Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 30ain Medi, 2015 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ailetholwyd y Cynghorydd Richard Owain Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn yn ei absenoldeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 192 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2015.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2015 fel rhai cywir.

4.

Gwe-Ddarlledu Cyfarfodydd pdf eicon PDF 449 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn crynhoi gwybodaeth am weddarlledu cyfarfodydd fel rhan o'r cynllun peilot 2 flynedd.

 

Nodwyd bod Arweinyddion y Grwpiau a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cefnogi parhau i weddarlledu ac mae’n debygol y bydd deddfwriaeth yn y dyfodol yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol yng Nghymru i ddarlledu cyfarfodydd o’r Cyngor llawn a'r Pwyllgor Gwaith. Byddai arian grant yn debygol o gwrdd â’r costau yn ystod 2016/17 a byddai angen adrodd ar hyn i’r Pwyllgor Gwaith am benderfyniad.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn cefnogi parhau i weddarlledu cyfarfodydd o'r Pwyllgor Gwaith, y Cyngor Sir a'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.

5.

Adroddiadau Blynyddol Aelodau pdf eicon PDF 379 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas ag Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau a oedd yn nodi bod pob Aelod wedi paratoi Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2014/15 a bod gwybodaeth wedi ei chyhoeddi ar-lein.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at yr amserlen arfaethedig ar gyfer cwblhau a chyhoeddi Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2015/16 a nododd mai’r dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny oedd 30 Mehefin, 2016.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

6.

Sicrhau Democratiaeth Amrywiol pdf eicon PDF 212 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd hefyd at y Rhaglen Fentora ac at wybodaeth a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwybodaeth ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn sefyll fel Cynghorwyr  yn etholiadau 2017.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

7.

Rhaglen Waith y Pwyllgor 2015/16 pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd ar Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2015/16.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi nodi'r canlynol fel rhan o'i raglen waith ar gyfer 2015/16: -

 

  Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau (yn cynnwys Adolygiadau Datblygiad Personol);

  Gweddarlledu cyfarfodydd;

  Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau;

  Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

  Digonolrwydd y trefniadau i gefnogi rolau Aelodau;

  Y gyllideb ar gyfer 2015/16 a’r effaith ar y Gwasanaethau Democrataidd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.