Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol (ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod)

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o funsnes.

Cofnodion:

Gwnaed datganiadau o ddiddordeb fel a ganlyn:-

 

Datganodd y Cynghorydd K P Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 2 gan ei fod yn cynrychioli’r Cyngor Sir ar Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn. Ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, rhoddwyd caniatâd iddo siarad ar yr eitem hon.

 

Datganodd y Cynghorwyr Aled M Jones, Bryan Owen a Bob Parry OBE FRAgS ddiddordeb personol sydd ddim yn rhagfarnu mewn perthynas ag Eitem 2.

 

           

2.

Galw Penderfyniad i mewn - Tir ar Stad Ddiwydiannol Mona - Cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau'r brydles pdf eicon PDF 170 KB

Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 28 Medi, 2020 mewn perthynas a Thir ar Stad Ddiwydiannol Mona – Cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau’r brydles                          sydd wedi’i alw i mewn gan y Cynghorwyr Peter Rogers, Eric Jones, Bryan Owen, K P Hughes a Aled M Jones.

 

Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn

 

·                Y penderfyniad a gyhoeddwyd ar 1 Hydref, 2020;

 

·                Y cais galw i mewn;

 

·                Adroddiad mewn perthynas a chais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau’r brydles a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi, 2020.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 28 Medi 2020, mewn perthynas â’r cais gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn i ddiwygio amodau’r brydles, ei alw i mewn gan y Cynghorydd Peter Rogers, Eric Jones, Bryan Owen, K P Hughes ac Aled M Jones. Cyflwynwyd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, y cais galw i mewn ac adroddiad y Pennaeth Priffyrdd, Eiddo a Gwastraff.

 

Fel Aelod Arweiniol y cais Galw i Mewn, esboniodd y Cynghorydd Peter Rogers y rhesymau am alw'r penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 28 Medi 2020 i mewn, fel y nodir yn y ffurflen gais galw i mewn, fel a ganlyn:-

 

‘Yn amlwg cafodd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith ei wneud heb ddealltwriaeth lawn o’r straen ariannol difrifol mae Sioe Môn yn ei wynebu. Mae’r Sioe a Chae’r Sioe yn darparu budd cymdeithasol ac economaidd enfawr i Ynys Môn ac mewn cyfnod o ansicrwydd, credaf fod cyfrifoldeb arnom i wneud popeth y gallwn i helpu i sicrhau ei dyfodol’.

 

Darllenodd y Cadeirydd y canlynol i’r Pwyllgor:-

 

           Gohebiaeth ddyddiedig 13 Hydref, 2020 gan Gadeirydd Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn;

           Gohebiaeth, y cyfeiriwyd ato fel Atodiad 1, dyddiedig 8 Mehefin, 2020 gan Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn ynghyd ag e-bost a anfonwyd gan y Prif Swyddog Prisio at Mr Gareth Dawkins, CThEM;

           Gohebiaeth gan y Gymdeithas at y Cyngor, dyddiedig 22 Gorffennaf, 2020.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers, Aelod Arweiniol y cais Galw i Mewn, fod pryderon ynghylch dyfodol Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn gan y bu’n rhaid canslo’r Sioe eleni oherwydd y pandemig a bu’n rhaid canslo digwyddiadau eraill a oedd i’w cynnal ar gae’r sioe hefyd. Nododd fod y Gymdeithas yn wynebu trafferthion ariannol ac y bu’n rhaid iddi ddiswyddo staff cyflogedig a’i bod yn dibynnu’n llwyr ar wirfoddolwyr i geisio sicrhau dyfodol Cymdeithas Amaethyddol Ynys Môn. Gallai’r cyfle osod y tir yn Stad Ddiwydiannol Mona ar is-les i ddarparu cyfleuster ar gyfer 100 o lorïau ynghyd ag adeiladau ategol dros dro er mwyn paratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd yn derfynol fod wedi cynnig achubiaeth ariannol i Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn. Rheswm y Pwyllgor Gwaith am ei benderfyniad ar 28 Medi, 2020 i wrthod caniatáu i’r tir ar Stad Ddiwydiannol Mona gael ei roi ar is-les oedd y byddai loriau’n teithio drwy’r pentrefi ar yr A5.

 

Dywedodd y Cynghorydd Rogers nad oedd angen i lorïau deithio drwy’r pentrefi; pan adeiladwyd yr A55, adeiladwyd lôn ar hyd terfyn y cae sioe i gario miloedd o dunelli o gerrig o’r chwareli ar yr A5 i safle’r A55 ac yn awr mae tomen uchel o bridd yn cau’r fynedfa i gilfan ar yr A55. Mae’r holl dir ar y safle hwn yn eiddo i Gymdeithas Amaethyddol Ynys Môn a byddai modd ei ddefnyddio fel mynedfa o’r A55. Yr opsiwn arall yw y byddai lorïau’n gadael yr A55 yng nghyffordd 6 ac yn teithio ar hyd yr A5 i Stad Ddiwydiannol Mona; ni fyddai’r cerbydau’n teithio drwy unrhyw bentref. Ychwanegodd y Cynghorydd Rogers fod nifer o fusnesau  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.