Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Hybrid - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 19eg Ebrill, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd y Cynghorydd Sonia Williams, sydd newydd gael ei hethol, i’r cyfarfod.

 

1.

Datgan Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o funes.

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 346 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol  

 

·                28 Chwefror,  2023

·                14 Mawrth, 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfodydd blaenorol canlynol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a chadarnhawyd eu bod yn gywir:-

 

·                    28 Chwefror, 2023

·                    14 Mawrth, 2023

 

3.

Strategaeth Rhiantu Corfforaethol 2023-28 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a oedd yn cynnwys y Strategaeth Rhiantu Corfforaethol ar gyfer 2023-2028 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai bod rôl yr Aelodau Etholedig fel rhiant corfforaethol ymysg y pwysicaf. Nododd bod rhiantu corfforaethol yn gyfrifoldeb sy’n cael ei rannu ar draws y Cyngor i sicrhau bod plant phobl ifanc sydd dan ofal y Cyngor neu sydd ar fin gadael gofal yn cael eu cefnogi i ffynnu.  Dylai rhiant corfforaethol da feddu ar yr un dyheadau ar gyfer plentyn/unigolyn ifanc sy’n derbyn gofal ag y byddai rhiant ar gyfer ei blentyn ei hun. Mae hyn yn cynnwys darparu’r sefydlogrwydd a’r gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ddatblygu; a’u helpu nhw i osod targedau uchelgeisiol eu hunain.  Mae hefyd yn golygu eu cefnogi nhw i feithrin y sgiliau a’r hyder i fyw’n annibynnol, a’u hatgoffa fod rhywun ar gael bob amser pan fydd pethau’n mynd o chwith. Aeth ymlaen i ddweud mai dyma’r Strategaeth Rhiantu Corfforaethol gyntaf wedi i’r gwasanaeth archwilio mewnol nodi bod angen strategaeth o’r fath a dywedodd y bydd yn weithredol am y pum mlynedd nesaf.  

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro bod ‘Voices from Care Cymru’, a oedd yn gweithio mewn partneriaeth â’r Cyngor ar y pryd, wedi cwblhau darn o waith fel rhan o’r broses ymgynghori ar y Strategaeth Rhiantu Corfforaethol. Nododd bod hyn wedi rhoi cyfle i bobl ifanc sy’n derbyn gofal gyfrannu at y Strategaeth. Aeth ymlaen i ddweud bod ‘gweithdy’ wedi cael ei gynnal ym mis Chwefror er mwyn i Aelodau Etholedig a Swyddogion perthnasol allu cyfrannu i’r Strategaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro bod y Strategaeth y nodi dyheadau’r Cyngor ar gyfer y plant a phobl ifanc sydd dan ei ofal neu sydd ar fin gadael gofal.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, bu i’r Pwyllgor drafod y canlynol:-

 

·      Holwyd sut mae’r Strategaeth Plant sy’n Derbyn Gofal ac Ymadawyr Gofal yn cysylltu â Chynllun y Cyngor: 2023/2028? Cynghorwyd y Pwyllgor bod y Strategaeth Rhiantu Corfforaethol wedi cael ei chynhyrchu yn unol â’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor yn enwedig rheiny’n ymwneud â sicrhau bod trigolion Ynys Môn yn iach ac yn gallu ffynnu.   

 

·      Holwyd beth yw goblygiadau rhoi’r Strategaeth arfaethedig ar waith o safbwynt adnoddau a pha mor fforddiadwy yw hyn yn yr hinsawdd bresennol?  Cynghorwyd y Pwyllgor bod 150 o blant a phobl ifanc dan ofal yr Awdurdod ar hyn o bryd a bod 70 ar fin gadael gofal. Fodd bynnag, byddai cynnydd sylweddol yn nifer y plant a phobl ifanc sy’n dod i mewn i’r system gofal yn effeithio ar lefelau staffio’r gwasanaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth Dros Dro bod nifer y plant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn sefydlog ar hyn o bryd a bod hyn wedi’i adlewyrchu mewn adroddiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru.  Dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant, Ieuenctid a Thai bod y Strategaeth yn rhoi mwy o sicrwydd y bydd y plant a’r bobl ifanc sydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Meysydd Gwelliant Hunan-Asesiad 2022 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol a Thrawsnewid) a oedd yn cynnwys meysydd gwelliant hunanasesiad 2022 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad Cwsmer mai dyma’r adroddiad cyntaf o’i fath, a’i fod yn cydnabod y gwelliannau yn erbyn meysydd gwelliant hunan-asesiad 2022.  Mae’n rhoi diweddariad ar y camau gwella perthnasol a gytunwyd yng nghyfarfod y Cyngor Sir ym mis Hydref 2022. Nododd bod 2022 wedi bod yn flwyddyn heriol oherwydd fod gan y Cyngor weinyddiaeth newydd, tîm arweinyddol newydd a Chynllun Strategol Newydd ar gyfer 2023-28. Serch yr holl newidiadau a datblygiadau dros y 12 mis diwethaf, mae’r Cyngor yn parhau i berfformio’n gyson, yn cwblhau disgwyliadau yn erbyn y mwyafrif o feysydd gwelliant Hunan-asesiad 2022 ac yn dygymod â disgwyliadau’r ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Nododd bod y dangosyddion o fewn y Cerdyn Sgorio Corfforaethol hefyd yn perfformio’n dda. Mae cydymffurfiaeth staff â pholisïau’r Awdurdod wedi gwella yn ogystal â chydymffurfiaeth staff â’r hyfforddiant e-ddysgu a gwerthusiadau blynyddol.  Mae’r Bwrdd Diogelu Corfforaethol wedi derbyn canlyniadau’r adolygiadau gwasanaeth a gwelliannau disgwyliedig. Mae prif gyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal yn hybrid erbyn hyn ac maent yn cae eu gwe-ddarlledu ar wefan y Cyngor. Dywedodd yr Aelod Portffolio y bydd y ffrydiau gwaith a nodwyd yn 1.4 yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Gwaith ac y dylid eu cynnwys yn yr Hunan-Asesiad Corfforaethol ar gyfer  2023.

 

Wrth ystyried yr adroddiad, bu i’r Pwyllgor drafod y canlynol:-

 

·      Holwyd ynglŷn â rôl yr hunan-asesiad yn ein trefniadau llywodraethiant corfforaethol? Cynghorwyd y Pwyllgor bod yr Hunan-Asesiad yn cyflawni ein dyletswyddau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sy’n nodi y dylai cyrff cyhoeddus adolygu eu perfformiad yn effeithiol. Mae’r Ddeddf yn mynnu bod adroddiad Hunan-Asesiad blynyddol yn cael ei greu i fynd i’r afael â’r meysydd gwelliant. Nodwyd bod gwaith wedi’i gyflawni dros y deuddeg mis diwethaf i ddatblygu’r Hunan-Asesiad a bod y ddogfen wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 30 Medi 2022 cyn gwahodd sylwadau pellach gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ar 20 Hydref, 2022 cyn i’r fersiwn terfynol gael ei fabwysiadu gan y Cyngor Sir yn ei gyfarfod ym mis Hydref 2022.

·      Holwyd sut y bydd angen i’r Cyngor ddiwygio’r Sgorfwrdd Monitro Perfformiad Chwarterol i sicrhau aliniad gyda’r Hunanasesiad?  Cynghorwyd y Pwyllgor ei bod hi’n bwysig bod y Cerdyn Sgorio’n dal i gael ei ddatblygu a bod cynllun ar waith i adolygu’r Cerdyn Sgorio. Bydd cyfle i’r Tîm Arweinyddiaeth a’r Aelodau Etholedig gyflwyno sylwadau yng nghyfarfodydd yr Arweinyddion Grŵp a bydd a hefyd yn ystod y Sesiynau Briffio i Aelodau Etholedig. Nodwyd y bydd rhaid nodi’r gofynion o ran hunanasesu a’i bod hi’n bwysig cydnabod y bydd y Cerdyn Sgorio’n cynnwys sut fydd y Cyngor yn cyflawni ei oblygiadau o dan y Ddeddf. 

·      Cyfeiriwyd at y ffaith bod yr hunanasesiad yn cyfeirio at nifer o feysydd sydd angen eu datblygu ymhellach. Gofynnwyd sut y bydd y ffrydiau hyn yn cael eu blaenoriaethu?  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Enwebiad i'r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Adroddodd y Rheolwr Sgriwtini bod un swydd wag ar y Panel Sgriwtini Corfforaethol/Panel Rhiantu Corfforaethol o ganlyniad i benodiad diweddar y Cynghorydd Neville Evans i’r Pwyllgor Gwaith.

 

PENDERFYNWYD penodi’r Cynghorydd Sonia Williams i wasanaethu ar y Panel Sgriwtini Corfforaethol/Panel Rhiantu Corfforaethol.