Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor/Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 241 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Hydref, 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Hydref 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir, ar yr amod bod enw’r Cynghorydd Geraint Bebb yn cael ei ychwanegu at y rhestr o’r rhai a oedd yn bresennol.

 

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch2 2022/23 pdf eicon PDF 610 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 blwyddyn ariannol 2022/23, i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno.

Wrth gyflwyno’r adroddiad, tynnodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, sylw at nifer o straeon cadarnhaol mewn perthynas â pherfformiad Chwarter 2, fel y manylir yn yr adroddiad. Dywedodd fod y Dangosyddion Perfformiad Allweddol ar gyfer monitro perfformiad wedi’u halinio â thri amcan llesiant presennol y Cyngor a chadarnhaodd fod yr holl ddangosyddion yn gysylltiedig ag Amcan llesiant 1, lle mae’r cyngor yn sicrhau bod pobl Ynys Môn yn gallu ffynnu a chyflawni eu potensial tymor hir, yn wyrdd yn erbyn eu targedau perfformiad. Yn yr un modd, mae’r dangosyddion ar gyfer Amcan 2, lle mae’r Cyngor yn cefnogi oedolion a theuluoedd bregus er mwyn eu cadw’n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosib, hefyd yn perfformio’n dda yn erbyn eu targedau, gyda dim ond un o’r 16 dangosydd yn tanberfformio. Fodd bynnag, er bod perfformiad yn erbyn y targedau yn wyrdd neu’n felyn yn gyffredinol, mae tueddiad ar i lawr yn dechrau esblygu yn erbyn nifer o ddangosyddion perfformiad, yn enwedig mewn perthynas ag Amcan Llesiant 2. Cydnabyddir y bydd angen rhoi sylw penodol i’r dangosyddion hyn wrth i’r gaeaf agosáu, ynghyd â’r prosesau a’r ffrydiau gwaith cysylltiedig, yn neilltuol oherwydd yr heriau costau byw a chynnydd mewn tlodi bwyd a thanwydd mewn cymunedau. Mae perfformiad y dangosyddion sy’n monitro Amcan llesiant 3, lle mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â chymunedau i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi’n effeithiol â newid a datblygiadau tra’n gwarchod ein hamgylchedd naturiol, wedi bod yn dda hefyd gyda 70% ohonynt yn uwch na’r targed.

Wrth adolygu’r data perfformiad ar gyfer Chwarter 2, cododd y Pwyllgor y materion a ganlyn gyda Swyddogion ac Aelodau Portffolio –

·                Y duedd ar i lawr yn erbyn nifer o ddangosyddion perfformiad, yn arbennig mewn perthynas ag Amcan llesiant 2. Wrth geisio eglurhad pellach am y meysydd lle disgwylir yr heriau mwyaf, a’r camau sy’n cael eu cymryd i fynd i’r afael a/neu liniaru’r heriau hynny, nododd y Pwyllgor hefyd fod angen monitro’r meysydd y rhoddwyd statws Melyn iddynt er mwyn sicrhau nad yw eu perfformiad yn dirywio.

Derbyniodd y Pwyllgor sicrwydd gan Swyddogion fod perfformiad yn cael ei fonitro ar nifer o lefelau trwy’r Tîm Arweinyddiaeth Strategol, Penaethiaid Gwasanaeth a’r Gwasanaeth Trawsnewid, a hynny mewn sawl gwahanol ffordd. Mae’r Cyngor hefyd yn ystyried yr hyn sy’n digwydd mewn cyd-destun ehangach fel rhan o’i waith cynllunio strategol. Er bod dangosyddion perfformiad a thargedau’n cael eu gosod ar gyfer y flwyddyn, gellir cyflwyno mesurau lliniaru megis adnoddau ychwanegol, er enghraifft, lle nodwyd yr angen a lle byddai’n cynorthwyo i wella perfformiad.

Gan fod nifer o’r meysydd sydd yn Felyn yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei bod yn anodd rhagweld sut fydd dangosyddion perfformiad y Gwasanaeth yn perfformio yn ystod cyfnod y gaeaf gan fod nifer yr atgyfeiriadau’n  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cyfrifiad 2021 - Data Poblogaeth Ynys Môn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori gwybodaeth am ddemograffeg poblogaeth y Cyngor ar ôl rhyddhau cyfrifiad 2021.

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth, ei fod yn seiliedig ar set gyntaf data’r cyfrifiad a ryddhawyd ar 28 Mehefin, 2022; bydd data’r cyfrifiad a ryddheir yn y dyfodol yn cael ei arfarnu a bydd yr adroddiad yn cael ei ddiweddaru yn ôl y gofyn. Mae’r data a gyflwynwyd yn amlygu’r newidiadau ym mhoblogaeth Ynys Môn rhwng 1981 a 2021 o ran dwysedd y boblogaeth, nifer yr aelwydydd, y boblogaeth fesul oedran a newidiadau a gwahaniaethau rhanbarthol. Mae’r data’n werthfawr er mwyn cynorthwyo i deilwra a chynllunio gwasanaethau yn y dyfodol. Dengys y prif ystadegau ar gyfer Ynys Môn fod poblogaeth yr Ynys wedi gostwng ers y cyfrifiad diwethaf yn 2011; mae cyfran y boblogaeth 65 oed neu hŷn wedi cynyddu, yn ogystal â maint y boblogaeth sydd yn 85 oed neu’n hŷn, a rhagwelir y bydd yn parhau i gynyddu. Er bod cyfran y boblogaeth o dan 16 oed yn sefydlog ar hyn o bryd, gwelwyd gostyngiad ers 1981; adlewyrchir gostyngiad mwy amlwg ym maint y boblogaeth oedran gweithio, gyda gostyngiad o 4.2% o gymharu â ffigwr cyfrifiad 2011.

Wrth ystyried data’r cyfrifiad a’i oblygiadau mewn perthynas â darparu gwasanaethau, trafododd y Pwyllgor y canlynol –

·         I ba raddau y mae’r data’n dylanwadu ar strwythur a natur gwasanaethau’r Cyngor yn y tymor hir?

Hysbyswyd y Pwyllgor y bydd angen i’r Cyngor addasu ac ail-lunio ei gyllidebau er mwyn sicrhau fod cyllid ac adnoddau yn cael eu blaenoriaethu i gyd-fynd â’r meysydd hynny y bydd yr angen mwyaf amdanynt, yn unol â data’r cyfrifiad, e.e. poblogaeth hŷn sy’n cynyddu, yn ogystal ag ehangu ei ddarpariaeth o ran tai, cludiant a chefnogaeth gymunedol. Yr her yw cyflawni’r newidiadau hynny fesul cam i sicrhau nad yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd bresennol yn cael ei heffeithio gan benderfyniadau strategol tymor hir. Mae ymdrechion y Cyngor i dyfu economi Ynys Môn trwy ddenu buddsoddiad a chyflogaeth i’r Ynys yn hanfodol bwysig er mwyn gwrthsefyll y tueddiad tuag at boblogaeth sydd, ar y cyfan, yn heneiddio.

·         Sut fydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn defnyddio’r data i baratoi ar gyfer newidiadau demograffig?

Hysbyswyd y Pwyllgor mai’r cynnydd yn y boblogaeth dros 85 oed sy’n creu’r her fwyaf o ran y math o ddarpariaeth y bydd rhaid ei ddarparu, yn ogystal â sut y caiff ei darparu ac ym mhle. Mae’r Cyngor yn parhau i ddatblygu ac ehangu ei ddarpariaeth gofal ychwanegol, yn ogystal â darparu tai addas ar gyfer pobl hŷn sydd yn gallu addasu wrth i’w hanghenion newid. Mae’r nifer gynyddol o bobl hŷn â dementia lle mae darpariaeth gymunedol yn risg iddynt, ynghyd â diffyg cymorth gan deulu oherwydd bod y boblogaeth yn gynyddol ar wasgar, yn ffactorau y mae’n rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol ymdrin â nhw ac mae’n golygu nad  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Awdurdod Lleol Ynys Môn ar Arolwg Chwaraeon Ysgol - Chwaraeon Cymru pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Pennaeth Datblygu Economaidd a Rheoleiddio yn ymgorffori canfyddiadau arolwg chwaraeon ysgolion Chwaraeon Cymru. Mae’r adroddiad yn darparu gwybodaeth am ymateb Ynys Môn i’r arolwg o ran profiadau disgyblion ym maes chwaraeon ac mae’n cymharu data rhanbarthol a chenedlaethol.

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio ar gyfer Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth, grynodeb o’r adroddiad a oedd yn dangos fod ymatebion Ynys Môn yn uwch na’r cyfartaledd rhanbarthol a chenedlaethol o dan nifer o themâu, gan gynnwys amlder cyfranogiad mewn chwaraeon, aelodaeth o glybiau cymunedol neu chwaraeon a mwynhau Addysg Gorfforol a chwaraeon allgyrsiol.

Ystyriodd y Pwyllgor ganfyddiadau’r arolwg a chroesawodd ymateb cadarnhaol disgyblion Ynys Môn i’r arolwg a’u brwdfrydedd i gyfranogi. Trafododd y Pwyllgor y materion isod gyda’r Aelod Portffolio a’r Rheolwr Hamdden Masnachol a nododd fod yr arolwg yn darparu sylfaen dda ar gyfer datblygu yn dilyn y pandemig a chadarnhaodd hefyd fod y pandemig wedi codi ymwybyddiaeth o werth gweithgareddau chwaraeon a chyfranogi er mwyn cadw’n heini ac yn iach. Darparwyd sicrwydd ynghylch gweithgareddau presennol a gweithgareddau sydd ar y gweill i annog disgyblion i gymryd rhan mewn chwaraeon a chynyddu eu cyfranogiad:

·      Yr angen i adeiladu ar brofiadau disgyblion Ynys Môn ym maes chwaraeon er mwyn gwella’r ddarpariaeth chwaraeon ymhellach a chynyddu cyfranogiad.

·      Bod rhwystrau’n bodoli o ran ymateb i anghenion a dyheadau disgyblion, yn arbennig gan y byddai 94% o ddisgyblion Ynys Môn yn hoffi gwneud mwy o chwaraeon, gan gynnwys gweithgareddau chwaraeon nad ydynt wedi rhoi cynnig arnynt o’r blaen.

·      Yr angen i ganfod ffyrdd o gyrraedd y disgyblion hynny nad ydynt yn mwynhau cyfranogi mewn chwaraeon ac Addysg Gorfforol, yn ogystal â’r rhai hynny nad ydynt ond yn cyfranogi’n achlysurol.

·      Canfod ffyrdd o wella hyder pobl ifanc i ymgysylltu mewn cyfleoedd chwaraeon newydd.

·      Pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill. Cydnabuwyd mewnbwn yr Urdd ac awgrymwyd ymestyn y cydweithio i gynnwys Cymdeithas y Ffermwyr Ifanc.

Penderfynwyd nodi cynnwys yr adroddiad.

 

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei gadarnhau, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor a ddiweddarwyd ar gyfer 2022/23.

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini y bydd yr amserlen wirioneddol ar gyfer eitemau’n gysylltiedig â Chyllideb 2023/24, a amserlennwyd dros dro ar gyfer cyfarfod y Pwyllgor ar 19 Ionawr 2023, yn cael ei chadarnhau a’i bod yn ddibynnol ar amserlen Llywodraeth Cymru ar gyfer cyhoeddi setliad cychwynnol llywodraeth leol ar gyfer 2023/24.

Mewn ymateb i awgrym y dylid trefnu cyfarfod ychwanegol ym mis Ionawr oherwydd bod nifer o eitemau ar gyfer cyfarfod mis Ionawr, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai dyddiad ychwanegol yn cael ei drefnu i ystyried eitemau cyllideb 2023/24.

Penderfynwyd –

 

·         Cytuno ar fersiwn gyfredol y Flaen Raglen Waith ar gyfer 2022/23.

·         Nodi’r cynnydd hyd yma wrth weithredu’r Flaen Raglen Waith.