Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod rhithwir hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac wedi hynny fe wnaed y cyflwyniadau ffurfiol.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb personol ond nad oeddent yn rhagfarnu gan y Cynghorwyr Richard Griffiths, Aled Morris Jones, Richard Owain Jones, Dylan Rees, Nicola Roberts, Alun Roberts a Robin Williams (nad yw'n aelod o'r Pwyllgor) mewn perthynas ag Eitem 3 ar y rhaglen ar sail gwaith gwirfoddol yr oeddent wedi'i wneud yn ystod cyfnod clo Covid-19.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 339 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2020.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 9 Mawrth, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

3.

Craffu ar Ymateb y Cyngor i'r Argyfwng Covid-19 (Gan gynnwys yr Effaith Ariannol) pdf eicon PDF 623 KB

·        Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr.

 

·        Cyflwyno adroddiad ar lafar gan y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtni Cyllid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Prif Weithredwr yn amlinellu ymateb y Cyngor hyd yma i'r pandemig Covid-19 yn unol â'i gyfrifoldebau o dan Ddeddf Argyfyngau Sifil Posib 2004 mewn perthynas â pharatoi ar gyfer argyfwng a chydlynu ymateb ar lefel leol.

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad trwy bwysleisio bod yr ymateb i'r pandemig yn dal i fynd rhagddo ac y gall y sefyllfa, ac ymateb y Cyngor iddi, newid yn gyflym iawn. Mae'n dal i fod yn gyfnod ansicr a heriol i bawb. Er bod y Cyngor wedi bod yn canolbwyntio'n bennaf ar ymateb i'r argyfwng Covid-19, yn ystod yr wythnosau diwethaf mae wedi bod yn gweithredu dull deuol er mwyn cynllunio ar gyfer yr adferiad ac ailagor gwasanaethau'n raddol, gan gofio bod y sefyllfa'n parhau i fod yn fregus a bod y normal newydd cryn bellter i ffwrdd.  Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y cydweithredu ardderchog a welwyd yn Ynys Môn rhwng staff yr holl wasanaethau, aelodau etholedig a phartneriaid y Cyngor yn y gymuned a hefyd yn ehangach ar lefelau rhanbarthol a chenedlaethol, a phwysleisiodd bwysigrwydd parhau i weithio fel tîm os am reoli a goresgyn y feirws Covid 19. Dywedodd ymhellach, at ddibenion craffu, fod yr adroddiad a gyflwynir heddiw yn canolbwyntio ar y meysydd allweddol canlynol:

 

-           effeithiolrwydd y strwythurau a'r trefniadau llywodraethu a'r prosesau mewnol ar gyfer rheoli'r argyfwng;

-           llwyddiant y trefniadau ar gyfer diogelu unigolion bregus (plant, pobl ifanc ac oedolion);

-           effaith y pandemig ar sefyllfa ariannol y Cyngor a'r mesurau lliniaru a sefydlwyd ar gyfer y tymor byr a'r tymor canol;

-           nodi gwersi a ddysgwyd er mwyn eu defnyddio i lywio ymateb y Cyngor i'r cyfnod adfer ar gyfer y normal newydd;

-           cynorthwyo gyda'r gwaith paratoi ar gyfer unrhyw ymchwydd dilynol

 

Wrth arwain y Pwyllgor trwy'r adroddiad yn fanylach, cyfeiriodd y Dirprwy Brif Weithredwr  at yr agweddau canlynol a chadarnhaodd fod holl flaenoriaethau a phenderfyniadau'r Cyngor trwy gydol y cyfnod wedi cael eu gyrru gan ystyriaethau diogelwch - sef diogelwch staff a'r gymuned; parhad busnes - yn enwedig gwasanaethau rheng flaen; a gwaith newydd - llawer ohono'n waith annisgwyl ond lle bu'n rhaid i'r Cyngor ymateb ac addasu ar unwaith.

 

           Trefniadau Llywodraethu - rhoddwyd trefniadau llywodraethu ar gyfer cynlluniau argyfwng ar waith yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol er mwyn arwain yr ymateb i'r pandemig. Ar lefel leol sefydlodd y Cyngor Dîm Rheoli Ymateb i'r Argyfwng (TRhYA) i arwain ymateb yr Awdurdod Lleol i Covid 19, a oedd yn cynnwys yr Arweinydd, y Dirprwy Arweinydd, yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth a'r Penaethiaid Gwasanaeth. Ar y cychwyn ‘roedd y TRhYA yn cyfarfod yn ddyddiol er mwyn cydlynu ymateb y Cyngor i'r pandemig. ‘Roedd elfen o sicrwydd wedi ei adeiladu i mewn i’r ymateb yar ffurf Adroddiadau Sefyllfa dyddiol a oedd yn cael eu paratoi er mwyn crynhoi'r materion a'r risgiau allweddol, a hynny fel y gellid llywio ac uwchgyfeirio materion yr oedd  angen rhoi sylw iddynt. Roedd ffrydiau gwaith y TRhYA yn canolbwyntio ar y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 994 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd blaenraglen waith y Pwyllgor i’w hystyried.

 

Penderfynwyd –

 

           Cytuno ar fersiwn gyfredol y flaenraglen waith ar gyfer 2020/21 yn amodol ar gynnwys lles gweithwyr y Cyngor a chymunedau'r Ynys, a monitro'r strategaeth Profi, Olrhain a Diogelu fel meysydd blaenoriaeth y dylid ailedrych arnynt yn y dyfodol.

           Nodi’r cynnydd hyd yma wrth weithredu'r flaenraglen waith hon.

 

GWEITHREDU: Rheolwr Sgriwtini i ddiweddaru’r flaenraglen waith yn unol â’r uchod.