Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 21ain Tachwedd, 2023 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Yn absenoldeb y Cynghorydd Dyfed Wyn Jones, Is-gadeirydd, cafodd y Cynghorydd Geraint Bebb ei ethol yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor yn unig.

 

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusens.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 180 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Medi 2023.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 19 Medi, 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch2 2023/24 pdf eicon PDF 426 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid, a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol ar gyfer Chwarter 2 2023/24, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Mae adroddiad y cerdyn sgorio corfforaethol yn portreadu’r sefyllfa ar ddiwedd Chwarter 2 mewn perthynas â materion yn ymwneud â gwasanaeth cwsmer, rheoli pobl a chyllid a rheoli perfformiad

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cynghorydd Carwyn Jones, yr aelod sy’n gyfrifol am y portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer, a dywedodd bod yr adroddiad yn nodi perfformiad cadarnhaol a chalonogol ar y cyfan ar ddiwedd ail chwarter blwyddyn ariannol 2023/24, gydag 91% o’r dangosyddion perfformiad yn perfformio’n well neu o fewn 5% i’w targed. Amlygwyd nifer o feysydd sydd wedi perfformio’n dda yn cynnwys rheoli gwastraff, priffyrdd, Gwasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant a Theuluoedd, a digartrefedd.  Er nad oedd yn bosib dadansoddi’r dangosyddion perfformiad iechyd corfforaethol yn llawn yn ystod y chwarter hwn, yn ôl y data a oedd ar gael roedd mwyafrif (67%) y dangosyddion yn perfformio’n dda yn erbyn eu targed yn y maes hwn ac naill ai’n Wyrdd neu’n Felyn.

Mewn perthynas â nifer y dyddiau cyfartalog a gollwyd oherwydd absenoldebau am bob gweithiwr cyfwerth ag amser llawn (FTE), roedd y Cyngor yn Goch gyda 4.21 o ddiwrnodau wedi’u colli oherwydd absenoldebau fesul FTE yn erbyn targed o 3.82 diwrnod, a hynny’n bennaf oherwydd salwch tymor hir, sydd gyfystyr â chyfradd absenoldebau o 62% ar gyfer Chwarter 2. Roedd y dangosyddion sy’n ymwneud â’r nifer cyfartalog o ddyddiau a gymerir i gyflawni Grant Cyfleusterau i’r Anabl a gosod unedau y mae modd eu gosod yn y Gwasanaethau Tai a chanran yr apeliadau cynllunio a wrthodwyd yn tanberfformio. Mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn cadw llygaid ar y dangosyddion hyn er mwyn sicrhau eu bod yn gwella yn y dyfodol ac mae hefyd yn cadw llygaid ar nifer y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dderbyniodd ymateb o fewn yr amserlen gan nad oedd data ar gael yn ystod yr ail chwarter mewn perthynas â’r gweithgarwch hwn. Mae’r sefyllfa ariannol yn parhau i fod yn heriol a rhagwelir gorwariant yn y gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn.

Wrth asesu a chraffu ar berfformiad dangosyddion perfformiad allweddol y Cyngor ar ddiwedd ail chwarter 2023/24, fe wnaeth y Pwyllgor herio’r Aelodau Portffolio a’r Swyddogion ar y materion a ganlyn 

·         Gan dderbyn bod 91% o ddangosyddion perfformiad yr Awdurdod naill ai’n well neu o fewn 5% i’w targed ar ddiwedd Chwarter 2, gofynnwyd am sicrwydd y bydd y 3 dangosydd sy’n tanberfformio yn gwella. Hefyd, nodwyd bod 12 o’r Dangosyddion Perfformiad yn dangos gostyngiad er eu bod yn Wyrdd ar hyn o bryd a holwyd a ydi hynny’n destun pryder. 

·         Nid oes unrhyw ddangosyddion i olrhain hynt y gwaith o fynd i’r afael â newid hinsawdd ac ymrwymiad y Cyngor i ddod yn sefydliad sero net erbyn 2023. 

·         Nodwyd bod yr adroddiad yn parhau i ragweld gorwariant yng nghyllideb y Cyngor ar ddiwedd Chwarter 2 a gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r mesurau sy’n cael eu cyflwyno i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cynllun Strategol Tai Gwag 2023-2028 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai, a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Tai Gwag ar gyfer 2023 i 2028, i’w ystyried gan y Pwyllgor ac i graffu arno.

Cyflwynwyd yr adroddiad a’r Strategaeth gan y Cynghorydd Llinos Medi, Arweinydd y Cyngor, a gyfeiriodd at lwyddiant y strategaeth flaenorol sydd wedi llwyddo i ddod â 525 o eiddo yn ôl i ddefnydd ers 2017. Yn yr un modd diben y cynllun dilynol yw sicrhau bod cyn lleied â phosib o dai gwag ac annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd. Mae’n nodi sut mae’r Cyngor yn delio gydag eiddo gwag ac mae’n ffurfio rhan o amrywiaeth o opsiynau tai a fydd yn cynorthwyo i gyflawni Cynllun y Cyngor 2023-28. Pwysleisiwyd pwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â pherchnogion eiddo gwag a gwasanaethau eraill i fynd i'r afael â thai gwag ac fe amlygodd yr Arweinydd astudiaethau achos a oedd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad a oedd yn dangos rhai o’r ymyraethau a roddwyd ar waith yn llwyddiannus er mwyn dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd fel tai cymdeithasol.

Wrth adrodd ar gynnwys y cynllun strategol dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai bod eiddo gwag yn wastraff o adnoddau, yn enwedig yn sgil y pwysau cynyddol ar y farchnad dai a’r farchnad rhentu sector preifat.  Nod y cynllun yw gweithio gyda pherchnogion eiddo gwag a’u hannog i ddod â hwy yn ôl i ddefnydd yn ddelfrydol drwy negodi a dod i gytundeb ond gydag adnoddau i gymryd camau gorfodi os oes angen a dim ond pan fydd pob dim arall wedi methu.  Mae’r Gwasanaeth Tai yn cydnabod mai gweithio gyda gwasanaethau ac asiantaethau eraill yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddelio gyda’r gwahanol agweddau ar eiddo gwag ac mae’r cynllun strategol wedi cael ei ddatblygu ar sail gweithio mewn partneriaeth.    Mae’r Gwasanaeth hefyd yn ceisio lleihau costau drwy ddefnyddio’r cymorth ariannol sydd ar gael drwy grantiau a benthyciadau gan Lywodraeth Cymru yn ogystal â defnyddio Premiwm y Dreth Gyngor i sicrhau bod yr adnoddau a’r capasiti sydd ar gael, sydd yn weddol fach o’i gymharu â’r 525 o eiddo y llwyddwyd i ddod yn ôl i ddefnydd ers 2017, yn cael eu defnyddio yn y ffordd orau.

Wrth ystyried y Cynllun Strategol Tai Gwag codwyd y materion canlynol gan y Pwyllgor

·      Yr heriau o ran annog perchnogion tai gwag yn y sector preifat i ymgysylltu â’r Cyngor.

·      Gan nodi bod 77 eiddo wedi cael eu cofnodi’n wag ers dros 10 mlynedd a 128 ers rhwng 5 a 10 mlynedd, roedd y Pwyllgor yn dymuno cael gwybod faint o eiddo gwag hirdymor a oedd wedi cael eu dychwelyd yn ô i ddefnydd ers 2017.

·      Sut mae’r Cynllun Strategol yn cyfrannu tuag at gyflawni blaenoriaethu Cynllun y Cyngor  2023-28

·      Pa mor ddibynnol ydi’r Cyngor ar bartneriaid a chyllid grant allanol er mwyn cyflawni’r Cynllun Strategol.

·      Gofynnodd y Pwyllgor am fanylion ynglŷn â threfniadau llywodraethiant y Cynllun mewn perthynas â’i fonitro a’i werthuso ynghyd â’r Cynllun Gweithredu pan fydd wedi’i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Adroddiad Cynnydd Siwrnai y Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn nodi hynt y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a'r Gwasanaethau Oedolion, i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd Gweithdrefn Sylwadau a Chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol wedi’i atodi ynghyd â Chylchlythyr Oed Gyfeillgar cyntaf Ynys Môn.

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion drosolwg o’r gweithgareddau a’r datblygiadau diweddaf yn y Gwasanaethau Oedolion a oedd wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad a chyfeiriwyd at y datblygiadau gwasanaeth diweddaraf mewn perthynas â Gwasanaethau Dydd Anableddau Dysgu a Gofal Cartref. Amlygwyd hefyd ymweliad Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth Cymru â Chanolfan Dementia Ynys Môn yn Llangefni a chais llwyddiannus Ynys Môn i ddod yn Aelod o Rwydwaith Cymunedau a Dinasoedd Oed Gyfeillgar Sefydliad Iechyd y Byd.

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol grynodeb o’r gwaith sydd ar y gweill yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yn cynnwys y gwaith i ddod yn Ynys Ymwybodol o Drawma a hynt y Model Ysgol Rithiol yn ogystal â blwyddyn gyntaf gweithgareddau haf y Gwasanaeth ieuenctid. Soniwyd yn benodol am lwyddiant Maethu Môn Cymru yng Ngwobrau Rhagoriaeth Maethu 2023 wedi i’r tîm gipio’r wobr “Gofalwyr sy’n berthynas” a “Tîm Gwaith Cymdeithasol”.

Wrth nodi’r gweithgareddau Gwasanaethau Cymdeithasol fel rhan o’r diweddariad ar hynt a siwrnai’r Gwasanaethau Cymdeithasol fe amlygodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol y pwysau sydd ar y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a’r Gwasanaethau Oedolion o ran yr her recriwtio, sydd ddim yn unigryw i Ynys Môn, a’r cynnydd yn y galw ac mewn anghenion mwy cymhleth sy’n cael effaith ar gyllidebau’r naill wasanaeth.

Wrth adolygu’r adroddiad trafododd y Pwyllgor y materion a ganlyn

·      Gan nodi a chydnabod y datblygiadau hyd yma a chan dderbyn bod misoedd y gaeaf yn debygol o fod yn heriol, roedd y Pwyllgor yn dymuno cael gwybod beth oedd blaenoriaethau’r Gwasanaethau Cymdeithasol dros y cyfod nesaf.

·      Beth sy’n gyfrifol am y cynnydd yn y galw am wasanaeth yn y naill wasanaeth ac a yw hwn yn faes y dylai’r Panel Sgriwtni Gwasanaethau Cymdeithasol edrych arno’n fanylach.

·      Goblygiadau defnyddio staff o du allan i Gymru yng Nghartrefi Clyd y Cyngor o ran y gost a’r gallu i ddarparu gwasanaeth dwyieithog.

·      Darparu gwasanaethau dementia ac argaeledd y gwasanaethau hynny.

·      Byddai wedi bod yn ddefnyddiol cael adborth ynglŷn â’r camau a gymerwyd a’r gwelliannau a wnaed o ganlyniad i’r cwynion a’r sylwadau a dderbyniwyd yn yr Adroddiad Blynyddol ar y Weithdrefn Sylwadau a Chwynion Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2022/23.

Ymatebodd Swyddogion i’r materion a godwyd gan y Pwyllgor a nodwyd y canlynol –

·      Cynghorwyd y Pwyllgor y bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn mynd ati dros y misoedd nesaf i edrych ar y modd y caiff gwasanaethau eu darparu i gleientiaid, nid er mwyn lleihau’r gwasanaeth a ddarperir ond er mwyn gweld a oes modd eu darparu’n wahanol, e.e. drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg a thrwy gydweithio’n agosach â phartneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd er mwyn bod yn fwy creadigol wrth ddylunio a darparu pecynnau gofal. Bydd canolbwyntio ar gynigion ataliol drwy ddefnyddio cyllid grant ac ymestyn prosiectau cyfredol i’r  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Enwebiad i'r Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 387 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn gofyn i’r Pwyllgor enwebu un aelod i wasanaethu ar y Panel Sgrwitini Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Panel Rhiantu Corfforaethol. Darparwyd Cylch Gorchwyl y Panel er gwybodaeth ac i gynorthwyo’r broses ddethol. Mae un sedd wag ar y Panel yn dilyn ymddiswyddiad y Cynghorydd Alwen Watkin a oedd yn un o’r aelodau etholedig a oedd yn cynrychioli’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ar y Panel.

Penderfynwyd enwebu’r Cynghorydd Ieuan Williams i wasanaethu ar y Panel Sgriwtini Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Panel Rhiantu Corfforaethol.

 

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 363 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Ebrill 2024, i’w ystyried gan y Pwyllgor.

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini at y trefniadau ar gyfer y cyfarfod o’r Pwyllgor ym mis Ionawr 2024 a chadarnhaodd, yn dilyn trafodaeth a gyda chytundeb y Cadeirydd, bod cynnig i gynnal dau gyfarfod ar yr un diwrnod ym mis Ionawr (yn lle’r cyfarfod a oedd wedi ei drefnu ar gyfer 18 Ionawr). Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal Ddydd Mawrth 16 Ionawr a bydd un cyfarfod yn y bore a’r llall yn y prynhawn; un er mwyn ystyried y Gyllideb ar gyfer 2024/25 a’r llall ar gyfer gweddill yr eitemau ar y rhaglen. Roedd yn argymell Blaen Raglen Waith y Pwyllgor gyda’r newidiadau arfaethedig.

Penderfynwyd –

 

·      Cytuno i’r fersiwn gyfredol o’r Blaen Raglen Waith ar gyfer 2023/24 yn amodol ar  newid y trefniadau ar gyfer cyfarfod mis Ionawr 2024 a

·      Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r Blaen Raglen Waith.