Rhaglen

Gwrandawiad Lleol o'r Pwyllgor Safonau - Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Safonau - Dydd Gwener, 16eg Mai, 2025 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cyflwyniadau

Cyflwyno pob aelod o’r Pwyllgor Safonau, yr Aelod (Y Cynghorydd Ieuan Williams), y Swyddog Ymchwilio ac unrhyw Swyddogion eraill sydd yn bresennol, a chrynhoi trefniadau’r gwrandawiad yn unol â’r Weithdrefn ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol.

2.

Ymddiheuriadau am absenoldeb

 

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb, gan gynnwys gwybodaeth ynglŷn ag unrhyw newidiadau o ran aelodaeth y Pwyllgor.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb (diddordeb personol neu ddiddordeb

sydd yn rhagfarnu) gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw

eitem o fusnes.

 

4.

Cworwm

Cadarnhau bod gan y Pwyllgor Safonau gworwm.

5.

Trefn y Gwrandawiad

Amlinellu’r drefn a ddilynir er mwyn penderfynu’r mater.

6.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd

Penderfynu a fydd y Gwrandawiad yn cau allan y wasg a’r cyhoedd o ran o’i drafodaeth ar y mater dan sylw, neu o’r drafodaeth gyfan

7.

Honiad o dorri'r Cod Ymddygiad pdf eicon PDF 26 MB

(a)   CYFLWYNO ADRODDIAD CRYNO CYN-GWRANDAWIAD

 

Adroddiad gan yr Ymgynghorydd Cyfreithiol, gan ddwyn sylw yn benodol at unrhyw bwyntiau a nodwyd gan yr Aelod lle mae’n anghytuno ag unrhyw ganfyddiad o ffaith yn adroddiad y Swyddog Ymchwilio.

 

(b)   CYFADDEF I FETHU Â CHYDYMFFURFIO

 

Gofyn i’r Aelod ac ydyw’n cyfaddef methu â chydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

 

(c)   PENDERFYNIAD

 

Penderfynu a fu methiant i gydymffurfio â’r Cod Ymddygiad.

8.

Os penderfynir bod yr Aelod wedi methu â Chydymffurfio â'r Cod Ymddygiad

(a)   RHAGARWYDD Y CADEIRYDD O’R MATH O GOSB

 

Y Cadeirydd i nodi’r math o gosb y mae’n ei hystyried yn briodol.

 

(b)   SYLWADAU’R AELOD MEWN PERTHYNAS Â CHOSB

 

Gwahodd yr Aelod i wneud sylwadau ynglŷn â chosb.

 

(c)   SYLWADAU’R SWYDDOG YMCHWILIO MEWN PERTHYNAS Â

        CHOSB

 

Gwahodd y Swyddog Ymchwilio i wneud sylwadau ynglŷn â chosb.

 

(d)   Y PWYLLGOR SAFONAU I GADARNHAU FOD GANDDYNT DDIGON

        O WYBODAETH I DDOD I FARN YNGLŶN Â CHOSB

 

Caniatáu i aelodau’r Pwyllgor ofyn cwestiynau i’r Aelod a/neu’r Swyddog Ymchwilio.

9.

Penderfyniad ynglyn â Chosb ac Argymhellion

Yn unol â pharagraff 10.8(b) o’r Weithdrefn ar gyfer Gwrandawiadau Safonau Lleol.

10.

Cau'r Gwrandawiad