Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfodydd Cadarnhau cofnodion y cyfarfodydd fel â ganlyn :-
· Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gafwyd ar 16 Medi, 2015. · Cofnodion y Panel Goddefebau a gafwyd ar 24 Medi, 2015. · Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gafwyd ar 19 Chwefror, 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion:
Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel rhai cywir:-
• Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 16 Medi, 2015.
YN CODI O’R COFNODION
• Eitem 3 – Adolygiad o'r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio – Rhan 4.6 y Cyfansoddiad
Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y penderfyniad gan y Pwyllgor Safonau i beidio â chymryd unrhyw gamau hyd nes y bydd drafft o’r Rheolau Gweithdrefn Cynllunio Cenedlaethol ar gael. Mae'r rhain yn destun ymgynghoriad tan fis Mai.
CYTUNWYD y bydd y Swyddog Monitro yn cylchredeg y drafft i Aelodau'r Pwyllgor a fydd yn cyflwyno eu sylwadau arnynt i'r Swyddog Monitro yn ystod y cyfnod ymgynghori. (cyflwynwyd ar 15/3/2016)
• Eitem 4 – Canllawiau Diwygiedig ar y Côd Ymddygiad ar gyfer Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymuned
Roedd y Swyddog Monitro wedi ysgrifennu at y Cynghorau Cymuned ar 23 Medi, 2015 gan amgáu copi o'r Canllawiau Diwygiedig ynglŷn â'r Côd Ymddygiad a dolen i'r canllawiau ar wefan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
• Eitem 5 – Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 a Gorchymyn Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 (Gorchymyn Cychwyn Rhif 2) 2015
Dywedodd y Swyddog Monitro y bydd y mater hwn yn cael ei drafod o dan eitem 4 – Adolygiad o Dair Cofrestr Diddordeb yr Aelodau.
• Eitem 6 – Ffeithlenni a gyhoeddwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru – Ymchwiliadau a Chyfweliadau – Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau
Dywedodd y Swyddog Monitro fod y ffeithlenni uchod wedi cael eu hanfon ymlaen at y Cynghorau Cymuned ar 23 Medi, 2015.
• Eitem7 – Canllawiau Lleol Drafft ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion
Dywedodd y Swyddog Monitro fod y Pwyllgor Safonau yn cefnogi'r Canllawiau Lleol Drafft ar y Côd Ymddygiad i Swyddogion a’i fod yn argymell eu cymeradwyo er mwyn ymgynghori. Codwyd materion yn ystod y broses ymgynghori mewn perthynas â rheolwyr yn prynu busnesau ac roedd diwygiadau sylweddol wedi'u gwneud i’r ddogfennaeth. Ymgynghorwyd ymhellach felly ar y ddogfen a rhagwelir y bydd y Canllawiau Lleol Drafft yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. (Cyhoeddwyd 14/3/2016)
• Cofnodion y Panel Caniatâd Arbennig a gynhaliwyd ar 24 Medi, 2015.
YN CODI O’R COFNODION
Dywedodd yr Is-gadeirydd ei fod ef a rhai Aelodau o'r Pwyllgor Safonau wedi mynychu Panel Caniatâd Arbennig yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Dywedodd ei fod o’r farn y dylid trefnu sesiwn hyfforddi ar gyfer y Pwyllgor Safonau ar Ganiatadau Arbennig a Gweithdrefnau.
PENDERFYNWYD bod y Swyddog Monitro yn trefnu sesiwn hyfforddi ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor Safonau ar Ganiatadau Arbennig.
GWEITHREDU: Fel y nodir uchod.
• Cofnodion y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 19 Chwefror, 2016. Mynegodd Aelodau'r Pwyllgor bryder fod "penderfyniad" y Pwyllgor Safonau ynghylch atal y Cynghorydd Peter Rogers i’w weld ar wefan y Daily Post bron i awr cyn cychwyn y cyfarfod ar 19 Chwefror, 2016. Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod wedi cysylltu â'r Daily Post yn gofyn iddynt dynnu’r stori ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2. |
|
Cynghorau Tref a Chymuned - Gwefanau Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro mewn perthynas â'r gofyniad statudol i bob Cyngor Cymuned gael presenoldeb ar y we a chyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefannau. Diweddarwyd yr adroddiad gan y Swyddog Polisi a dywedodd fod Cyngor Cymuned Bodedern bellach wedi hawlio'r grant datblygu gwefan. Fodd bynnag, nid yw Cynghorau Cymuned Bodorgan a Llaneugrad dal wedi hawlio'r grant ac maent wedi dweud nad ydynt yn bwriadu sefydlu gwefannau. Adroddwyd bod gan 26 o Gynghorau Cymuned wefan a bod 6 ohonynt yn y broses o ddatblygu gwefan.
Dywedodd y Swyddog Monitro ei fod yn ofyniad statudol i Gynghorau Tref / Cymuned fod â gwefannau a bod rhaid i’w cofrestrau o ddiddordebau fod ar gael arnynt. Gofynnodd Aelodau'r Pwyllgor am i’r Swyddog Monitro ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i ganfod y camau a gymerir ganddo pan nad oes gan Gynghorau Cymuned wefan.
PENDERFYNWYD bod y Swyddog Monitro yn ysgrifennu at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i sefydlu’r camau a gymerir ganddo mewn perthynas â Chynghorau Cymuned nad ydynt yn cydymffurfio â'r gofyniad i gael gwefan.
GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod. |
|
Adolygu y Dair Gofrestr Diddordebau Aelodau Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro mewn perthynas â'r broses a'r amserlen ar gyfer yr Adolygiad Blynyddol o Gofrestrau.
Adroddodd y Swyddog Monitro fod yr adolygiad o'r cofrestrau yn rhan o raglen waith y Pwyllgor Safonau a chan bod 30 o Gynghorwyr, y trefniant arferol yw bod yr aelodau annibynnol o’r Pwyllgor Safonau yn adolygu cofrestrau unrhyw chwech o Gynghorwyr a ddewisir ar hap.
Y Cofrestrau yw: -
• Y Gofrestr Sefydlog h.y cyn-gofrestr o ddiddordebau • Datganiadau mewn Cyfarfodydd • Rhoddion a Lletygarwch
Dywedodd y Swyddog Monitro fod Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau yn awr ar wefan y Cyngor Sir a'u bod hefyd yn cynnwys gwybodaeth am aelodaeth o gyrff allanol, gan gynnwys cyrff llywodraethu ysgolion. Dywedodd y Swyddog Monitro ymhellach y bydd cofrestrau Cynghorau Tref / Cymuned yn cael eu hadolygu hefyd. Nododd ymhellach ei fod yn ofyniad statudol i Gynghorau Tref / Cymuned gael gwefan a dylai Diddordebau’r Aelodau gael eu cynnwys arni. Roedd Aelodau'r Pwyllgor Safonau o’r farn y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at y Cynghorau Tref / Cymuned yn amlinellu'r gofyniad a'r broses i’w dilyn ar gyfer cynnal adolygiad o diddordebau eu Haelodau. Nodwyd y bydd y broses yn cael ei chynnal ym mis Medi 2016 gan Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau.
PENDERFYNWYD:-
Bod Aelodau Annibynnol y Pwyllgor Safonau yn cynnal yr Adolygiad Blynyddol o’r Tair Cofrestr o Ddiddordeb fel yr aseiniwyd y llynedd;
• Bod yr Aelodau sy’n cynrychioli’r Cynghorau Tref / Cymuned yn cynnal yr Adolygiad Blynyddol o Ddiddordebau’r Aelodau Annibynnol o’r Pwyllgor Safonau ac o ddiddordebau Aelodau Cyfetholedig y ddau Bwyllgor Sgriwtini ac Aelodau Cyfetholedig y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu; • Cwblhau’r broses o Adolygu’r Cofrestrau erbyn diwedd mis Ebrill 2016 a threfnu Cyfarfod Anffurfiol o’r Pwyllgor Safonau i drafod canfyddiadau'r adolygiad; • Bydd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn cynnwys prif ganfyddiadau'r adolygiad yn ei Adroddiad Blynyddol i'r Cyngor Sir llawn ym mis Mai 2016; • Bod y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gynghorau Cymuned yn amlinellu'r broses o adolygu Cofrestrau Diddordebau’r Aelodau a nodi y bydd y broses yn dechrau ym mis Medi 2016.
|
|
Cwynion a gyflwynwyd i'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru Derbyn adroddiad gan y Swyddog Monitro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro.
Dywedodd y Swyddog Monitro bod un gŵyn am Gynghorydd Sir yn destun ymchwiliad ar hyn o bryd. Nododd nad oes unrhyw fater angen sylw o ran Cynghorwyr Tref / Cymuned.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad. |
|
Adroddiad ar Gynhadledd Pwyllgorau Safonau Cymru 2015 Derbyn adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau. Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd ar eu presenoldeb yng Nghynhadledd Safonau Cymru a gynhaliwyd gan Gyngor Dinas Caerdydd.
Amlinellodd y Cadeirydd a'r Is-gadeirydd y 'gweithdai' yr oeddent wedi eu mynychu. Dywedwyd bod Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi mynegi ei fod yn bwriadu canolbwyntio ar faterion Iechyd yn hytrach na delio â mân gwynion am Gynghorau.
PENDERFYNWYD nodi'r adroddiad. |
|
Cyfarfodydd y Pwyllgor Safonau yn y dyfodol Cofnodion: PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Safonau yn cyfarfod ddwywaith y flwyddyn ac y cynhelir cyfarfodydd anffurfiol yn rheolaidd. Bydd y Swyddog Monitro yn adrodd i'r Pwyllgor Gwaith a bydd y Cadeirydd yn mynychu cyfarfod o Arweinyddion Grwpiau'r Cyngor i ofyn am eu cefnogaeth. |