Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod rhithwir hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini ac estynnodd groeso arbennig i Mr John Tierney a oedd yn bresennol am y tro cyntaf fel cynrychiolydd yr Eglwys Gatholig.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Llio Angharad Owen ddiddordeb personol nad oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 4, oherwydd natur ei chyflogaeth.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 248 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 20 Mehefin, 2022.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 20 Mehefin 2022 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch1 2022/23 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD), yn ymgorffori’r Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 1 blwyddyn ariannol 2022/23, i’r Pwyllgor ei ystyried a chyflwyno sylwadau arno.

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Prif Weithredwr fod adroddiad monitro’r cerdyn sgorio’n cael ei ddefnyddio i fonitro perfformiad y dangosyddion perfformiad allweddol a nodwyd gan y Cyngor – cyfuniad o ddangosyddion a osodwyd yn lleol ac yn genedlaethol – wrth iddo gyflawni ei weithgareddau o ddydd i ddydd. Mae’n darparu gwybodaeth i alluogi’r Cyngor reoli perfformiad yn rhagweithiol ac mae’n darparu’r wybodaeth sydd ei hangen arno i wneud newidiadau ac i roi gweithredoedd lliniaru ar waith y mae’r Tîm Arweinyddiaeth wedi cytuno arnynt er mwyn gyrru a sicrhau gwelliannau yn y dyfodol. Mae’r Dangosyddion Perfformiad Allweddol wedi’u halinio â thri amcan llesiant presennol y Cyngor, fel y’u nodir yn yr adroddiad, a byddant yn cael eu datblygu a’u halinio â’r Cynllun y Cyngor newydd ar gyfer y cyfnod rhwng 2023 a 2028 pan gaiff ei fabwysiadu yn ddiweddarach eleni. Mae’r canlyniadau yn y cerdyn sgorio yn rhai cronnol, gan olygu y bydd y golofn tueddiadau’n rhoi gwybodaeth am dueddiadau perfformiad o chwarter i chwarter, gan gychwyn yn Chwarter 2.

 

Wrth ddweud fod y cerdyn sgorio yn adlewyrchu darlun cadarnhaol ar y cyfan, nododd y Prif Weithredwr y gellir gwella perfformiad ymhellach mewn rhai meysydd a bod rhaid i’r gwelliannau hynny ddigwydd mewn hinsawdd o ansicrwydd, lle mae’r galw am rai meysydd gwasanaeth yn cynyddu er nad yw capasiti ac adnoddau yn cynyddu. Mae adran rheolaeth ariannol yr adroddiad yn nodi’r risgiau a’r heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor a byddant yn cael eu monitro’n ofalus wrth i’r flwyddyn fynd rhagddi. Mae’r adroddiad hefyd yn amlygu meysydd lle gwelwyd perfformiad cadarnhaol, gan gynnwys nifer yr ymweliadau â chanolfannau hamdden; nifer y tai gwag sydd wedi dod yn ôl i ddefnydd; y dangosyddion digartrefedd; tri o’r pedwar targed rheoli gwastraff yn perfformio’n well na’r targed; pob un o ddangosyddion y Gwasanaethau Oedolion yn perfformio’n well na’r targed ar gyfer y chwarter a gwelliant parhaus yng nghyflwr lonydd dosbarth A, B ac C yr Ynys. Bydd y Cyngor yn parhau i fod yn effro i risgiau a/neu feysydd lle gellir gwella perfformiad ac yn eu monitro, er enghraifft, nifer yr asesiadau plant a gwblhawyd ar amser. Serch hynny, mae’r cerdyn sgorio ar gyfer Chwarter 1 yn rhoi sicrwydd fod gweithgareddau o ddydd i ddydd y Cyngor wrth reoli ei bobl, ei gyllid a’i wasanaethau cwsmer yn cyflawni yn erbyn eu disgwyliadau i safon briodol.

 

Ymatebodd y Swyddogion a’r Aelodau Portffolio i’r pwyntiau a godwyd gan y Pwyllgor a nodwyd y canlynol -

 

·      Cydnabuwyd y gallai cynnal perfformiad cadarnhaol ar y lefel hon fod yn anodd yn ystod cyfnod o heriau ac ansicrwydd cynyddol, yn arbennig yn sgil cynnydd yn y galw am wasanaethau’r Cyngor wrth i fwy o bobl wynebu pwysau ar gostau byw. Mae unigolion yn ogystal â phlant a theuluoedd nad oeddent efallai angen mynediad i wasanaethau’r Cyngor cyn hyn yn troi at y Cyngor am  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Monitro Cynnydd:Adroddiad Cynnydd Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 639 KB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn nodi cynnydd a datblygiadau hyd yma yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac yn y Gwasanaethau Oedolion. Roedd yr adroddiad yn nodi hefyd y gwaith a gyflawnwyd gan y Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol yn ystod Chwarter 1 2022/23, gan gynnwys crynodeb o’r materion a ystyriwyd yn y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf a 12 Medi 2022.

Wrth gyflwyno’r adroddiad, dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gwaith o ddatblygu gwasanaethau’n parhau ochr yn ochr â chyflawni cyfrifoldebau statudol o ddydd i ddydd. Cyfeiriodd at rai o’r mentrau sy’n cael eu datblygu ac sy’n mynd rhagddynt ar hyn o bryd, fel a ganlyn -

·                Llwyddwyd i benodi i’r swydd newydd, Rheolwr Gwasanaeth – Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal, Gwasanaethau Ieuenctid a Llesiant Pobl Ifanc, ac mae’r swydd yn pontio’r Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaeth Dysgu. Bydd y rôl hefyd yn cynnwys gwireddu’r weledigaeth i fod yn Ynys sy’n Wybodus o Drawma, gan gwmpasu ysgolion, y Blynyddoedd Cynnar, y Gwasanaethau Ieuenctid, y Gwasanaeth Maethu a’r Timau Gwaith Cymdeithasol.

·                Rhoi dull integredig ar waith – y Model Ysgolion Rhithwir – er mwyn gwella canlyniadau addysgol plant sy’n derbyn gofal yn unol ag argymhellion adolygiad Syr Alasdair Macdonald o ffyrdd o wella canlyniadau addysgol plant sy’n derbyn gofal trwy roi dull integredig ar waith ar draws Cymru.

·                Ymestyn Rhaglen Blynyddoedd Cynnar Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru i gynnwys 49 o blant ychwanegol ar Ynys Môn yn ystod 2022/23 fel rhan o’r cam cyntaf. Bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio’n agos â darparwyr gofal plant a rhieni/gofalwyr yn yr ardal Dechrau’n Deg newydd.

·                Cyflawni targed Maethu Cymru Môn ar gyfer recriwtio teuluoedd maeth yn ystod 2021/22 tra’n canolbwyntio ymdrechion ar gadw gofalwyr maeth hefyd, sydd i’w weld yn gwella, gan olygu bod nifer y Teuluoedd Maeth a gymeradwywyd ac a gofrestrwyd gyda’r Cyngor yn cynyddu’n raddol.

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion drosolwg o weithgareddau yn y Gwasanaethau Oedolion yn ystod y cyfnod ers y diweddariad diwethaf, gan gynnwys –

·                Penodi Rheolwr Trawsnewid a Datblygu i weithio ar nifer o brosiectau, gan gynnwys y Rhaglen Anableddau Dysgu.

·                Cwblhau adolygiad Archwilio Mewnol cadarnhaol ar Daliadau Uniongyrchol.

·                Datblygu ystod o weithgareddau cymunedol yng Nghaergybi gan weithio ochr yn ochr â Boston Centre Stage.

·                Rhoi trefniadau cronfeydd cyfun ar waith gyda BIPBC i gefnogi pecynnau gofal ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.

·                Sefydlu Canolfan Dementia sy’n cynnig gwasanaethau dementia pwrpasol ar gyfer unigolion a gofalwyr.

·                Uno gwasanaeth Un Pwynt Cyswllt y Gwasanaethau Oedolion a Theulu Môn er mwyn ffurfio un pwynt mynediad, neu ddrws ffrynt, integredig.

·                Cynyddu ymdrechion i recriwtio gweithwyr gofal cartref a chartrefi gofal gydag ymgyrch hysbysebu ar gerbydau’r Cyngor er mwyn hyrwyddo gyrfa mewn Gofal Cymdeithasol.

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad fel tystiolaeth o gynnydd a wnaed a thynnodd sylw at nifer o agweddau i’w canmol yn neilltuol, ac yn arbennig llwyddiant yr ymgyrch i recriwtio Gofalwyr Maeth, y fenter cronfeydd cyfun gyda’r Bwrdd Iechyd a’r dull creadigol a dyfeisgar o fynd i’r afael  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Diweddariad ar Gynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid pdf eicon PDF 627 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid yn ystod Chwarter 1 2022/23 i’r Pwyllgor ei ystyried.

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, fod y Panel wedi cyfarfod ar dri achlysur yn ystod y cyfnod hwn, gyda’r cyfarfod cyntaf yn cael ei gynnal ar 4 Gorffennaf pan gytunwyd ar gylch gorchwyl a chyd-destun gwaith y Panel, ac ystyrir fod hynny’n arbennig o berthnasol yn yr hinsawdd economaidd bresennol. Trafodwyd cynllunio’r rhaglen waith ar gyfer y chwe mis nesaf hefyd. Roedd y cyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf yn canolbwyntio ar broses gosod cyllideb 2023/24, gan gynnwys y broses ymgynghori flynyddol. Cynhaliwyd gweithdy sgriwtini o dan arweiniad CIPFA Cymru am ran o gyfarfod y Panel ar 8 Medi ac edrychodd y Panel yn fanwl hefyd ar y wybodaeth monitro’r gyllideb ddiweddaraf ar gyfer Chwarter 1 2022/23.

Gan fod y rhan fwyaf o aelodau’r Panel yn aelodau sydd wedi cael eu hethol am y tro cyntaf ym mis Mai 2022, esboniodd y Cynghorydd Roberts y bydd rhaid creu’r amodau i bob Aelod gyfranogi’n llawn yng ngwaith sgriwtini’r Panel, gan gynnwys gwneud defnydd llawn o’r flaen raglen waith i sicrhau mewnbwn priodol ac amserol i gefnogi aelodau’r Panel.

Penderfynwyd nodi’r cynnydd cychwynnol hyd yma mewn cysylltiad â gwaith y Panel Sgriwtini Cyllid.

 

6.

Grwp Llywio Gwastraff gyda WRAP Cymru pdf eicon PDF 937 KB

Enwebu aelod o’r Pwyllgor i wasanaethu ar y Grwp Llywio Gwastraff gyda  WRAP Cymru.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn ceisio cytundeb y Pwyllgor i enwebu Aelod o’r Pwyllgor i wasanaethu ar y Grŵp Llywio Gwastraff gyda WRAP Cymru.

Roedd yr adroddiad yn nodi bod y Grŵp Llywio wedi’i sefydlu i liniaru’r tanberfformiad presennol mewn perthynas â chanran y gwastraff sy’n cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio gan y Cyngor, fel y tystiwyd yn yr adroddiad Cerdyn Sgorio ar gyfer Chwarter 4 2021/22 a drafodwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 20 Mehefin 2022. Mae’r aelodau’n cynnwys uwch Aelodau, uwch Swyddogion a phartneriaid o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a WRAP Cymru ac mae cylch gorchwyl y grŵp wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yn yr adroddiad.

Penderfynwyd enwebu’r Cynghorydd Llio Angharad Owen fel cynrychiolydd y Pwyllgor hwn ar y Grŵp Llywio gyda WRAP Cymru.

 

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar gyfer 2022/23 i’w ystyried.

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at gyfarfod nesaf y Pwyllgor ym mis Hydref 2022 a chadarnhaodd y materion i’w hystyried yn ystod y cyfarfod hwnnw.

Penderfynwyd –

 

·         Cytuno ar fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2022/23.

·         Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Flaen Raglen Waith.