Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod rhithwir hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrnhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gan gyfeirio at eitem 4 ar y rhaglen, dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod wedi gwasanaethu fel cyfarwyddwr ar Bartneriaeth Llangefni, y fenter gymdeithasol a fu'n gyfrifol am reoli a rhedeg cwrs Golff Llangefni am gyfnod. Eglurodd fod y Bartneriaeth wedi bod yn ymwneud â'r cwrs golff cyn iddi fod yn gyfarwyddwr.

2.

Adroddiad Cynnydd Gwelliannau Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 908 KB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Dros Dro Gwasanaethau Oedolion gan roi crynodeb o'r cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i'r Pwyllgor eu hystyried.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd ac Aelod Portffolio'r Gwasanaethau Cymdeithasol grynodeb o'r prif ddatblygiadau ers i'r Pwyllgor gael ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Medi, 2010 –

 

           Bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio o fewn y gyllideb ar hyn o bryd a bod Gwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd ar y trywydd iawn i gau'r flwyddyn ariannol ar sail hyn.

           Ym mis Medi, 2020 fel rhan o fenter genedlaethol Llywodraeth Cymru i gyflwyno cerdyn adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc ledled Cymru, dechreuodd y Gwasanaeth weithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a Gweithredu dros Blant i ddatblygu cerdyn adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc. Ers hynny mae'r gwaith hwn wedi datblygu fel y nodir yn yr adroddiad ac mae'r Gwasanaeth ar hyn o bryd yn gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol i ddatblygu dull unedig o ddylunio cerdyn adnabod Gofalwyr Ifanc Gogledd Cymru ar ffurf ddigidol, cerdyn ac arddwrn. Bydd y cerdyn adnabod yn cael ei lansio'n ffurfiol yr wythnos nesaf.

           Bod dau o'r Cartrefi Grŵp Bychan a sefydlwyd eisoes wedi cyrraedd eu capasiti llawn, bod gwaith yn mynd rhagddo ar y trydydd a bod cynnig wedi'i wneud ar bedwerydd eiddo gan ddefnyddio cyllid ICF i ddarparu llety i blant y mae'r Awdurdod yn gofalu amdanynt.

           Mae'r Gwasanaeth wedi sicrhau cyllid darpariaeth ICF i brynu byngalo ar wahân er mwyn cynnig gwasanaeth gofal dydd gwell i blant ag anghenion cymhleth. Mae eiddo wedi'i nodi ac rydym yn y broses o’i brynu.

           Mae dull "dim drws anghywir" yn cael ei ddatblygu wrth ymateb i les emosiynol ac anghenion iechyd meddwl plant a phobl ifanc sydd wedi cael eu hamlygu gan y pandemig. Mae hyn yn golygu na fydd teuluoedd, plant a phobl ifanc sy'n ceisio cymorth ar gyfer anghenion iechyd meddwl a lles emosiynol yn cael eu "taflu" o’r naill wasanaeth i’r llall neu'n cael gwybod eu bod yn curo ar y drws anghywir. Lluniwyd cynllun i ddatblygu'r dull hwn ymhellach.

           Comisiynwyd archwiliad annibynnol o Wasanaethau Cymdeithasol Oedolion a bydd yn adrodd ar ganfyddiadau i Banel Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol.

           Mae tri thîm Adnoddau Cymunedol yn Amlwch, Ysbyty Penrhos Stanley a Llanfairpwll bellach ar waith ac oherwydd cyfyngiadau Covid-19, maent yn cyfarfod yn rhithwir.

           Rhoddir diweddariad sefyllfa ar gyfer y ddau brosiect sy’n ceisio cyflawni'r Strategaeth Anabledd Dysgu Oedolion – mae'r rhain yn cynnwys gwasanaethau dydd allanol a'r ddarpariaeth fewnol. Oherwydd Covid 19 mae'r amserlen gomisiynu ar gyfer y ddarpariaeth a gomisiynir yn allanol wedi llithro.

           Mae'r pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar ddatblygiad y Rhaglen Rhannu Bywydau. Bydd y prosiect sy'n cael ei ariannu gan ICF yn parhau ond bydd yn cael ei ehangu i gefnogi pobl hŷn,

           Mae'r gwaith o ehangu'r hybiau cymunedol wedi'i ohirio yn ystod y pandemig. Mae elfennau o'r gwaith yn parhau’n rhithwir a cheir enghreifftiau yn yr  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Monitro Perfformiad: Sgorfwrdd Corfforaethol Chwarter 3 2020/21 pdf eicon PDF 890 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 3 2020/21 i'r Pwyllgor ei ystyried a'i graffu.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yr adroddiad oedd yn tynnu sylw at y ffaith bod Cymru, yn ystod Chwarter 3, mewn cyfnod atal byr cenedlaethol am 2 wythnos ar 23 Hydref 2020 a hefyd mewn cyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol (lefel 4) ar 19 Rhagfyr 2020; mae’r cyfyngiadau symud hyn wedi cael, ac yn parhau i gael effaith ar wasanaethau'r Cyngor. Fodd bynnag, mae'n galonogol nodi bod 88% o'r dangosyddion Perfformiad Iechyd Corfforaethol a gaiff eu monitro yn parhau i berfformio'n dda yn erbyn y targed a'u bod yn Wyrdd neu'n Felen gyda pherfformiad arbennig o dda o ran rheoli absenoldeb staff -  collwyd 4.69 diwrnod am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn yn y cyfnod yn erbyn targed o 6.91 diwrnod.  Mae’r holl ddangosyddion o dan yr is-bennawdsymud i wasanaethau digidolwedi perfformio’n well nag yn y blynyddoedd blaenorol yn ystod y pandemig. Ni ellir tanbrisio pwysigrwydd Cyfryngau Cymdeithasol i rannu gwybodaeth a cheisio dylanwadu’n gadarnhaol ar ymddygiadau yn ystod y pandemigmae sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor wedi gweld cynnydd o 8,500 o ddilynwyr o ddiwedd Chwarter 3 2019/20. Ar hyn o bryd mae 15 dangosydd Rheoli Perfformiad (33%) y mae'r gwaith o gasglu data ar eu cyfer naill ai wedi'i ganslo gan Lywodraeth Cymru neu ddim yn cael ei gasglu ar hyn o bryd gan fod adnoddau wedi’u hadleoli i ddelio â'r pandemigdarperir manylion y meysydd yr effeithir arnynt yn adran 4.2 o'r adroddiad. Ar gyfer y dangosyddion sy'n weddill a nodir yn Chwarter 3 (27 dangosydd), mae 74% yn perfformio'n uwch na'r targed neu o fewn 5% i’w targedau. Mae wyth dangosydd yn tanberfformio yn erbyn eu targedau ac fe'u hamlygir fel rhai Coch neu Ambr ar y cerdyn sgorio; mae'r rhain yn ymwneud â Gwarchod y Cyhoedd, Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, y Gwasanaeth Tai a'r Gwasanaeth Cynllunio. Ceir gwybodaeth esboniadol yn yr adroddiad ynghyd â mesurau lliniaru arfaethedig. Dylid nodi, fodd bynnag, fod adborth gan asiantau cynllunio lleol yn dangos mai Gwasanaeth Cynllunio Ynys Môn yw'r unig un yn y rhanbarth sy'n parhau ar hyn o bryd i ddarparu gwasanaeth mor agos i'r arfer â phosibl.

 

Cyfeiriodd Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid at rôl allweddol Gwasanaeth Cyfathrebu'r Cyngor yn ystod y pandemig ac eglurodd fod nifer o ffactorau wedi cyfrannu at y perfformiad gwell o ran rheoli absenoldeb staff e.e. mwy o ymwybyddiaeth o hylendid a chadw at fesurau oherwydd rheoliadau Covid-19 gan arwain at lai o "heintiau a firysau" fel y gwelwyd yn 2020/21 pan lwyddwyd bron iawn i ddileu ffliw. Dywedodd Rheolwr y Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod yr adroddiad yn cynnwys y cyfnod mwyaf ansefydlog gyda dau gyfnod o gyfyngiadau symud a niferoedd cynyddol  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cwrs Colff Llangefni pdf eicon PDF 5 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) ar yr opsiynau ar gyfer dyfodol Cwrs Golff Llangefni yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd adroddiad canlyniadau'r ymgynghoriad yn manylu ar y cyflwyniadau a dderbyniwyd ac roedd ymateb y Cyngor wedi'i atodi.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Prosiectau Mawr a Datblygu Economaidd wybodaeth gefndirol i Gwrs Golff Llangefni gan dynnu sylw at y ffaith bod y cyfleuster yn cael ei redeg ar golled o tua £28k y flwyddyn cyn iddo gau, y bu'n rhaid i’r Cyngor roi cymhorthdal ar ei gyfer. Ym mis Mai 2018 cymeradwyodd y Pwyllgor Gwaith mewn egwyddor y bwriad i werthu'r cwrs Golff ac ail-fuddsoddi’r elw yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur. Mae'r broses wedi cymryd amser ac fel gyda phob agwedd arall ar gymdeithas, mae Covid-29 wedi effeithio arni. Mae darpariaeth golff dda ar Ynys Môn ac mae'r llain ymarfer yn Llangefni a ail-agorodd ym mis Ionawr 2019 o dan Golf Môn yn boblogaidd a llwyddiannus iawn a bydd yn parhau ar agor.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd R.G. Parry, OBE, FRAgS, Aelod Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo at drosglwyddo rheolaeth a chyfrifoldeb am y cwrs golff ym mis Chwefror 2015 i Bartneriaeth Llangefni, menter gymdeithasol yn y dref. Penderfynodd y Bartneriaeth, ar ôl adolygu perfformiad ariannol y cyfleuster a chynnal astudiaeth ddichonoldeb annibynnol, nad oedd y cyfleuster yn hyfyw o safbwynt ariannol yn y tymor hir, felly trosglwyddwyd y cwrs yn ôl i'r Cyngor ac fe’i rhoddwyd o’r neilltu.

 

Cyfeiriodd Pennaeth Gwasanaeth Dros Dro (Rheoleiddio a Datblygu Economaidd) at y cyd-destun gan gadarnhau bod y Gwasanaeth, yn dilyn penderfyniad blaenorol y Pwyllgor Gwaith yn 2018 i gymeradwyo mewn egwyddor y bwriad i werthu'r cwrs Golff, wedi bod yn ystyried ei ddyfodol a ph’un ai a yw gwerthu'n briodol ai peidio. Mae nifer y chwaraewyr wedi gostwng ac mae'r costau rhedeg wedi mynd yn anghynaliadwy. Mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried effaith gwerthu caeau chwarae arfaethedig ar iechyd a lles cymuned leol, i ymgynghori â'r gymuned ac ymgyngoreion perthnasol ac i ystyried unrhyw sylwadau a wneir. Yn unol â hynny, cynhaliodd y Cyngor broses ymgynghori ffurfiol rhwng 12 Hydref, 2020 a 30 Tachwedd, 2020 a chynhaliwyd hyn yn unol â Rheoliad 5 o Reoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015.

 

Er mwyn paratoi ar gyfer yr ymgynghoriad cyhoeddus, cadarnhaodd y Rheolwr Datblygu Economaidd fod cyfreithwyr allanol wedi’u comisiynu i ddarparu canllawiau a chymorth i sicrhau cydymffurfiaeth lawn â Rheoliadau Caeau Chwarae 2015. Rhwng mis Hydref 2019 a mis Mawrth 2020, cwblhaodd Swyddogion yr holl hysbysiadau ffurfiol ar y safle a'r wasg, adroddiad ymgynghori cynhwysfawr a manwl, pob adroddiad ategol ac asesiad effaith yn ogystal â sicrhau bod yr holl lwyfannau TGCh mewnol yn cydymffurfio'n llawn.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Nicola Roberts a Dylan Rees fel Aelodau Lleol gan gydnabod ei bod yn sefyllfa anodd iddynt yn lleol gan nad oedd neb am weld colli ased, ond roeddent yn derbyn bod gostyngiad yn nifer y chwaraewyr yng Nghwrs Golff Llangefni  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 1019 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd blaenraglen waith y Pwyllgor hyd at Ebrill, 2021 i'w hystyried.

 

Penderfynwyd

 

           Cytuno ar y fersiwn gyfredol o'r flaenraglen waith ar gyfer 2020/21.

           Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r flaenraglen waith.