Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Rhithiol wedi'i Ffrydio'n Fyw, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 20fed Mehefin, 2022 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i gyfarfod cyntaf Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol y Weinyddiaeth newydd a chyflwynwyd y Swyddogion a'r Aelodau. Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Aled M. Jones, ei ragflaenydd yn y rôl am ei waith a’r Pwyllgor dros y pum mlynedd diwethaf.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 340 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol -

 

·         28 Chwefror, 2022

·         7 Mawrth, 2022

·         31 Mai, 2022

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol - 

·                28 Chwefror, 2022

·                7 Mawrth, 2022

·                31 Mai, 2022

Penderfynwyd -

·         Derbyn cofnodion cyfarfodydd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 28 Chwefror a 7 Mawrth, 2022.

·         Cymeradwyo cofnodion cyfarfod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 31 Mai, 2022.

 

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch4 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid gan gynnwys Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 blwyddyn ariannol 2021/22 er ystyriaeth a sylwadau’r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn cyflwyno sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel yr amlinellwyd ac y cytunwyd arnynt yn gynharach yn y flwyddyn.

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, a oedd yn Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yn ystod y cyfnod adrodd hwn, y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 4 sef y pedwerydd adroddiad cerdyn sgorio a’r un olaf ar gyfer blwyddyn ariannol 2021/22 a’r cyntaf o’r Weinyddiaeth newydd. Roedd yn falch o allu adrodd bod 90% o Ddangosyddion Perfformiad wedi’u cyrraedd neu’n agos at y targed, a thrwy edrych yn ôl ar y Cerdyn Sgorio dros y pum mlynedd diwethaf a sut mae’n adlewyrchu perfformiad y Cyngor, gallai gadarnhau bod perfformiad wedi gwella’n raddol yn ystod y cyfnod hwn er gwaethaf yr heriau yn sgil mesurau cyni a delio â'r pandemig. Mae enghreifftiau penodol o berfformiad da a welwyd yn ystod y flwyddyn wedi’u darparu yn yr adroddiad sy’n ymwneud â Gwasanaethau Oedolion, atal digartrefedd a nifer yr eiddo gwag sydd yn ôl mewn defnydd.

Wrth gydnabod tôn cadarnhaol yr adroddiad yn gyffredinol a pherfformiad cadarn y Cyngor a adlewyrchwyd ganddo, nododd y Pwyllgor hefyd y meysydd perfformiad canlynol oedd islaw’r targed a heriodd gan gydnabod y bydd y meysydd hyn yn debygol o ddylanwadu ar y dull gweithredu yn y flwyddyn i ddod –

 

·           Dangosydd 32 – Canran o wastraff sy'n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio yn Goch gyda pherfformiad o 62.39% yn erbyn targed lleol o 70% a tharged statudol cenedlaethol o 64% am y flwyddyn. Mae'r perfformiad hwn hefyd ychydig yn is na'r 62.96% a welwyd ar ddiwedd 2020/21.

 

Cadarnhaodd Rheolwr Busnes y Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo fod y perfformiad ar gyfer y dangosydd hwn wedi disgyn yn is na tharged statudol 2021/22 o 64% yn rhannol oherwydd cyflwyno gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd y telir amdano sydd wedi arwain at ostyngiad o 2,000 tunnell yn y gwastraff gwyrdd a gesglir a hefyd cynnydd mewn gwastraff bin du dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Rhagwelodd Swyddogion bryderon ynghylch cwrdd â thargedau interim a thymor hwy (70% erbyn 2024/25) dros 12 mis yn ôl ac am y rheswm hwn fe wahoddwyd WRAP Cymru (The Waste and Resources Action Programme) i gynorthwyo’r Cyngor gyda dadansoddi perfformiad gweithredol a gwneud argymhellion i gynorthwyo gyda chwrdd y targedau gofynnol. Mae WRAP Cymru yn ymweld â'r Ynys i gynnal asesiadau ymarferol yn ystod Ch1 a Ch2 2022/23 a disgwylir i ganlyniadau ei ddadansoddiad fod ar gael yn ystod Ch3 2022/23. Mewn ymateb i gwestiynau pellach am gosbau a/neu sancsiynau am beidio â chyflawni targedau ailgylchu statudol a’r rhan a chwaraewyd gan gynnydd mewn twristiaeth dros y ddwy flynedd ddiwethaf mewn cyfraddau ailgylchu/cyfraddau cynyddol o wastraff bin du, dywedodd y Swyddog, er ei fod yn bosibl i Lywodraeth Cymru osod cosbau am golli cyfraddau ailgylchu statudol mae’n ystyried y cynlluniau sydd gan  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Enwebu Aelodau Sgriwtini i Wasanaethu ar Fyrddau a Phanelau pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor) a’r Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro a'r Rheolwr Sgriwtini yn gwahodd y Pwyllgor i enwebu cynrychiolwyr o blith ei aelodau i wasanaethu ar Banel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol/Panel Rhiantu Corfforaethol; Cyflwynwyd y Panel Craffu Cyllid a'r Panel Craffu Addysg i'w hystyried. Roedd yr adroddiad yn manylu ar gwmpas, swyddogaeth a chylch gwaith pob panel ac yn nodi eu trefniadau adrodd.

Penderfynwyd enwebu’r aelodau canlynol i wasanaethau ar y Paneli fel y nodwyd uchod - 

·                  Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol/Panel Rhiantu Corfforaethol (4 aelod o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol)

 

Cynghorwyr Neville Evans, Jackie Lewis, Llio A. Owen ac Alwen Watkin

 

·                  Panel Sgriwtini Cyllid (3 aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol)

 

Cynghorwyr Geraint Bebb, Dyfed Wyn Jones, Dafydd Roberts

 

·                  Panel Sgriwtini Addysg (4 aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol)

 

Cynghorwyr Dyfed Wyn Jones, Keith Roberts, Alwen Watkin ac Arfon Wyn

 

5.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn nodi Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar gyfer 2022/23 i’w ystyried.

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at gyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Medi, 2022 a chadarnhaodd yr eitemau i’w hystyried yn y cyfarfod hwnnw. Mewn ymateb i gwestiynau am y broses ar gyfer amserlennu eitemau ar y rhaglen waith dywedodd fod hyn yn cael ei wneud yn unol â phroses gorfforaethol gyda'r nod o sicrhau aliniad strategol a chroesgyfeirio rhwng Blaen Raglenni Gwaith y Pwyllgor Gwaith a'r Pwyllgorau Sgriwtini i alluogi'r Pwyllgorau Sgriwtini i ystyried eitemau sydd o bwysigrwydd strategol i'r Cyngor cyn iddynt gael eu penderfynu gan y Pwyllgor Gwaith. Mae cyfarfodydd misol y Fforwm Cadeiryddion/Is-Gadeiryddion Sgriwtini hefyd yn rhoi cyfle i drafod y materion hynny.

 

Penderfynwyd –

 

·         Cytuno ar fersiwn gyfredol y Blaen Raglen Waith ar gyfer 2022/23.

·         Nodi'r cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r Flaen Raglen Waith.