Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod a chyflwynodd y rhai a oedd yn bresennol eu hunain.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol ond nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 6 ar yr agenda gan ei fod yn gwirfoddoli gyda’r cynllun Bwyd Da Môn y cyfeirir ato yn yr adroddiad o dan eitem 6.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 392 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol yPwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021 a chadarnhawyd eu bod yn gywir yn amodol ar y canlynol –

Yn codi – Cynllun Trosiannol Eitem 5

Cynigiodd y Cynghorydd Gary Pritchard y dylid diwygio'r cofnodion i gynnwys cofnod o'r sylwadau a wnaed ar ddiwedd y drafodaeth ar yr eitem uchod ar bwnc Cartrefi Grŵp Bach y Cyngor (Cartrefi Clyd) a'u hailgyflwyno i'r cyfarfod nesaf.

Ar gais y Cadeirydd a ddywedodd ei fod yn credu bod yr holl faterion o bwys wedi'u cynnwys yn y cofnodion a'u bod yn unol â'r confensiwn o ran cofnodion eraill y Cyngor, dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth Dros Dro (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro y dylid ymdrin â'r mater mewn dwy ran sef cymeradwyo gweddill y cofnodion (ac eithrio'r gwelliant arfaethedig), ac ymdrin â’r mater o gywirdeb o ran diwygio’r cofnod ar gyfer y cyfarfod nesaf ar wahân; byddai hyn yn caniatáu i'r cyfarfod hwn symud ymlaen i'r busnes nesaf gyda'r cafeat hwnnw.

Ar sail yr uchod, penderfynwyd cymeradwyo gweddill cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 16 Tachwedd, 2021. 

 

3.

Gosod Cyllideb Refeniw 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses o osod Cyllideb 2022/23 ynghyd â'r prif faterion a’r cwestiynau ar gyfer y Pwyllgor Sgriwtini wrth werthuso cynigion cyllideb refeniw gychwynnol y Pwyllgor Gwaith. Roedd y dogfennau canlynol wedi'u hatodi i'r adroddiad -

3.1  Adroddiad manwl y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a'r Swyddog Adran 151 i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr, 2022 ar baratoi cyllideb ddigyfnewid 2022/23, y setliad dros dro ac ariannu'r bwlch yn y gyllideb.

Wrth gyflwyno'r adroddiad cyfeiriodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid at yr amserlen dynn ar gyfer datblygu'r gyllideb gychwynnol ers cyhoeddi setliad dros dro Llywodraeth Cymru ar 23 Rhagfyr, 2021 ac at y gwaith sylweddol yr oedd hyn wedi'i olygu yn y cefndir. Mae'r setliad dros dro ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yn dangos cynnydd o £456m yn lefel gyffredinol y cyllid ar gyfer Cymru sy'n cyfateb i gynnydd o 9.8% mewn termau arian parod sydd, o'i addasu ar gyfer grantiau a drosglwyddwyd, yn cyfateb i £437.4m sy'n gynnydd o 9.4%. Y cynnydd ar gyfer Ynys Môn o'i gymharu ag AEF 2021/22 wedi’i addasu yw £9.677m neu 9.23% ac fe'i croesewir yn fawr ar ôl blynyddoedd lawer o ostyngiad gwirioneddol mewn cyllid. Mae'n rhoi cyfle i'r Cyngor fynd i'r afael â rhai o'r risgiau a’r materion gwasanaeth sydd wedi codi yn ystod y cyfnod hwnnw ac i ail-fuddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen hanfodol ar ôl cyfnod hir o lymder a thoriadau gorfodol. Er gwaetha’r ffaith bod hwn yn setliad mwy hael, mae nifer o risgiau cyllidebol o hyd y mae angen eu cadw mewn cof wrth symud i flwyddyn ariannol 2022/23 ac mae'r rhain wedi'u cofnodi yn yr adroddiad. Fodd bynnag, efallai mai'r cynnydd arfaethedig o 2% yn y Dreth Gyngor yw’r cynnydd isaf yng Ngogledd Cymru ac mae'n debygol ei fod ymhlith y cynnydd isaf ledled Cymru.

Aeth Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ati i arwain y Pwyllgor drwy'r cynigion yn fanylach ac i dynnu sylw at y materion canlynol a'u goblygiadau ar gyfer cyllideb 2022/23 -

·         Y newidiadau mawr rhwng cyllideb derfynol 2021/22 a chyllideb gychwynnol 2022/23 y gwnaed darpariaeth ar eu cyfer yng nghyllideb refeniw ddrafft 2022/23. Mae'r rhain yn cynnwys chwyddiant cyflogau (staff addysgu a staff nad ydynt yn addysgu) a phwysau staffio eraill a chwyddiant heblaw am gyflogau. Ar hyn o bryd, nid yw'r dyfarniad cyflog staff nad yw'n addysgu sy'n weithredol o fis Ebrill, 2021 wedi'i gytuno eto gan greu ansicrwydd ychwanegol ynghylch cywirdeb y gyllideb gyflogau ac er bod y gyllideb cyflogau athrawon sy'n cael ei phennu ym mis Medi bob blwyddyn yn rhoi rhywfaint o sicrwydd am ran o 2022/23, mae ansicrwydd sylweddol ynghylch y dyfarniad cyflog o fis Medi ymlaen, 2022 ymlaen. Mae cynnydd o 1.25% yng nghyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cynyddu costau'r Cyngor tua £500k.  Gan ystyried yr holl agweddau hyn, amcangyfrifir y bydd y gyllideb cyflogau gyffredinol yn cynyddu £4.053m yn 2022/23.

·         Mae costau nad ydynt yn ymwneud â thâl  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Gosod Cyllideb Gyfalaf 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses o osod Cyllideb Gyfalaf 2022/23 ynghyd â'r prif faterion a’r cwestiynau ar gyfer y Pwyllgor Sgriwtini wrth werthuso cynigion cychwynnol cyllideb gyfalaf y Pwyllgor Gwaith. Roedd y dogfennau canlynol wedi'u hatodi i'r adroddiad

4.1 Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr, 2022 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb gyfalaf 2022/23 yn seiliedig ar egwyddorion y strategaeth gyfalaf, gan gynnwys sut y bydd y rhaglen gyfalaf yn cael ei chyllido ac unrhyw effaith ddilynol ar y balans cyffredinol a'r cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd.

Wrth gyflwyno'r adroddiad a'r rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 o £35.961m dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, y cynigir defnyddio swm o £1.681m o Falansau Cyffredinol i wneud iawn am ddiffyg mewn cyllid cyfalaf yn 2022/23 gan fod y Grant Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng £677k ar gyfer y flwyddyn nesaf o'i gymharu â'r cyllid a gafwyd yn 2021/22.

 

Aeth Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 ati i arwain y Pwyllgor yn fanylach drwy wahanol elfennau'r Rhaglen Gyfalaf gan gyfeirio at y canlynol

 

·         Egwyddorion y strategaeth gyfalaf sy'n helpu i bennu rhaglen gyfalaf y Cyngor ac a ddefnyddir yn sail i asesu ceisiadau newydd.

·         Yr arian a ragwelir sydd ar gael i ariannu'r rhaglen gyfalaf ar gyfer 2022/23 yn unol â Thabl 1 yr adroddiad (£35.961m i gynnwys £1.681m o Falansau Cyffredinol) sy'n tynnu sylw at y ffaith na fu fawr o gynnydd yn y dyraniad cyfalaf cyffredinol a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ers nifer o flynyddoedd a fydd, os bydd yn parhau ar ei lefel bresennol, yn cyfyngu ar yr hyn y gellir ei wneud i adnewyddu ac amnewid asedau presennol. Cynigir y dylid dyrannu'r symiau a nodir yn adran 4.2 o'r adroddiad ar gyfer y gwaith hwn yn 2022/23.

·         Bydd cynlluniau gwerth £1.322m na chânt eu cwblhau yn 2021/22 oherwydd nifer o resymau yn cael eu cario drosodd i 2022/23.

·         Prosiectau cyfalaf untro a argymhellwyd i’w hariannu yn 2022/23 yn unol â Thabl 3 yr adroddiad (£1.432m)

·         Prosiectau i'w hariannu o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, arian wrth gefn gan wasanaethau a benthyca heb gymorth yn unol â Thabl 4 yr adroddiad (£783k)

·    Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif y mae'r Cyngor wedi ymrwymo iddi oherwydd y swm sylweddol o gyllid gan Lywodraeth Cymru y bydd y cynlluniau'n ei ddenu a'r angen i foderneiddio'r ystâd ysgolion bresennol. Mae Rhaglen Gyfalaf 2022/23 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer cwblhau'r prosiect Band A terfynol (Ysgol Corn Hir newydd) a chychwyn prosiectau Band B (estyniad i Ysgol Y Graig) am gost o £8.598m (net o unrhyw dderbyniadau cyfalaf) yn 2022/23, y bydd £2.169m ohono yn cynnwys grant Llywodraeth Cymru, £1.168m o fenthyca â chymorth a £5.61m o fenthyca heb gymorth.

·    Y Cyfrif Refeniw Tai sydd wedi'i neilltuo i ariannu costau sy'n gysylltiedig â stoc tai'r Cyngor. Yn y rhaglen arfaethedig ar gyfer 2022/23 bydd £9.55m  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Panel Sgriwtini Cyllid - Diweddariad ar Gynnydd

Derbyn adroddiad ar lafar gan Gadeirydd y Panel.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts,  Cadeirydd Panel Sgriwtini Cyllid, ddiweddariad i’r Pwyllgor yn dilyn trafodaethau’r Panel yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ionawr, 2022 a thynnodd sylw at y pwyntiau canlynol

  • Derbyniodd y Panel gyflwyniad llafar manwl yn crynhoi'r gyllideb refeniw arfaethedig ddrafft ar gyfer 2022/23 yn seiliedig ar yr adroddiad i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr, 2022 (fel o dan eitem 3 uchod). Nododd y Panel y sefyllfa ariannu o ran y setliad a dderbyniwyd, prif newidiadau ac addasiadau'r gyllideb o 2021/22, pwysau cyllidebol gwasanaethau, a'r risgiau a'r heriau ariannol allweddol a allai effeithio ar gynlluniau ariannol y Cyngor ar gyfer 2022/23. Nododd y Panel hefyd y bwlch cyllido y cynigiwyd iddo gael ei bontio gan gynnydd o 2% yn y Dreth Gyngor. Ar ôl ystyried y rhain i gyd a'r ymatebion i faterion a godwyd yn y cyfarfod, penderfynodd y Panel gyflwyno'r gyllideb refeniw ddrafft gychwynnol o £158.365m ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol; y cynnydd arfaethedig o 2% yn y Dreth Gyngor ac y dylai'r Pwyllgor Gwaith geisio barn y cyhoedd ar gynnig cychwynnol y gyllideb a'r cynnydd yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2022/23.

·      Derbyniodd y Panel hefyd gyflwyniad llafar manwl yn crynhoi'r gyllideb gyfalaf arfaethedig ddrafft ar gyfer 2022/23 yn seiliedig ar yr adroddiad sydd i'w gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ar 24 Ionawr, 2022 (fel o dan eitem 4 uchod). Nododd y Panel y cynlluniau sy'n ffurfio'r rhaglen gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2022/23 gan gynnwys adnewyddu a/neu amnewid asedau presennol yn barhaus yn unol ag egwyddorion y Strategaeth Gyfalaf a phrosiectau untro ychwanegol yn ogystal â'r adnoddau sydd ar gael i ariannu'r rhaglen gyfalaf gan nodi. Nodwyd, oherwydd gostyngiad o £677,000 yn y Grant Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/33 cynigiwyd y dylid defnyddio £1.681m o'r Gronfa Gyffredinol i ariannu diffyg yn y gyllideb gyfalaf. Nodwyd ymhellach y bydd Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn parhau yn 2022/23 ac yn cael ei chefnogi'n rhannol gan gyllid Grant Llywodraeth Cymru a bod rhaglen gyfalaf CRT yn cynnwys gwaith sy’n dod i gyfanswm o £18.74m. Ar ôl ystyried y rhain i gyd a'r eglurhad pellach a roddwyd ar faterion a godwyd yn y cyfarfod, penderfynodd y Panel gyflwyno'r Gyllideb Gyfalaf arfaethedig ddrafft ar gyfer 2022/23 i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ei hystyried fel y'i cyflwynwyd.

Nododd y Pwyllgor argymhellion y Panel a diolch i’r Cynghorydd Dafydd Roberts am yr adborth.

 

6.

Strategaeth Dai Leol 2022-27 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys y Strategaeth Dai ar gyfer 2022 i 2027 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Cyflwynodd y Cynghorydd Alun Mummery, Aelod Portffolio Tai a Chefnogi Cymunedau yr adroddiad a'r Strategaeth a thynnodd sylw at ei nod strategol cyffredinol, i sicrhau bod gan bobl Ynys Môn le y gallent ei alw’n gartref, wedi eu grymuso a’u cefnogi i gyfrannu tuag at eu cymuned leol. Diolchodd i staff y Gwasanaeth Tai am y gwaith a oedd wedi'i wneud i ddrafftio'r strategaeth ac wrth ei chanmol dywedodd wrth y Pwyllgor ei bod yn ddogfen gadarnhaol.

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth (Strategaeth Dai, Comisiynu a Pholisi) fod y Strategaeth yn berthnasol i lawer o bobl ar Ynys Môn gan y bydd yn darparu tai fforddiadwy a fydd yn cynnwys llawer o wahanol ddeiliadaethau, llety a chymorth i grwpiau cleientiaid bregus a phenodol, pobl ifanc sy'n dymuno prynu eu cartref eu hunain, pobl y mae angen addasiadau arnynt oherwydd salwch a phobl mewn argyfwng sydd angen tai ar unwaith. Cyflawnir hyn drwy ganolbwyntio ar chwe thema allweddol a fydd yn darparu sail ar gyfer nodi beth yw'r problemau a sut y mae'r Strategaeth yn bwriadu mynd i'r afael â'r rhain yn y tymor byr, mewn un i ddwy flynedd a thymor canolig i hir yn ystod y Strategaeth. Mae'r Strategaeth wedi bod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Mae’r canlyniadau wedi'u cynnwys yn Atodiad 1 ac fe'i haddaswyd yn unol â hynny.

 

Ymatebodd y Swyddog i bwyntiau a chwestiynau a godwyd gan y Pwyllgor fel a ganlyn

 

·                O ran unrhyw faterion newydd a ddaeth i'r amlwg o'r ymgynghoriad, dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y Gwasanaeth wedi ceisio ymgynghori mor eang â phosibl ar y strategaeth a bod hyn wedi golygu gwneud nifer o gyflwyniadau. Yn ystod y flwyddyn ers i'r gwaith ddechrau ar y strategaeth ddrafft, mae pwysau ail gartrefi a'r farchnad eiddo wedi dod i'r amlwg ac adlewyrchir y pryderon hyn yn yr ymatebion i'r strategaeth gan aelodau'r cyhoedd. Efallai na fyddai wedi bod mor amlwg pe bai'r ymgynghoriad wedi'i gynnal ddwy flynedd yn ôl yn y cyfnod cyn Covid.

·                     A oedd y Gwasanaeth yn siomedig â'r ffaith mai dim ond 25 o ymatebion a ddenodd yr holiadur ar-lein sydd wedyn yn tueddu i ystumio'r canrannau, er ei fod wedi cael ei hyrwyddo'n rheolaidd drwy lwyfannau cyfryngau cymdeithasol y Cyngor drwy gydol y cyfnod ymgynghori chwe wythnos. Roedd y Pwyllgor am wybod beth y gellid ei wneud i wella'r ymateb i'r ymgynghoriad i'w wneud yn fwy ystyrlon. Dywedwyd wrth y Pwyllgor y gwnaed ymdrechion i gyrraedd cynifer o bobl â phosibl drwy gyfarfodydd Zoom ac roedd y cwestiynau ar yr holiadur yn glir, yn fyr ac yn hawdd eu deall. Er bod yr ymateb yn gyfyngedig yn gyffredinol, roedd yr ymatebwyr yn cynnwys trawstoriad o bobl/grwpiau ac roedd yn cynnwys aelodau o'r cyhoedd.

·                O ran sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ail Gartrefi i geisio atebion a fydd yn lliniaru'r effaith y mae ail gartrefi'n ei  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 617 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini oedd yn cynnwys diweddariad o Flaen Raglen Waith gan y Pwyllgor hyd at fis Mawrth, 2022 i’w hystyried.

Penderfynwyd

·         Cytuno ar y fersiwn gyfredol o'r flaen raglen waith ar gyfer 2021/22

·         Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r flaen raglen waith.