Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor/Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 257 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgr Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 26 Medi, 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 26 Medi 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Tlodi ac Heriau'r Argyfwng Costau Byw pdf eicon PDF 956 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried a’i graffu, adroddiad y Prif Weithredwr yn amlinellu sut mae’r Cyngor yn ymateb i dlodi a heriau’r argyfwng costau byw cenedlaethol sy’n effeithio ar unigolion, teuluoedd, cymunedau, busnesau a chyrff eraill ar Ynys Môn. Roedd yr adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am argaeledd budd-daliadau a chymorth ariannol, y cynllun cinio ysgol am ddim a chynlluniau ataliol eraill.

Wrth osod y cyd-destun, dywedodd y Prif Weithredwr fod tlodi a heriau costau byw yn effeithio ar fywydau llawer o drigolion Ynys Môn erbyn hyn, gan gynnwys plant, ac mae’n cael effaith ar draws Cymru a rhannau eraill o’r Deyrnas Gyfunol hefyd. Mae prinder cyfleoedd gwaith o ansawdd, cyflogau digonol, dibyniaeth ar fudd-daliadau a chostau cynyddol oll yn cyfrannu at yr argyfwng. Mae cynnydd diweddar mewn chwyddiant, cyfraddau llog, morgeisi a chostau benthyg yn creu pwysau ychwanegol i unigolion, cymunedau, busnesau a sefydliadau. Mae’r ansicrwydd cyffredinol yn effeithio ar bawb, gan gynnwys y Cyngor, ac mae’n anodd darogan sut ac ymhle fydd mesurau pellach gan Lywodraeth y DU a Banc Lloegr yn effeithio ar bobl Ynys Môn. Er bod y newid diweddar ym mholisi Llywodraeth y DU, gan gynnwys y penderfyniad i beidio â pharhau â’r cynllun twf, wedi arwain at sefydlogrwydd ariannol i raddau, mae’r ansicrwydd yn parhau ar lawr gwlad. Dylai cyhoeddi cynllun economaidd newydd y Canghellor ar 31 Hydref, ochr yn ochr â rhagolwg gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, ddarparu mwy o eglurder mewn perthynas â chyflwyno unrhyw fesurau ychwanegol i frwydro yn erbyn yr argyfwng costau byw a’r sgil effeithiau ar gyllidebau Llywodraeth Cymru.

Sicrhaodd y Prif Weithredwr y byddai staff y Cyngor yn parhau i weithio’n galed yn y cyfamser i gefnogi trigolion Ynys Môn cystal ag y gallant. Er nad oes gwybodaeth gyfredol ar gael gan nad yw prosesau cenedlaethol ar gyfer casglu, dadansoddi ac adrodd ar ddata wedi eu hadfer yn llawn ers y pandemig Covid, dengys gwybodaeth a gasglwyd gan Gyngor Ar Bopeth mai’r pum prif fater yn gysylltiedig â’r argyfwng costau byw a welwyd yn lleol yn ystod y pum mis diwethaf yw taliadau annibyniaeth personol, capasiti ariannol, costau ynni, capasiti ariannol a digwyddiadau bywyd, a chynllun gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Mae’r Cyngor yn ymwybodol fod tlodi plant wedi cynyddu ar Ynys Môn rhwng 2015 a 2021, yn ôl ffigyrau a ddarparwyd gan y Gynghrair Dileu Tlodi Plant. Mae cynnydd mewn costau tanwydd yn taro ardaloedd gwledig yn galed iawn ac er bod nifer y bobl sy’n hawlio budd-daliadau diweithdra wedi gostwng o 4.7% i 3.2% ym mis Awst 2022, mae’r newyddion am ddiswyddiadau posib yn ffatri Alpoco yng Nghaergybi yn peri pryder. Mae’r Cyngor yn ceisio creu dadansoddiad mwy manwl a mwy cyfredol o ddangosyddion tlodi a chostau byw ond mae’n dasg heriol.

Er bod yr argyfwng wedi arwain at gynnydd yn y galw am nifer o wasanaethau sy’n gofyn am ddarparu ymyraethau a mesurau cymorth, ni welwyd yr un cynnydd mewn capasiti er mwyn delio â’r gwaith ychwanegol. Er gwaetha’r ansicrwydd a phwysau personol, mae ymrwymiad staff y Cyngor  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2021/22 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ar gyfer 2020/21 i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno. Mae’r adroddiad yn edrych yn ôl ar berfformiad y Cyngor yn 2021/22 ac mae’n nodi sut mae’r Cyngor wedi gwireddu disgwyliadau’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol a’r Cynllun Trosiannol. 

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, yr Aelod Portffolio ar gyfer Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, yr adroddiad a thynnodd sylw at rai o’r prif uchafbwyntiau o ran cynnydd yn erbyn y Cynllun Trosiannol a’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol a chanlyniadau’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer 2021/22.

Wrth ystyried yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol, trafododd y Pwyllgor y materion a ganlyn –

·                Gwersi i’w hystyried ar gyfer y Cynllun y Cyngor newydd yn sgil cwblhau’r prosiectau/amcanion yn y Cynllun Trosiannol a’r Ddogfen Gyflawni Flynyddol. Sicrhawyd y Pwyllgor fod arfer da yn cael ei nodi drwy adolygiadau gwasanaeth rheolaidd a’i fod yn cael ei raeadru i staff trwy’r fforwm rheolwyr ac, yn fwy diweddar, trwy’r rheolwyr busnes.

·                Heriau cynnal perfformiad da y Cyngor yn ystod y cyfnod anodd y mae disgwyl iddo ei wynebu. Hysbyswyd y Pwyllgor fod y Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol gyda bwlch posib o £18m yn y gyllideb yn ystod y cyfnod nesaf. Bydd y Cyngor yn gosod cyllideb gytbwys, yn unol â’r gofynion, ond bydd hynny’n heriol oherwydd yr ansicrwydd am y sefyllfa economaidd ar lefel genedlaethol a’r dyraniad cyllid y bydd Llywodraeth Cymru, ac yn sgil hynny, cynghorau Cymru’n ei dderbyn ac mae’n  debygol y bydd rhaid i’r Cyngor ganfod arbedion sylweddol. Ar hyn o bryd mae’r Cyngor yn ymgynghori ar y Cynllun y Cyngor newydd – Ein Dyfodol – ac mae’n rhaid i amcanion strategol y Cynllun ar gyfer ei gyfnod cychwynnol gydnabod yr hinsawdd y mae’r Cyngor yn gweithredu ynddi a’r cyfyngiadau y mae hynny’n ei greu. Gellir addasu ac ehangu’r amcanion hynny os a phryd fydd y sefyllfa economaidd yn gwella.

·                Yr angen i sicrhau ymateb mor eang â phosib i’r ymgynghoriad ar y Cynllun y Cyngor newydd fel bod amrediad o safbwyntiau gan bobl a sefydliadau yn llywio blaenoriaethau’r Cyngor yn ystod y bum mlynedd nesaf. Sicrhawyd y Pwyllgor fod yr ymgynghoriad, a lansiwyd ar 20 Medi 2022 ac sy’n cau ar 14 Tachwedd 2022, wedi derbyn cyhoeddusrwydd mewn sawl gwahanol ffordd, gan gynnwys sianelau cyfryngau cymdeithasol, radio lleol, cyflwyniadau a thrwy ddosbarthu copïau papur i lyfrgelloedd, canolfannau hamdden ac Oriel Môn.

·                I ba raddau mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn adlewyrchu gweithredoedd y Cyngor mewn perthynas â chynaliadwyedd amgylcheddol a gwarchod a gwella’r amgylchedd. Awgrymwyd y dylid rhoi mwy o sylw i faterion gwyrdd yn y Cynllun y Cyngor newydd ac, yn ogystal, y dylid cynnwys yr amgylchedd fel un o egwyddorion arweiniol sgriwtini o dan adran 3 yn y templed sgriwtini fel nodyn atgoffa parhaol i Aelodau pan fyddant yn craffu ar faterion. Hysbyswyd y Pwyllgor fod rhaid i’r Cynllun y Cyngor newydd gydbwyso’r amgylchedd a materion gwyrdd gyda materion cymdeithasol a chreu swyddi a chyfleoedd gwaith. Ar ôl mabwysiadu’r Cynllun gellir datblygu cerdyn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 203 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol wedi’i diweddaru ar gyfer 2022/23.

Penderfynwyd –

 

·         Cytuno ar fersiwn gyfredol y Flaen Raglen Waith ar gyfer 2022/23.

·         Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Flaen Raglen Waith.