Rhaglen a chofnodion

Perfformiad Chwarter 3, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 19eg Mawrth, 2019 3.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Yn absenoldeb y Cadeirydd, bu’r Is-gadeirydd gadeirio’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. Cytunodd y Pwyllgor y dylid penodi Is-gadeirydd a chafodd y Cynghorydd Richard Owain Jones ei ethol yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn yn unig.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol yn eitem 7 ar yr agenda fel Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Bodffordd. Safodd lawr fel Cadeirydd y cyfarfod ar gyfer eitem 7 er mwyn gallu cymryd rhan yn y drafodaeth fel Aelod Lleol yn unig.

 

Bu’r Cynghorydd Nicola Roberts ddatgan diddordeb personol yn eitem 7 ar yr agenda fel llywodraethwr ysgol ac fel rhiant i blentyn sy’n mynychu Ysgol y Graig. 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 200 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2019 ac fe’u cadarnhawyd fel cofnod cywir. 

3.

Monitro Perfformiad:Cerdyn Sgorio Chwarter 3 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD a Thrawsnewid).

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, yn cynnwys Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 3 ar gyfer 2018/19, ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn cyfleu sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel y’u hamlinellwyd a’u cytuno arnynt ar ddechrau’r flwyddyn ac ar ddiwedd y trydydd chwarter. 

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol fod y Cerdyn Sgorio yn gyffredinol yn adlewyrchu perfformiad da iawn y gwasanaethau a’r perfformiad gorau yn erbyn y Dangosyddion Perfformiad ar ddiwedd Chwarter 3 ers i’r Cyngor ddechrau monitro a thracio perfformiad yn y fformat hwn. Mae’r adroddiad yn amlygu’r tri maes lle mae perfformiad yn is na’r targed, dau ohonynt yn y Gwasanaethau Oedolion – PM20a –Canran yr oedolion a oedd wedi cwblhau cyfnod o ailalluogi ac sy’n derbyn pecyn gofal a chymorth ar lefel is 6 mis yn ddiweddarach a PAM/025 (PM19) – Cyfradd y bobl a gedwir yn yr ysbyty tra’n aros am ofal cymdeithasol fesul 1,000 o’r boblogaeth 75+ oed; mae’r trydydd maes sy’n tanberfformio (PAM018) yn y Gwasanaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd ac mae’n ymwneud â chanran yr holl geisiadau cynllunio y penderfynir arnynt mewn pryd. Mae’r adroddiad yn cyfeirio at ffactorau a fyddai wedi cyfrannu at y perfformiad is na’r targed yn y meysydd hynny ac yn amlinellu’r camau lliniaru a fydd yn cael eu cymryd er mwyn gwella perfformiad erbyn Chwarter 4.  

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at Reoli Pobl a chadarnhaodd bod lefelau absenoldeb salwch ar yr un lefel â’r ffigwr ar gyfer yr un chwarter yn 2017/18 sef 2.69 Cyfwerth ag Amser Llawn o ddyddiau wedi eu colli. Mae sicrwydd yn parhau bod Gwasanaethau yn dilyn gweithdrefnau yn unol â’r polisi rheoli absenoldebau. 

 

Mewn perthynas â Gwasanaeth Cwsmer mae nifer defnyddwyr cofrestredig ApMôn a gwefan y Cyngor yn parhau i dyfu sy’n ganlyniad positif o ystyried yr oedi wrth gyflwyno gwefan y Cyngor o ganlyniad i faterion technegol. Unwaith y bydd y wefan yn weithredol, bydd yn arwain at gynnydd yn y defnydd o ffurflenni ar-lein a chyswllt ar-lein ynghyd â thaliadau ar-lein. Oherwydd absenoldeb salwch hirdymor swyddog o fewn y tîm sydd â chyfrifoldeb am gasglu data, nid yw’n bosib adrodd ar Gwynion Cwsmeriaid na cheisiadau Rhyddid Gwybodaeth ar gyfer y chwarter. Yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, mae graddfa’r ymatebion ysgrifenedig i gwynion o fewn yr amserlen yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn parhau i fod yn is na’r targed gyda dim ymatebion ysgrifenedig wedi eu darparu o fewn yr amserlen ar gyfer 13 o’r 27 o gwynion Cam 1 – er ar gyfer 22 o’r cwynion hynny, cynhaliwyd trafodaeth â’r achwynydd o fewn yr amserlen. Mae graddfa’r ymatebion ysgrifenedig yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd wedi’i hamlygu gan yr UDA fel maes y mae angen ei wella. Dywedodd yr Aelod Portffolio fod Atodiad B o’r adroddiad yn darparu trosolwg o berfformiad prosiectau trawsnewid gwasanaeth presennol y Cyngor hyd yma.  

 

Yn nhrafodaeth ddilynol y Pwyllgor ar yr adroddiad, codwyd y materion canlynol –

 

           Bod yr adroddiad yn dangos bod Gwasanaethau Cyngor yn gwella  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Polisi Cludiant Ysgol Diwygiedig pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys Polisi Cludiant diwygiedig ei gyflwyno ar gyfer ei ystyried a’i graffu arno gan y Pwyllgor.

 

Adroddodd yr Arweinydd fod y Polisi Cludiant Ysgol diwygiedig wedi bod yn destun Sesiwn Briffio Aelodau ac ei fod hefyd wedi’i graffu gan y Panel Sgriwtini Cyllid a roddodd ystyriaeth ofalus i’w effaith ariannol. Mae’r polisi diwygiedig yn nodi’n glir drefniadau a meini prawf yr Awdurdod ar gyfer darparu cludiant ar gyfer disgyblion ysgol a choleg Cyngor Sir Ynys Môn. 

Amlygodd y Pennaeth Dysgu fod y Polisi diwygiedig yn glynu’n agos at y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 a Teithio gan Ddysgwyr: Darpariaeth Statudol ac Arweiniad Gweithredol 2014 ac mae’n cynnwys digon o fanylion er mwyn galluogi’r Awdurdod i ymateb i sefyllfaoedd ac amgylchiadau gydag eglurder a chysondeb. Dywedodd y Swyddog bod agweddau o’r trefniadau cludiant ysgol a oedd angen eu hadolygu, eu cadarnhau a’u diwygio; mae hynny wedi digwydd yn ystod y flwyddyn ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar y gyllideb cludiant ysgol.  

 

Yn y drafodaeth ddilynol ar yr adroddiad yn y Pwyllgor, codwyd y materion canlynol

 

           Oes modd rhoi sicrwydd y bydd cludiant i’r ysgol yn cael ei ddarparu ar ffyrdd y gellid eu hystyried yn beryglus hyd yn oed os yw’r llwybrau hynny yn fyrrach na’r pellter statudol ar gyfer bod yn gymwys?

           A yw ymdriniaeth y polisi o ysgolion ffydd yn gyson â’r ymdriniaeth gyffredinol o’r polisi o ystyried y nodir yn adran 3.2 o’r polisi y bydd yr Awdurdod yn ystyried ar sail disgresiwn, geisiadau am gludiant i’r Ysgol Ffydd addas os mai dyna ddewis y rhiant/gofalwr ac y bydd hyn yn berthnasol hyd yn oed os nad yr ysgol honno yw eu hysgol addas agosaf ond ei fod o fewn ardal yr Awdurdod Lleol.  

           Pa effeithiau ariannol sydd i’r polisi?

           Nodir na fydd unrhyw gludiant yn cael ei ddarparu i blant 3 neu 4 oed sy’n mynychu’r ysgol feithrin neu’r dosbarth meithrin. Fodd bynnag, darperir cludiant i blant cymwys ar gyfer dechrau’r flwyddyn ysgol lle bydd y plentyn yn troi’n 5 oed ac yn dechrau addysg amser llawn sy’n golygu ei bod yn bosibl y gallai plentyn 4 oed sy’n cael ei ben-blwydd yn 5 oed yn hwyrach yn y flwyddyn ysgol fod yn gymwys ar gyfer trafnidiaeth ysgol. A yw’r risgiau o gludo plant mor ifanc â 4 oed ar fws heb unrhyw oruchwyliaeth wedi eu hystyried?  

           Nodir na fydd yr Awdurdod yn darparu cludiant i glybiau tu allan i’r ysgol nac adref (h.y. clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol neu weithgareddau allgyrsiol sy’n disgyn y tu allan i’r cwricwlwm ysgol). Fodd bynnag sut gellir cysoni’r agwedd hon ag anghenion plant rhieni nad oes ganddynt gludiant eu hunain ac sy’n byw mewn ardaloedd lle gall mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus fod yn gyfyngedig ac sydd ag angen am glybiau brecwast; sut byddai’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Monitro Cynnydd: Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant/ Panel Gwella Gwasanaethau Plant pdf eicon PDF 2 MB

·        Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

·        Cyflwyno adroddiad y Panel Gwasanaethau Plant.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

           Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn nodi’r cynnydd hyd yma wrth weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. 

 

Adroddodd yr Arweinydd a’r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad yn garreg filltir ym mhroses gwella’r Gwasanaethau Plant oherwydd cytunwyd i gau’r Cynllun Gwella Gwasanaeth (CGG) presennol i lawr ac i gynhyrchu Cynllun Datblygu Gwasanaeth ar gyfer 2019-22. Bydd yn cynnwys unrhyw weithredoedd sy’n weddill o’r CGG presennol ac sydd angen eu datblygu ymhellach ac yn ymgorffori’r 14 maes datblygiad a nodwyd gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn ei adroddiad ail-archwilio yn Rhagfyr, 2018. Bydd y gwasanaeth cyfan yn gweithio dan y Cynllun Datblygu Gwasanaeth newydd a fydd yn cael ei gytuno arno gan Uwch Dîm Rheoli’r Gwasanaeth, y Panel Gwella Gwasanaethau Plant, y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith. Bydd y Gwasanaeth hefyd yn ymgymryd â’r gweithgareddau gwella penodol a restrir yn yr adroddiad er mwyn atgyfnerthu’r cynnydd a wnaed eisoes.      

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Plant a Theuluoedd at y cynnydd o ran recriwtio a chadw staff ynghyd â datblygu’r model Cartrefi Grŵp Bach sy’n fenter a fydd yn galluogi rhai o’r plant a allai fod mewn lleoliadau gofal ymhell i ffwrdd o Ynys Môn i dderbyn gofal mewn amgylcheddcartrefolsy’n efelychu’r ffordd y mae eu cyfoedion yn byw h.y. byw yn y gymuned, mynd i’r ysgol leol, gwneud ffrindiau yn yr ardal. Hefyd, fel rhan o’r ymdrech i wella opsiynau lleoli er mwyn bodloni’r galw, mae’r Gwasanaeth yn edrych i recriwtio a chadw mwy o Ofalwyr Maeth ac mae’r adroddiad yn crynhoi’r buddion y bydd y pecyn Gofal Maeth newydd yn eu darparu i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod pan gaiff ei weithredu yn Ebrill, 2019.

  

Yn y drafodaeth ddilynol ar yr adroddiad yn y Pwyllgor, codwyd y materion canlynol

 

           Bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud gan y Gwasanaethau Plant dros oes y Cynllun Gwella Gwasanaeth. Fodd bynnag, cafodd 14 maes ar gyfer datblygiad pellach eu hadnabod gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Oes yna unrhyw feysydd o fewn y 14 a gafodd eu hadnabod sydd angen sylw fel blaenoriaeth ac a oes gan y gwasanaeth y adnoddau er mwyn gallu mynd i’r afael a materion a datblygu’r Cynllun Datblygu Gwasanaeth?  

           Trefniadau mewn perthynas â’r Cartrefi Grŵp Bach gan gynnwys staffio, cofrestru a chynlluniau ar gyfer agor mwy o gartrefi grŵp bach y tu hwnt i’r 2 y disgwylir eu hagor yn ystod blynyddoedd ariannol 2019/20 a 2020/21.

           A oes ystyriaeth wedi’i rhoi i ddyrannu tai cyngor i unigolion / teuluoedd sy’n dymuno maethu a fyddai’n cyflawni’r un amcan a chael staff yn gofalu am blant mewn eiddo sy’n berchen i’r Cyngor.   

Darparwyd cadarnhad/esboniad i Swyddogion ac Aelodau Portffolio fel a ganlyn

           Yn ystod y cyfnod o weithredu’r Cynllun Gwella Gwasanaethau Plant, mae’r Gwasanaethau Plant wedi datblygu gwell hunan-ymwybyddiaeth ac yn gwybod lle mae’r Gwasanaeth,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 166 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) Deddf Llywodraeth Leol 972, gwahardd y Wasg a’r Cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y gall olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A i’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd wedi’i amgáu.

 

Cofnodion:

Penderfynwyd, o dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.

7.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion:Achos Busness Llawn Ardal Llangefni (Bodffordd/Corn Hir)

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Dysgu.

 

Cofnodion:

Cadeiriwyd yr eitem hon gan y Cynghorydd Richard Owain Jones, yr Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Dysgu yn cynnwys yr Achos Busnes Llawn am ysgol gynradd newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor.

 

Adroddodd yr Arweinydd a'r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, os bydd yr Achos Busnes Llawn yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, y bydd modd diogelu 50% o’r cyllid ar gyfer y prosiect, prosiect sydd ar ddiwedd y cyfnod Band A.

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod cais am Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg am Uned Feithrinfa wedi’i gymeradwyo ym mis Tachwedd, 2018 a bod y Gweinidog Addysg wedi cymeradwyo mewn egwyddor, yr Achos Busnes Amlinellol Strategol ar gyfer yr ysgol newydd yn Ionawr, 2019. Mae’r Achos Busnes Llawn yn nodi’r cyfiawnhad strategol, economaidd, masnachol, ariannol a rheolaethol dros y cais. Cyfeiriodd y Swyddog at y fanyleb ar gyfer yr adeilad a fydd ar gyfer ysgol gymunedol ar gyfer 360 o ddisgyblion ac a fydd yn cymryd i ystyriaeth y datblygiadau tai arfaethedig yn y rhan hon o Langefni ac yn darparu capasiti ychwanegol o hyd at 10%; bydd gan yr ysgol brif neuadd fwy ar gyfer gweithgareddau cymunedol, ystafell gyfarfod gymunedol ac uned feithrinfa ar gyfer plant rhwng 2 a 4 oed. Bydd yr ardaloedd allanol yn cynnwys cae chwarae, ardal gemau MUGA, ardal chwarae llain galed, ardal chwarae meddal a gardd. Mae’r Achos Busnes Llawn hefyd yn nodi’r amserlen amlinellol ar gyfer y gwaith y gwaith o adeiladu ac agor yr ysgol.   

 

Dywedodd y Pennaeth Dysgu fod penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ar 30 Ebrill 2018 i gymeradwyo ysgol newydd yn lle Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir hefyd yn cyfeirio at Ysgol Henblas lle bydd darpariaeth addysg yn cael ei chynnal yn Llangristiolus un ai drwy gynnal Ysgol Henblas fel y mae neu drwy gyfuno Ysgol Henblas â’r ysgol newydd a chreu un ysgol ar ddau safle. Roedd y penderfyniad hwn yn gysylltiedig â’r Cyngor yn derbyn sicrwydd fod safonau Ysgol Henblas yn gwella a bod niferoedd disgyblion yn parhau’n gyson. Mae ail archwiliad o Ysgol Henblas gan Estyn ym mis Hydref 2018 yn cadarnhau bod yr ysgol wedi gwneud cynnydd digonol mewn perthynas â’r argymhellion a wnaed yn dilyn yr archwiliad ym Mai, 2017 ac y gellir ei tynnu oddi ar y rhestr ysgolion sydd angen gwelliannau sylweddol. Mae rhagamcanion hefyd yn dangos y bydd niferoedd disgyblion yn Ysgol Henblas yn parhau yn gyson ar gyfer y 3 blynedd nesaf. O ganlyniad felly, mae’r Awdurdod yn teimlo ei fod wedi cael y sicrwydd angenrheidiol o ran gwella safonau yn Ysgol Henblas a’r sefydlogrwydd o ran niferoedd disgyblion. Argymhellir felly bod Ysgol Henblas yn cael ei thynnu o’r cynnig. 

 

Yn y drafodaeth ddilynol ar yr adroddiad yn y Pwyllgor, codwyd y materion canlynol

 

           Sut mae’r Achos Busnes Llawn yn bodloni’r materion a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.