Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 3ydd Mehefin, 2019 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Diolchodd y Cadeirydd i’w gyd-aelodau o’r Pwyllgor am ei ail ethol fel Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a diolchodd yn benodol i’r Cynghorydd Dylan Rees, Is-gadeirydd am gadeirio’r cyfarfodydd ar 19 Mawrth a 17 Mai, 2019 yn ei absenoldeb. 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 300 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol

 

·         19 Mawrth, 2019

·         14 Mai, 2019 (ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd)

·         17 Mai, 2019 (galw i mewn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodwyd isod eu cyflwyno a’u cadarnhau fel cofnod cywir o’r hyn a drafodwyd ar y dyddiadau hynny –

 

           19 Mawrth, 2019

           14 Mai, 2019

           17 Mai, 2019

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 2018/19 er ystyriaeth y Pwyllgor. Dangosodd yr adroddiad sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel yr oedd ar ddiwedd pedwerydd chwarter 2018/19. 

 

Darparodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol grynodeb o’r canlyniadau perfformiad diwedd blwyddyn gan dynnu sylw at y meysydd hynny lle roedd perfformiad yn is na’r targed ac yn GOCH ar y cerdyn sgorio – ychydig iawn o’r rhain oedd o gymharu â’r mwyafrif o feysydd a oedd wedi perfformio yn unol â’r targed ac a oedd yn WYRDD ar y cerdyn sgorio. Darparodd yr adroddiad adlewyrchiad cadarnhaol iawn o berfformiad y Cyngor yn gyffredinol ac mewn sawl maes fe welwyd gwelliant ar berfformiad 2017/18 a oedd yn braf iawn i’w adrodd o ystyried yr heriau y mae’r awdurdod hwn ac awdurdodau lleol eraill yn eu hwynebu. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y Dangosyddion Perfformiad sydd wedi tanberfformio yn erbyn eu targedau blynyddol a’r rhesymau am hynny fel a ddarperir gan y gwasanaethau perthnasol (fel y nodir ym mharagraff 2.1.9). Er bod perfformiad Chwarter 4 o ran presenoldeb yn y gwaith yn well nac ar gyfer Chwarter 3, roedd y sgôr cronnus o 10.34 diwrnod gwaith a gollwyd ar gyfer pob aelod o staff Cyfwerth ag Amser Llawn (FTE) ychydig yn siomedig gan ei fod yn uwch na’r targed o 9.75 ar gyfer pob gweithiwr FTE. Rhoddodd yr Aelod Portffolio sicrwydd bod hyn yn derbyn sylw ar lefel uchel. Roedd yr adroddiad hefyd yn cyffwrdd ar Wasanaeth Cwsmer ac unwaith eto yma yn dangos darlun a oedd yn gwella gan nodi hefyd fod nifer defnyddwyr ApMôn a gwefan y Cyngor wedi parhau i gynyddu a’r gobaith oedd y byddai hyn yn arwain at fwy o ffurflenni ar-lein a chyswllt ar-lein.     

 

Dywedodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad, wrth baratoi ar gyfer y flwyddyn i ddod, y byddai’n ddefnyddiol adlewyrchu ar bwrpas y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn declyn rheoli er mwyn galluogi’r Cyngor i sicrhau bod y ddarpariaeth ar gyfer trigolion yr Ynys mor dda â phosibl. Wedi’i asesu yn y cyd-destun hwn, roedd perfformiad y Cyngor drwyddi draw yn galonogol iawn gyda dim ond 3 allan o oddeutu 50 Dangosydd Rheoli Perfformiad yn is na’r targed sy’n rhoi sicrwydd i Aelodau am gadernid y sylfaen sydd wedi’i rhoi yn ei lle a fyddai hefyd yn hwyluso gwelliannau pellach wrth symud ymlaen. 

 

Wrth ystyried yr adroddiad, trafodwyd y canlynol gan y Pwyllgor –

 

           Y camau sy’n cael eu cymryd I reoli absenoldebau salwch mewn ysgolion cynradd – DP 04a yn dangos yn GOCH ar y Cerdyn Sgorio. Cadarnhaodd y Pennaeth Dysgu bod yr ymagwedd ar y cyd ag Adnoddau Dynol sy’n cael ei cymryd er mwyn targedu’r 10 ysgol gynradd lle ystyriwyd bod lle i wneud gwahaniaeth ynghyd â sicrhau bod yr holl ysgolion yn cadw at y polisïau rheoli yn dechrau sicrhau canlyniadau dros y ddau dymor. Un o'r materion mwyaf heriol oedd absenoldebau salwch  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Monitro Gwelliannau yn y Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 598 KB

·        Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

·        Cyflwyno adroddiad y Panel Gwella Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r meysydd yr oedd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi canolbwyntio arnynt ers cyflwyno’r adroddiad cynnydd chwarterol blaenorol ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Nodwyd fod y gwaith o wella’r gwasanaeth bellach yn cael ei yrru gan Gynllun Datblygu Gwasanaeth 3 blynedd newydd yn cynnwys 5 o themâu a oedd wedi disodli’r Cynllun Gwella Gwasanaeth Blaenorol.   

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd fod yr adroddiad diweddaraf hwn yn darparu tystiolaeth graffigol o’r gwelliant mewn perfformiad yn erbyn dangosyddion perfformiad allweddol yn Chwarter 4 2018/19 o’u cymharu â pherfformiad yn erbyn yr un dangosyddion yn Chwarter 4 2017/18. Aeth â’r Pwyllgor drwy bob un o’r Dangosyddion Perfformiad gan egluro’r agweddau o’r gwasanaeth a fesurwyd gan amlygu arwyddocâd y gwelliant mewn perthynas â phob un yn unigol ac ar y cyd, gan adlewyrchu ar y newidiadau positif a’r datblygiadau cadarnhaol a oedd yn digwydd i’r gwasanaeth yn gyffredinol. Cafodd y positifrwydd ei atgyfnerthu ymhellach gan y gostyngiad yn nifer y cwynion Cam 1 yr oedd y Gwasanaeth wedi eu derbyn yn ystod Chwarter 4 ynghyd â’r 68 o ganmoliaethau a dderbyniwyd yn ystod y flwyddyn yn dangos gwerthfawrogiad o broffesiynoldeb staff, y gefnogaeth a dderbyniwyd gan deuluoedd a’r perthnasau cadarnhaol a ffurfiwyd gyda defnyddwyr gwasanaeth yn cynnwys plant. Yn ogystal â chanolbwyntio ar berfformiad, mae’r Gwasanaeth wedi treulio amser yn datblygu polisïau sy’n ymwneud yn benodol ag ôl-ofal a materion ariannol ar gyfer plant sy’n derbyn gofal ac mae Pecyn Maethu newydd wedi’i lansio sy’n creu mwy o ddiddordeb mewn maethu.    

 

Gan gyfeirio at drefniadau’r dyfodol, gofynnodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol am ganiatâd y Pwyllgor i sefydlu’r Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol a fyddai’n ymdrin â Gwasanaethau Oedolion ynghyd â’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, Byddai hyn yn galluogi’r Gwasanaethau Oedolion i dderbyn yr un lefel o graffu ag y mae’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi’i dderbyn yn y blynyddoedd diwethaf a byddai hefyd yn galluogi Aelodau Etholedig i ddatblygu gwybodaeth fanylach am y prosesau a’r heriau o fewn y Gwasanaethau Oedolion. Roedd y cynnig hwn wedi’i argymell gan y Bwrdd Trawsnewid Gofal Cymdeithasol i Oedolion a'r Panel Gwella Gwasanaethau Plant yn eu cyfarfodydd ar 22 Mai, 2019 a 23 Mai 2019.   

 

Trafodwyd y materion canlynol wrth ystyried yr adroddiad –

 

           Roedd y Pwyllgor yn falch o nodi’r gwelliant mewn perfformiad y mae’r data yn yr adroddiad yn tystio iddo ac fe groesawyd hefyd y cynnydd sydd wedi’i wneud o ran gwella cadernid polisïau, prosesau a gweithdrefnau o fewn y Gwasanaeth. Roedd y Pwyllgor yn awyddus i ddeall sut roedd y gwelliant sylweddol mewn perfformiad wedi’i gyflawni, o ran nifer y plant ysgol sydd wedi newid ysgol am resymau nad ydynt yn rhai triosiannol, o ystyried y llynedd bod bron i draean o’r plant oedran ysgol wedi gorfod newid ysgol am resymau nad oeddynt yn rhai trosiannol gyda 19 ym mis Medi yn unig o gymharu â 6.5% ar gyfer eleni. Cynghorwyd y Pwyllgor fod mwy o sefydlogrwydd o fewn y tîm  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Aelodaeth y Panel Sgriwtini Cyllid pdf eicon PDF 551 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn gofyn i’r Pwyllgor enwebu un aelod ychwanegol i wasanaethu ar y Panel Sgriwtini Cyllid.

 

Eglurodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, wrth i’r Panel esblygu ac fel rhan o’r hunan-werthusiad diwedd blwyddyn, cafodd ei argymell fod aelodaeth presennol y Panel o 4 aelod (2 aelod o bob pwyllgor sgriwtini) yn cael ei gynyddu gan 2 aelod ychwanegol – un o bob pwyllgor sgriwtini – er mwyn cynyddu capasiti a darparu agwedd fwy cadarn tuag at sgriwtini cyllid. 

 

Ar ôl cytuno y dylid ymestyn aelodaeth y Panel, PENDERFYNWYD enwebu’r Cynghorydd John Griffith i wasanaethu ar y Panel Sgriwtini Cyllid. 

 

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 959 KB

Cyfwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Blaen Raglen Waith y Pwyllgor ac fe’i nodwyd gan Aelodau heb unrhyw newidiadau.