Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a rhoddodd groeso arbennig i Christine Jones o Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a oedd yn bresennol i arwain ar eitem 2 ar y rhaglen. Cymerodd y Cadeirydd y cyfle hefyd i longyfarch Dr Caroline Turner, Prif Weithredwr Cynorthwyol a Chyfarwyddwr Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol, ar ei phenodiad fel Prif Weithredwr Cyngor Sir Powys, ac wrth ddymuno’n dda iddi yn ei swydd newydd, diolchodd iddi am ei gwaith yng Nghyngor Sir Ynys Môn.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Arolwg Arolygiaeth Gofal Cymru o'r Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor ei ystyried – adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn crynhoi canlyniad yr ail-arolwg gan AGC o’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Sir Ynys Môn ym mis Hydref, 2018. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio ar y gwelliannau y mae AGC yn cydnabod sydd wedi digwydd ers yr arolwg gwreiddiol ym mis Tachwedd, 2016, a oedd wedi arwain at nifer o bryderon sylweddol; y meysydd i’w datblygu a sefyllfa’r Gwasanaeth ym mhob maes ynghyd â’r camau i’w cymryd yn dilyn yr ail-arolwg. Roedd copi llawn o adroddiad AGC o’r ail-arolwg ynghlwm at sylw’r Pwyllgor.

 

Rhoddodd Christine Jones, AGC gyflwyniad i’r Pwyllgor ar y prif ganfyddiadau o adroddiad yr Arolygiaeth. Fel rhan o’r arolwg dilyn-i-fyny, roedd AGC wedi gwerthuso ansawdd yr ymarfer, penderfyniadau a wneir a gwaith aml-asiantaeth ynghyd ag ansawdd yr arweinyddiaeth, rheolaeth a llywodraethiant.

 

Roedd y prif ganfyddiadau ym mis Hydref, 2018 yn cynnwys y canlynol –

           Mae Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Ynys Môn yn gallu dangos gwelliant sylweddol mewn nifer o feysydd allweddol ond mae dal angen gwaith pellach mewn rhai meysydd.

           Mae morâl staff yn uchel ac mae angerdd ac ymroddiad ar bob lefel i barhau i weithio’n galed ar y daith wella er mwyn cyflwyno gwasanaethau rhagorol i blant.

           Mae’r Gwasanaeth Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth (IAA) wedi gwella’n sylweddol ers yr arolwg diwethaf ym mis Tachwedd 2016.

           Mae ymatebion i faterion diogelu yn amserol ac yn gymesur gan amlaf. Mae lle i wella o ran dwyn ynghyd a chofnodi tystiolaeth a dadansoddi risg.

           Mae gwelliannau mewn goruchwyliaeth gan reolwyr ac atebolrwydd proffesiynol ar bob lefel yn parhau i amlygu achosion lle collwyd cyfleoedd i gefnogi plant yn y blynyddoedd cynt.

           Mae diffyg lleoliadau addas i blant. Mae angen rhagor o waith i sicrhau bod dewisiadau lleoliad yn cwrdd ag anghenion penodol y plant o fewn eu cymuned.

           Mae arweinyddiaeth a llywodraethiant cryf yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Mae Uwch Swyddogion yn weladwy, ar gael ac yn gyrru gwelliannau.

           Mae adborth positif gan bartneriaid ynglŷn â’r newidiadau maent wedi eu gweld yn Ynys Môn, gan ddisgrifio diwylliant agored newydd a chydweithio da.

 

Dywedodd Ms Jones, ar y cyfan, fod Gwasanaethau Plant Ynys Môn mewn lle llawer gwell o gymharu â lle’r oeddynt ym mis Tachwedd, 2016 a bod gan y Gwasanaeth ddealltwriaeth dda o’i gryfderau a’i wendidau a’r meysydd lle mae angen mwy o waith. Dyma yw’r camau cynnar mewn siwrnai barhaus o welliant ar gyfer y Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn a bydd hynny’n cynnwys rhoi ar waith y polisïau, gweithdrefnau a phrosesau newydd sydd wedi’u datblygu a sicrhau bod gwell perfformiad yn erbyn dangosyddion allweddol yn cael ei wreiddio. Y nod yw cyflawni gwelliant cynaliadwy a sicrhau, trwy ddod yn wasanaeth da, bod y Gwasanaethau Plant yn Ynys Môn yn parhau i fod yn wasanaeth da yn y tymor hir. Dylai’r Gwasanaeth fonitro’r meysydd hynny y mae wedi eu datblygu, gan osod disgwyliadau uchel a chadw’r ffocws ar archwilio a chyflawni’r polisïau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Mater er Gwybodaeth - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgell 2017/18 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno er gwybodaeth adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth i’r Pwyllgor – adroddiad y Pennaeth Dysgu yn ymgorffori Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd ar gyfer 2017/18. Roedd yr adroddiad yn amlygu cryfderau a gwendidau cymharol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth fel y nodwyd yn yr Adroddiad Blynyddol 2017/18 ynghyd ag asesiad (MALD) Llywodraeth Cymru o Adroddiad Blynyddol 2017/18 y Gwasanaeth Llyfrgelloedd a’r materion sy’n codi.

 

Nodwyd yr adroddiad er gwybodaeth.