Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni (Y Graig a Talwrn) - Cyfarfod Rhithiol Arbennig (Ar hyn o bryd, nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Iau, 10fed Rhagfyr, 2020 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod rhithwir hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac estynnodd groeso arbennig i Mr Robat Idris Davies a oedd yn bresennol i gyflwyno sylwadau ar ran rhieni a disgyblion Ysgol Talwrn a chymuned ehangach yr ysgol. Gofynnwyd i Aelodau a Swyddogion gyflwyno eu hunain ac amlinellodd y Cadeirydd y broses yr oedd yn bwriadu ei dilyn mewn perthynas â’r busnes dan eitem 2 ar y rhaglen ac esboniodd y byddai’r Pwyllgor Gwaith yn ystyried argymhelliad y Pwyllgor Sgriwtini yn y cyfarfod heddiw yn ei gyfarfod ar 17 Rhagfyr 2020.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Derbyniwyd datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 2 ar y rhaglen fel aelod o gyrff llywodraethu Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Datganodd Mr Marc Jones, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu yn eitem 2 ar y rhaglen gan fod ei dad yng nghyfraith yn Gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Talwrn.

2.

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni : Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ynglŷn â’r rhaglen moderneiddio ysgolion mewn perthynas ag ardal Llangefni i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno’r ymatebion i’r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ym mis Chwefror/Mawrth 2020 ar Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig ac yn ceisio sylwadau’r Pwyllgor ar yr argymhelliad mai’r ffordd fwyaf priodol ymlaen, wedi ystyried yr holl ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad a’r asesiadau effaith oedd bwrw ymlaen â’r cynnig gwreiddiol sef cynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion o Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn”.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Ieuenctid a Diwylliant yr adroddiad gan wneud sylwadau cyffredinol am y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion sydd, yn yr achos hwn, yn golygu pwyso a mesur ac asesu dyfodol Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig a’r effaith y byddai hynny’n ei gael ar yr holl randdeiliaid, ac yn arbennig plant y ddwy ysgol. Pwysleisiodd y dylai buddiannau’r disgyblion fod ar flaen meddyliau’r holl gyfranwyr wrth iddynt ystyried y mater. Gall moderneiddio ysgolion fod yn fater cynhennus ac mae’n un o agweddau mwyaf heriol gwaith y Cyngor; gellir deall a gwerthfawrogi pryder rhieni ynglŷn â’r mater hwn. Mae’r rhaglen moderneiddio ysgolion yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol ysgolion dros y 50 mlynedd nesaf ar adeg pan maent yn wynebu pwysau oherwydd toriadau cyllidebol, costau cynnal a chadw beichus a chydymffurfio â gofynion y Cwricwlwm Newydd ac mae effaith Covid yn ffactor ychwanegol erbyn hyn. Mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried sut y gellir gwneud y gyfundrefn ysgolion yn fwy effeithiol o ran creu’r amodau i athrawon a disgyblion ffynnu a hefyd sut y gellir ei gwneud yn fwy effeithiol o ran gwneud y defnydd gorau o adnoddau a sicrhau fod pob ysgol yn derbyn cyfran deg o’r gyllideb. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at strategaethau’r Awdurdod sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Moderneiddio Ysgolion, fel y cânt eu nodi yn adran 2 yr adroddiad rhagarweiniol. Adroddodd fod swyddogion y Cyngor wedi cynnal ymgynghoriad statudol ar ddyfodol y ddwy ysgol dan sylw rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth 2020. Awdurdodwyd swyddogion i gynnal yr ymgynghoriad ar ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a’r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr 2020. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar y diwrnod ysgol olaf cyn y cyfnod clo cyntaf, o ganlyniad i’r pandemig byd eang a drawsnewidiodd y ddarpariaeth addysg am gyfnod. Dywedodd fod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Gangen Trefniadaeth Ysgolion a Derbyniadau Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi estyniad i’r Cyngor tan Fawrth 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig. Mae’r Cyngor wedi gweithredu’n unol â’r Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 drwy gydol cyfnod y pandemig.

 

Mae’r gyrwyr newid allweddol, fel y cânt eu nodi yn y Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2018 yn cynnwys gwella safonau addysgol; gwella arweinyddiaeth a rheolaeth; sicrhau bod adeiladau ysgol yn addas i’r diben; lleihau nifer y lleoedd gweigion; lleihau cost addysg yn gyffredinol a’r amrywiaeth yn y gost fesul disgybl;  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.