Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiadau o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb gan Aelodau neu Swyddogion mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 332 KB

Cadarnhau cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2018 gan gynnwys materion yn codi.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2018 fel rhai cywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

Mae’r Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) - mewn e-bost dyddiedig 6 Medi 2018 - wedi darparu dogfenmaterion yn codiar gyfer holl aelodau’r Pwyllgor Safonau yn manylu ar yr holl gamau gweithredu a gymerwyd yn unol â chofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 14 Mawrth 2018.

 

Cafwyd trafodaeth benodol ar y materion isod:

 

Eitem 6 (Cofnodion 13.9.17) – Diweddariad ar fabwysiadu’r Côd Ymddygiad Statudol Diwygiedig

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd Cynghorau Cymuned Llangristiolus a Bodorgan wedi anfon copi o’u cofnodion yn cadarnhau eu bod wedi mabwysiadu’r Côd Ymddygiad?

 

Dywedodd y Swyddog Monitro ei bod wedi derbyn e-bost ar 16 Ebrill 2018 gan Glerc Cyngor Cymuned Llangristiolus yn cadarnhau ei fod wedi mabwysiadu’r Côd.

 

O ran Cyngor Cymuned Bodorgan, cadarnhaodd y Swyddog Monitro fod y Cyngor wedi mabwysiadu’r Côd ar 17 Ionawr 2017 a bod copi o’r cofnodion wedi cael ei anfon ar 14 Mawrth 2018.

 

Eitem 7 – Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd Aelodau wedi cwblhau taflenni gwerthuso ar ôl mynychu sesiynau hyfforddiant?

 

Nodwyd bod yr aelodau’n cael eu hannog yn gryf i wneud hynny ond nad oes modd eu gorfodi; byddai’r eitem uchod yn cael ei thrafod yn Eitem 5 ar y rhaglen.

 

Eitem 8 – Siartr Datblygu Aelodau

 

Gofynnodd y Cadeirydd a oedd hunanasesiad Siartr Cymru Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau wedi cael ei chwblhau erbyn diwedd Ebrill 2018?

 

Nodwyd y câi’r Siartr ei thrafod yn Eitem 3 ar y rhaglen.

3.

Materion Aelodau Etholedig pdf eicon PDF 385 KB

Adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn darparu diweddariad ar amryw o faterion yn ymwneud ag Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - diweddariad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar yr uchod:-

 

  Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ym mis Mawrth 2018, wedi cytuno ar amserlen ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau, sef erbyn 30 Mehefin 2018.

 

Roedd Aelodau’r Pwyllgor Safonau yn pryderu mai dim ond 18 o’r 30 o Adroddiadau Blynyddol oedd wedi cael eu cyhoeddi ar-lein hyd yma.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod 11 o Adroddiadau Blynyddol eraill wedi dod i law a’u bod yn cael eu prosesu ar hyn o bryd ac y byddant yn cael eu cyhoeddi. Ni fedrai ddweud yn union pryd ond bydd rhywdro yn ystod y tair wythnos nesaf. Nodwyd y parheir i ddisgwyl am un Adroddiad Blynyddol.

 

  Siartr Datblygu Aelodau

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Cyngor yn ceisio ail-asesiad o Siartr Cymru CLlLC ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau.  Dywedodd nad oedd Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ac Adolygiadau Datblygiad Personol wedi cael eu cyflwyno erbyn y dyddiad arfaethedig ym mis Ebrill a bod amserlen ddiwygiedig wedi cael ei chadarnhau ar gyfer ail-gyflwyno, sef Chwarter 3, 2018/19. Mae’r Adroddiadau a’r ADP yn hanfodol wrth gyflwyno’r cais.

 

  Gwiriadau GDG

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod rhai Aelodau ac Aelodau Cyfetholedig wedi cael gwiriad GDG lefel uwch yn unol â Pholisi Datgelu a Gwahardd y Cyngor a hynny mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Dysgu. Nodwyd bod y gwiriadau GDG yn gyfredol ac yn gyflawn ac y byddant yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.    

 

  Bywgraffiadau’r Aelodau ar Wefan y Cyngor

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod Aelodau wedi cael cymorth 1-1 ar lwytho gwybodaeth ynghylch hyfforddiant a phresenoldeb mewn Pwyllgorau ar wefan y Cyngor. Cyfeiriodd at sesiwn hyfforddiant a gynhaliwyd ym mis Mawrth, lle trafodwyd gyda’r Aelodau y modd  y gallant gyflwyno gwybodaeth a chael at wybodaeth am Aelodau etholedig ar-lein.  Nodwyd bod gwybodaeth ar bresenoldeb mewn cyfarfodydd a sesiynau hyfforddiant wedi cael ei chyhoeddi ar-lein ers mis Ebrill.    

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod CLlLC wedi cyhoeddi canllawiau newydd i Aelodau ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n cynnwys Facebook a Twitter.  Dywedodd fod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau wedi cylchredeg y canllawiau i’r holl Aelodau. 

 

Nodwyd bod Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd wrthi’n trafod gyda’r Rheolwr Datblygu AD ar hyn o bryd y ffordd orau o sicrhau bod Aelodau’n cael mynediad i hyfforddiant perthnasol, gan gynnwys e-ddysgu, a sicrhau darparwr allanol ar gyfer hyfforddiant cyfryngau cymdeithasol gan gynnwys cadw Aelodau yn saff ar-lein.

 

  Cyrff Allanol

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod cyrff allanol yn cael eu hadolygu’n flynyddol gan y Cyngor. Dywedodd y cafodd fframwaith ar gyfer monitro partneriaethau allweddol ar sail dreigl ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ar 19 Mehefin  2018.

 

Mewn perthynas â chyrff allanol ‘lleol’, nodwyd bod Adroddiadau Blynyddol yn gyfle i Aelodau rannu gwybodaeth gyda’r cyhoedd ar swyddogaethau a gweithgareddau’r cyrff hynny. Yn y dyfodol, bydd diwyg yr adroddiadau’n cael ei adolygu er mwyn caniatáu i Aelodau grynhoi eu hymwneud  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 612 KB

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar hyfforddiant Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – diweddariad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y cyfleoedd datblygu a gynigiwyd i Aelodau ers cyflwyno’r adroddiad blaenorol i’r Pwyllgor hwn ar 14 Mawrth 2018.   

 

Cafodd cynllun diwygiedig ei lunio ar gyfer 2018/19 gyda mewnbwn gan uwch swyddogion ac Arweinyddion Grwpiau er mwyn diwallu amcanion a blaenoriaethau’r Awdurdod hwn. Cafodd y Cynllun ei gyflwyno i, a’i fabwysiadu gan y Cyngor ar 15 Mai 2018.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu AD y cafodd 10 o sesiynau datblygu ffurfiol eu trefnu ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 14 Medi 2018 ac y bu’n rhaid ail-drefnu rhai dyddiadau. Roedd y pynciau’n cynnwys meysydd megis Diogelu ac Iechyd a Diogelwch, sy’n sesiynau gorfodol. Lle yr oedd hynny’n berthnasol, cafodd aelodau lleyg ac aelodau’r Pwyllgor Safonau wahoddiad i fynychu sesiynau hyfforddi penodol.

 

Nodwyd bod y sesiynau hyfforddi’n gyfuniad o rai a ddarparwyd gan swyddogion a chan ddarparwyr allanol ac y buddsoddwyd yn sylweddol yn y Rhaglen Hyfforddiant Sgriwtini. Pwysleisiodd y Rheolwr Datblygu AD yr angen i’r holl Aelodau fynychu’r sesiynau hyfforddiant gorfodol, nid yn unig oherwydd y gost, ond oherwydd natur y materion a drafodir yn y sesiynau hyn. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu AD fod yr Aelodau’n cael eu hannog i ddefnyddio’r rhaglenni a’r modiwlau E-ddysgu sydd ar gael iddynt.  Nodwyd bod y Swyddog E-ddysgu wedi cynnal nifer o sesiynau hyfforddi ar gyfer Aelodau er mwyn cwrdd â’u hanghenion hyfforddi unigol.

 

Cododd yr Aelodau’r pwyntiau isod yn ystod y drafodaeth:-

 

  Nid yw’r system Modern.Gov yn hwylus i’w defnyddio ar gyfer cael mynediad i gofnodiadau presenoldeb yr Aelodau mewn sesiynau hyfforddiant, gan gynnwys rhai aelodau’r Pwyllgor Safonau;

  A oes amserlen ar gyfer y sesiynau hyfforddi penodol a ragnodir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Aelodau? Dywedodd y Swyddog Monitro mai 12 mis yw’r amserlen ar hyn o bryd ar gyfer yr hyfforddiant gorfodol y mynnir arno gan Lywodraeth Cymru. 

  Yr angen i sicrhau bod taflenni gwerthuso’n cael eu cwblhau yn dilyn sesiynau hyfforddiant i ddiben adborth. Dywedodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol fod Swyddogion AD yn annog Aelodau yn frwd i lenwi’r taflenni gwerthuso.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mai dim ond y cofnodiadau hyfforddiant o fis Ebrill 2018 sydd wedi cael eu cyhoeddi ar-lein. Awgrymodd fod y Cadeirydd yn mynychu cyfarfodydd yr Arweinyddion Grwpiau yn dwyn sylw at yr angen i Arweinyddion Grwpiau sicrhau bod eu Haelodau’n ymwybodol o’r sesiynau hyfforddi sydd ar gael iddynt. 

 

PENDERFYNWYD:

 

  Nodi’r cynnydd a wnaed o ran y Cynllun Datblygu Aelodau ar gyfer 2018/19.

  Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn cael trafodaeth gyda’r Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar hyfforddiant penodol ar y “cyfryngau cymdeithasol” a’r cyfleuster sydd ar gael i Aelodau gan gynnwys Facebook a Twitter ac ati ar eu tudalennau bywgraffiad ar wefan y Cyngor.

  Pryd bynnag y cynhelir sesiynau datblygu, atgoffa Aelodau Etholedig o’r angen i ddiweddaru eu cofnod hyfforddiant ar-lein.

 

Gweithred:  Gweler y Penderfyniad uchod.

5.

Adolygiad y Pwyllgor Safonau o Gofrestrau'r Aelodau pdf eicon PDF 367 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr adolygiad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Safonau yn 2017/2018.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr adolygiad o Gofrestrau Diddordeb yr Aelodau Etholedig a’r aelodau cyfetholedig a gynhaliwyd rhwng Rhagfyr 2017 a Chwefror 2018.

 

Yn ei gyfarfod ar 13 Medi 2017, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y byddai gohebiaeth yn cael ei chylchredeg i’r holl Aelodau yn cadarnhau canlyniad yr adolygiad.

 

Mynychodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau gyfarfod yr Arweinyddion Grwpiau ar 26 Ebrill 2018 a’r sesiwn friffio i Aelodau ar 3 Mai 2018 i drafod y materion a oedd yn codi o’r Adolygiad o’r Cofrestrau.

 

Anfonwyd llythyr yn cynnwys cyngor cyffredinol i holl aelodau etholedig a chyfetholedig y Cyngor ar 3 Mai 2018.  

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod materion TGCh a chyfathrebu yn faterion yr oedd angen rhoi sylw iddynt. Nodwyd bod cynnydd wedi ei wneud o ran newid tudalen hafan yr Aelodau a bod tabiau newydd wedi cael eu hychwanegu fel y gellir cael mynediad at y wybodaeth isod:-

 

  Presenoldeb mewn cyfarfodydd;

  Hyfforddiant;

  Adroddiadau Blynyddol;

  Lwfansau Cynghorwyr;

  Manylioncymorthfeyddar gyfer apwyntiadau rheolaidd;

  Dolenni i gyfrifon Facebook/Twitter yr Aelodau.

 

Nodwyd ymhellach fod 9 Aelod wedi derbyn llythyrau personol i gywiro camgymeriadau a bod ymatebion wedi cael eu derbyn gan bod un ohonynt ac eithrio un.  

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) y cynhaliwyd adolygiad o 5 aelod annibynnol y Pwyllgor Safonau gan y ddau aelod o’r Cynghorau Tref a Chymuned ym mis Mehefin 2018, a bod casgliadau adolygiad hwnnw wedi cael eu rhannu gydag aelodau’r Pwyllgor Safonau.

 

Anfonwyd llythyrau unigol yn cynnwys cyngor at y 5 aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau ar 12 Gorffennaf 2018.  Gofynnwyd i un aelod adolygu manylion ei Gofrestr/Chofrestr Sefydlog ac mae’r aelod wedi ymateb ac wedi gweithredu ar y cyngor.

 

Oherwydd bod cofnodiadau hyfforddiant yn cael eu cadw’n ganolog gan y Cyngor, mynegodd Aelodau’r Pwyllgor Safonau bryder nad yw’r holl hyfforddiant a gwblheir gan Aelodau ac aelodau’r Pwyllgor Safonau’n cael ei gofnodi ac nid yw ar gael ar-lein.

 

Rhoes y Rheolwr TGCh grynodeb o System y Cyngor ar gyfer Rheol’r Berthynas gyda’r Cwsmer a fydd yn weithredol erbyn diwedd y flwyddyn. Dywedodd y bydd y system yn gwneud gwelliannau sylweddol i wefan y Cyngor ac y bydd yn llawer haws i gael at wybodaeth.

Dygodd y Swyddog Monitro sylw at faterion sy’n peri pryder mewn perthynas â’r system Modern.Gov o ran cael mynediad i wybodaeth ynghylch aelodau cyfetholedig. Nodwyd nad oes unrhyw ddewislen ar gyfer aelodau etholedig, dim ond ar gyfer aelodau Etholedig, sefDatganiadau o Ddiddordeb’, ‘Rhoddion a Lletygarwch’ a ‘Hyfforddiant’. 

 

Dywedodd y Rheolwr TGCh fod yr Adran TGCh wedi ymchwilio i weld a fyddai modd ychwanegu testun i’r system.  Yn ôl ymateb Modern.Gov, mae cyfyngiadau i’r system a’i bod wedi cael ei dylunio ar gyfer Aelodau Etholedig yn unig. Nodwyd bod TGCh yn awr wedi ychwanegu nodyn ar wefan y Cyngor yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cwynion ynghylch ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 894 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) mewn perthynas â:-

 

(a)      Cynghorwyr Sir, a

(b)      Chynghorwyr Tref/Cymuned

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y diweddariad chwarterol o gwynion a dderbyniodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ar ffurf matrics ar gyfer (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref a Chymuned.  

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol)  bod dwy gŵyn wedi cael eu cyflwyno gan aelodau’r cyhoedd yn erbyn Cynghorwyr Sir Ynys Môn yn ystod y cyfnod rhwng Ionawr a Mawrth 2018 a bod dwy gŵyn wedi cael eu cyflwyno yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned yn yr un cyfnod.

 

Cyflwynwyd un gŵyn yn erbyn Cynghorydd Sir rhwng Ebrill a Mehefin 2018 a dim un yn erbyn Cynghorwyr Tref a Chymuned yn yr un cyfnod. Penderfynodd yr Ombwdsmon beisio ag ymchwilio i’r cwynion hyn.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a’r atodiadau ynddo.

 

Gweithred: Dim

7.

Penderfyniadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 253 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau diweddaraf OGCC yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Goflyfr chwarterol Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC) o gwynion yn ymwneud â’r Côd Ymddygiad.  

 

Roedd yr adorddiad yn cynnwys manylion am y cwynion yr ymchwiliodd yr Ombwdsmon iddynt mewn perthynas ag achosion yn honni fod Cynghorwyr wedi torri’r Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau a hynny’n unol â’i Goflyfrau ar gyfer Ionawr a Mai 2018.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod yr Ombwdsmon wedi codi’r trothwy o ran y materion y mae’n fodlon ymchwilio iddynt. Nodwyd ei fod yn awr yn canolbwyntio ar y cwynion mwyaf difrifol ac yn trin y rhan fwyaf o faterion rhwng Aelodau/Cynghorwyr Tref a Chymuned fel rhai lefel isel nad ydynt yn cwrdd â’i drothwy ar gyfer ymchwiliad.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad a’r atodiadau ynddo.            

           

Gweithred: Dim

8.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru

Mae’n arfer i’r Swyddog Monitro baratoi adroddiad i’r Pwyllgor Safonau ar benderfyniadau diweddaraf PDC yng Nghymru.  Yn ystod y cyfnod rhwng cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 14 Mawrth 2018 a diwrnod cyhoeddi’r rhaglen hon, nid oedd unrhyw benderfyniadau wedi cael eu cyhoeddi.  O’r herwydd, nid oes adroddiad ynghlwm.

Cofnodion:

Chafodd yr eitem uchod mo’i thrafod oherwydd nad oes unrhyw benderfyniadau wedi cael eu cyhoeddi gan y Panel ers y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Safonau.

9.

Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 1 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr Adroddiad Blynyddol a gyflwynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau i gyfarfod y Cyngor ar 15 Mai 2018.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cadeirydd Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2018/19 i’r Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 15 Mai 2018.  Yn yr adroddiad, ceir manylion am waith y Pwyllgor yn ystod 2017/2018, ac mae’n cynnwys hefyd y Rhaglen Waith ar gyfer 2018/2019.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r Rhaglen a gyflawnwyd gan y Pwyllgor Safonau rhwng Ebrill 2017 a Mai 2018.

  Nodi cynnwys Rhaglen Waith y Pwyllgor Safonau ar gyfer 2018/19.

           

Gweithred: Dim

10.

Protocol Datrysiad Lleol pdf eicon PDF 1 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar fabwysiadu’r Protocol Datrysiad Lleol diwygiedig gan y Cyngor yn ei gyfarfod ar 15 Mai 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Brotocol Datrysiad Lleol diwygiedig y Cyngor, a fabwysiadwyd gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 15 Mai 2018.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod y Protocol wedi cael ei gyhoeddi ar safle Mewnrwyd y Cyngor (MonITor) a’r hyb polisi mewnol (Porth Polisi), a bod copi wedi cael ei gylchredeg i’r holl Aelodau etholedig ac aelodau’r Pwyllgor Safonau ar 22 Mehefin 2018.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys y Protocol Datrysiad Lleol diwygiedig.

  Nodi’r diweddariad a gafwyd yn yr adroddiad.

  Nodi y cynhelir hyfforddiant cyfryngu ar 18 Medi 2018 yng Nghanolfan Fusnes Bryn Cefni, Llangefni am 1.00 pm.

  Bod aelodau’r Pwyllgor Cynllunio sy’n mynychu’r hyfforddiant cyfryngu yn sicrhau eu bod yn gyfarwydd â’r Protocol Datrysiad Lleol.

  Bydd diweddariad ar yr hyfforddiant cyfryngu’n cael ei rannu yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau ym mis Mawrth 2019.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod.

11.

Nodyn Cynghori ar y Fethodoleg ar gyfer Adolygu Cofrestrau Diddordeb yr Aelodau Etholedig a'r Aelodau Cyfetholedig pdf eicon PDF 455 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) gyda Nodyn Cynghori drafft ar y Fethodoleg i’w ystyried gan y Pwyllgor Safonau.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr uchod, er ystyriaeth y Pwyllgor Safonau.  

 

Cwblhawyd adolygiad o Gofrestrau Diddordeb yr aelodau etholedig a chyfetholedig gan y Pwyllgor Safonau rhwng Rhagfyr 2017 a Mawrth 2018 fel rhan o’i raglen waith ar gyfer 2017/2018.  (Trafodwyd y mater hwn dan eitem 5 y Rhaglen heddiw). Rhoddwyd arweiniad i’r Pwyllgor Safonau ar yr hyn y dylid ei ystyried a sut i adrodd ar y wybodaeth. 

 

Mae Nodyn Cynghori drafft ar y Fethodoleg wedi cael ei baratoi sy’n manylu ar y dogfennau y dylid eu hadolygu, yr hyn y mae angen ei ystyried yn y dogfennau hynny a sut i gofnodi’r canfyddiadau pan fydd aelodau’r Pwyllgor Safonau’n cynnal yr adolygiad nesaf o Gofrestrau Diddordeb yr Aelodau. Bydd y Nodyn Cynghori ar y Fethodoleg yn cael ei gylchredeg i Aelodau cyn cynnal unrhyw adolygiadau eraill yn y dyfodol. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi a chymeradwyo cynnwys y Nodyn Cynghori drafft ar y Fethodoleg.

  Bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau’n mynychu cyfarfod o’r Arweinyddion Grwpiau i drafod cynnwys y Nodyn Cynghori.

  Bod gohebiaeth yn dwyn sylw at y wybodaeth a drafodwyd gan y Cadeirydd yn y cyfarfod o’r Arweinyddion Grwpiau yn cael ei anfon ymlaen at unrhyw Arweinyddion Grwpiau nad ydynt yn bresennol yn y cyfarfod.

  Bydd yr adolygiad nesaf o Gofrestrau Diddordeb yr Aelodau’n cael ei gynnal drwy gyfrwng ymarfer wyneb yn wyneb gydag un aelod o’r Pwyllgor Safonau a’r Aelod etholedig yn ystyried Cofrestr Ddiddordebau ac ati yr aelod hwnnw/honno. Bwriedir cynnal yr adolygiad o gwmpas mis Gorffennaf 2019 wedi i’r Adroddiadau Blynyddol gael eu cyhoeddi (ym mis Mehefin 2019 yn unol â’r amserlen y cytunwyd arni).

  Bydd copi o’r Nodyn Cynghori’n cael ei gylchredeg i’r holl aelodau cyn i’r adolygiad gael ei gynnal.

12.

Rhoddion a Lletygarwch - Nodyn Briffio i Aelodau pdf eicon PDF 626 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn amgáu nodyn briffio y bwriedir ei gylchredeg i Aelodau ar yr angen i gofrestru Rhoddion a Lletygarwch.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Nodyn Briffio y bwriedir ei gylchredeg i Aelodau ar y rheidrwydd i gofrestru Rhoddion a Lletygarwch.

 

Yn unol â Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Côd Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008, rhaid i Aelodau, o fewn 28 diwrnod o dderbyn unrhyw rodd, lletygarwch, budd neu fantais sylweddol sydd uwchlaw gwerth penodol, hysbysu’r Cyngor ar bapur ynghylch bodolaeth a natur y rhodd, lletygarwch ac ati. 

 

Mae Adran 5.9 y Cyfansoddiad yn cynnwys Protocol Rhoddion a Lletygarwch sydd o gymorth i Aelodau wrth benderfynu pryd y mae’n briodol ac yn angenrheidiol i gofrestru dan y Côd Ymddygiad. Mae’r Gofrestr Rhoddion a Lletygarwch ar gael i Aelodau ei chwblhau ar-lein.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod Nodyn Briffio ar gael ar hyn o bryd i ategu’r Protocol ond bwriedir i’r Nodyn Briffio diwygiedig ddisodli’r fersiwn gyfredol honno. Mae’r Nodyn Briffio Diwygiedig yn symlach ac mae’n cynnwys enghreifftiau ymarferol. Dywedodd fod y Nodyn Briffio wedi cael ei rannu gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth a’r Penaethiaid Gwasanaeth a bod yr ymateb a gafwyd wedi bod yn gadarnhaol. 

 

Cafwyd trafodaeth i ddilyn mewn perthynas â’r trothwy cofrestru o £20 ac a ddylid cynyddu neu ostwng y trothwy. Fodd bynnag, y teimlad cyffredinol oedd bod y lefel hon yn rhesymol. Byddai cynyddu/gostwng y trothwy yn benderfyniad i’r Cyngor llawn ond gallai’r Pwyllgor Safonau gyflwyno ei sylwadau petai’n teimlo bod y lefel yn rhy isel neu’n rhy uchel.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys y Nodyn Briffio drafft diwygiedig a chadarnhau ei fabwysiadu.

  Bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau’n cyflwyno’r Nodyn Briffio i gyfarfod o’r Arweinyddion Grwpiau, ac

  Yn dilyn cyfarfod yr Arweinyddion Grwpiau, bod y Nodyn Briffio’n cael ei gylchredeg i’r holl Aelodau yn enw’r Pwyllgor Safonau.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod.

13.

Hawliau Unigol fel Aelodau - Nodyn Briffio i Aelodau pdf eicon PDF 547 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn amgáu nodyn briffio y bwriedir ei gylchredeg i Aelodau yn rhoi arweiniad i Aelodau pan mae’n rhaid iddynt gysylltu gyda’r Cyngor mewn capasiti preifat.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn amgáu Nodyn Briffio newydd y bwriedir ei gylchredeg i Aelodau’r Cyngor Sir.

 

Mae’r Côd Ymddygiad yn manylu ar y safonau ymddygiad a ddisgwylir o Aelodau Etholedig, mae’n darparu canllawiau i Aelodau ynghylch sut i gyflawni eu dyletswyddau a’u rôl yn y Cyngor o ran cydymffurfio gyda’r safonau sy’n ddisgwyliedig dan y Côd. 

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ei bod yn aml yn anodd i Aelodau pan maent yn gweithredu mewn capasiti preifat o ran eu hawliau unigol fel dinasyddion sy’n defnyddio gwasanaethau’r Cyngor mewn capasiti preifat.

 

Nodwyd bod y Nodyn Briffio wedi cael ei rannu gyda’r UDA a’r Penaethiaid Gwasanaeth a bod yr ymateb wedi bod yn gadarnhaol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys y Nodyn Briffio Drafft a chadarnhau ei fabwysiadu;

  Bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau’n cyflwyno’r Nodyn Briffio i gyfarfod o’r Arweinyddion Grwpiau.

  Petai’r Arweinyddion Grwpiau yn gofyn am wneud mân newidiadau i’r Nodyn Briffio, gellir gwneud y rheiny gyda chytundeb y Cadeirydd.

  Petai’r Arweinyddion Grwpiau yn argymell newidiadau sylweddol, byddai angen i’r Nodyn Briffio, ynghyd â’r newidiadau a gynigiwyd, gael eu cyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Safonau.

  Yn dilyn cyfarfod yr Arweinyddion Grwpiau, bydd y Nodyn Briffio’n cael ei gylchredeg i’r holl Aelodau yn enw’r Pwyllgor Safonau.

 

Gweithredu: Gweler y Penderfyniad uchod.

14.

Fforwm Pwyllgorau Safonau pdf eicon PDF 3 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y Fforwm Pwyllgorau Safonau a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad yn cynnwys diweddariad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2018. 

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) y rhoddwyd cyflwyniad ar Ganllawiau drafft Cymdeithas Llywodraeth Leol i Aelodau ar y Cyfryngau Cymdeithasol. Ers y cyfarfod o’r fforwm, mae’r ddogfen wedi cael ei chyhoeddi gan CLlLC ac anfonwyd copi ohoni at Aelodau Cyngor Sir Ynys Môn, yr Aelodau cyfetholedig a Chlerchod y Cynghorau Tref a Chymuned ar 21 Awst 2018.

           

Roedd OGCC wedi rhannu’r Canllawiau mewn ymateb i’r ymholiadau a godwyd yn y cyfarfod blaenorol o’r Fforwm mewn perthynas â honiadau o gamymddwyn yn erbyn aelodau. Serch y ffaith bod y ddogfen yn Ganllaw annibynnol, dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) bod swyddfa’r Ombwdsmon yn bwriedu cynnwys y cyngor o’r ddogfen fel rhan o Ganllawiau’r Ombwdsmon yn hytrach na fel cyhoeddiad ar wahân.

 

Nodwyd ymhellach y byddai’r Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a’r Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn mynychu Cynhadledd Safonau Cymru ar 14 Medi 2018 yn Aberystwyth ar ran Cyngor Sir Ynys Môn. Caiff y Pwyllgor Safonau ddiweddariad ffurfiol yn ei gyfarfod ar 19 Mawrth 2019.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r adroddiad.

  Y gall aelodau’r Pwyllgor Safonau gyflwyno unrhyw eitemau i’r Cadeirydd ar gyfer eu cynnwys ar raglen cyfarfod nesaf y Fforwm.

  Nodi dyddiad Cynhadledd Safonau Cymru ar 14 Medi ac i aelodau’r Pwyllgor Safonau rannu unrhyw gwestiynau yr hoffent i’r Cadeirydd/Is-gadeirydd ofyn ar eu rhan gydag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru yn ei sesiwn agored yn y cyfarfod.

  Unrhyw gwestiynau i gael eu hanfon at y Cadeirydd/Is-gadeirydd erbyn 13 Medi.

  Bod sesiwn anffurfiol yn cael ei threfnu yn dilyn y Gynhadledd er mwyn i’r Cadeirydd, Is-gadeirydd a’r Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ddarparu adborth i aelodau’r Pwyllgor Safonau ar y materion a drafodwyd ynddi.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod.

15.

Cais(Ceisiadau) am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 11 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn manylu ar y ceisiadau am Ganiatâd Arbennig a ystyriwyd gan Banel o’r Pwyllgor Safonau ers ei gyfarfod diwethaf. 

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ganlyniad y ceisiadau am ganiatâd arbennig a dderbyniwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 14 Mawrth 2018.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) i’r Pwyllgor Caniatâd Arbennig gyfarfod ar 29 Mehefin 2018 i ystyried tri chais am ganiatâd arbennig gan aelodau Cyngor Tref Biwmares mewn perthynas ag un mater penodol. Rhoes y Cyfreithiwr grynodeb o’r ffeithiau a’r sail gyfreithiol dros roi caniatâd arbennig ac unrhyw gyfyngiadau y mynnwyd arnynt.  

 

Cyfeiriwyd at y Nodyn Cynghori a oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad. Bwriad y Nodyn yw cynorthwyo aelodau’r Panel Safonau pan maent yn eistedd ar Banelau Caniatâd Arbennig. Bydd dilyn Canllawiau o’r fath yn sicrhau bod aelodau’n mabwysiadu ymagwedd gyson gyda hynny’n sicrhau tegwch i’r holl ymgeiswyr.    

 

Gofynnodd yr Is-Gadeirydd am i’r adroddiad gael ei gywiro mewn perthynas â’r caniatadau arbennig ar roddwyd i’r Cynghorwyr Stan a Jason Zalot ble mae’n dweud y rhoddwyd caniatâd iddyntaros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth/bleidlais ar y mater’. Dywedodd yr Is-gadeirydd nad oedd y ddau ymgeisydd wedi cael caniatâd i bleidleisio. Cadarnhaodd yr Is-gadeirydd bod y geiriad yng nghofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Mehefin 2018 yn gywir; mae’r adroddiad yn anghywir.

 

Cafwyd trafodaeth fanwl ar yr amgylchiadau eithriadol lle gall caniatâd arbennig roddi’r hawl i berson a chanddo/a chanddi anabledd aros yn yr ystafell yn ystod y bleidlais.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y Pwyllgor yn nodi’r caniatadau arbennig a roddwyd a’r sail a’r amgylchiadau dros eu caniatáu.

  Cadarnhaodd aelodau’r Panel (Michael Wilson, Islwyn Jones a Keith Roberts) bod cofnodion drafft y Panel a ystyriodd y tri chais am ganiatâd arbennig ar 29 Mehefin 2018 yn gywir.

  Bod y Nodyn Cyfarwyddyd sydd wedi ei gynnwys yn Atodiad 2 yn cael ei fabwysiadu gan y Pwyllgor Safonau.

  Bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau yn cyflwyno’r Nodyn Cyfarwyddyd i gyfarfod o’r Arweinyddion Grwpiau.

  Bod y Swyddog Monitro yn adolygu’r ffurflen gais am Ganiatâd Arbennig o ran ‘anabledd’. 

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod.

16.

Gwefannau'r Cynghorau Tref a Chymuned a Chyhoeddi'r Gofrestr o Ddiddordebau'r Aelodau pdf eicon PDF 2 MB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y gofyniad statudol i’r holl Gynghorau Tref a Chymuned fod â gwefan ac i gyhoeddi gwybodaeth benodol ar-lein, gan gynnwys Cofrestrau Diddordebau’r Aelodau. 

 

Yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth 2018, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylai’r Swyddog Monitro ysgrifennu at y Cynghorau Tref a Chymuned perthnasol i sefydlu pa Gynghorau oedd wedi cydymffurfio.

 

Rhoes y Cyfreithiwr ddiweddariad a dywedodd bod 22 o’r 20 o Gynghorau Tref a Chymuned wedi ymateb a bod gan bob un a oedd wedi ymateb wefan. Dim ond 2 o’r 22 oedd heb gyhoeddi eu Cofrestr o Ddiddordebau ar-lein.

 

Nodwyd nad oedd unrhyw gosb i Gynghorau Tref a Chymuned am beidio â chydymffurfio â’r gofyniad i gael presenoldeb ar y we. 

           

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth mewn perthynas â Chynghorau Tref a Chymuned.

  Nad oes unrhyw adnoddau pellach yn cael eu defnyddio mewn perthynas â’r mater hwn ond y bydd yn cael ei drafod pan fydd y Pwyllgor Safonau’n cynnal ei Adolygiad yn y Cynghorau Tref/Cymuned (trafodwyd dan eitem 19 ar y rhaglen).

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod.

17.

Mabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol gan y Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 336 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr uchod.

 

Yn ei gyfarfod ar 14 Mawrth, 2018, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylai’r Swyddog Monitro sefydlu pa Gynghorau Tref a Chymuned sydd wedi mabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol.

 

Anfonwyd gohebiaeth at yr holl Gynghorau Tref a Chymuned i sefydlu a ydynt wedi mabwysiadu’r Protocol ai peidio. 

           

Rhoes y Cyfreithiwr ddiweddariad a dywedodd bod 14 o’r 40 Cyngor Tref a Chymuned wedi ymateb ac o’r rheiny, roedd 11 wedi mabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol. 

 

Awgrymodd y Swyddog Monitro y dylid gofyn cwestiwn yn y Gynhadledd neu’r Fforwm Pwyllgorau Safonau ynghylch i ba raddau y mae Pwyllgorau Safonau Cynghorau Sir yn cefnogi Cynghorau Tref a Chymuned gyda datrysiad lleol? Dywedodd mai rôl y Swyddog Monitro yw delio gydag anghydfodau proffil uchel ac anodd ond roedd angen eglurhad ynghylch achosion lefel is lle mae’r Pwyllgor Safonau wedi cynnal ymyrraeth.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

  Nad oes unrhyw adnoddau pellach yn cael eu defnyddio mewn perthynas â’r mater hwn ond y bydd yn cael ei drafod pan fydd y Pwyllgor Safonau’n cynnal ei Adolygiad yn y Cynghorau Tref/Cymuned (trafodwyd dan eitem 19 ar y rhaglen).

  Y Cadeirydd i ofyn y cwestiwn uchod ynghylch datrysiad lleol yn y Gynhadledd/Fforwm Pwyllgorau Safonau.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod.

18.

Hyfforddiant i Glercod Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 350 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr ymatebion a dderbyniwyd gan y Cynghorau Tref a Chymuned. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar yr uchod.

 

Yn ei gyfarfod ar 17 Medi 2017, bu’r Pwyllgor Safonau’n trafod anghenion hyfforddiant a datblygu’r Cynghorau Tref a Chymuned, eu haelodau a Chlercod y Cynghorau hynny. O ganlyniad, anfonodd y Cadeirydd ohebiaeth at Glercod yr holl Gynghorau Tref a Chymuned ar 10 Tachwedd 2017 yn argymell y dylai pob Cyngor, wrth osod ei braesept unigol ar gyfer  2019/20, ystyried cynnwys elfen ar gyfer hyfforddiant i Aelodau a Chlercod. 

 

Anfonwyd gohebiaeth bellach ar ran y Pwyllgor Safonau ar 4 Gorffennaf 2018 er mwyn sefydlu pa Gynghorau Tref a Chymuned oedd wedi ystyried yr argymhelliad a wnaed yn yr ohebiaeth flaenorol.

 

Rhoes y Cyfreithiwr ddiweddariad gan ddweud bod 17 o’r 40 o Gynghorau Tref a Chymuned wedi ymateb. Roedd pob un ac eithrio un wedi dweud y byddent yn ystyried cwrdd â chostau hyfforddiant yn y praesept ar gyfer y flwyddyn nesaf.

           

Mynegwyd pryderon bod yr adroddiad yn cynnwys ymateb gan un Cyngor Cymuned a ddywed bod rhai o’r cyrsiau a gynhelir yn lleol gan Un Llais Cymru ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg yn unig. 

           

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

  Na fydd unrhyw adnoddau pellach yn cael eu defnyddio mewn perthynas â’r mater hwn ond y bydd yn cael ei drafod pan fydd y Pwyllgor Safonau’n cynnal ei Adolygiad yn y Cynghorau Tref/Cymuned (trafodwyd dan eitem 19 ar y rhaglen).

  Y Swyddog Monitro i gysylltu gyda Chyngor Cymuned Y Fali i egluro bod cyrsiau a gwybodaeth ddwyieithog ar gael gan Un Llais Cymru.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniad uchod.

 

19.

Adolygiad o Gofrestrau Diddordeb y Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 969 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar y trefniadau ar gyfer yr adolygiad a gynhelir gan y Pwyllgor Safonau yn  2018/2019.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar adolygu’r Cofrestrau Diddordeb sydd gan y Cynghorau Tref a Chymuned.

 

Rhagwelir y byddai angen adolygu’r dogfennau isod yn dyddio’n ôl i fis Mai 2017:-

 

  Cofrestr o Ddiddordebau Personol;

  Ffurflenni Datganiadau o Ddiddordeb a wnaed yng nghyfarfodydd y Cyngor;

  Rhaglen a Chofnodion y Cyngor a’i Is-bwyllgorau;

  Rhestr o enwau’r holl Aelodau a chopi o’r ffurflen derbyn swydd gan bob Aelod cyfredol gan gynnwys yr ymgymeriad statudol i gydymffurfio gyda’r Côd Ymddygiad;

  Cofnod o hyfforddiant yr aelodau.

 

Cynhelir yn ogystal adolygiad o’r gwefannau er mwyn sicrhau a yw’r holl wybodaeth berthnasol wedi’i chynnwys ar-lein.

 

Cafwyd trafodaeth ar y Cynghorau Tref ac/neu Gymuned y mae’r Pwyllgor Safonau’n dymuno eu hadolygu a’r sail y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud arni. Cynghorwyd y Pwyllgor Safonau i ystyried y dogfennau sydd wedi eu cynnwys yn Atodiadau 1-3 yr adroddiad hwn  yn ychwanegol at y Cynghorau hynny a oedd wedi methu ag ymateb i’r materion sydd wedi eu cynnwys yn eitemau 16, 17 ac 18 ar y Rhaglen. 

           

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Cadarnhau y bydd y Pwyllgor Safonau’n adolygu Cofrestrau Diddordebau y 5 Cyngor Tref (gwnaed y penderfyniad ar bleidlais fwrw’r Cadeirydd).

  Bod y Swyddog Monitro yn paratoi Nodyn Cynghori ar Fethodoleg tebyg i’r Nodyn Cynghori hwnnw a baratowyd ar gyfer aelodau etholedig /cyfetholedig (eitem 11 ar y rhaglen heddiw) i gynorthwyo aelodau’r Pwyllgor Safonau pan fyddant yn cynnal Adolygiad o’r cofrestrau yn y Cynghorau Tref a Chymuned.

  Bod adroddiad anffurfiol yn cael ei drefnu ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Safonau er mwyn ystyried y trefniadau ar gyfer yr adolygiad.

  Bod yr adolygiad yn cynnwys y materion sydd wedi eu cynnwys yn eitemau 16, 17 a 18 heddiw (sef gwefannau, protocol datrysiad lleol a hyfforddiant ar gyfer aelodau a Chlercod).