Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac estynnodd groeso arbennig i Miss Awen G. Maple a oedd yn bresennol yn rhinwedd ei swydd fel Cynorthwyydd Talent Denu.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 269 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Mehefin, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 3 Mehefin, 2019 a chawsant eu cadarnhau fel cofnod cywir.

3.

Adroddiad Blynyddol Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol drafft am 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2018/19 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Cynhyrchir yr adroddiad yn unol â'r gofyniad statudol ac mae'n ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd am y perfformiad a'r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cyngor yn ogystal ag amlinellu'r blaenoriaethau gwella ar gyfer y flwyddyn i ddod.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth y Gwasanaethau Oedolion yr hoffai yn y lle cyntaf ddiolch i Dr Caroline Turner, ei ragflaenydd a oedd yn y swydd am y rhan fwyaf o 2018/19, am ei gwaith a'i chefnogaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Dywedodd y Swyddog ei bod yn braf gallu adrodd ar y cynnydd a wnaed ar draws y Gwasanaethau Plant ac Oedolion fel ei gilydd yn y pedwerydd Adroddiad Blynyddol y mae Ynys Môn wedi'i gyhoeddi o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Penllanw’r gwaith da yn y Gwasanaethau Plant oedd arolygiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru yn 2018 a ddangosodd fod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud cynnydd da ond bod yn rhaid iddynt barhau i gryfhau gwasanaethau ac arferion.

 

Dros y 12 mis diwethaf, bu nifer o ddatblygiadau o fewn y Gwasanaethau Plant y mae'r Gwasanaeth yn falch ohonynt, gan gynnwys y modd y cafodd yr holl waith ei danategu gan y Fframwaith Ansawdd Gwella Ymarfer a ddyluniwyd i lywodraethu ac arwain y gweithlu; llunio Strategaeth Ymgysylltu Teulu Môn yn ogystal â'r Gwasanaeth Camu Ymlaen sy'n anelu at gryfhau ymhellach deuluoedd nad oes angen cymorth statudol arnynt bellach ond sy'n parhau i fod angen arweiniad. Mae'r Cynnig Newydd i Ofalwyr Maeth a gyflogir gan y Cyngor wedi'i weithredu a gobeithir y bydd yn cynyddu gallu'r Cyngor i recriwtio gofalwyr maeth a'u cynorthwyo i gynnig y gefnogaeth orau i blant sy'n cael eu maethu.

 

Yn yr un modd, mae’r Gwasanaethau Oedolion wedi gallu gwneud cynnydd yn eu nod i gynorthwyo oedolion i aros yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain ac adlewyrchir hynny yn agoriad yr Uned Gofal Ychwanegol newydd, sef Hafan Cefni. Mewn partneriaeth â BIPBC, mae'r Gwasanaeth wedi llwyddo i gomisiynu darpariaeth gofal cartref newydd i breswylwyr gan ddarparwyr sy’n seiliedig ar ardaloedd penodol. Mae'r Gwasanaethau Cymorth Iechyd Meddwl wedi cryfhau eu ffocws ar helpu unigolion i wella eu llesiant trwy sesiynau iechyd a ffitrwydd grŵp a thrwy gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon ar eu taith at adferiad.

 

Wrth edrych ymlaen, er bod 2019/20 yn parhau i fod â heriau pellach i’r Gwasanaethau Oedolion a’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, ystyrir bod y ddau wasanaeth mewn sefyllfa dda i fynd i’r afael â nhw. Rhaid diolch yn arbennig i holl staff y Gwasanaethau Cymdeithasol am eu gwaith trwy gydol y flwyddyn a heb eu hymrwymiad a'u hymroddiad, ni fyddai'r cyflawniadau niferus y mae'r adroddiad blynyddol yn dyst iddynt wedi bod yn bosibl.

Wrth ystyried yr Adroddiad Blynyddol, roedd y Pwyllgor yn gytûn ei fod yn ei neges yn nodi llawer o lwyddiannau y gall y Cyngor gymryd sicrwydd ac anogaeth ohonynt.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Blynyddol 2018/19: Gwrando a Dysgu o Gwynion pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Trefn Gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol am 2018/19.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Blynyddol ar weithrediad Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion Statudol y Gwasanaethau Cymdeithasol am y cyfnod rhwng Ebrill, 2018 a diwedd Mawrth, 2018/19 i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

I grynhoi, roedd yr adroddiad yn dangos

 

           Y cofnodwyd cyfanswm o 212 o sylwadau cadarnhaol yn ystod y flwyddyn - rhoddwyd blas ohonynt yn yr adroddiad (68 ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a 144 ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion) - gostyngiad bychan o gymharu â’r cyfanswm o 232 yn 2017/18 ond yn uwch na'r 202 a dderbyniwyd yn 2016/17.

           Cofnodwyd cyfanswm o 59 o sylwadau / pryderon negyddol gan y Swyddog Cwynion yn ystod y flwyddyn - 49 ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd (i fyny o 32 yn y flwyddyn flaenorol) a 10 ar gyfer Gwasanaethau Oedolion (i lawr o 11 yn y flwyddyn flaenorol). Dylid edrych ar hyn yng nghyd-destun nifer gostyngol y cwynion swyddogol sy'n awgrymu bod mwy o bryderon yn cael eu datrys yn anffurfiol gan osgoi eu huwch-gyfeirio i Gam 1 y Weithdrefn Cwynion.

           Cofnodwyd cyfanswm o 44 o gwynion Cam 1 (51 yn 2017/18) sy’n rhannu’n 14 ar gyfer y Gwasanaethau Oedolion a 30 ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd) a chynhaliwyd 8 ymchwiliad Cam 2 (9 yn 2017/18) - 6 yn y Gwasanaethau Oedolion a 2 yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

           Mewn perthynas â pherfformiad o ran ymateb i gwynion Cam 1 o fewn yr amserlenni statudol, yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd cynigiwyd trafodaeth i 80% (24 allan o 30) o achwynwyr o fewn yr amserlen sydd ychydig yn is na'r 82% yn 2017/18 tra bod 57% (17 allan o 30) wedi derbyn ymateb ysgrifenedig o fewn yr amserlen sy'n gynnydd bychan o gymharu â’r 55% yn 2017/18. Yn achos y Gwasanaethau Oedolion, cynigiwyd trafodaeth i 92% (12 allan o 14) o achwynwyr o fewn yr amserlen sydd i fyny o 62% yn 2017/18 a derbyniodd 64% ymateb ysgrifenedig o fewn yr amserlen (9 allan o 14) sydd i fyny o 31% yn 2017/18.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol bod nifer y canmoliaethau a dderbyniwyd yn galonogol iawn ac yn adlewyrchu'r gwelliannau yn gyffredinol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol; fodd bynnag, ni fedrir diystyru'r ffaith y cafwyd sylwadau negyddol hefyd am rai agweddau ar wasanaethau ac y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn edrych ar y rhain ac yn dysgu ohonynt. Mae'r Swyddog Cwynion Dynodedig wedi sefydlu proses ar gyfer sicrhau yr ymatebir i gwynion mewn modd cyson ac amserol ac mae llawer o fuddsoddiad hefyd wedi'i wneud yng Ngham 1 y broses i ddatrys cwynion yn lleol.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Dros Dro y Gwasanaethau Cymdeithasol / Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion, er bod amseroedd ymateb wedi gwella yn enwedig yn y Gwasanaethau Oedolion, mae'r Gwasanaeth wedi gosod nod o sicrhau ymateb 100% o fewn yr amserlen ac y bydd yn gweithio tuag at  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.