Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor/Yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 333 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiad a’r amseroedd a ganlyn  

 

·      19 Ionawr, 2023 (bore)

 

·      19 Ionawr, 2023 (prynhawn)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, a gynhaliwyd ar y dyddiadau a’r amseroedd a ganlyn, a chadarnhawyd eu bod yn gywir –

·         19 Ionawr 2023 (cyfarfod bore)

·         19 Ionawr 2023 (cyfarfod prynhawn)

 

3.

Sefydlu Cyllideb 2023/24 - Cynigion Drafft Terfynol y Gyllideb Refeniw pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses o osod Cyllideb 2023/24 ynghyd â materion a chwestiynau allweddol ar gyfer Sgriwtini wrth i’r Pwyllgor arfarnu cynigion terfynol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y gyllideb refeniw. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) /Swyddog Adran 151, a fydd gerbron y Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023, ynghlwm yn Atodiad 1, ac roedd yn amlinellu cynigion manwl y gyllideb refeniw ar gyfer 2023/24 er mwyn eu hadolygu a chytuno’n derfynol arnynt cyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar 9 Mawrth.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a dywedodd ei fod yn ddilyniant i gynigion cychwynnol drafft y gyllideb refeniw a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ar 19 Ionawr ac mae’n cynnwys cyllideb arfaethedig o £172.438m ar gyfer 2023/24. Roedd y Cyllid Allanol Cyfun dros dro o £123.555m yn golygu bod angen cynnydd o 5% yn y Dreth Gyngor ynghyd â defnyddio £1.758m o falansau cyffredinol y Cyngor i gydbwyso’r gyllideb. Mae’r Cyngor yn wynebu nifer o risgiau oherwydd chwyddiant, costau ynni uchel, cytundebau tâl, y galw am wasanaethau a gostyngiad posib yn yr incwm a gynhyrchir trwy godi ffioedd am wasanaethau megis hamdden, cynllunio a pharcio wrth i’r argyfwng costau byw barhau i effeithio ar aelwydydd. Derbyniodd yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ar amcanion strategol y Cyngor ymateb cadarnhaol i’r bwriad i gyfuno cynnydd yn y Dreth Gyngor, rhoi arbedion ar waith a defnyddio cronfeydd y Cyngor er mwyn llunio cyllideb gytbwys ac roedd y Pwyllgor Sgriwtini’n cefnogi’r dull hwn hefyd. Heblaw am y newidiadau a amlinellir yn yr adroddiad o dan adran 4, a’r mân addasiadau i’r gyllideb sy’n deillio ohonynt, mae’r un newid sylweddol sy’n effeithio ar y gyllideb ers cyflwyno’r cynigion cychwynnol drafft yn codi yn sgil y cyhoeddiad ddiwedd yr wythnos ddiwethaf am y cynnig tâl cychwynnol ar gyfer 2023/24 i staff y Cyngor, ac eithrio athrawon, sydd gyfystyr â chodiad cyfartalog o thua 7%; cyflwynwyd hyn gan y cyflogwr fel “cynnig llawn a therfynol”. Gan fod cyllideb ddrafft 2023/24 yn caniatáu ar gyfer codiad cyflog o 3.5%, rhydd hyn bwysau ychwanegol o £2m ar y gyllideb. Mae’r Pwyllgor Gwaith wedi ystyried sut y gellir ariannu’r gost ychwanegol ac mae’n cynnig defnyddio cronfeydd wrth gefn i wneud hynny gan na fyddai’n realistig canfod gwerth £2m o arbedion heb eu cynllunio mor hwyr â hyn yn y broses ac ni fyddai cynnydd uwch yn y Dreth Gyngor yn dderbyniol yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Er iddo amlygu pwysigrwydd sicrhau fod cronfeydd digonol ar gael i gwrdd â chostau ychwanegol tebyg i hyn, pwysleisiodd yr Aelod Portffolio na ddylid, serch hynny, ddefnyddio cronfeydd ar hap; dylid edrych arno fel arian sy’n cael ei roi o’r neilltu i’w ddefnyddio i ddelio gyda digwyddiadau annisgwyl a/neu argyfyngau. Oherwydd i’r Cyngor fod yn ddarbodus wrth reoli ei gyllid yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r cronfeydd wrth gefn wedi cynyddu ac mae’r adnoddau hynny ar gael yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Sefydlu Cyllideb 2023/24 - Cynigion Drafft Terfynol y Gyllideb Gyfalaf pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn amlinellu cyd-destun y broses ar gyfer gosod Cyllideb Gyfalaf 2023/24, gan gynnwys rôl allweddol Strategaeth Gyfalaf y Cyngor gan fod ei hegwyddorion yn sail i raglen gyfalaf y Cyngor. Roedd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151, fydd gerbron y Pwyllgor Gwaith ar 2 Mawrth 2023, ynghlwm yn Atodiad 1 ac roedd yn nodi’r cynigion drafft terfynol ar gyfer cyllideb 2023/24 i’w cymeradwyo i’r Cyngor Llawn ar 9 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, fod gwneud buddsoddiadau cyfalaf yn dod yn fwyfwy anos gan na welwyd fawr o gynnydd yn yr adnoddau i gefnogi gwariant cyfalaf, a Chyllid Cyfalaf Cyffredinol gan Lywodraeth Cymru yn benodol, ers nifer o flynyddoedd ac mae gwerth y cyllid wedi erydu’n sylweddol yn ystod y deuddeg mis diwethaf oherwydd chwyddiant. Mae’r Pwyllgor Gwaith yn argymell cyllideb gyfalaf o £37.962m ar gyfer 2023/24 sydd yn cynnwys cynlluniau a ddygwyd ymlaen o 2022/23; adnewyddu a/neu amnewid asedau; prosiectau cyfalaf untro newydd; rhaglen ysgolion yr 21ain ganrif a’r Cyfrif Refeniw Tai (CRT), a bydd yn cael ei hariannu gan y Grant Cyfalaf Cyffredinol, Benthyca â Chymorth a Derbyniadau Cyfalaf, ac, yn achos y CRT, cronfa’r CRT.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 fod grantiau ychwanegol yn debygol o gael eu derbyn yn ystod y flwyddyn a byddant yn cael eu hymgorffori yn y gyllideb gyfalaf. At ei gilydd, ni welwyd fawr o newid yng nghyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol a benthyca â chymorth, ers nifer o flynyddoedd ac mae cyllid grant ychwanegol yn elfen gynyddol bwysig o gyllid cyfalaf. Mae’r posibilrwydd o ddefnyddio derbyniadau cyfalaf yn gyfyngedig iawn gan fod unrhyw asedau nas gwerthwyd wedi’u clustnodi’n barod ar gyfer cynlluniau presennol. Mae’r Cyngor felly’n gynyddol ddibynnol ar grantiau cyfalaf ychwanegol yn ystod y flwyddyn i ariannu unrhyw fuddsoddiadau tu hwnt i gynnal ei asedau presennol. 

Wrth ystyried y cynigion ar gyfer y gyllideb gyfalaf, codwyd y materion a ganlyn gan y Pwyllgor –

·                P’un ai yw cynigion y gyllideb gyfalaf ar gyfer 2023/24 yn caniatáu i’r Cyngor gyflawni ei flaenoriaethau tymor canol wrth gydbwyso pwysau yn y tymor byr, a ph’un ai yw egwyddorion Strategaeth Gyfalaf y Cyngor yn caniatáu i’r Cyngor gyflawni ei amcanion corfforaethol.

Hysbyswyd y Pwyllgor bod y cyllid cyfalaf craidd gan Lywodraeth Cymru bellach ond yn ddigonol i gwrdd â chostau atgyweirio ac adnewyddu asedau presennol y Cyngor a dibynnir ar arian grant ar gyfer unrhyw fuddsoddiadau newydd. Mae sefyllfa’r Cyfrif Refeniw Tai yn wahanol gan fod lefelau cronfeydd y CRT, sy’n cael eu defnyddio i ariannu tai newydd, yn iach. Bydd y CRT yn benthyca ar ôl i’w gronfeydd wrth gefn ostwng i’r isafswm a osodwyd yng Nghynllun Busnes y CRT er mwyn parhau â’r gwaith datblygu hwnnw; mae’r CRT yn cynhyrchu digon o refeniw o incwm rhent i gwrdd â chostau benthyca yn y dyfodol. Felly, mae sefyllfa’r CRT yn golygu fod mwy o  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid

Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid i adrodd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Pwyllgor Sgriwtini Cyllid, adroddiad ar ganlyniad cyfarfod y Panel a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2023, a chyfeirir at y sylwadau yn y naratif ar eitemau 3 a 4 uchod.

 

6.

Cynllun y Cyngor 2023-28 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori Cynllun y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2023 i 2028 i’r Pwyllgor ei ystyried.

Cyflwynwyd Cynllun y Cyngor gan y Cynghorydd Robin Williams, Aelod Portffolio Cyllid, Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a dywedodd ei fod yn benllanw 12 mis o waith paratoi, gan gynnwys ymgynghori’n helaeth â staff y Cyngor, aelodau etholedig a thrigolion Ynys Môn ynghylch amcanion strategol y Cyngor ar gyfer y pum mlynedd nesaf. Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio at y modd y cynhaliwyd yr ymgynghoriad a’i ganlyniadau a rhoddwyd sylw i’r materion hynny yn yr adroddiad Datblygu Amcanion Strategol y Cyngor 2023-28 a fu gerbron y Pwyllgor hwn ar 19 Ionawr 2023. O ganlyniad i’r gwaith hwn ac ystyriaethau blaenorol, mae’r Cynllun y Cyngor drafft yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac mae’n cynnwys yr amcanion llesiant corfforaethol yn ogystal â’r amcanion strategol a ffrydiau gwaith cysylltiedig.

Er gwaethaf yr amgylchiadau heriol presennol, dywedodd y Prif Weithredwr fod cyfrifoldeb ar y Cyngor i gynllunio dyfodol mwy llewyrchus ar gyfer trigolion Ynys Môn ac i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd a gyflwynir iddo. Mae Cynllun y Cyngor felly’n ceisio creu uchelgais wrth fod yn realistig am yr hyn y gellir ei gyflawni yn ystod y pum mlynedd nesaf, a hynny ar sail data gwirioneddol a chan ystyried yr adnoddau sydd ar gael. Mae’n nodi cyfrifoldebau statudol y Cyngor yn ogystal â’r canlyniadau y mae’r Cyngor yn dymuno eu cyflawni ar ran pobl a chymunedau Ynys Môn er mwyn creu gwell dyfodol. Bydd dogfen gyflawni flynyddol yn cael ei chreu a fydd yn adrodd yn ffurfiol ar gynnydd, llwyddiant a chanlyniadau. Yn amodol ar gefnogaeth y Pwyllgor Gwaith a chymeradwyaeth y Cyngor Sir, bydd fersiwn derfynol o Gynllun y Cyngor yn cael ei gyhoeddi a bydd ei gynnwys yn cael ei ddefnyddio a’i hyrwyddo’n helaeth. Diolchodd y Prif Weithredwr i bawb a fu’n rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun, yn ogystal â’r rhai hynny a gyfrannodd yn ystod y broses.

Wrth drafod y Cynllun, cododd y Pwyllgor gwestiynau am yr heriau sy’n gysylltiedig â’i wireddu’n llwyddiannus; i ba raddau y mae’n rhoi sylw i’r dyletswyddau statudol; rôl partneriaid ac aliniad y Cynllun â disgwyliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Holodd y Pwyllgor hefyd beth yw’r trefniadau ar gyfer adrodd a monitro cynnydd a sut mae ymateb y cyhoedd wedi dylanwadu ar y Cynllun. Mewn ymateb, dywedodd Swyddogion a’r Aelod Portffolio –

 

·                Bod y Cynllun yn ffrwyth ymgynghori helaeth ac mae’n ceisio rhoi sylw i ddyletswyddau statudol y Cyngor a’r hyn y mae’n dymuno ei wneud; cwblhawyd ymarfer i adnabod yr holl ddeddfwriaeth berthnasol ar ddechrau’r gwaith datblygu i sicrhau fod y Cynllun yn rhoi sylw i’r holl ddyletswyddau statudol. Mae’r Cynllun, fodd bynnag, yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnod o ansicrwydd ac efallai y bydd rhaid ei addasu i ymateb i heriau a/neu gyfleoedd wrth i gyfnod y Cynllun fynd rhagddo. Ystyrir bod y Cynllun yn ddogfen gadarn a ni ddylai’r cyfeiriad y mae’n ei osod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at ddiwedd Ebrill, 2023 i’w ystyried a’i adolygu.

Gofynnwyd a fyddai’n bosib symud yr unig eitem a raglenwyd i’w hystyried yn y cyfarfod ym mis Ebrill i gyfarfod mis Mawrth a rhaglennu rhai o’r eitemau sy’n weddill ar gyfer y cyfarfod ym mis Ebrill.

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini y byddai’n codi’r mater gyda’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac yn trafod â’r Cadeirydd.

Penderfynwyd –

·      Cytuno ar fersiwn gyfredol y flaen raglen waith ar gyfer 2022/23.

·      Nodi cynnydd hyd yma wrth weithredu’r flaen raglen waith.