Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

 

 Dim wedi’u derbyn.

2.

Arolygiaeth Gofal Cymru: Adroddiad yn dilyn Arolygiad o Wasanaethau Cymdeithasol Ynys Môn - Arolygiad Gwerthuso Perfformiad pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Phennaeth Gwasanaethau Oedolion, a oedd yn cynnwys Adroddiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn dilyn yr arolygiad diweddar o’r Gwasanaethau Cymdeithasol – Arolygiad Gwerthuso Perfformiad, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad dywedodd yr Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid bod yr Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ac Oedolion, wedi bod yn destun arolwg gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) rhwng 10 – 14 Hydref, 2022, fel rhan o’u rhaglen Gwerthuso Perfformiad arferol. Nododd y dylid croesawu’r adroddiad gan fod AGC wedi nodi cryfderau, arfer da a datblygiadau mewn gwasanaethau ac nad oedd unrhyw feysydd risg sylweddol neu faterion diogelu wedi cael eu hamlygu.  Mae AGC wedi nodi bod yr Awdurdod yn fwrdd a pharod iawn i weithio gyda phartneriaid a sefydliadau trydydd parti ynghyd â gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor. Cyfeiriodd at y gwaith rhagorol sydd yn mynd rhagddo rhwng yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Adran Dai mewn perthynas â’r prosiect Cartrefi Clyd.  Mae’r Adran hefyd yn gweithio’n agos gyda’r Adran Addysg mewn perthynas â’r Hybiau o fewn yr Ysgolion Uwchradd. Aeth ymlaen i ddweud bod negeseuon cyson a chadarnhaol gan y gweithlu ynglŷn ag ansawdd yr arweinyddiaeth a’r diwylliant ar draws y gwasanaethau plant ac oedolion. Nododd hefyd ei fod yn falch bod AGC wedi cydnabod y gefnogaeth wleidyddol a chorfforaethol y mae’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei chael ers 2016.   Yn sgìl heriau ariannol dylid sicrhau bod y gefnogaeth yn parhau er mwyn gyrru’r gwelliannau ymhellach ar draws y gwasanaethau plant ac oedolion.

 

Bu i’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Oedolion ategu sylwadau’r Aelod Portffolio Gwasanaethau Plant (Gwasanaethau Cymdeithasol) a Gwasanaethau Ieuenctid a chroesawu’r adroddiad cadarnhaol gan AGC ynglŷn â’r Adran Gwasanaethau Cymdeithasol.  Nododd mai dyma’r tro cyntaf y canolbwyntiwyd ar y Gwasanaethau Oedolion ac mae hyn i’w groesawu. Roedd yn dymuno diolch i staff y gwasanaethau Plant ac Oedolion am eu gwaith. 

 

Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn gwerthfawrogi’r ffaith bod yr adroddiad gan AGC ynglŷn â’r gwasanaethau Plant ac Oedolion yn un calonogol  yn enwedig yn sgil y pwysau sylweddol y mae’r Sector Gofal yn ei wynebu ar hyn o bryd a’r argyfwng costau byw a’r pwysau ar y gweithlu i fynd i’r afael â’r materion hyn.  Nododd bod perthynas agored ac adeiladol yn bodoli rhwng y gwasanaeth a AGC a bod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal i drafod gwelliannau o fewn y gwasanaeth. Aeth ymlaen i ddweud er bod yr adroddiad yn galonogol mae’n rhaid i’r gwasanaeth barhau i weithio i fynd i’r afael ag anghenion  trigolion yr Ynys yn enwedig rheiny gydag anghenion mwy cymhleth yn y gwasanaeth Plant ac Oedolion. Mae’n hanfodol bwysig gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau partner a’r trydydd sector er lles trigolion bregus yr Ynys. Adroddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y bydd Cynllun Datblygu’n cael ei gynhyrchu gan y ddau wasanaeth ac y byddant yn cael eu cyflwyni i’r Pwyllgor Sgriwtini maes o law.

 

Wrth ystyried yr Adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Cymru  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith ddiwygiedig y Pwyllgor ar gyfer 2022/2023 i’w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar 28 Chwefror, 2023. Nododd y bydd Cynllun y Cyngor ar gyfer 2023 – 2028 yn cael ei gynnwys fel eitem ychwanegol yn y cyfarfod nesaf.

 

PENDERFYNWYD :-

 

·      Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2022/23

·      Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r Flaen Raglen Waith.