebau ar-lein ers dechrau mis Ionawr 2013 a bydd yr holl Aelodau o’r Cyngor Sir a gânt eu hethol yn dilyn etholiadau mis Mai yn derbyn hyfforddiant ar sut i ddiweddaru’r fersiwn ar-lein.
Nodwyd ymhellach bod rhaglenni a phapurau’r Pwyllgorau wedi bod yn cael eu cyhoeddi ar y rhyngrwyd gan yr Adain Gwasanaethau Pwyllgor ers dechrau mis Ionawr. Bydd pob datganiad o ddiddordeb mewn cyfarfodydd yn cael eu hychwanegu ar wahân i’r system Modern.Gov a bydd hynny yn caniatáu i’r cyhoedd chwilio am unrhyw Aelod unigol. Bydd hyfforddiant yn cael ei ddarparu i’r holl Aelodau etholedig ar ôl etholiad y Cyngor Sir ym Mai 2013 a hynny fel rhan o’u rhaglen hyfforddiant.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) / Swyddog Monitro y bydd yn rhaid cyhoeddi datganiad yn y wasg yn dweud y bydd y cofrestrau a enwyd yn yr adroddiad hwn i’w gweld ar-lein.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Bod adroddiad diweddaru’n cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau parthed y cynnydd gyda chyhoeddi’r Cofrestrau Statudol ar-lein.
|
|
Cynllun Datblygu Aelodau ac Adolygiadau Datblygiad Personol I dderbyn adroddiad ar lafar gan y Prif Swyddog Datblygu ar yr uchod. Cofnodion: Rhoddodd yr Uwch Swyddog Datblygu adroddiad ar y Cynllun Datblygu Aelodau a’r Adolygiadau Datblygiad Personol. Nodwyd mai’r bwriad yw cael hyfforddiant ar y Côd Ymddygiad i Aelodau Etholedig newydd yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir ym Mai 2013.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) / Swyddog Monitro y bydd y Cynllun Hyfforddi 12 mis i Aelodau yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ym Mai gan Gadeirydd y Gwasanaethau Democrataidd. Roedd yn ystyried y dylid rhoi eitem safonol ar raglen y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yng nghyswllt yr Adolygiadau Datblygiad Personol.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a gofyn i Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd roi eitem safonol ar raglen y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ymwneud â’r Adolygiadau Datblygiad Personol.
GWEITHREDU : Fel a nodir uchod. |
|
Prosiect Rheoli Cwynion Adroddiad diweddaru gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar y Prosiect Rheoli cwynion er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar statws presennol y Prosiect Rheoli Cwynion.
Nodwyd bod y Polisi Pryderon a Chwynion a’r Polisi Ymddygiad Annerbyniol gan Achwynwr wedi eu cyflwyno i’r Cyngor llawn ar 5 Mawrth 2013 i’w mabwysiadu. Cynhelir Archwiliad Mewnol ar weithrediad y Polisi Pryderon a Chwynion yn Ebrill 2013 ac wedyn ymhen 6 mis gyda phwyslais arbennig ar sicrhau bod adrannau’n cofnodi cwynion yn y ffordd gywir. Bydd y Rheolwr Archwilio Mewnol yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Safonau yn ei gyfarfod ym mis Rhagfyr yng nghyswllt adolygiad archwilio o’r Polisi Cwynion.
Cododd yr Aelodau faterion yn ymwneud â thaliadau iawndal yng nghyswllt cwynion yn erbyn y Cyngor Sir a lefel y taliadau a roddwyd. Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) / Swyddog Monitro bod y Polisi Iawndal fel yr argymhellwyd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys disgwyliad y bydd Cymal Iawndal yn cael ei gynnwys yn y Polisi. Bydd y Pennaeth Gwasanaeth yn yr adain lle cododd yr anghydfod yn penderfynu beth fydd lefel y taliad iawndal mewn ymgynghoriad gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
GWEITHREDU : Bod y Rheolwr Archwilio Mewnol yn cael ei wahodd i’r Pwyllgor Safonau ym mis Rhagfyr yng nghyswllt adolygiad archwilio ar y Polisi Cwynion. |
|
Cwynion am Ymddygiad i’r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – 6(A) 6a Adroddiad gan y Swyddog Gofal Gwsmer ar ffurf matrics ar gyfer Cynghorwyr Sir wedi ei ddiweddaru yn cael ei ddarparu i sylw’r Pwyllgor. Er gwybodaeth a chwestiynau.
6b Adroddiad gan y Swyddog Gofal Gwsmer ar ffurf matrics ar gyfer Cynghorwyr Tref a Chymuned wedi ei ddiweddaru yn cael ei ddarparu i sylw’r Pwyllgor. Er gwybodaeth a chwestiynau.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru i Gynghorwyr Sir.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Swyddog Gofal Cwsmer yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
6(b) Cyflwynwyd, er gwybodaeth – adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer ar ffurf matrics wedi ei ddiweddaru i Gynghorau Tref a Chymuned.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad er gwybodaeth.
GWEITHREDU : Diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Swyddog Gofal Cwsmer yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
|
|
Crynodeb o benderfyniadau’r Panel Dyfarnu Adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer. Cofnodion: Cyflwynwyd a nodwyd – adroddiad gan y Swyddog Gofal Cwsmer mewn perthynas â’r uchod. Dywedwyd na chafwyd gwybod am unrhyw achosion newydd.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Ceir diweddariad ar unrhyw ddatblygiadau pellach gan y Swyddog Gofal Cwsmer yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.
|
|
Cynhadledd Genedlaethol y Pwyllgorau Safonau Cofnodion a Rhestr Enwebiadau ynghlwm er gwybodaeth. Cofnodion: Cyflwynwyd, er gwybodaeth – Rhaglen y Gynhadledd a Rhestr o’r sawl sydd wedi eu henwebu i fynychu Cynhadledd Safonau Cymru sydd i’w chynnal yn Venue Cymru Llandudno ar 19 Ebrill 2013.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Bod unrhyw lefydd ychwanegol yn y Gynhadledd yn cael eu dyrannu i Aelodau’r Pwyllgor Safonau nad ydynt wedi eu henwebu i fynychu.
|
|
9(a) Adroddiad ar y newidiadau i’r Cyfansoddiad yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor er gwybodaeth.
9(b) Adroddiad ar y newidiadau i’r Polisi Indemniad yn cael ei ddarparu i’r Pwyllgor er gwybodaeth. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 9(a) Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad ar y newidiadau i’r Cyfansoddiad.
Cyfeiriodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) / Swyddog Monitro at y prif newidiadau Cyfansoddiadol i wella’r ffordd y bydd y Cyngor newydd yn gweithio ar ôl 2 Mai 2013, ond yn arbennig i gymryd i ystyriaeth bwysau gwaith corfforaethol a’r nifer lai o aelodau. Roedd y newidiadau yn ymwneud â :-
Gwneud hyfforddiant i Aelodau ar y Côd Ymddygiad yn orfodol; Lleihau nifer y Pwyllgorau Sgriwtini o 5 i 2; Gostwng y niferoedd ar y Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion (a Thrwyddedu) o 14 i 11; Gostwng Aelodaeth y Cyngor Sir ar y Pwyllgor Archwilio o 10 i 8; Lleihau'r nifer ar y Pwyllgor Gwaith o 10 i 7 (i gynnwys yr Arweinydd a’r Dirprwy Arweinydd); Mabwysiadu’r Protocol Perthynas Aelodau a Swyddogion yn dilyn ei adolygu; Mabwysiadu’r protocol ar gyfer Wardiau Amlaelod.
PENDERFYNWYD nodi’r newidiadau i’r Cyfansoddiad fel y maent wedi eu nodi uchod.
GWEITHREDU : Nodi y bydd y newidiadau i’r Cyfansoddiad yn cael eu trafod yn y Pwyllgor Gwaith ar 18 Chwefror a gan y Cyngor Sir llawn yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2013.
9(b) Cyflwynwyd er gwybodaeth – adroddiad ar y newid i’r Polisi Indemniadau.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) / Swyddog Monitro bod Llywodraeth Cymru o blaid diwygio’r Polisi cyfredol i gyflwyno uchafswm cap o £20k yn yr achosion sy’n ymwneud ag amddiffyn cwynion i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
Roedd yr Is-Gadeirydd yn ystyried bod angen diwygio 4.1 y Polisi i ddarllen ‘........ y dylai unrhyw indemniad a roddir i Aelod i amddiffyn honiadau o dorri neu doriadau yn y Côd Ymddygiad fod yn destun uchafswm cap o £20k.
Roedd y Cynghorydd John Roberts yn dymuno iddo gael ei gofnodi ei fod yn siomedig yn y fersiwn Gymraeg o lythyr y Gweinidog oedd ynghlwm wrth yr adroddiad hwn.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
GWEITHREDU : Bod y Polisi yn cael ei newid fel yn 4.1 uchod. |
|
Newidiadau Arfaethedig i’r Cyfansoddiad - 10(A) 10(a) Adroddiad ar y ‘Egwyddorion Cyffredinol ar gyfer Protocol Hunanreoliad Diwygiedig’ ar gyfer sylwadau ac ymgynghoriad.
10(b) Adroddiad ar y ‘Rheolau Gweithdrefn Cynllunio’ ar gyfer sylwadau ac ymgynghoriad. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 10(a) Cyflwynwyd - adroddiad ar ‘Egwyddorion Cyffredinol am Brotocol wedi ei Adolygu ar gyfer Datrysiad Lleol’.
Adroddwyd bod y Pwyllgor Safonau, fel rhan o’i Raglen Waith am 2012/13, wedi adolygu’r Protocol cyfredol ac wedi cyflwyno argymhellion am newid. Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn cyflwyno’r Protocol i’r Pwyllgor Gwaith ac i’r Cyngor llawn.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Nodi y bydd y Protocol yn cael ei anfon ymlaen i’r Pwyllgor Gwaith i’w ystyried ac wedi hynny i’r Cyngor llawn.
10(b) Cyflwynwyd – adroddiad ar y ‘Rheolau Gweithdrefn Gynllunio’ ac i wneud newidiadau i’r Cyfansoddiad, Adran 4.6 i gymryd wardiau Amlaelod i ystyriaeth yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir 2013.
Bwriadwyd y newidiadau i fod yn rhai mor ganiataol ag sy’n bosibl i ganiatáu i unrhyw un o’r ‘aelodau lleol’ mewn ward newydd alw cais cynllunio yn y ward honno i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a bydd y newidiadau yn caniatáu i unrhyw un neu i bob un o’r aelodau lleol yn y ward honno gael siarad yn y Pwyllgor ar y cais hwnnw fydd wedi ei alw i mewn, fel Aelod Lleol. Nodwyd y bydd y newidiadau hyn yn cael eu hanfon ymlaen i’w hargymell gan y Pwyllgor Gwaith ac wedi hynny i’r Cyngor llawn.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.
GWEITHREDU : Nodi y bydd y newidiadau i’r Rheolau Gweithdrefn Gynllunio yn cael eu hanfon ymlaen i’r Pwyllgor Gwaith i’w hystyried ac wedi hynny i’r Cyngor llawn.
|
|
Protocol drafft ar ddefnyddio Cyfryngau Cymdeithasol mewn Cyfarfodydd Adroddiad gan y Swyddog Gwybodaeth Corfforaethol ar y protocol uchod ar gyfer sylwadau ac ymghynghoriad. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Gwybodaeth Gorfforaethol ar y Protocol Cyfryngau Cymdeithasol drafft i Aelodau y bwriedir iddo reoleiddio’r defnydd a wneir o gyfryngau cymdeithasol gan Aelodau etholedig yn swyddogol ac yn breifat. Mae’r protocol hefyd yn ymwneud â’r defnydd o gyfryngau cymdeithasol mewn cyfarfodydd gan y cyhoedd.
Dywedwyd mai bwriad y protocol oedd nodi’n glir sut y dylai Aelodau Etholedig ryngweithio gyda chyfryngau cymdeithasol, fel Cynghorwyr Sir ac unigolion. Mae’r protocol hefyd yn ymwneud â’r defnydd a wneir o gyfryngau cymdeithasol gan aelodau o’r cyhoedd sy’n mynychu cyfarfodydd o’r Cyngor, y Pwyllgor Gwaith a chyfarfodydd Pwyllgorau eraill. Mae mater caniatáu defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ystod cyfarfodydd y Cyngor gan newyddiadurwyr a’r cyhoedd yng Nghymru yn rhan o drafodaeth sydd yn parhau. Roedd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi ysgrifennu’n ddiweddar at Awdurdodau Lleol Cymru i fynegi ei gefnogaeth i wella tryloywder y gweithgareddau trwy hyrwyddo mynediad ar-lein. Fodd bynnag, pwysleisiwyd y gallai defnydd amhriodol o gyfryngau cymdeithasol gan Aelodau etholedig olygu o bosib torri’r Côd Ymddygiad. Felly, mae’n bwysig bod Aelodau etholedig yn cydnabod y risgiau sy’n gysylltiedig â’r cyfryngau cymdeithasol ac yn sicrhau nad ydynt yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol mewn ffordd sy’n torri’r Côd Ymddygiad.
Roedd Aelodau’r Pwyllgor o’r farn y dylid rhoi ystyriaeth i’r ffaith y gallai defnydd o, e.e. ‘Trydar’ mewn cyfarfod dynnu sylw aelodau oddi wrth y cyfarfod ac yn arbennig felly, y ffaith y gallai gwybodaeth anghywir gael ei thrydar drwy’r cyfryngau cymdeithasol. Ystyriwyd mai ychydig iawn o ddefnydd y dylid ei wneud o ddyfeisiau symudol mewn cyfarfodydd ac y dylai’r defnydd hwnnw gael ei wneud mewn modd nad yw’n rhy amlwg.
Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Cyfreithiol a Gweinyddiaeth) / Swyddog Monitro bod bid wedi ei hanfon i Lywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer Gweddarlledu mewn cyfarfodydd. Rhagwelir y bydd y cais yn llwyddiannus a’r bwriad yw cael cynllun peilot gyda gweddarlledu mewn rhai cyfarfodydd o’r Cyngor Sir. Bydd angen hefyd ystyried cyflwyno gweddarlledu o bell. Yn unol â’r gofynion a oedd ynghlwm â darparu’r cyllid, dywedodd y Swyddog ymhellach y bydd raid sefydlu trefniadau gweddarlledu mewn Cynghorau Tref/Cymuned a hynny ar Sail Genedlaethol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad mewn egwyddor.
GWEITHREDU : Nodi y bydd y protocol yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith i’w ystyried. |
|
Rhaglen Waith 2012/13 Copi ynghlwm. Cofnodion: Cyflwynwyd a derbyniwyd – Rhaglen Waith ar gyfer 2012/13.
|