Rhaglen a chofnodion

Panel Caniatad Arbennig, Pwyllgor Safonau - Dydd Iau, 7fed Mawrth, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu Mr John R Jones ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 2 gan ei fod yn adnabod un o’r ymgeiswyr. Yn dilyn cyngor gan y Swyddog Monitro, cadarnhawyd o ganlyniad i’r berthynas a chyd-destun y cais, nad oedd y diddordeb yn un a oedd yn rhagfarnu.  

2.

Cais am Ganiatâd Arbennig pdf eicon PDF 22 MB

Ystyried cais am ganiatâd arbennig.

Cofnodion:

Gwnaed cais ar y cyd am ganiatâd arbennig gan yr wyth aelod canlynol o Gyngor Cymuned Llaneilian: Y Cynghorwyr Ian Nicholas Evans, David Gerrard, Dafydd Griffiths, Helen Hughes, Thomas Elfyn Hughes, Glenys Jones, Thomas David Jones a Carol Whitaker. Mae’r cais yn ymwneud â diddordebau sy’n rhagfarnu mewn perthynas â’r ddarpariaeth o addysg yn ardal Amlwch. Nodwyd fod wyth o’r un ar ddeg o aelodau o Gyngor Cymuned Llaneilian yn ystyried eu hunain fel bod â diddordeb sy’n rhagfarnu.     

 

Mae’r Panel, drwy’r Cadeirydd, eisoes wedi cytuno i ystyried cais ar y cyd ar ffurf ymarfer papur yn unig. Nid oedd y Clerc na’r ymgeiswyr yn bresennol yn y cyfarfod.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro, gan fod cyd-destun pob cais yn ymwneud â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yn ardal Amlwch a bod y sail statudol berthnasol yr un peth ym mhob achos, bod yr holl geisiadau am ganiatâd arbennig yn cael eu delio â nhw gyda’i gilydd.

 

Bydd ymgynghoriad ffurfiol statudol yn dechrau ym mis Ebrill a fydd yn adolygu dyfodol ysgolion yn y sector cynradd ac uwchradd, yn cynnwys Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. Bydd Cyngor Cymuned Llaneilian yn un o dri ymgynghorai yn y broses ymgynghori statudol. Nodwyd fod potensial y gallai un neu fwy o’r ysgolion o dan ystyriaeth wynebu’r posibilrwydd o gau ac o ganlyniad fe allai hynny gael effaith ar blant yr ardal a’r staff sy’n gweithio yn yr ysgolion. Yn dilyn y broses ymgynghori, cyflwynir adroddiad i’r Pwyllgor Gwaith ar gyfer ei ystyried. 

 

Amlygodd y Swyddog Monitro fod yr holl geisiadau yn wahanol o ran ffeithiau unigol sydd, gydag un eithriad, yn disgyn i un o ddau gategori: 

 

1.  yr effaith bosibl o gau / ad-drefnu ysgolion ar blant sy’n perthyn i / â chysylltiad â’r ymgeiswyr; neu

2.  yr effaith bosibl ar rai o aelodau o deulu’r ymgeiswyr a gyflogir gan yr ysgolion. 

 

Adroddodd y Swyddog Monitro fod gan bob aelod o’r Cyngor Cymuned ddiddordeb personol a diddordeb sy’n rhagfarnu ac felly bod yn rhaid iddynt ddatgan diddordeb a gadael y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. 

 

Cynghorodd y Swyddog Monitro y Panel i roi ystyriaeth benodol i’r seithfed ymgeisydd at y sail nad oedd yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd yn dod o dan gategori 1 na 2 uchod ac, os oes diddordeb personol/sy’n rhagfarnu, bydd yn ddiddordebllesiant” o dan y Cod o ganlyniad i gyfnod cyflogaeth hir yr ymgeisydd fel athro yn Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at Baragraff 2(a), (f) a (i) o Reoliadau Pwyllgor Safonau (Rhoi Caniatâd Arbennig) (Cymru) 2001, a soniodd am yr  amgylchiadau ble gellir rhoi caniatâd arbennig. Nododd, petai’r Panel yn gwrthod rhoi caniatâd arbennig, na fyddai’r Cyngor Cymuned yn gallu cymryd rhan mewn trafodaethau a chynrychioli’r gymuned yn y broses ymgynghori oherwydd na fyddai cworwm yn y cyfarfodydd. 

 

Mynegodd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.