Rhaglen a chofnodion

Cynigion Terfynol ar gyfer Cyllideb 2019/20, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 4ydd Chwefror, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd yr holl Aelodau a Swyddogion i'r cyfarfod ac ymestynnodd groeso arbennig i Mr Clive Thomas, Pennaeth Ysgol Gyfun Llangefni a Mr Alan McDonald, Pennaeth Ysgol y Borth, Porthaethwy a oedd yn bresennol i wneud sylwadau ar ran y sectorau addysg  uwchradd a chynradd yn y drefn honno.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 259 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –

 

·         23 Tachwedd, 2018

·         10 Rhagfyr, 2018 (arbennig)

·         17 Ionawr, 2019 (arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel rhai cywir –

 

23 Tachwedd, 2018

10 Rhagfyr, 2018 (arbennig)

17 Ionawr, 2019 (arbennig)

3.

Proses Gosod Cyllideb 2019/20 - Refeniw a Chyfalaf pdf eicon PDF 4 MB

Rhoi ystyriaeth bellach i’r cynigion ar gyfer Cyllideb 2019/20 fel a ganlyn

 

·        Gosod y cyd-destun strategol a swyddogaeth Craffu (Blaen Adroddiad)

 

·        Cynigion terfynol y Gyllideb Refeniw a Chyfalaf ar gyfer 2019/20. (Atodiad 1)

 

·        Prif negeseuon yr Ymgynghoriad Cyhoeddus a gwaith ymgysylltu gyda dinasyddion a rhanddeiliaid eraill (Atodiad 2)

 

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini er ystyriaeth y Pwyllgor. Amlinellwyd yn yr adroddiad y cyd-destun strategol i'r broses o osod Cyllideb 2019/20 ynghyd â'r materion a'r cwestiynau allweddol ar gyfer Sgriwtini wrth werthuso’r cynigion terfynol ar gyfer y Gyllideb yng ngoleuni canlyniad yr ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion drafft cychwynnol ar ei chyfer. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnwys y ddogfennaeth atodol fel a ganlyn –

 

3.1 Adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 yn amlinellu'r Cyllidebau Refeniw a Chyfalaf arfaethedig ar gyfer 2019/20 a'r ystyriaethau ariannol allweddol y mae'r cyllidebau hynny'n seiliedig arnynt, gan gynnwys datganiad sefyllfa ar gyfer pob un o'r canlynol: - y setliad terfynol ar gyfer Llywodraeth Leol; y sefyllfa gyllidebol ddiwygiedig; y Dreth Gyngor; cronfeydd wrth gefn a balansau'r Cyngor; cynigion ar gyfer arbedion a’r Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb sy'n cyd-fynd â'r cynigion hynny mewn meysydd gwasanaeth sy'n debygol o gael effaith uniongyrchol ar randdeiliaid, a phwysau a risgiau cyllidebol.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Cyllid y bydd yn rhaid i'r Cyngor wneud rhai penderfyniadau pwysig yn ystod yr wythnosau nesaf wrth iddo geisio darparu cyllideb gytbwys ar gyfer 2019/20 yng nghyd-destun pwysau cynyddol yn y Gwasanaethau Plant, Addysg a Gofal Cymdeithasol i Oedolion a llai o setliad grant. Mae'r Cyngor yn Ynys Môn fel rhai eraill yng Nghymru, hefyd yn wynebu pwysau eraill ar ffurf chwyddiant, dyfarniadau cyflog staff, gofynion deddfwriaeth newydd, cyfraniadau uwch gan gyflogwyr i’r Cynllun Pensiwn Athrawon a chynnydd yn ardoll y Gwasanaeth Tân. Mae'r rhain y tu hwnt i reolaeth y Cyngor ac ochr yn ochr â’r pwysau demograffig sy'n arwain at alw cynyddol am wasanaethau, maent yn cynrychioli storm berffaith o heriau sy'n rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa anodd iawn. Roedd y Gyllideb Ddigyfnewid gychwynnol o £ 137.402m a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Tachwedd, 2018 yn seiliedig ar setliad dros dro o £ 95.159m gan Lywodraeth Cymru, a oedd yn gadael bwlch ariannol o £ 7.156m cyn unrhyw gynnydd yn y Dreth Gyngor. Er bod y setliad refeniw terfynol o £ 95.791m ar gyfer Ynys Môn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr yn well na’r sefyllfa dros dro, mae'n setliad llai o'i gymharu â'r llynedd ac nid yw'n ddigonol i gwrdd ag ymrwymiadau'r Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio bod yn rhaid i’r Cyngor, yn ogystal â chysoni ei gyllideb yn gyffredinol, bennu cyllidebau gwasanaeth sy'n realistig yn arbennig ar gyfer y meysydd hynny sydd wedi profi pwysau cynyddol; gellid dadlau bod y meysydd hynny wedi cael eu tan-ariannu yn hanesyddol.

 

Amlinellodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151 y cerrig milltir a'r prif ystyriaethau allweddol mewn perthynas â phroses gosod Cyllideb 2019/20 fel a ganlyn –

 

           Nodwyd y cyd-destun ar gyfer cyllideb refeniw 2019/20 yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol (MTFP) ar gyfer 2019/20 i 2021/22 a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2018 yn seiliedig ar ostyngiad rhagamcanol o 1% yn y Cyllid Allanol Cyfun ( AEF – sef cyfanswm y cymorth y mae'r Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru),  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 898 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Rhaglen Waith y Pwyllgor i Ebrill, 2019 i'w ystyried ac fe’i nodwyd gan y Pwyllgor heb unrhyw sylwadau.