Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol yng nghyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Ar ran y Pwyllgor, llongyfarchodd Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes)/Cyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gael ei phenodi yn Brif Weithredwr Cyngor Sir Powys a dymunodd yn dda iddi yn ei swydd newydd, diolchodd iddi am ei gwaith i Gyngor Sir Ynys Môn.

 

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor fod newid i fusnes y cyfarfod gan ei fod wedi rhoi caniatâd i ohirio eitem 5 ar y rhaglen (Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Achos Strategol Amlinellol/Achos Busnes Amlinellol – Ehangu Ysgol y Graig a Chau Ysgol Talwrn) a’i symud i gyfarfod y Pwyllgor fydd yn cael ei gynnal ar 10 Rhagfyr 2018.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 84 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd, 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 6 Tachwedd 2018 a chadarnhawyd eu bod yn gywir -

Materion yn codi o’r cofnodion –

 

Yn unol â phenderfyniad y Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd, cadarnhaodd y Cadeirydd fod llythyr (dyddiedig 14 Tachwedd 2018) wedi cael ei anfon at Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru (gyda chopi at Simon Edwards o Adain Cyllid a Phartneriaethau Gweithlu Llywodraeth Cymru) i gyfleu pryderon y Pwyllgor am oblygiadau setliad refeniw dros dro 2019/20 yr Awdurdod a fyddai’n creu bwlch ariannol sylweddol y byddai’n rhaid i’r Cyngor ei lenwi. Darllenodd y Cadeirydd gynnwys y llythyr a oedd yn annog Llywodraeth Cymru i –

 

           Ystyried goblygiadau'r setliad dros dro ar sefyllfa ariannol cyffredinol y Cyngor fel rhan o’r broses o gadarnhau setliad refeniw terfynol llywodraeth leol ddiwedd mis nesaf, a

 

           Darparu cyllid ychwanegol i Gyngor Sir Ynys Môn yn y setliad refeniw terfynol.

 

Wrth nodi’r llythyr gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad ynghylch sefyllfa ariannol y Cyngor yn sgil cyhoeddiad Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru ddechrau’r wythnos y byddai llywodraeth leol yn derbyn £14.2m o gyllid ychwanegol yn 2019/20.

 

Dywedodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod y prif newid yn ymwneud â darparu cyllid ychwanegol er mwyn cynyddu’r llawr cyllido er mwyn sicrhau nad yw’r un cyngor yn wynebu toriad o fwy na 0.5% yn ei setliad. Yn ogystal, bydd adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu drwy gyllid grant i gyfarfod â chostau gweithredu Dyfarniad Cyflog Athrawon yn ogystal â phwysau mewn gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymdeithasol plant. Nid oes manylion ar gael ar hyn o bryd ynglŷn â sut fydd y cyllid ychwanegol yn cael ei rannu – pa ‘run bynnag bydd rhaid i gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20 fynd drwy broses graffu Llywodraeth Cymru ei hun sy’n golygu y gallai’r sefyllfa newid o ganlyniad i’r broses honno cyn cyhoeddi’r gyllideb derfynol ym mis Rhagfyr.

 

Dywedodd yr Arweinydd, er bod yr arian ychwanegol yn ymddangos yn swm sylweddol, y bydd y swm a ddyrennir drwy fformiwla i bob cyngor yn llawer is – e.e. o’r £2.3m o gyllid ychwanegol fydd yn cael ei glustnodi ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol plant yn genedlaethol, tua £45k fyddai Ynys Môn yn ei dderbyn drwy fformiwla.

3.

Monitro Perfformiad - Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Trawsnewid ac Adnoddau Dynol yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2018/19.

 

Wrth adrodd fod sefyllfa gyffredinol y Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol (fel y’u cytunwyd ar y cyd gan yr Uwch Dîm Rheoli, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Gwaith Cysgodol) ar ddiwedd Chwarter 2 yn galonogol, tynnodd yr Arweinydd sylw at y pwyntiau canlynol er ystyriaeth –

 

           Dim ond 2 Ddangosydd Perfformiad - y ddau yn y Gwasanaethau Oedolion - sydd wedi tanberfformio, a manylir arnynt yn adran 2.4.3 yr adroddiad. Mewn perthynas â PM20a - Canran yr oedolion a gwblhaodd gyfnod ail-alluogi ac sydd â phecyn gofal a chymorth llai o faint chwe mis yn ddiweddarach - nodwyd fod nifer fechan yr achosion dan sylw yn cael effaith ar y data perfformiad; mewn perthynas â PAM/025 (PM19) - Cyfradd y bobl a gedwir yn yr ysbyty wrth aros am ofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth 75+ oed - rhagwelir y bydd y contract Gofal Cartref seiliedig ar ardaloedd a gomisiynwyd yn ddiweddar yn cael effaith gadarnhaol sylweddol ar ddata Chwarter 3. Mae’r UDA yn cydnabod y sefyllfa ac yn argymell parhau i weithredu’r mesurau lliniaru.

           Fod perfformiad Chwarter 2 mewn perthynas â rheoli absenoldeb salwch wedi gwella o gymharu â Chwarter 1 ac er ei fod ychydig yn is na’r targed o gymharu â’r un cyfnod yn 2017/18 mae’n well na chanlyniadau 2016/17. Mae absenoldeb salwch ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion yn Chwarter 2 wedi gwella’n sylweddol ac mae’r perfformiad yn well nag y bu ar unrhyw adeg yn ystod y 3 blynedd ddiwethaf. Yn yr un modd, mae ffigyrau absenoldebau salwch y Gwasanaeth Dysgu wedi gwella ers Chwarter 1. Mae’r UDA wedi blaenoriaethau’r ddau wasanaeth i wella eu cyfraddau salwch blynyddol ymhellach yn Chwarter 3. 

           Mewn perthynas â rheoli Cwynion Cwsmeriaid, derbyniwyd 29 o gwynion o gymharu â 43 yn Ch2 yn 2017/18 ac ymatebwyd i 92% o fewn yr amserlen. Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol derbyniwyd 4 o gwynion Cam 2 (Gwasanaethau Oedolion) a 26 o gwynion Cam 1 (Gwasanaethau Plant – 19 a Gwasanaethau Oedolion – 7). O’r cwynion hynny ymatebwyd i 50% ohonynt o fewn yr amserlen (Coch ar y cerdyn sgorio) ac roedd 13 o ymatebion hwyr – 10 yn y Gwasanaethau Plant a 3 yn y Gwasanaethau Oedolion. Mae’r UDA yn argymell parhau i fonitro’r dangosyddion yn y Gwasanaethau Plant ynghyd â gofyn i’r Gwasanaeth ail-werthuso ei weithdrefn rheoli cwynion er mwyn gwella cyfradd yr ymatebion ysgrifenedig o fewn yr amserlen.

           Mewn perthynas â rheolaeth ariannol, ar hyn o bryd rhagwelir y bydd gorwariant o £2.660m yng nghyllideb 2018/19 erbyn diwedd y flwyddyn, ac mae hyn yn uwch na chyfanswm y gorwariant yn 2017/18. Mae’r gwasanaethau’n parhau i brofi pwysau cyllidebol sylweddol tebyg i’r hyn a welwyd yn 2017/18, yn benodol yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaeth Dysgu. Mae’r UDA yn argymell parhau i graffu’n rheolaidd ar reolaeth ariannol corfforaethol a bod y Penaethiaid Gwasanaeth yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 164 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y gall olygu datgelu gwybodaeth  eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd wedi’i atodi.”

 

Cofnodion:

Ni ystyriwyd y mater.

5.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion: Achos Strategol Amlinellol/Achos Busnes Amlinellol - Ehangu Ysgol y Graig a Chau Ysgol Talwrn

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Gohiriwyd yr eitem.