Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ac yn rhithiol drwy Zoom, Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mawrth, 19eg Tachwedd, 2024 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor, Swyddfeydd y Cyngor ac yn rhithiol drwy Zoom

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o fuddiant.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 212 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Hydref 2024.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 16 Hydref, 2024. Cadarnhawyd eu bod yn gywir a nodwyd hynt y camau gweithredu a gytunwyd.

 

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Ch2 2024-25 pdf eicon PDF 525 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Carwyn Jones, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol a Phrofiad y Cwsmer adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys y Cerdyn Sgorio Corfforaethol a oedd yn nodi perfformiad y Cyngor yn erbyn yr amcanion strategol yng Nghynllun y Cyngor ar ddiwedd ail chwarter blwyddyn ariannol 2024/25.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Carwyn Jones drosolwg o’r cerdyn sgorio a thynnodd sylw at yr wybodaeth chwarterol ynglŷn â thueddiadau sydd bellach wedi’i chynnwys ar y cerdyn sgorio a pherfformiad y Cyngor mewn cymhariaeth â Ch2 2023/24. Tra bo mwyafrif y dangosyddion (85%) sydd â thargedau sy’n cael eu monitro wedi perfformio’n dda yn ystod y chwarter (naill ai’n Wyrdd neu’n Felyn), mae chwe dangosydd yn ymwneud ag Addysg, Tai, Economi, Newid Hinsawdd ac Iechyd y Cyngor Cyfan (canran y ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth a dderbyniodd ymateb o fewn y cyfnod amser) yn tanberfformio. Ceir dadansoddiad manwl o’r dangosyddion hyn yn yr adroddiad ynghyd â’r mesurau lliniaru. Mae’r Tîm Arweinyddiaeth yn cadw llygaid ar y dangosyddion hyn ac yn ymchwilio iddynt i sicrhau gwelliannau i’r dyfodol. Cyfeiriodd y Cynghorydd Carwyn Jones at enghreifftiau o arfer dda yn ystod y chwarter mewn meysydd yn gysylltiedig â chymorth busnes, gofal cymdeithasol a llesiant, presenoldeb mewn ysgolion, ceisiadau cynllunio sy’n cael eu penderfynu ar amser, dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd a thrydaneiddio fflyd cerbydau’r Cyngor.

 

Wrth graffu ar y cerdyn storio, fe wnaeth aelodau’r Pwyllgor drafod y materion a ganlyn –

 

  • Y rhesymau dros y gostyngiad o 9% mewn perfformiad o’i gymharu â Chwarter 1.
  • Gan fod gan chwe dangosydd statws CAMG o Goch neu Ambr yn erbyn eu targedau ar hyn o bryd, gofynnwyd pa sicrwydd y gellir ei roi y bydd yr Awdurdod yn gweld gwelliant cynaliadwy mewn perfformiad erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2024/25.
  • Y risg o gosb gan Lywodraeth Cymru os na fydd y Cyngor yn cwrdd â’r targedau ailgylchu.
  • I ba raddau mae’r sefyllfa ariannol ar ddiwedd yr ail chwarter (gorwariant amcanol ar ddiwedd y flwyddyn) yn creu risg i’r Cyngor yn 2025/26.
  • Gofynnwyd am eglurder ynglyn â dangosyddion Gofal Cymdeithasol a Llesiant rhif (07) ac (08), sy’n ymwneud â phlant a gafodd eu hailgofrestru ar y Gofrestr Amddiffyn Plant o fewn 12 mis ar ôl cael eu tynnu oddi ar y gofrestr a chanran y cyfeiriadau plant sy’n cael eu hailgyfeirio o fewn 12 mis. Cafwyd cais i gynnwys niferoedd yn ogystal â chanrannau i roi mwy o gyd-destun a gwell dealltwriaeth. 
  • Mewn perthynas â’r gostyngiad mewn perfformiad yn ystod chwarter 2 yn gysylltiedig â’r amser a gymerir i baratoi eiddo ar gyfer eu gosod (Dangosydd Tai rhif 03) gofynnwyd a oedd cynllun gweithredu ar gael yn dilyn yr adolygiad sgriwtini i berfformiad y dangosydd hwn.
  • I ba raddau mae capasiti a recriwtio yn rhwystro gwelliannau a sut y gellir hyrwyddo’r rhain i helpu’r Cyngor gwrdd â’i anghenion busnes.
  • Y trefniadau ar gyfer monitro nifer y plant sydd wedi cael eu gwahardd o’r ysgol yn barhaol neu dros dro a’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cynllun Strategol Môn Actif 2024-2029 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Neville Evans, yr Aelod Portffolio Hamdden, Twristiaeth a Morwrol adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a oedd yn cynnwys fersiwn drafft o Gynllun Strategol Môn Actif ar gyfer y cyfnod 2025 i 2029.

 

Mae Cynllun Strategol Môn Actif yn darparu cyfarwyddyd clir ac yn nodi’r meysydd blaenoriaeth allweddol ar gyfer creu cymunedau iachach dros y pum mlynedd nesaf.  Mae’r pum maes blaenoriaeth yn y Cynllun yn gysylltiedig â’r egwyddorion ehangach yng Nghynllun y Cyngor 2023-28 ac maent yn canolbwyntio ar Gyfranogiad, Iechyd a Lles, Datblygu’r Gweithlu, Rheoli Cyfleusterau, Cynaliadwyedd Ariannol a Chydweithio. Ystyriwyd sefyllfa ariannol y Cyngor wrth ddatblygu’r Cynllun yn cynnwys y gostyngiad mewn cyllid craidd a grant ynghyd â’r cynnydd yn y galw am wasanaethau.  Mae’r Cynllun yn amlygu pwysigrwydd denu cyllid allanol a’r angen am fuddsoddiad addas ac amserol yng nghanolfannau hamdden y Cyngor.  Defnyddiwyd ffynonellau data amrywiol wrth baratoi’r Cynllun. Mae’r data’n darparu tystiolaeth gadarn ynglŷn ag anghenion yr ynys a bydd yr anghenion hynny’n cael eu hasesu yn ystod y bum mlynedd i sicrhau bod y Cyngor yn gwneud y dewisiadau cywir a dewisiadau gwybodus i helpu i wella iechyd pobl ac annog cymunedau i gadw’n heini. Bydd Tîm Rheoli ac Is-grŵp Môn Actif yn monitro cynnydd y cynllun. 

 

Roedd y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd a’r Rheolwr Hamdden wrth law i ymateb i gwestiynau’r Pwyllgor. Roedd y prif bwyntiau trafod fel a ganlyn:

 

  • Y rhesymau dros baratoi cynllun strategol ar gyfer Môn Actif a chyswllt y cynllun â Chynllun y Cyngor.
  • A oes data lleol i brofi bod plant Ynys Môn yn rhy drwm/gordew. Nodwyd bod y cynllun strategol yn datgan bod 11.2% o blant 4 a 5 oed yn ordew a bod 14.5% dros eu pwysau. Holwyd ynglyn â ffynhonnell yr wybodaeth hon, cywirdeb y data a sut y caiff lefelau gordewdra eu pennu a pha gymorth/raglenni dilynol sydd ar gael i helpu i fynd i’r afael â’r broblem.
  • A yw Môn Actif yn cydweithio ag ysgolion i hyrwyddo bwyta’n iach.
  • A yw canolfannau hamdden y Cyngor a’r gweithgareddau a gynhelir gan Môn Actif yn y canolfannau hamdden hynny a thu hwnt yn gynaliadwy.
  • Sut mae’r Cyngor, drwy Môn Actif yn dwyn perswâd ar y boblogaeth i wneud mwy o ymarfer corff a chadw’n heini.
  • A oes modd ehangu gweithgareddau Môn Actif i gynyddu nifer y plant sy’n cymryd rhan yn y gweithgareddau hyn ac a oes modd cynyddu nifer y caeau pob tywydd ar yr Ynys.
  • A yw Môn Actif yn cefnogi gweithgareddau gyda’r nos yn y gymuned.

 

Mewn ymateb i gais gan aelod o’r pwyllgor, rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai amlinelliad byr o’r cymorth sydd ar gael i bobl fregus, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig a chadarnhaodd mewn ymateb pellach bod croeso i’r aelodau alw heibio/cael sgwrs â’r tîm. Cytunwyd y byddai gwybodaeth am y gwasanaethau’n cael ei rhannu â’r aelodau.

 

Roedd ymateb y Swyddogion i’w pwyntiau a godwyd fel a ganlyn:

 

·         Eglurwyd mai nod y cynllun strategol yw creu cymunedau iach gan fod  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Asesiad o'r Farchnad Dai Leol 2023-2028 pdf eicon PDF 3 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Tai a oedd yn cynnwys yr Asesiad o’r Farchnad Dai Leol 2023-2028.

 

Mae gofyniad statudol ar y cyngor i gynnal Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. Bob pum mlynedd, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol ailysgrifennu eu Hasesiad a’i ddiweddaru unwaith yn ystod y cyfnod pum mlynedd hwnnw. Pwrpas yr Asesiad yw darparu dadansoddiad eang o Farchnad Dai Ynys Môn, gan ystyried y gofynion hirdymor ar gyfer tai ar Ynys Môn. Bydd y sail dystiolaeth yn yr asesiad hefyd yn cael ei defnyddio i lywio Strategaeth Dai Ynys Môn, yn ogystal â rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol. Mae hefyd yn llywio blaenoriaethau tai strategol a chynllunio gwasanaethau lleol, fel addysg a thrafnidiaeth.

 

Fe wnaeth y Pennaeth Gwasanaethau Tai dywys yr aelodau drwy’r manylion yn yr adroddiad yn cynnwys y broses casglu data ac ymgynghori ac ymgysylltu a chyfeiriodd at rai o’r heriau sydd ynghlwm â’r broses.  Fel rhan o’r asesiad mae Ynys Môn wedi’i rhannu’n naw ardal yn seiliedig ar ble mae pobl yn byw ar hyn o bryd a ble maent yn debygol o symud.  Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Tai at ganlyniadau’r Asesiad ac fe amlygodd bod y galw am unedau rhent un ystafell wely yn dal i fod yn uchel.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol codwyd y materion a ganlyn –

 

  • Nodwyd bod yr asesiad yn nodi bod angen anheddau un ystafell wely. Holwyd sut y daethpwyd i’r casgliad hwn yn ogystal â sut y gellir cwrdd â’r galw sydd heb ei gyfarch o dderbyn y gallai newidiadau mewn demograffeg ychwanegu at y galw. 
  • I ba raddau fydd yr asesiad yn dylanwadu ar bolisïau tai yn y dyfodol wrth lunio’r Cynllun Datblygu Lleol. Holwyd i ba raddau y bydd y data yn cael ei adlewyrchu yn y CDLl yn enwedig mewn perthynas ag anheddau un ystafell wely, fel bod yr angen hwn yn cael ei adlewyrchu yn y datblygiadau a ganiateir.
  • Y risgiau a’r heriau sy’n wynebu’r Cyngor a’i bartneriaid cyflawni.
  • Nodwyd bod yr asesiad yn rhoi cipolwg o’r farchnad dai leol ar gyfnod penodol o amser yn unig a bod angen mynediad at ddata “byw” ar y Cyngor i’w helpu i gynllunio ei anghenion tai. Awgrymwyd y dylid gofyn i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y data yn cael ei ddiweddaru’n gyson. Nodwyd hefyd er bod y ddogfen yn darparu asesiad ffeithiol o’r farchnad dai ac yn amlygu’r galw, nid yw’n cynnig atebion i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd.
  • P’un ai a oes modd defnyddio’r data yn yr Asesiad i ddylanwadu ar bolisïau’n ehangach.
  • Effaith ail gartrefi ar fforddiadwyedd ac argaeledd tai ar gyfer pobl leol mewn ardaloedd sy’n boblogaidd â thwristiaid yn lleol a chenedlaethol. Awgrymwyd y dylid cynyddu premiwm y Dreth Gyngor ar dai gwag ac ail gartrefi i’r lefel uchaf a holwyd ynghylch ffyrdd eraill o fynd i’r afael â’r cyflenwad tai a fforddiadwyedd yn ogystal â’r camau a gymerwyd i liniaru effaith ail gartrefi ar y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Cynllun Strategol Caffael 2024-2029 a Rheolau Gweithdrefn Contractau Newydd pdf eicon PDF 1006 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Cynghorydd Robin Williams, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Portffolio Cyllid a Thai adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/

Swyddog Adran 151 a oedd yn cynnwys y Cynllun Strategol Caffael a Rheolau Gweithdrefn Contractau  drafft i gael barn y Pwyllgor cyn eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith i’w cymeradwyo.

 

Mae Llywodraeth y DU wedi diwygio’r ddeddfwriaeth yn gysylltiedig â chaffael yn y sector cyhoeddus a bydd Deddf Caffael 2023 yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025. Hefyd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, sy’n gosod cyfrifoldebau a dyletswyddau ychwanegol ar sefydliadu sector cyhoeddus yng Nghymru yn gysylltiedig â chaffael. Comisiynodd y Cyngor gwmni allanol i adolygu parodrwydd y Cyngor ar gyfer y newidiadau a darparu cynllun gweithredu i sicrhau cydymffurfiaeth mewn sawl maes yn cynnwys y strategaeth gyffredinol. Mae’r Cynllun Strategol yn nodi sut y bydd y Cyngor yn mynd ati i gaffael er mwyn gwneud yn siŵr bod y Cyngor yn comisiynu a chael gafael ar wasanaethau, nwyddau a gwaith mewn modd sy’n cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth a pholisïau a gweithdrefnau mewnol ac sydd hefyd yn foesegol, teg ac agored ac sy’n ystyried ffactorau economaidd, cymdeithasol, llafur ac amgylcheddol fel rhan o’r broses.

 

Yn sgil yn newidiadau deddfwriaethol mae’n rhaid i’r Cyngor ddiweddaru ei RhGCau sy’n nodi’r broses ar gyfer ymgymryd ag ymarfer caffael a’r gwahanol ddulliau caffael a phryd y dylid eu defnyddio. Mae’r RhGCau diwygiedig wedi cael eu drafftio i sicrhau eu bod yn ddigon hyblyg i alluogi swyddogion gaffael yn y ffordd fwyaf effeithlon ac effeithiol, cadw trefn ar ymarferion caffael a sicrhau bod y Cyngor yn cael gwerth am arian.

Dywedodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 y gallai’r Cynllun Strategol gynnig mwy o gyfleodd i gynnig contractau i gwmnïau lleol a rhoi hwb i’r economi leol.

 

Roedd y drafodaeth yn canolbwyntio ar y pwyntiau a ganlyn –

 

  • Gallu’r Cyngor i gaffael mewn dull mwy arloesol a rhoi cynnig ar wahanol ddatrysiadau a modelau cyflawni yn cynnwys mewnoli contractau lle bo modd a defnyddio technoleg i leihau’r baich gweinyddol.
  • Roedd yr aelodau’n cytuno ei bod i’n bwysig cynnig contractau i gwmnïau a chyflenwyr lleol er mwyn cadw’r arian sy’n cael ei wario ar Ynys Môn.
  • Cyswllt y Cyngor â busnesau lleol a sut fydd y contractau’n cael eu hysbysebu ac ymhle.

 

Roedd ymateb y Swyddogion i’r pwyntiau a godwyd fel a ganlyn –

 

  • Er bod capasiti’n ystyriaeth, mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wneud ei orau i fod yn arloesol gyda’r adnoddau sydd ar gael iddo a bydd yn chwilio am ffyrdd o wneud pethau’n wahanol os yw hynny’n fwy effeithiol, effeithlon ac yn ychwanegu gwerth. Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth / Swyddog 151 enghreifftiau o’r contractau y mae’r Cyngor wedi eu mewnoli ond dywedodd nad yw’n ymarferol adolygu pob contract gan fod ganddo gymaint ohonynt.
  • Mae cwmnïau lleol yn aml iawn yn meddwl bod mwy o fanteision gweithio i’r sector preifat na’r sector cyhoeddus ac mae’n rhaid  eu darbwyllo ynghylch manteision ymgeisio am gontractau gyda’r Cyngor. Hefyd, nid yw bob amser  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 376 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Sgriwtini adroddiad a oedd yn cynnwys y fersiwn ddiweddaraf o Flaen Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 i’w adolygu ac am sylwadau.

 

Penderfynwyd –

 

  • Cytuno’r fersiwn gyfredol o’r Flaen Raglen Waith ar gyfer 2024/25 fel y’i cyflwynwyd.
  • Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.