Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i Mrs Celyn Edwards ddatgan diddordeb personol yn eitem rhif 9 ar yr agenda, mewn perthynas â’i gwaith y tu allan i’r Pwyllgor hwn.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod pdf eicon PDF 301 KB

Cadarnhau cofnodion blaenorol y Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022.

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022 yn gywir, yn amodol ar y canlynol:-

 

Materionyn codi o gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2022:-

 

  Adroddodd y Cadeirydd ei fod ef, ynghyd â’r Is-gadeirydd, wedi mynychu cyfarfod o Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned ym mis Medi 2022.

  Cadarnhaodd y Cadeirydd bod y Cyngor wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Safonau ar 30 Medi 2022.

3.

Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau pdf eicon PDF 221 KB

Adroddiad gan y Rheolwr Busnes Gwasanaethau Democrataidd er mwyn darparu gwybodaeth ar y broses a’r amserlen ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol Aelodau. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan Reolwr Busnes y Gwasanaethau Democrataidd  ar y broses a’r amserlen ar gyfer cyflwyno Adroddiadau Blynyddol gan Aelodau.

 

Adroddodd y Rheolwr Busnes bod modd i bob aelod baratoi adroddiad y gweithgareddau y maent wedi eu cyflawni.   Dywedodd bod y Pwyllgor Safonau wedi gofyn i’r Arweinyddion Grŵp annog pob un o’u haelodau i gyflwyno adroddiad, er nad oes gofyniad statudol i wneud hynny, gan fod hynny’n rhan bwysig o’u cynllun datblygu blynyddol.

 

Nodwyd mai dim ond 4 aelod allan o’r 18 aelod cymwys (aelodau a ddychwelodd yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022) a oedd wedi cyflwyno adroddiad, ac roedd y Pwyllgor Safonau’n siomedig iawn o glywed hynny. Mae’r adroddiadau a ddaeth i law wedi cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. 

 

Mewn perthynas ag adroddiadau blynyddol 2022/23, rhannwyd templed â’r aelodau ar 14 Gorffennaf 2022 i’w hatgoffa i gofnodi/casglu data i’w gyflwyno yn eu hadroddiad blynyddol nesaf.  Cyflwynwyd amserlen ddrafft a oedd yn cynnwys y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r adroddiadau ar gyfer 2022/23 i’r Pennaeth Democratiaeth, sef 31 Mai 2023.

 

Roedd aelodau’r Pwyllgor yn poeni bod cyn lleied o aelodau wedi cyflwyno adroddiad blynyddol.  Gofynnwyd pe byddai’n bosib i’r Pwyllgor Safonau dderbyn copi o Adroddiad y Pennaeth Democratiaeth, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Arweinyddion Grwp ym mis Mehefin 2023, ar y nifer o aelodau o bob Grwp sydd heb gwblhau adroddiad blynyddol erbyn y dyddiad cau.  Cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai adroddiadau blynyddol gan aelodau etholedig yn cael ei gynnwys fel eitem agenda/unrhyw fater arall yng nghyfarfod nesaf Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad. 

  Bod Rheolwr Busnes y Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn i’r  Pennaeth Democratiaeth newydd anfon copi o’r adroddiad  y bydd yn ei gyflwyno i’r Arweinyddion Grŵp ym mis Mehefin 2023 ar adroddiadau blynyddol yr aelodau i’r Pwyllgor Safonau yn unol â chais y Pwyllgor.

  Bod y Swyddog Monitro yn gwneud cais i drafod adroddiadau blynyddol gan aelodau etholedig yng nghyfarfod nesaf Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgor Safonau ar 27 Ionawr 2023, er mwyn:-

    gweld a ydi’r patrwm yr un fath mewn rhannau eraill o Gymru o ran y nifer isel o adroddiadau sy’n cael  eu cyflwyno gan aelodau, a

    thrafod p’un ai a ddylid cynyddu statws yr adroddiadau hyn a’u gwneud yn orfodol.

  Bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn trafod ffyrdd o annog aelodau i gyflwyno adroddiadau blynyddol gyda’r Arweinyddion Grwp a chadarnhau pam bod rhai aelodau mor gyndyn o gyflwyno adroddiad.

  Bod y Rheolwr Busnes a’r Rheolwr Hyfforddi AD yn trafod ffyrdd o annog/cefnogi aelodau i gyflwyno adroddiad blynyddol.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod

4.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 287 KB

Adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar ddatblygiad a hyfforddiant Aelodau.  

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Rheolwr Hyfforddi Adnoddau Dynol ar y sesiynau hyfforddi a gynigwyd i’r aelodau ers mis Mai 2022.

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi Adnoddau Dynol bod 47 o sesiynau hyfforddi wedi cael eu darparu i aelodau er mis Mai 2022. Darparwyd hyfforddiant ar bob math o bynciau ee Cynllunio, Trwyddedu, Archwilio, Sgiliau TGCh, Sgiliau Cadeirio ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Sgriwtini.  Bwriedir cynnal hyfforddiant bellach ar Iechyd, Diogelwch a Lles yn y Flwyddyn Newydd. Nodwyd bod lefelau presenoldeb yn ystod y sesiynau hyfforddi wedi amrywio. 

 

Roedd y Pwyllgor Safonau’n cytuno’n unfrydol bod cadeirio cyfarfodydd wedi dod yn fater mwy cymhleth ers cyflwyno cyfarfodydd hybrid, a chytunwyd y dylid gofyn i’r Arweinyddion Grwp fynnu bod yr hyfforddiant ar sgiliau cadeirio yn dod yn hyfforddiant mandadol ar gyfer Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau.  

 

Nodwyd gan y Rheolwr Hyfforddi bod amser yr hyfforddiant; yn ystod y dydd/ hwyr yn y prynhawn/ yn gynnar gyda’r nos, yn cael ei ystyried yn barhaus er mwyn ystyried ymrwymiadau gwaith/gofal yr aelodau.

 

Codwyd pryder nad oes modd gweld gwybodaeth ynglŷn â’r sesiynau hyfforddai a fynychwyd gan aelodau ar wefan y Cyngor. Nodwyd bod yr hyfforddiant a fynychir gan aelodau’n cael ei gofnodi gan yr aelodau yn eu hadroddiadau blynyddol a bod y rhain yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. 

 

Adroddodd y Rheolwr Hyfforddi bod staff AD ar gael i gefnogi aelodau i gwblhau a chyhoeddi eu hadroddiadau blynyddol. Dywedodd nad ydi gwybodaeth ynglŷn â’r  hyfforddiant a’r sesiynau briffio y mae aelodau’r Pwyllgor Safonau wedi’u mynychu’n cael ei gyhoeddi ar-lein, ond bod eu presenoldeb yn cael ei nodi a’i gofnodi gan yr adran Adnoddau Dynol.  

 

Mynegwyd pryder gan y Pwyllgor mewn perthynas â thri o’r pedwar hyfforddiant mandadol a amlinellwyd yn yr adroddiad. Mae 35 wedi cwblhau’r modiwl ar ddiogelwch seibr ond dim ond 24 allan o’r 35 sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant ar gydraddoldeb ac amrywiaeth a dim ond 12 allan o’r 35 sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant ar ddiogelu data. Nodwyd hefyd bod 6 o’r 35 aelod heb gwblhau hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad; er bod hyn yn orfodol o dan y Cod Ymddygiad a fabwysiadwyd gan y Cyngor Sir. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad.

  Bod y Cadeirydd, a’r Is-gadeirydd yn codi’r materion canlynol yn ystod cyfarfod o’r Arweinyddion Grwp yn y dyfodol:-

   Cynnig bod yr hyfforddiant Sgiliau Cadeirio yn dod yn hyfforddiant mandadol i Gadeiryddion ac Is-gadeiryddion wedi iddynt gael eu penodi (neu eu hail-benodi), a bod yr hyfforddiant yn cael ei gynnal pob 2 flynedd. Dylid cynnwys aelodau annibynnol anetholedig a Chadeiryddion ac Is-gadeiryddion cyfetholedig yn yr hyfforddiant hwn, ac

   Argymell bod yr Arweinyddion Grwp yn annog eu haelodau i ddiweddaru’r wybodaeth sydd ar gael ar-lein mewn perthynas â’r hyfforddiant a’r sesiynau briffio y maent wedi eu mynychu. 

  Bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn anfon copi o’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Cwynion Ynglyn ag Ymddygiad i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 248 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol)  mewn perthynas â :-

 

(a) Cynghorwyr Sir, a

(b) Cynghorwyr Tref a Chymuned

ar gyfer Chwarteri 1 a 2 o 2022/2023

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar ffurf matrics wedi’i ddiweddaru ynglŷn â’r cwynion chwarterol a dderbyniwyd gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas â (a) Cynghorwyr Sir, a (b) Cynghorwyr Tref/Cymuned.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod yr Ombwdsmon wedi derbyn un gŵyn gan aelod o’r cyhoedd mewn perthynas â Chynghorwyr Sir rhwng mis EbrillMehefin 2022 (Ch1), ond nad ymchwiliwyd i’r gŵyn honno. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion mewn perthynas â Chynghorwyr Sir rhwng mis Gorffennaf – Medi 2022 (Ch2).  

 

Nodwyd bod yr Ombwdsmon wedi derbyn dwy gŵyn mewn perthynas â Chynghorwyr Tref/Cymuned yn ystod Chwarter 1, 2022. Penderfynodd yr Ombwdsmon beidio â pharhau i ymchwilio i’r achos gyntaf a pheidio ag ymchwilio i’r ail achos. Ni dderbyniwyd unrhyw gwynion mewn perthynas  â Chynghorwyr Tref/Cymuned yn ystod Chwarter 2. 

 

Mewn ymateb i gwestiynau ar dueddiadau newydd , dywedodd y Swyddog Monitro ei bod hi’n anodd dod o hyd i unrhyw dueddiadau penodol gan bod cyn lleied o gwynion yn cael eu cyflwyno. Os daw unrhyw batrymau i’r amlwg o ran y math o gwynion sy’n cael eu cyflwyno, bydd y swyddog Monitro’n rhoi gwybod i Gadeirydd y Pwyllgor Safonau ac yn trafod ymyraethau addas.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys Atodiadau 1- 4.

  Bod y Swyddog Monitro’n rhannu Atodiadau 1- 4 â’r Cynghorau Tref a Chymuned a’r aelodau etholedig a chyfetholedig drwy’r Newyddlenni.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod

6.

Penderfyniadau gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru pdf eicon PDF 593 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar ganlyniadau ymchwiliadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru rhwng 1 Mehefin a 30 Tachwedd 2022. 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) a oedd yn rhoi crynodeb o ganfyddiadau Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru mewn perthynas ag achosion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad rhwng 1 Mehefin a 30 Tachwedd 2022, sydd bellach ar gael ar wefan yr Ombwdsmon.

 

Nododd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) bod 13 achos wedi’i adrodd yn ystod y cyfnod hwn. Nodwyd y themâu canlynol:-

 

Mae’r prawf dau gam yn dal i gael ei ddefnyddio, lle mae’r Ombwdsmon yn ystyried p’un ai a oes tystiolaeth bod y Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri yn y lle cyntaf ac, os felly, p’un ai a fyddai ymchwiliad o fudd i’r cyhoedd.

 

Roedd sawl achos lle’r oedd testun y gŵyn wedi rhoi’r gorau i fod yn gynghorydd rhwng y dyddiad pryd y cafodd y cod ei dorri ac ymchwiliad yr Ombwdsmon. Mae’n bwysig nodi bod cyn-gynghorwyr yn dal i ddod dan awdurdodaeth yr Ombwdsmon, hyd yn oed os ydynt wedi rhoi’r gorau i fod yn gynghorydd, cyn belled bod yr achos wedi digwydd tra’r oeddent yn y swydd. Yr unig wahaniaeth yw’r effaith ar y prawf budd y cyhoedd  a’r cosbau mwy cyfyngedig sydd ar gael (mae gan y Pwyllgor Safonau’r hawl i geryddu o hyd ac mae gan dribiwnlys achos Panel Dyfarnu Cymru’r awdurdod i wahardd cynghorydd am hyd at 12 mis a rhoi cerydd o hyd at 5 mlynedd).

 

Roedd achos 3 a 5 wedi eu cynnwys ar yr Agenda o dan Eitem 7, gan eu bod yn achosion a gyfeiriwyd at Banel Dyfarnu Cymru gan yr Ombwdsmon.

 

Achos 4 a 13 - materion a gafodd eu cyfeirio at y Pwyllgor Safonau perthnasol ond roedd y cosbau a oedd ar gael i’r Pwyllgorau yn gyfyngedig gan nad oedd y cynghorwyr yn dal i wasanaethu fel cynghorwyr.

 

Achos 6 – er bod un aelod o’r cyngor cymuned wedi bod yn destun ymchwiliad gan yr Ombwdsmon, a’i fod ef/hi wedi torri’r Cod Ymddygiad, fe wnaeth yr Ombwdsmon argymell bod y Cyngor Cymuned yn cwblhau hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r adroddiad a’r atodiadau.

  Annog yr holl gynghorwyr tref a chymuned i gwblhau’r hyfforddiant at y Cod Ymddygiad.

  Cynnwys themâu penodol yn yr adroddiad yn y Newyddlenni a fydd yn cael eu rhannu ag aelodau CSYM ac aelodau’r cynghorau tref a chymuned .

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod

 

7.

Penderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru pdf eicon PDF 617 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar benderfyniadau Panel Dyfarnu Cymru yng Nghymru ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 28 Mehefin 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) a oedd yn crynhoi’r prif faterion a’r pwyntiau dysgu ym mhenderfyniadau Banel Dyfarnu Cymru (a gyhoeddwyd ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 28 Mehefin 2022).

 

Nodwyd cywiriad mewn perthynas ag achos 3 ar dudalen 55 yn y fersiwn Gymraeg o’r adroddiad; lle cyfeiriwyd at baragraff 5(c) yn hytrach na pharagraff 4(c).

 

Achos 1 – Honiad bod Cynghorydd wedi camarwain y Cyngor Tref ynglŷn â’i gymhwystra i fod yn gynghorydd tref, gan fod ganddo euogfarn a oedd yn ei atal yn awtomatig rhag ymgeisio i fod yn gynghorydd.  Cafodd yr unigolyn ei wahardd am 2 flynedd gan Banel Dyfarnu Cymru. Mae’r achos hwn yn dangos bod Panel Dyfarnu Cymru yn ystyried bod y Cod Ymddygiad yn berthnasol, hyd yn oed i’r rheiny nad ydynt yn gymwys i gael eu hethol yn y lle cyntaf. 

 

Achos 2 – honiad bod Cynghorydd wedi torri’r Cod Ymddygiad i Aelodau, gan ei bod wedi troseddu yn ystod ei chyfnod fel cynghorydd. Cafodd ei gwahardd am flwyddyn gan Banel Dyfarnu Cymru.  Yn ogystal â chosbi’r unigolyn, fe wnaeth y Panel hefyd argymell y canlynol: yn gyntaf, bod aelodau’r Cyngor Cymuned yn mynychu hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad cyn pen tri mis; ac yn ail, bod y Cyngor Cymuned yn ystyried ei gwneud hi’n ofynnol i Glerc y Cyngor hefyd gwblhau’r hyfforddiant.

 

Achos 3 – Roedd yr achos hwn yn cynnwys ystyried 3 chŵyn unigol mewn perthynas â’r un Cynghorydd, gyda phob un yn ymwneud â defnydd / sylwadau amhriodol ar y cyfryngau cymdeithasol. Cafodd yr unigolyn ei wahardd am 3 blynedd gan y Panel. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys y crynodebau o achosion

  Cynnwys gwybodaeth am yr achosion, a’r pwyntiau dysgu yn benodol, yn y Newyddlenni i Aelodau CSYM ac aelodau’r cynghorau tref a chymuned.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod

8.

Ceisiadau am Ganiatâd Arbennig

Mae’n arferol bod adroddiad yn cael ei baratoi gan y Swyddog Monitro ar y ceisiadau am ganiatâd arbennig a ystyriwyd gan y Pwyllgor Safonau. Yn ystod y cyfnod ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau ar 28 Mehefin 2022 a dyddiad cyhoeddi’r agenda, nid oedd unrhyw geisiadau o’r fath wedi eu derbyn. Ar y sail hwn, nid oes adroddiad wedi’i gynnwys.

Cofnodion:

Ni chyflwynwyd adroddiad, a nodwyd nad oedd unrhyw geisiadau am ganiatâd arbennig wedi eu derbyn ers cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Safonau a dyddiad cyhoeddi’r agenda hwn.

 

9.

Pwyllgor Safonau yn Monitro Sampl o Gyfarfodydd Cyngor/Pwyllgorau pdf eicon PDF 541 KB

Adroddiad gan y Swyddog Monitro yn cynnwys manylion yr ymarfer a gyflawnwyd gan aelodau annibynnol y Pwyllgor Safonau i arsylwi sampl o gyfarfodydd ffurfiol y Cyngor a’i Bwyllgorau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn cynnwys manylion yr adolygiad peilot a gynhaliwyd gan bedwar aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau. Nodwyd bod dau aelod wedi mynychu pob cyfarfod o’r Cyngor Sir, Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r ddau Bwyllgor Sgriwtini, ar sail rota, er mwyn i’r aelodau allu goruchwylio ymddygiad yr aelodau ym mhob un o’u cyfarfodydd ffurfiol.    

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod taflen werthuso wedi cael ei datblygu i gofnodi unrhyw sylwadau yn ystod y cyfarfodydd (Atodiad 2 yn yr adroddiad). Yn dilyn pob cyfarfod, byddai’r aelodau o’r Pwyllgor Safonau a oedd wedi bod yn goruchwylio yn adrodd yn ôl i’r Cadeirydd perthnasol. Yn dilyn y broses adolygu rhannwyd llythyr manwl â’r Arweinyddion Grwp oedd yn nodi’r adborth cyffredinol; yn ogystal â materion yn ymwneud â’r Cod Ymddygiad, roedd y llythyr hefyd yn cynnwys sylwadau cyffredinol a wnaed gan yr aelodau o’r Pwyllgor Safonau mewn perthynas â phrosesau/ materion cyfansoddiadol/ materion yn ymwneud â chyfarfodydd hybrid. 

 

Nodwyd y cywiriadau canlynol mewn perthynas â’r Rhestr o Gyfarfodydd ar dudalen 45, yn Atodiad 1 yn yr adroddiad:-

 

Cyfarfod y Cyngor Sir ar 6/12/22 – Cytunwyd cyn y cyfarfod nad oedd disgwyl i’r aelodau annibynnol fynychu’r cyfarfod hwn.

 

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 19/10/22 – Nodwyd bod y Cadeirydd, yr Is-gadeirydd a Mrs Gill Murgatroyd, (aelod annibynnol o’r Pwyllgor Safonau), wedi mynychu’r cyfarfod hwn.

 

 PENDERFYNWYD:-

 

  Derbyn argymhelliad y Prif Weithredwr bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ystyried y materion cyffredinol hynny a nodwyd yn ystod yr ymarfer arsylwi nad ydynt yn rhan o gyfrifoldebau’r Pwyllgor Safonau.

  Bod y Pwyllgor Safonau’n parhau i adolygu’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

  Ail-ymweld â’r peilot a’r ffurflen werthuso ymhen 6 mis.

  Bod y Pwyllgor Safonau’n darparu adborth i’r aelodau etholedig ar yr ymarfer hwn.

  Trafod y cais  gan Arweinydd y Cyngor bod y Pwyllgor Gwaith yn  arsylwi’r Pwyllgor Gwaith yng nghyfarfod anffurfiol nesaf y Pwyllgor Gwaith.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod

10.

Protocol Datrysiad Lleol pdf eicon PDF 900 KB

Adroddiad gan y Swyddog Monitro ar y Protocol Datrysiad Lleol diwygiedig.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar Brotocol Datrysiad Lleol y Pwyllgor Safonau yn dilyn newidiadau a ddaeth i rym yn sgil Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mewn perthynas â’r ddyletswydd statudol newydd ar Arweinyddion Grwp o ran ymddygiad eu haelodau. 

 

Adroddodd y Swyddog Monitro nad oes gofyniad statudol ar awdurdodau lleol i fabwysiadu Protocol Datrysiad Lleol, er bod Llywodraeth Cymru a’r Ombwdsman yn disgwyl i Gynghorau wneud hynny.

 

Nodwyd bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd wedi cyflwyno fersiwn diwygiedig o’r Protocol i’r Arweinyddion Grwp yn ystod eu cyfarfod ar 29 Medi 2022.

 

Cyflwynwyd y Protocol i’r Aelodau yn ystod Sesiwn Briffio ar 1 Rhagfyr 2022. 

 

Cyfeiriodd y Swyddog Monitro at y fersiwn drafft newydd o’r Protocol yn Atodiad 1, sydd wedi cael ei symleiddio, ac sy’n ystyried rôl estynedig yr Arweinyddion Grwp mewn perthynas ag ymddygiad aelodau o’u grŵp. Rhoddodd drosolwg o sut y bydd y Protocol newydd yn gweithio, ac eglurodd yr egwyddorion y tu ôl i’r broses.

 

Nodwyd bod yr Arweinyddion Grwp yn cefnogi egwyddor y Protocol diwygiedig sy’n adlewyrchu’r ddeddfwriaeth bresennol.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor Safonau gymeradwyo a mabwysiadu’r fersiwn terfynol o’r Protocol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cydsyniad yr Arweinyddion Grwp i’r Protocol yn Atodiad 1.

  Cymeradwyo a mabwysiadu’r Protocol yn unol â’r drafft yn Atodiad 1.

  Annog yr aelodau i ddefnyddio’r Protocol yn Atodiad 1 dan amgylchiadau perthnasol; ac

  Adolygu’r broses a fabwysiadwyd a’r ddogfen ei hun ymhen 12 mis.

 

Gweithred:  Gweler y Penderfyniad uchod

11.

Aelodau Cyngor Cymuned o'r Pwyllgor Safonau pdf eicon PDF 275 KB

Adroddiad gan y Swyddog Monitro ar y broses ar gyfer penodi dau aelod cyngor cymuned ar y Pwyllgor Safonau yn dilyn penderfyniad y Cyngor llawn ar 6 Rhagfyr 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro ar y ddau aelod Cyngor Cymuned a benodwyd i’r Pwyllgor Safonau, yn dilyn yr etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai 2022. 

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod proses wedi cael ei rhoi ar waith lle ysgrifennwyd at glercod y cynghorau tref a chymuned yn gofyn iddynt enwebu hyd at ddau gynghorydd i gynrychioli’r cynghorau tref a chymuned ar y Pwyllgor Safonau. 

 

Ar 6 Hydref 2022, cynhaliwyd pleidlais bost gyda’r holl gynghorau tref a chymuned, a gofynnwyd iddynt ddychwelyd y papur pleidleisio erbyn 19 Tachwedd 2022. Ar 23 Tachwedd, dilyswyd y broses a ddilynwyd gan Gadeirydd y Pwyllgor Safonau a chadarnhawyd pwy oedd y ddau ymgeisydd llwyddiannus.

 

Cyflwynwyd adroddiad i’r Cyngor Sir yn ystod ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr 2022 yn gofyn i’r Cyngor llawn gadarnhau penodiad yr ymgeiswyr llwyddiannus. Bu i’r Cyngor Sir gymeradwyo’r argymhelliad yn yr adroddiad, a phenodwyd y cynghorwyr cymuned canlynol i’r Pwyllgor Safonau tan yr etholiadau llywodraeth leol nesaf neu tan na fydd y rhai a benodir yn aelodau cyngor cymuned; pa bynnag un sy’n digwydd gyntaf:-

 

  Y Cynghorydd Margaret Ann Thomas o Gyngor Tref Llangefni, a’r

  Cynghorydd Iorwerth Roberts o Gyngor Cymuned Bryngwran.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad; a

  Nodi penderfyniad y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ar 6 Rhagfyr 2022 i benodi’r Cynghorydd Margaret Ann Thomas a’r Cynghorydd Iorwerth Roberts i gynrychioli’r cynghorau tref a chymuned ar y Pwyllgor Safonau.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod

12.

Hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad ar gyfer y Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 508 KB

Adroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) ar dair sesiwn hyfforddiant Cod Ymddygiad a gynigiwyd i’r Cynghorau Cymuned yn dilyn etholiad Mai 2022. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) ar y tri sesiwn hyfforddi ar y Cod Ymddygiad a oedd ar gael i’r cynghorau tref a chymuned yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2022.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Gwybodaeth) bod y Pwyllgor Safonau’n gyfrifol am gynnal safonau uchel o ymddygiad gan Gynghorwyr. Nodwyd nad yw’r hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad yn hyfforddiant gorfodol i gynghorwyr tref a chymuned, ond bod yr Ombwdsmon, Panel Dyfarnu Cymru a’r Pwyllgor Safonau’n disgwyl iddynt wneud hynny.  Mae’n rhaid i bob cyngor tref a chymuned fabwysiadu ei God Ymddygiad ei hun ac mae’n rhaid i bob cynghorydd, ar ôl cael ei ethol, weithredu yn unol â’r Cod Ymddygiad hwnnw.  

 

Trefnwyd hyfforddiant ar y cod i’r cynghorwyr tref a chymuned, ar ran y Pwyllgor Safonau. Nodwyd mai dim ond 37 wnaeth fynychu, er bod lle i 90.  Nodwyd hefyd na wnaeth clercod nac aelodau 29 o’r 40 cyngor tref a chymuned fynychu’r hyfforddiant.

 

Cyfeiriwyd at dudalen 89 adran 6 paragraff 3 yn y fersiwn Gymraeg o’r adroddiad. Dylid cywiroffactor lliniaru” - methiant i fynychu hyfforddiant ar y Cod yn cael ei ystyried fel ffactor lliniaru - i “ffactor gwaethygolyn y Gymraeg. 

 

Cafwyd trafodaeth ar ffyrdd o annog cynghorau tref a chymuned i ddarparu adborth yn dilyn sesiynau hyfforddi a pharatoi rhaglen hyfforddi ar gyfer aelodau/clercod, sydd bellach yn ofyniad statudol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y Pwyllgor Safonau’n ystyried cynnwys yr adroddiad a’r wybodaeth yn Atodiad 1, o ran nifer yr aelodau sydd wedi mynychu’r sesiynau hyfforddi, a’r patrwm o ran nifer y cynghorau tref a chymuned sydd heb gwblhau’r hyfforddiant.

  Bod y Pwyllgor Safonau’n cyfeirio at y presenoldeb gwael yn ystod sesiynau hyfforddi, ac yn hyrwyddo hyfforddiant mewn cynghorau tref a chymuned, yn ei Newyddlen i’r Cynghorau Tref a Chymuned. 

  Bod y Cadeirydd a’r Is-gadeirydd yn codi’r mater o bresenoldeb gwael yn ystod sesiynau hyfforddi yn Fforwm y Cynghorau Tref a Chymuned. 

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod

13.

Cylch Gorchwyl Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau pdf eicon PDF 245 KB

Adroddiad gan y Swyddog Monitro ar y Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Aelodau Annibynnol Pwyllgorau Safonau yng Nghymru. 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro, yn dilyn yr argymhelliad a wnaed yn Adolygiad Penn i’r Drefn Foeseg yng Nghymru, i sefydlu Fforwm Cenedlaethol ar gyfer Pwyllgorau Safonau, yn lle Fforwm Pwyllgorau Safonau Gogledd Cymru.

 

Mae Cylch Gorchwyl y Fforwm ar gael yn Atodiad 1 yn yr adroddiad.

 

Adroddodd y Swyddog Monitro bod y cyfarfod o’r Fforwm a oedd i fod i gael ei gynnal ar 8 Rhagfyr 2022 wedi cael ei ohirio tan 27 Ionawr am 2.00pm.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi cynnwys yr adroddiad, a’r Cylch Gorchwyl yn Atodiad 1.

  Bod Cadeirydd y Pwyllgor Safonau’n mynychu cyfarfod o Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau ar 27 Ionawr 2023.

  Bod y Swyddog Monitro’n rhannu cofnodion Fforwm Cenedlaethol y Pwyllgorau Safonau ag aelodau’r Pwyllgor Safonau ar ôl iddi eu derbyn.

 

Gweithred: Gweler y Penderfyniadau uchod