Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
| Rhif. | Eitem |
|---|---|
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn dataganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
|
Cais an Ganiatad Arbennig I dderbyn cais am ganiatad arbennig. Cofnodion: Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Cyfreithiol/Dirprwy Swyddog Monitro (GPW) fod y Cynghorydd Rhian Jones o Gyngor Tref Biwmares wedi gwneud cais am ganiatâd arbennig. Roedd y Cynghorydd Jones wedi gofyn i’r Swyddog Monitro am gyngor ac roedd wedi penderfynu fod gan y Cynghorydd ddiddordeb sy’n rhagfarnu oherwydd ei chysylltiadau teuluol â Chadeirydd ac Is-gadeirydd Siambr Fasnach a Thwristiaeth Biwmares.
Mae’r Cynghorydd Jones yn gofyn am ganiatâd arbennig er mwyn caniatáu iddi gyfranogi’n llawn mewn trafodaethau yng nghyfarfodydd Cyngor Tref Biwmares mewn perthynas â materion yn ymwneud â Siambr Fasnach a Thwristiaeth Biwmares.
Rhoddwyd cyfle i’r Cynghorydd Jones siarad o blaid ei chais. Dywedodd mai hi yw Dirprwy Faer Cyngor Tref Biwmares ar hyn o bryd ac y gallai gael ei hethol yn Faer yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor Tref ar 5 Mai 2026. Pe byddai’r caniatâd arbennig yn cael ei wrthod, dywedodd y gallai hynny greu anawsterau mewn perthynas â swydd y Maer. Pe byddai caniatâd arbennig yn cael ei roi, awgrymodd y gellid gosod amod yn ei gwahardd rhag siarad ar unrhyw fater yn ymwneud â’r busnesau penodol y mae ei theulu’n gysylltiedig â nhw.
Ar ôl clywed am gefndir y cais am ganiatâd arbennig gan yr ymgeisydd, cynhaliodd y Panel sesiwn breifat er mwyn penderfynu a ddylid rhoi caniatâd arbennig ai peidio, ac os byddai caniatâd arbennig yn cael ei roi, ystyried (i) ar ba sail neu seiliau y rhoddir y caniatâd arbennig ac (ii) a oes angen gosod unrhyw gyfyngiadau.
PENDERFYNWYD rhoi caniatâd arbennig i’r Cynghorydd Jones yn rhinwedd ei swydd fel Cynghorydd ar Gyngor Tref Biwmares mewn perthynas â’r buddiannau hynny y cyfeiriwyd atynt yn y cais. Mae’r caniatâd arbennig yn rhoi hawl i’r Cynghorydd: -
· ysgrifennu at swyddogion a/neu’r Pwyllgor/Cyngor Tref am y mater; · siarad â swyddogion y Cyngor Tref am y mater, ar yr amod nad yw’r ymgeisydd yn siarad â swyddogion am y busnesau unigol penodol a weithredir gan bobl y mae ganddi gysylltiad teuluol â nhw; ac · aros yn yr ystafell yn ystod unrhyw drafodaeth/pleidlais ar y mater;
Gweithredoedd:
· Bydd rhaid i’r Cynghorydd Rhian Jones ddatgan diddordeb sy’n rhagfarnu pan fydd hi’n mynychu cyfarfodydd y Cyngor a phob cyfarfod perthnasol arall. · Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at y Cynghorydd Jones i gadarnhau bod y Panel Caniatâd Arbennig wedi rhoi caniatâd arbennig gyda’r cyfyngiadau a nodir yn yr Hysbysiad o Benderfyniad · Bydd y caniatâd arbennig yn dod i ben cyn pen 12 mis o ddyddiad Hysbysiad o Benderfyniad y Panel Caniatâd Arbennig, sef 30 Ebrill 2027.
|